1-300

Ymddiddan yr Enaid a'r Korff (c1552)

Anyhysbys, gol. Gwen Ann Jones

Ⓗ 1918 Gwen Ann Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Llinellau 1-300

Y Korff dwydyd

Korff
Henffych well foneddigion
gwyr a gwragedd a meibion
a hefyd pob rryw ddynion
I chwchwi i doyda
ni ddoythum hyd yma
o herwydd fy mod yn ddoetha
Dyfod ir wy ich rrybuddio
pawb ar sydd yman gwrando
er mwyn duw i neb na ddigio
Bid pawb onochi n ysbys
ar ymddiddan gwr kamweddus
a fu gynt yn ryfygus
Mowredd rryfig ar dda
balch iawn ag ysmala
tra fum yn y byd yma
Mae fy ysbryd i n kerdded
am korff mewn bedd kayed
ar hynt fo gaiff pawb fy ngweled
Melldigedig fam am dygodd
ar tad am ynillodd
heddiw nid wyfi hyfryd


Yr enaid yn dwydud

Enaid
Pwy a glowafi mor greulon
yn dwydud ymadroddion
duw a wyr kysur fy nghalon
Rwyti yn esmwyth yn gorfedd
mewn bedd o saith troedfedd
er a naethosti o gamwedd
Nid wyfi n kael nos na dydd
am ut dori dy gred ath fedydd
haner awr drigo'n llonudd

Korff
Tydi oedd im kell nos a dydd
er pan gefais gred a bedydd
gynyt ni chawn un awr lonudd

Enaid
O gnawd brwnt melldigedig
arnad ni chawn un awr ddiddig
na ffast na gwyl arbenig
Ni rodduti pen ddeler tlawd
er Krist i geisio kerdawd
ni chaid na bwyd na diod

Korff
Tydi oedd arnafin feistress
fal llawforwyn arglwyddes
im harwain i neuthur afles

Enaid
Pob rruw ddyn a fo kreulon
fo ddowaid ymadroddion
wrth ywllus i gelon

Korff
Oddima nad elwy fi om gorfedd
or a neuthum i o gamwedd
ti a wnaeth bob kynddrygedd


Ag ar hynt ir aeth yr enaid oddiwrth y Korff
Mihangel a maelodd yn yr enaid ar Kythrel a maelodd yn yr enaid
Mihangel a ddowod:

Mihangel
Kilia gythrel heibio
a dos ymhell oddiwrtho
beth ir wyt yni holi iddo

Kythrel
Ni naeth e wedi eni
erioed ond yn gorchmynion ni
am hynny rraid i mi ddeisyf

Mihangel
Om golwg gythrel melldigedig
yn enw'r tad kysegredig
mae arnad olwg ffyrnig
arnad ni bydd neb kyredig

Kythrel
Dowch ynes y Kythreiliaid
mae akw angel diriaid
rragom yn kadw r enaid
Pwy ywr un a fai kyn honned
arnom in tri a mynd ar ened
yn awr pe kaem i weled
Bellach byddwn i smala
ar gael enaid y gwrda
er duw ni naeth un twrn da
Byddwch lawen y kyfeillion
saeth a ymcar fy nghalon
llyma fantais dda ddigon
Yn ynghalon i bor ffon
oni newch gam gyscowkon
er hyn bawd yn fodlon

Mihangel
Ir wyfi yn gerchymyn yn ddiddig
yn duw'r tad kysegredig
na neloch gam ar enaid gwirion
nes dowod ag ef garbron
mab duw yr ail person
a ddioddefodd dros enaid pob Kristion

Kythrel
Nad el hun ar fy llygaid
er a nelochi o blaid
nes kael onofi yr enaid

Mihangel
Fo naiff pawb o wyr tre
ar hynt weled awr wrthie


A chida hyny iesu a mair a ddoeth yno
Mair yn doydud

Mair
Er llafur fy nwyfron
ar pryder ar dolur kreulon
a ddioddefaisti ag a gefaisti yn dy galon,
na fydd wrtho fo greulon

Iesu
Chwi ellwch wybod yn ysbus
oni bai fod yn gamweddus
na byddwn i n erbyn ych wllus

Mair
Dysyfi rwy wrth fy rraid
yn erbyn y Kythreiliaid
yn y faentol bwyso'r enaid
Y fo ddowod weddie
ag a gymrodd ydifeirwch yn awr ange
ag a gafas dy gorff kysegredig dithe
drwy lan gyffes dysyfu ir wyfine
yn y faentol roi ymhurdan

Iesu
Er a wnaeth erioed yn ferbyn
tori'r gyfraith ar deg gorchymyn
gan ych bod yn dost drostaw
Kymerwchi o yn ddiwrafun

Mair
Mihangel archangel o nef
moes y faentol ar prydere
a fun pwyso r eneidie
Bellach i mai yn gobeithio
lle bynnag i bon treiglo
ir un ni n sikir o hono
Llyma ddangos yn amlwg
i bawb y sy mewn golwg
trech gweithred dda na gweithred ddrwg
Pawb a ddwyto gweddie
ag a gymro difeirwch yn awr ange
ag a gaffo iesu grist drwy y lan gyffes ar gene
nid a i enaid byth ir poene
A hefyd y sawl a roddo kardod
ir tylawd yn fwyd ne ddiod
fo ai kaiff i hun dan amod

Korff
Er im henaid gael trigaredd
yma i byddaf yn gorfedd
ymhlith llyffaint a nadredd
Mi a fum gynt yn rryfygus
a balch iawn a chamweddus
heddiw mi ai gwn yn ysbys
Llyma rybudd i bob Kadarn
Yn hen llesc a gwan i ddechre ffydd teg a gorwag
meddylied pawb am grist ar farn

Angel
Pam y dwydi di hyny
Kenhadwr iesu wyfi
maen rraid i bawb bryderu

Gwr Kadarn
Myn gwaed nis prydera y neb
ar nis gallaf fi i weled
ble bynnag i bwyn kerdded

Angel
Ange a ddaw n ddie riw ddydd
i bawb a gaffas kred a bedydd
llyma ddigon o rybydd
Llyma amser i mado
pob Kadarn doed i wrando
rrag ofn i dduw ddigio
Aur ag arian a thlyse
a ffob amriw bethe
a ddwg yr eneid ir poene
onis gesyd ir ffordd ore
ir tlawd mwya i angenrheidie

Korff
Llyma ddiwedd y chware
a duw a ro llywenydd i chwithe
a ne tragwyddol ir eneidie
Amen

1-300