Drama un-act

Y Practis (1934)

Leyshon Williams

Ⓗ 1934 Leyshon Williams
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



Er mwyn dangos mai rhan o'r festri yw'r llwyfan, gwell fydd defnyddio wings yn lle box scene.

Ar ganol y llwyfan (yn y cefn) ceir tair mainc, fel a welir mewn festri. Ar y chwith, yn agos i ffrynt y llwyfan, y mae lle tan. Y mae'r tair adain ar letraws ar y dde i'r llwyfan, a dwy ar y chwith (o safbwynt y chwaraewyr).

Pan gyfyd y llen gwelir JACOB (hen ddyn araf ei symud ond ffraeth ei dafod) yn cerdded o'r lle tan a "blowar" yn ei law. Ar ol mynd cam neu ddau i'r dde, clywn ef yn siarad ag ef ei hun.

Jacob

Os na gynni di nawr, cer allan i gynllw'n a thi. Weles i ddim tan mor... (Yn aros ac yn troi i edrych ar y tan.) Diain i, mae'n mynd allan eto! (Yn mynd yn ol i'r lle tan ac yn gosod y blowar eto.). Nhw a'u dramas tragwyddol. Byddai'n llawer ffitiach iddyn nhw...



Y mae drws y festri — ar y dde — yn cael ei ysgwyd yn gryf.

Jacob

(Yn gweiddi.) Hei! Ganbwyll a'r drws 'na!

Winni

Dewch i agor e' te!

Jacob

Pwy? Fi?... Mae e' ar agor.

Winni

(Yn ysgwyd eto.) Nagyw!

Jacob

Rhowch gic iddo fe.



Clywir y gic, ac yna, y drws yn agor yn sydyn.

Jacob

Gadewch e' ar agor nawr. Oes eisie gole arnoch chi 'nol 'na?

Winni

(Yn dod yn nes.) Nagos!



Try Jacob yn ol at y tan. Daw winni i mewn, ac ar ol cyrraedd canol y llwyfan mae yn eistedd ar un o'r seti.

Winni

Fi yw'r cyntaf, Jacob?

Jacob

(Yn swrth.) Ie... Be' sy' 'ma heno?

Winni

Practis.

Jacob

O... Y cor, ife?

Winni

Nage — y ddrama.

Jacob

(Yn sarcastig.) O — practis drama! (Yn swrth.) Wel, pam gynllw'n na ddywedodd rhywun wrtho i fod practis?

Winni

Ond, Jacob...

Jacob

Dim ond pum munud yn ol y clywais i am dano. A dim ond digwydd clywed wnes i pryd hynny. Beth am y tan 'ma? Y'ch chi'n credu fod tan yn gallu cynneu heb... (Erbyn hyn y mae Jacob wedi troi yn ol at y tan.) Rarswyd fawr, — fe aiff e' allan eto! (Yn symud yn ol at y tan.)

Winni

Roedd William Tomos wedi addo dweud...

Jacob

William Tomos! 'Does gan William Tomos ddim digon o sens i ddweud wrtho'i hunan. (A'i ben yn y tan.) Beth yw'r ddrama i fod eleni?

Winni

"Yr Alanas".

Jacob

(Yn troi.) O... Yr Alanas!... Mae'n enw crand.

Winni

Ydi, — ma'r enw'n olreit.

Jacob

Gwaith pwy yw hi?

Winni

(Mewn llais di-obaith.) William Tomos.

Jacob

Beth?... Wel, ar 'y ngair i! Oes rhaid i chi chwarae dramas William Tomos o hyd?

Winni

Ond, Jacob, mae'n aelod o'r capel a...

Jacob

Be' sy' gan hynny i wneud a'r peth? Rwy i'n aelod, — wel, 'rym ni i gyd yn aelodau, ond 'dym ni?

Winni

Ond, Jacob...

Jacob

Bah! Welodd neb na phen na chwt i un o ddramas William Tomos!

Winni

Naddo, 'rwy'n gwybod, ond...

Jacob

Testun sbort oedd y perfformiad dwetha, a...

Winni

Beth!

Jacob

Nawr, nawr, — nid amdanoch chi 'rwy'n siarad! 'Roech chi'n olreit, yn-yn-yn naturiol fel! Ond am y ddrama! Talp o...

Winni

Hist, Jacob! Ma' 'na rywun yn dod!

Jacob

Nagoes, nagoes! Talp o...

Winni

(Yn edrych yn ofnus i'r dde.) Ond, Jacob!...

Jacob

Mae gen i hawl i ddatgan fy marn. Talp o nonsens o'r dechre' i'r diw—...



Swn yn dod o'r dde.

Winni

(Yn dawel.) Dyma fe!

Jacob

O! (Yn troi yn ol at y tan.) Gallwn i fod yn son am y bregeth neu...

Winni

(Yn newid.) O, Wil, sy' 'na!

Jacob

(Yn troi.) Wil? O, wel — talp o nonsens o'r dechre i'r diwedd!

Wil

(Yn dod i'r golwg.) O?

Jacob

Ma' bron pawb yn marw yn nramas William Tomos!

Wil

(Yn croesi ac yn eistedd.) Rwy i'n mynd yn ffast, 'ta beth.

Jacob

Bob tro mae e' am gael gwared un o'r gymeriadau, mae e'n 'i ladd e! Slaughter House, myn brain i — a'r llwyfan yn ddim byd ond celfi a chyrff!

Wil

Ond be' allwn ni wneud?

Jacob

Dwedwch wrtho'ch bod chi wedi cael llond bola ar 'i ddr—

Winni

O — fe dorra'i galon!

Jacob

(Yn sarcastig.) O, ie, wrth gwrs! Ond 'drychwch ar Gaersalem. Yn chwarae dramas da, ac yn eich maeddu chi bob tro! Rwy' wedi dweud o'r blaen, ac fe ddweda' i eto — os 'ych chi am gael shap ar bethe yma, fe fydd yn rhaid i chwi gael gwared ar William T—... (Swn rhywun ar y dde.) Hylo — pwy sy' 'na?... O, dyma fe!



Try Jacob yn ol at y tan.

Jacob

Mae'n bryd iti gynneu, hefyd!



Daw William Tomos i mewn a'i gopi dan ei fraich.

Tomos

(Yn awdurdodol.) Ah! Ma'r tan wedi'i gynneu, 'rwy'n gweld! Nos da, chi'ch dau,

Jacob

Ydi — mae e' wedi'i gynneu, — ond 'does dim diolch â chi, William Tomos.

Tomos

O, 'rwyt ti yma, wyt ti?

Jacob

(Yn nesu ato.) Pam na ddwedsech chi wrtho i fod practis i fod heno?

Tomos

(Yn symud at y tan.) Pwy all feddwl am beth bach dibwys felna, a'i ben yn llawn o'r gwaith sydd o'i flaen? Symudwch y blowar 'ma!

Jacob

(Yn cymryd y blowar.) O, peth bach dibwys, iefe? (Yn troi ac yn mynd i'r dde.) 'Chewch chi ddim tan o gwbwl y tro nesa'. (Yn troi cyn mynd o'r golwg.) Faint o amser fyddwch chi heno?

Tomos

Byddwn yma hyd ddiwedd y practis.

Jacob

O!... Felly? Wel, cofiwch, rwy i'n mynd i'r gwely am ddeuddeg! (Yn mynd i'r dde.)

Tomos

Ble ma'r lleill?

Wil

Mae'n gynnar eto.

Tomos

Yn gynnar?

Wil

Iddyn nhw, rwy'n feddwl.

Tomos

Mae bron a bod yn hanner awr ar ol amser. Os na yn 'dyn nhw'n dod mewn pum munud...



Swn nifer o bodol ar y dde: Hylo Jacob. Shwd ma'r tan? etc. etc.

Tomos

A. Dyma nhw.

Winni

Beth am gael practis o flaen y tan heno, Mr. Tomos?

Tomos

'Rarswyd! Na! Gwastraff amser — dim ond clebran a-a-a-a chlebran! Na, y llwyfan amdani!



Daw y lleill i mewn. Digon o swn â ffys.

Twm

(Yn symud at y tan.) A! Dyma'r stwff. Fe wnaiff yr hen Jacob stocer ardderchog yn y byd nesa'. Tyn y sêt 'na mlaen, Wil , — ie honna! Symudwch, William Tomos, i ni gael y sêt 'ma o flaen y tan!

Tomos

Na, na! Does 'na ddim eistedd o flaen y tân i fod heno.

Twm

Beth! Dim eistedd o flaen — y — y! Ond mae'n oer, William Tomos.

Tomos

Fe ddylset fod wedi brysio i'r practis, 'machgen i. Fe gei di dy wres yn ol 'nawr, wrth actio.

Twm

Pum munud fach,

Tomos

Na, dim munud. Ma' 'na dros hanner awr wedi mynd yn barod. Os y'ch chi am eistedd wrth y tan — dewch yn gynnar,

Harri

Clywch! Clywch! Ymlaen a nhw, Mr. Tomos. Yn yr ail act rwy' i'n dechre.

Twm

Ie, ie. Ma' hynny'n olreit i ti. Ond beth amdana' i? Rwy' i yn yr holl blinkin' lot.

Dic

'Rwy'n cynnig ein bod ni'n dechre gyda Act II.

Harri

Act II? Ond, fachgen, Act I yw'r act gynta' bob amser.

Dic

Ie, ar y noson. Ond am heno fe allwn wneud fel y mynnwn ni.

Harri

Wyt ti am wneud cawl o'r ddrama — trwy ei thynnu hi'n racs felna?

Tomos

Nawr, 'nawr, gwrandewch...

Harri

Gadewch chi hyn i fi, William Tomos. Fe setla i hyn.

Twm

Rho'r peth â'r fôt te.

Lleisiau

Ie, dyna 'fe. Rhowch e' i'r fot, etc. etc.

Harri

O, ie, a pha siawns sy' gen i mewn fôt? Rych chi bron i gyd yn Act I. Eisie sit down fach, iefe?

Twm

Beth wyt ti am gael, 'te?

Harri

Eisie gweld y ddrama yn dechre' rwy i.

Dic

Er mwyn i ti gael sit down fach.

Lleisiau

O, rhowch y peth i'r fôt. Ie, dyna 'fe. Fôt, fôt, etc.



Llawer o stwr. Yn ystod y siarad yma y mae William Tomos wedi ceisio cael gwrandawiad, ond nid oes neb yn cymryd dim sylw ohono. Yn awr y mae yn torri ar eu traws.}

Tomos

(Mewn tymer ofnadwy.) Fôt? Beth gynllw'n sy' 'ma heno — lecsiwn?... (Distawrwydd.) 'Falle y ca' i — fel yr awdur a'r producer — ddweud gair?



O'r chwith daw swn rhywun yn chware emyn ar y piano.

Tomos

(Ar ol nodyn neu ddau.) Yr arswyd fawr!

Twm

Be sy'? (Yn dod i'r golwg.) Ydi e'n wrong eto?

Tomos

(Bron yn wallgof.) Yn-yn-yn wrong?

Twm

'Roedd e'n berffaith gen i 'rwythnos dwetha'. Un treial fach eto! (Yn diflannu. y piano yn dechrau eto.)

Tomos

Taw, fachgen — T-t-taw. (Distawrwydd.) 'Rwyt ti'n potsiach ar y piano 'na byth a beunydd. Rho dy feddwl ar y ddrama, wnei di?

Twm

(Yn dod i'r golwg.) Ond 'rych chi heb ddechre eto.

Tomos

Dechre? Fydd 'na ddim shâp ar ddechre' tra byddi di'n pwnio'r perfedd allan o'r offeryn 'na.

Twm

Yn Act II rwy' i'n dod i mewn.

Tomos

O, wyt ti'n meddwl chware emynau drwy y ddwy act gynta?... Ca'r piano 'nal!



A Twm o'r golwg. yna — un nodyn cryf — a chlawr y piano yn syrthio.

Tomos

Wel, 'nawr te, falle y cawn ni ddechre'. Fe ddechreuwn gyda Act I.

Harri

Exactly! Dyna beth 'row'n i...

Tomos

Dyna ddigon o dy glebran di!

Harri

Ond, William Tomos...

Tomos

Un gair arall, a-a-a mi ddechreuaf gydag Act II! (Distawrwydd.) Ydy' pawb yma? Atebwch eich enwau. John Roberts!... (Dim ateb.) Ti yw John Roberts, onid e'?

Dic

Fi? Na! Dic Huws yw fy...

Tomos

Nage, nage. Nid Dic Huws wyt ti 'nawr. Anghofia dy enw iawn. Cofia mai John Roberts wyt ti. 'Rwyf am iti fyw y part — drwy'r dydd a phob dydd. Yn y gwaith, yn y ty — cymer ef i'r gwely gyda thi.

Dic

(Yn syml.) 'Ry'm yn dri yn y gwely 'nawr.



Pawb ond William Tomos yn chwerthin.

Tomos

Tawelwch!... Paid a chellwair, 'machgen i! Dyma'r unig ffordd i roi portread teilwng o gymeriad. Byw y part! Cofia mai John Roberts wyt ti. Dyn pwysica'r dre' — dyn yn berchen miloedd o bunnau...

Dic

O!

Tomos

Rhaid iti ddychmygu'r peth.

Dic

Rhaid, wir.

Tomos

A bydda i yma i dy helpu di.

Dic

O! — Wel — y — beth am fenthyg swllt i ddechre'?



Chwerthin.

Tomos

Tawelwch! 'Rarswyd fawr, ydi golygfa' fel yma yn destun chwerthin? Gwel'd bachgen mor hurt nes methu deall peth syml fel...

Dic

Hei, William Tomos, llai o'r hurt 'na!

Tomos

Wyt ti yn deall, 'ta?

Dic

Wrth gwrs 'mod i!

Tomos

Pam wyt ti'n ymddwyn fel hyn 'te? Does gyda ni ddim mumud i'w gwastraffu, a...

Wil

Mr. Tomos!

Tomos

Ie?

Wil

Mae gen i awgrym.

Tomos

Wel, cadw e'. (Yn troi oddi wrtho.)

Wil

Nawr, nawr, am eich helpu chi 'rwy i!

Tomos

(Yn llygaid agored.) Fy helpu i?... 'Dwy i ddim am help neb! Nid dyma'r ddrama gynta' i mi drefnu. 'Rwy'n gyfarwydd a'r gwaith o A i Z. 'Rown i wedi sgrifennu drama cyn i dy eni di!

Twm

Hon yw hi?

Tomos

Hon? Diain i!...

Wil

Nawr, nawr, dim ond cael joc roedd e'. Twm, gad hi nawr. William Tomos, gwrandewch. 'Does 'na neb yma am eich helpu a'r trefnu a'r...

Tomos

Pwy yma all fy helpu? Y fi 'sgrifennddd y ddrama, a myfi, yn unig, sy'n i deall hi,

Dic

Eitha reit.

Tomos

Beth wyt ti'n feddwl?

Wil

Dim, William Tomos bach — dim! Ond dyma beth 'rown i am ddweud. 'Rych chi am wybod os yw pawb yma...

Tomos

Ydw.

Wil

Wel, 'ma 'na chwech yn y cast, a ma' 'na chwech yma,

Tomos

(Ar ol ennyd.) O!

Wil

Felly, 'does dim eisie galw'r enwau.

Tomos

Y... nagoes.

Wil

Wel, beth am ddechre' te?

Tomos

Y... ie, dyna fe. Ma 'na lawer gormod o siarad 'ma. Act I i ddechre!



Mae pawb yn symud.

Tomos

'Nawr 'te, y ford yn y canol. 'B'le ma'r ford? Dewch a hi mlaen. Dyna fe! Cadair fan yma — cadair fan yna — drws ar y dde —- drws ar y chwith — i ddechre. Ble ma' Marged?

Winni

Dymo fi! (Pawb arall o'r golwg.)

Tomos

Yn eistedd wrth y ford.

Winni

Fel hyn?

Tomos

Nage, nage, — nid y fenyw drws nesa' sy' 'ma. Ond y chi, — perchen y ty a'r cyfan sydd ynddo. Eisteddwch ar y sêt i gyd — nid ar ei hymyl. John y Gwas! Wyt ti'n barod?

Twm

(Yn dod i'r golwg ar y dde.) Ydw.

Tomos

Wyt ti wedi dysgu dy bart?

Twm

Ydw. Ond, William Tomos, ma' 'na ran ohono sy'n swno'n od iawn.

Tomos

Yn od? Beth wyt ti'n feddwl?

Twm

Wel... y... yn od, fel!

Tomos

O! Er pryd wyt tì yn gritig ar ddrama?

Twm

O... y... dim ond meddwl o'wn i , â...

Tomos

Gad di'r meddwl i fi, machgen i. Wyt ti wedi dysgu dy bart?

Twm

Ydw.

Tomos

Ymlaen a thi, 'te.

Twm

Mae twm yn mynd o'r golwg.

Tomos

'Nawr te, pawb yn barod? Marged yn eistedd wrth y ford!

Twm

(Yn dod i mewn ac yn sefyll a siarad fel adroddwr.) Agorir y drws. Daw John y Gwas i mewn. Dyn tua'r hanner cant yw John, ac yn ei law...

Tomos

Be-be-be' ddwedaist di?

Twm

Pam? Beth sy'?

Tomos

Be' ddwedaist ti?

Twm

(Mewn llais ansicr.) Agorir y drws. Daw John y...

Tomos

Y nefoedd fawr!

Twm

Ond mae e' yn y copi-bwc 'ma.

Tomos

Beth sy' yn dy gopi-bwc di?

Twm

Fy-fy-fy mhart i.

Tomos

(Yn ymollwng.) Dy bart di? Ond y-y-y beth alla' i dy alw di? Nid dy bart di yw hwnna.

Twm

Part pwy yw e', te. Fi sy'n siarad gynta'.

Tomos

Siarad gynta... Ond y — O'r arswyd! beth alla'i dy alw di? Nid part yw hwnna!

Twm

O? Beth yw e' te?

Tomos

Stage directions! Stage directions!

Twm

O! 'rwy'n gweld. Sut rown i i wybod? Dyma'r tro cynta' i fi fod mewn drama.

Tomos

Ie, a'r olaf. Cer tua thre a phaid â... Na, aros. 'Rwy wedi cael digon o drafferth yn barod i gasglu'r chwech ohonoch chi. Cer i dy le, a chofia, dwed dy bart, ac actia'r "stage directions".

Twm

Rown i'n meddwl 'i fod e'n swnio'n od.

Tomos

Ti oedd yn od, y ff... ff... Ond brysia, neu fe fyddwn yma drwy'r nos. Wyt ti'n deall nawr?

Twm

Ydw.

Tomos

Wel, ymlaen a thi, a thyrd i mewn eto.

Twm

Reit. (Mynd.)

Tomos

A Marged, eisteddwch yn gartrefol, da chi!

Winni

Ond, Mr, Tomos, 'falle y bydd i'n well imi wneud rhywbeth, hefyd.

Tomos

Gwneud rhywbeth? Beth y'ch chi'n feddwl?

Winni

Wel... y... gwneud rhywbeth wrth eistedd yma.

Tomos

Gwneud beth?

Winni

Wel... y... gwau, neu...

Tomos

O, ma' pawb yn gwau mewn drama Gymraeg. Fe fydd yn ychydig o newid i weld menyw yn eistedd yn llonydd, John! (Nid oes ated.) John!!

Twm

Mi fydda i na nawr.

Tomos

Be' gynllw'n wyt ti wneud?

Twm

Ma' bys Dic Huws yn dost, ac ma'r bandage wedi...

Tomos

Ond nid gwas Dic Huws wyt ti.

Twm

Rwyf bron a gorffen.

Tomos

A myn brain i, rwy innau bron a gorffen hefyd! Os nad wyt ti'n dod, 'rwy i'n mynd.

Winni

Mynd, Mr, Tomos?

Tomos

Ydw, mor wired a mod i'n sefyll fan yma. Rwyf wedi cael digon ar y ffolineb 'ma, a...

Wil

(Yn dod o'r chwith.) Nawr, nawr, William Tomos, nid felna...

Tomos

Ca' dy geg, a cher nol i dy le! Rwy o ddifrif. Nid chwarae drama sy' 'ma, ond chware plant bach.

Twm

(Yn dod o'r dde.) Rwy'n barod nawr.

Tomos

O, wyt ti? Wel, ti elli aros i mi 'nawr.



Mae'r lleill yn dod o'r golwg o'r dde a'r chwith.

Tomos

Ai dyma'r ffordd i wneud cyfiawnder a'r ddrama 'ma? Mae chware drama yn golygu gwaith, a gwaith caled, ac os nad i chi yn barod i weithio mi a i oddi yme i rywle lle y caiff y ddrama chware teg!

Winni

Ond, Mr. Tomos...

Tomos

Fi sy'n siarad nawr. Dyma rybudd i chi: os na 'dych chi'n gwella, rwy'n mynd. Fe wn am gwmni fydd yn falch ohonof!

Wil

William Tomos!

Tomos

Rwy'n dweud y gwir.

Twm

Pwy y'n nhw?

Tomos

Fy musnes i yw hynny, ond dyn nhw ddim can milltir oddi yma, a ma' 'na groese cynnes yn fy aros.

Wil

Wel, wrth gwrs, William Tomos, so 'dych chi am fynd...

Tomos

Pwy sy'n siarad am fynd? Rhoi rhybudd wnes i. 'Nawr te, ydych chi'n addo gwella?



Distawrwydd, a phawb yn lledchwith.

Tomos

Wel?

Lleisiau

(Yn dawel.) Ydym.

Tomos

O'r gore. Ymlaen a ni, ond cofiwch, dim rhialtwch! John, i dy le, a dechre' eto. Marged, barod?

Winni

Ydw.



Pawb ond Winni yn mynd o'r golwg.

Tomos

Nawr te.

Twm

(Yn dod i mewn ac yn sefyll wrth y drws.) Mistres.

Winni

Ie.

Twm

Dyma lythyr.

Winni

(Yn ddifater.) O, — llythyr.

Tomos

O, llythyr? Yn enw popeth, Marged, sawl gwaith y dydd byddwch chi'n cael llythyr?

Winni

Be-beth y'ch chi'n feddwl?

Tomos

Rhowch groeso i'r llythyr, ferch. Nid bil yw e. O! llythyr! Unwaith eto.

Twm

Mistres! Dyma lythyr!

Tomos

Nid y ti — nid y ti — y — y. O! beth alla i dy alw di? Beth yw'r llythyr i ti? I Marged ma'r llythyr.

Twm

O, yn-yn dawel, iefe?

Tomos

Ie, yn dawel. Bydd yn olreit. Cofia mai gwas wyt ti. Yn gweiddi felna. Nid 'i —'i gwr hi wyt ti.

Twm

Mistres.

Winni

Ie.

Twm

Dyma lythyr.

Winni

O! Llythyri

Tomos

Dyna welliant,

Twm

Pwy?

Tomos

(Yn hurt.) Pwy?

Twm

Ie. Pwy sy'n well?

Tomos

Yr arswyd fawr! Cer ymlaen a'r ddrama.

Twm

Gwnaf, gwnaf; ond byddwn yn falch cael clywed os ydwy'n gwella,

Tomos

Edrych yma. Dyma'r tro cynta i ti fod mewn drama.

Twm

Ie.

Tomos

Gwna'n fawr o'r cyfle yma.

Twm

Pam?

Tomos

Fe gei di weld paml

Twm

Pryd?

Tomos

Y nefoedd fawr! Glywsoch chi'r fath beth erioed. Pob tro rwy'n agor fy ngheg, ma' — ma' — ma' hwn yn gosod i droed ynddo! Cer 'nol i dy le, a dechre eto!



Mae Twm yn mynd.

Twm

Mistres.

Winni

Ie.

Twm

Dyma lythyr.

Winni

O! Llythyr! Rwyf wedi aros wythnosau am hwn.

Twm

(Yn syml.) Wel, 'nawr ces i e.

Tomos

Beth ddwedais di?

Twm

O... y... y...

Tomos

Ydi hwnna yn dy gopi-bwc di?

Twm

Nagyw, ond mae'n — mae'n joc go dda.

Tomos

O! joc, iefe? Be' sy' gan y ddrama i wneud a jokes? Dyna pam y mae'r ddrama Gymraeg mor wael ei safle heddiw; meddwl mai dim ond jokes sydd eisie! I'r cythraul a'r jokes! Beth sy' yn dy lyfr di?

Twm

Wel — wel.

Tomos

Dwed e, te.

Twm

Wel — wel.

Tomos

Nawr te, Marged.

Winni

O ble, Mr. Tomos?

Tomos

O'r "Wel, wel". Rho'r llythyr iddi, John,



Twm yn gwneud hyn.

Winni

Diolch, John, ond cofiwch, — dim gair am hyn —- wrth neb.

Tomos

Robert Bifan, wyt ti'n barod?

Wil

(O'r golwg.) Ydw.

Tomos

Nawr, Marged,

Winni

John... Gwrandewch!

Twm

Ie, mistres, 'rwy'n gwrando.

Winni

(Yn isel.) Dewch yn nes, John.

Twm

(Yn nesu ati yn araf.) Reit, mistres.

Winni

Yn nes, John.

Twm

Ie... dyma... fi.

Winni

(Ar ol edrych yn ofnus ar y drws ar y chwith.) Ma' gen i rywbeth i'w ddweud.

Twm

Oes, mae'n debyg.



Pawb yn chwerthin ac yn dod i'r golwg tu ol.

Tomos

Yn enw pob synnwyr, pam y chwerthin 'ma?

Wil

Y joc, William Tomos! (Chwerthin eto.) Lled dda, wir; ma' honna'n good; fe aiff hi fel fflam.

Tomos

Ond-ond pa joc? Wela i ddim joc.



Pawb yn sobri.

Wil

Ond fe ddwedodd John...

Tomos

Fe ddwedodd, "Oes, mae'n debyg" — dyna i gyd. Mae'n glir i bawb, mi obeithiaf, fod gan Marged rywbeth i'w ddweud, ac mae John yn dweud, "Oes, mae'n debyg":! Os ydi hwnna'n joc...

Wil

O, sorry, — ni oedd yn camsyniad.

Tomos

Diolch yn fawr. Nawr, ymlaen, a chofiwch hyn: fydd na ddim jokes yn y ddrama hon.

Wil

Reit, mae'n well inni wybod.



Pawb yn mynd o'r golwg eto, ond Twm a Winni.

Tomos

Unwaith eto, Marged. Bydd yn barod, Robert Bifan.

Winni

Mae gen i rywbeth i'w ddweud.

Twm

Oes, mae'n debyg.

Winni

John, rwyf yn anhapus. Rwy'n bwriadu...

Wil

(Yn dod i mewn o'r chwith ac yn siarad yn ddramatig.) Ha!

Tomos

Wel done, Robert! Unwaith eto.

Wil

Ha!

Tomos

Ardderchog! Glyw di, John. Dyna'r ffordd i siarad!

Twm

Ond chi ddwedsoch fod yn rhaid i fi siarad yn isel.

Tomos

Do, do, rwy'n gwybod, ond...

Twm

Pam y'ch chi'n dal Wil i fyny fel patrwm nawr?

Tomos

O, ca' dy geg! Mae'n bleser cael gafael ar fachgen fel Robert 'na, a'i holl galon yn y gwaith, ac yn gwybod pob gair o'i bart. Cer 'mlaen, Robert, machgen i — o'r dechre eto.

Wil

Ha!... y... (yn aros)... y... beth sy' nesa nawr? Y...



Pawb yn chwerthin.

Tomos

Distawrwydd, os gwelwch yn dda!

Wil

Rown i'n gwybod pob gair cyn gadael y ty, ond...

Tomos

Wrth gwrs, wrth gwrs, does na ddim syndod dy fod ti wedi anghofio — yr holl ffys a rhialtwch sy' ma. Dyma'r geiriau: "Ha. John, beth wyt ti..."

Wil

O, ie, dyna fe. Unwaith eto.

Twm

Dyna beth rwy i'n galw'n favourite.

Tomos

O, favourite, ife? Wel, gwrando: fyddi di ddim yn favourite gan neb, hyd yn oed gan dy fam. Robert ymlaen!

Wil

Ha! John, beth wyt ti'n wneud yma?

Twm

(Yn fflat ac yn ddiystyr.) Ond —- Mr. — Bifan —

Tomos

Beth ddwedaist di?

Twm

(Yn swrth.) Ond — Mr. Bifan — mae e' yn y copi-bwc 'ma!

Tomos

O! rwyt ti'n dechre pwti, wyt ti?

Twm

Pwti? Be y'ch chi'n feddwl?

Tomos

Yn dweud: Ond —- Mr. Bifan, felna. Rho ystyr i'r peth!

Twm

(Yn wyllt.) Ond...

Tomos

Dyna well.

Twm

Beth sy'n well?

Tomos

Yr "Ond" na.

Twm

Dwy i ddim yn dweud fy mhart nawr!

Tomos

Be' gynllw'n wyt ti yn ddweud, te?

Twm

Rwyf am ddweud rywbeth wrthych chi!

Tomos

Cer ymlaen a dy bart, a phaid â...

Twm

(Yn wyllt eto.) Ond...

Tomos

Dyna fe.

Twm

(Yn fwy gwyllt.) Ond...

Tomos

Ardderchog.

Twm

(Yn colli ei dymer.) Nid y part sy' gen i — fi sy'n siarad nawr — fi — fi — fy hynan.

Tomos

(Yn hurt.) Ti?

Twm

Ie — fi. Rwy am i chi wrando arna' i.

Tomos

Ond rwy'n gwrando amnat ti — rwy'n gorfod gwrando? Dwed cy bart a gad dy...

Twm

(Yn mynnu cael dweud.) Ond...

Tomos

Dyna fe — fe wnaiff y tro; ond cer ymlaen, does na neb yma yn drwm 'i glyw... Robert!

Wil

John, beth wyt ti'n wneud yma?

Twm

Dim, Mr. Bifan.

Tomos

Ma 'na air cyn y "dim" 'na,

Twm

Nag oes.

Tomos

Oes.

Twm

Nag oes.

Tomos

Pwy sgrifennodd y ddrama 'ma, fi neu ti? Ble mae dy gopi-bwc di?

Twm

(Yn tynnu allan ei lyfr.) Dyma fe. A-a-a-a-a... (Yn chwilio am y lle.) a dyma'r part. Dim-a... dim ond "Dim".

Tomos

(A'i fys ar ei lyfr ei hun.) Edrych eto.

Twm

(Yn wyllt.) Rwy wedi edrych. Drychwch chi.

Tomos

Beth am y bracet 'na?

Twm

(Yn hurt.) Bracet?

Tomos

Ie — ar ol y gair "John".

Twm

Ond stage directions yw hwnna.

Tomos

Beth mae'n ddweud?

Twm

(Yn edrych.) Yn-yn ddiniwed... Dwy i ddim i ddweud hwnna,

Tomos

Eitha reit. Ond rhaid iti actio 'fe.

Twm

O... Sut?

Tomos

Defnyddia dy wyneb. Dangos y peth: facial expression — dyna be' sydd eisie!

Twm

(A'i law yn esgyn yn araf i'w wyned.) O?

Tomos

Rhywbeth fel hyn, nawr? Gwel.

Twm

O... ie... tynnu gwynebau, ife?

Tomos

Nage, nade, nage! Fe all y wyneb ddangos y cyfan. Edrych ar yr expression nawr... Weldi e? Dyma fe eto iti... Ges di e? Beth oedd hwnna'n ddangos?

Twm

(Yn amheus.) Wn i ddim yn iawn...

Tomos

Edrych eto...

Twm

O — rwy'n gweld yn awr.

Tomos

Beth yw e?

Twm

Poen.

Tomos

Ardderchog! Rwyt ti'n gwella!

Twm

Yn y stumog!

Tomos

(Yn rhoi fyny.) O, cer 'mlaen a dy bart. Gad dy wyneb fel y mae e. Unwaith eto, Robert.

Wil

John, beth wyt ti'n wneud yma?

Twm

(Yn swrth.) Dim, Mr, Bifan.

Wil

(Yn gas.) Fel arfer, John!

Twm

Ha!... Ha!... Ha!

Tomos

Hei! Chwerthin sy'n eisieu fan 'na — nid asthma.

Twm

O, ma' 'na asthma arna i nawr, oes e?

Tomos

Wel, chwerthin, te!

Twm

(Yn ymollwng.) Sut galla i chwerthin a chithe yn fy mhen i drwy'r nos? Cadwch eich drama; rwy wedi cael llond bola. Ma' gen i waith i'w wneud yn y ty. Des i yma heno pan y dylwn fod wedi aros i drin y ffowls. Ma' 'na dri ohonyn nhw yn dost ac yn hanner marw, ac yn...

Tomos

Be' sy'n bod arnyn' nhw?

Twm

Wn i ddim. Ma' nhw'n methu sefyll. Gorwedd ma' nhw o hyd, ac yn...

Tomos

Beth wyt ti'n rhoi iddyn nhw?

Twm

O, tipyn o bopeth.

Tomos

Tipyn o bopeth? Gwarchod pawb. Be' wyt ti'n ddisgwyl ond trwbwl os wyt ti'n...

Twm

Ond rwyf wedi codi ffowls am bum mlyn—

Tomos

Nagwyt. Ma' hanner ffowls y wlad 'ma yn codi'u hunain. Oedd 'na deisen ar ol ddydd Sul?

Twm

Oedd.

Tomos

A dyna be' roes di iddyn' nhw?

Twm

Wel, ie,

Tomos

Rown i'n meddwl. Gormod o lard. Gormod o siwgr.

Twm

Ond, William Tomos...

Tomos

Gwrando. Heno, rho lonydd iddyn nhw.

Twm

Ie?

Tomos

Fory, gwna'r un peth. Mewn diwrnod fe fydd popeth yn iawn,

Twm

Y'ch chi'n credu hynny, wir?

Tomos

Credu? Rwy'n gwybod, 'machgen i. Cer ymlaen a dy bart.

Twm

Reit. Ble o'wn i?

Tomos

Y chwerthin.

Twm

(Yn chwerthin yn iachus.) Ha, ha, ha!



Y mae drws y festri yn cael ei ysgwyd yn gryf.

Tomos

Beth gynllw'n sy'n bod nawr?

Twm

Ma' 'na rywun wrth y drws.

Tomos

Paid a dweud,



Swn y drws eto.

Wil

Gwell agor y drws, William Tomos. Falle bod y mater yn bwysig,



Y lleill yn dod i'r golwg tu ol.

Tomos

O, wrth gwrs — ma popeth yn fwy pwysig na'r ddrama.



Swn y drws. ysgwyd ofnadwy.

Tomos

Ymlaen a ni. Fe fydd e'n siwr o flino cyn bo hir.

Twm

Ond fydd na ddim shap ar y practis yng nghanol y swn 'ma.

Tomos

Does fawr o siap arno nawr.



Swn drws. Rhaid ei fod bron a syrthio.

Tomos

Rarswyd fawr! Pwy sy' 'na?

Llais

Fi!

Tomos

Ie, rwy'n gwybod. Ond pwy y'ch chi?

Llais

Fe gewch chi weld pwy wy i pan ddo' i i mewn. Agorwch y drws 'ma.

Wil

Rwy'n adnabod y llais. Gwraig...

Llais

Agorwch y drws 'ma.

Wil

Ie, dyna hi. Dic — dyna Jane?

Dic

(Yn ansicr.) Ie, rwy'n gwybod. Be' sy'n bod, wn i? Gwell imi fynd i...

Tomos

Aros di fan 'na.

Dic

Ond, Mr. Tomos...

Tomos

Fe all rhywun arall fynd.

Dic

Diolch yn fawr!

Tomos

Ewch, — un o chi tu ol 'na.

Llais

Agorwch y drws 'ma.

Harri

(O'r golwg.) Olreit, olreit!

Dic

Be' sy', wn i?

Wil

Dim, Dic bach, — dim.



Swn y drws yn agor.

Llais

(Tu fewn i'r festri.) Ydi Dic ni yma?

Dic

Ydw, Jane. Be' sy'n bod?

Jane

(Yn dod i mewn.) Ble ma allwedd y drws?

Dic

(Yn hurt.) Allwedd — y drws?

Jane

Ie, — allwedd y drws.

Tomos

Wel, ar fy ngeir! Yr holl ffys hyn am allwedd drws!

Jane

O — ffys, iefe? Sut carech chi fod tuallan ar noson fel hon?

Dic

Ond, Jane, dyw hi ddim gen i. Mae hi yn...

Jane

Nagyw — dyw hi ddim drws nesa. Anghofiaist ei gadael yno.

Dic

(Yn chwilio ei bocedi.) Wel, dyw hi ddim gen i, — nagyw — nagyw — nag... (Yn fflat.) Y... ydi... dyma hi.

Jane

(Mewn tymer.) Ie... dyna hi! A fi a Dili Dach yn sythu tuallan tra 'rwyt ti'n gwneud ffwl o dy hunan fan yma!

Tomos

O... Felly?... Dyna'ch syniad am waith y ddrama, ife?

Jane

Nage, nid i gyd. Dere a'r allwedd na i fi!

Tomos

Richard Hughes, — aros ble'r wyt ti!

Dic

Ond, Mr, Tomos...

Jane

A phwy y'ch chi, William Tomos, i roi ordors i Dic ni?

Tomos

(Yn fawreddog.) Ar y llwyfan yna, fi yw y... y... fi yw cadben y llong!... Rho'r allwedd i mi... Diolch! Dyma hi, Mrs, Huws, a nawr, nos da!

Jane

Nos da, iefe? Sut nos ga'i i yn y ty wrth y'm hunan? Dic, paid a bod yn hir. (Yn dechrau mynd.)

Dic

Ond, Jane...

Jane

Paid a bod yn hir!

Tomos

Nawr, nawr, Mrs. Huws...

Jane

Dyna ddigon o'ch interference chi, William Tomos. Falle mai chi sydd gadben yma, ond fi yw'r first mate yn y ty 'na. Dic, paid a bod yn hir, neu fe fydd yr allwedd gen — ar y llofft!



Mae Jane yn mynd o'r golwg. Edrych pawd ar ei hol. Saif pawb yn dawel nes clywed y drws yn cau.

Tomos

Cauwch y drws yn dynn!

Wil

Be' sy'n bod ar Jane heno, Dic?

Dic

O, mae hi wedi clywed mai sponar Miss Lewis wy' i yn hon.

Tomos

Nawr, dewch ymlaen, heb oedi! Ma'r amser yn mynd!

Winni

A rhaid i Dic fynd adre'n gynnar heno? (Y lleill yn chwerthin.)

Tomos

Dyna ddigon — dyna ddigon. O'r dechre eto.



Tawelwch ar unwaith.

Twm

Be-beth? O'r dechre eto?

Tomos

Ie, o'r dechre eto. Pam?

Winni

Ond, Mr. Tomos, fe fyddwn yma drwy'r nos!

Twm

A beth am Mrs. Huws?

Tomos

Beth sy gan Mrs. Huws i wneud a'r practis yma? Dewch!

Wil

Ond ma' Dic...

Tomos

Fe gaiff Richard Huws noson o gwsg gan i os bydd 'i wraig e' wedi...



Y mae drws y festri yn cael ei ysgwyd eto.

Tomos

(Yn colli amynedd.) Wel, wel! Dyna'r drws 'na eto. Ma'r lle 'ma'n fwy tebyg i farchnad na festri!

Wil

Falle bod Mrs. Huws wedi dod 'nol.

Tomos

Beth? Mrs. Huws? Ewch — un o chi — agorwch y drws!



Swn y drws eto.

Tomos

Brysiwch, brysiwch. Olreit, Mrs. Huws, — ma nhw'n dod.



Edrych pawb i gyfeiriad y drws. Clywir y drws yn agor.

Tomos

(Yn dawel.) Pwy sy' 'na?

Wil

Wn i ddim. Mae e' yn y tywyllwch. Ma' 'na ddau...

Tomos

O!

Wil

(Yn araf.) Rwy'n credu mai — ie — dyna fe — Jacob yw un.

Tomos

Jacob? Be' gynllw'n sy' eisie ar y creadur yna nawr? Pwy yw'r llall?

Wil

Dwn i ddim.



Clywir swn traed. Daw Jacob i mewn, ac ar ei ol dyn yn cario bag bach.

Jacob

(Yn croesi'r llwyfan.) Ewch chi 'mlaen — peidiwch a'n hidio ni.

Tomos

Pam? Beth y'ch chi am wneud?

Jacob

Pwy? Fi? Nid fi sy'n mynd i'w wneud e — ond fe' 'ma.

Tomos

Gwneud beth?

Jacob

Tiwnio'r piano.

Tomos

(Wedi colli ei anadl.) T... t... tiwnio'r.... piano! (Yn troi yn sydyn tuag at y dyn a'r bag.) Ond y dyn ofnadwy. Ma' hyn yn warthus! (Yn aros am fod hwnnw yn gwenu yn hapus arno.)

Jacob

Fyddwch chi ddim scrapyn gwell o siarad a fe.

Tomos

Ydi e'n fyddar?

Jacob

Nagyw — Sais yw e'. You go on, Mr. Isaacs. The piano is over there. (Yn dangos.)

Tomos

Ond, Jacob, rym ni'n cael practis drama.

Jacob

Wnaiff hynny fawr o wahaniaeth i Mr. Isaacs. Mae e'n gyfarwydd a swn. Go on, Mr. Isaacs. I know you are in a hurry.



Mae Mr. Isaacs yn cydsynio ac yn mynd.

Tomos

Ond beth amdanom ni?

Jacob

Beth y'ch chi'n feddwl?

Tomos

Rym ni'n cael practis drama.

Jacob

Ydych — ydych — ewch 'mlaen ag e.

Tomos

Oedd yn rhaid i chi ddod a hwn yma heno?

Jacob

Nid y fi ddaeth ag e' yma. Fe ddaeth i'n ty ni a dweud bod Samuel Morgan, Arweinydd y Gan, wedi'i ddanfon e i diwnio'r piano. Siaradwch chi a Samuel Mo—

Tomos

Ydi hi'n bosibl cynnal practis fan yma tra bydd e'n pwno un nodyn tragwyddol ar yr offeryn 'na?

Jacob

Be' wn i? Ond nid brass band yw e. Un nodyn ar y tro, dyna i gyd.



Mae Mr. Isaacs yn taro tant ar ol tant, yn gryf iawn.

Jacob

(Ar unwaith.) ... ac ambell gord yn awr ac yn y man.

Tomos

Cord! Ambell gord!



Mr. Isaacs yn chwarae ar hyd y piano.

Tomos

Clywch arno. Rarswyd fawr. Ma' hyn yn annioddefol. Rwy'n mynd.

Lleisiau

William Tomos!

Tomos

(Yn wallgof ac yn siarad yn gyflym.) Ydw! Rwy'n mynd. Rwy wedì cael digon ar y lle 'ma. Doedd na ddim shap ar y practis o'r dechre; ond ma'r tiwnio ma wedi gosod y cap arni. Y'ch chi'n credu fy mod i'n mynd i aros yma a gweld fy nrama i — plentyn fy nychymyg — yn cael ei diystyru fel yma? Na wnaf! Tra bo gennyf nerth i gerdded allan. Does 'na ddim parch i ddrama yn y lle hwn. Ma' popeth yn fwy pwysig na'r ddrama. Ond fe wn i am le fydd yn falch o'r cyfle i chware fy nrama i — lle y ceir pobl a wyr ystyr y gair talent. (Trwy ei ddannedd.) Ac os bydd rhaid tiwnio'r piano, ma' ganddynt ddigon o sens i wneud e' pan fydd na neb yno i'w glywed. (Yn troi yn sydyn i fynd.)

Wil

Ond Wiliam Tomos, ble ych chi'n mynd?

Tomos

Mynd? Rwy'n mynd i Gaersalem. Nos dal!



Yn mynd. Saif pawb ar y llwyfan yn dawel, gan edrych ar ei ol. Yna clywir y drws y cau. Mae pawb yn troi yn ddiflas.

Wil

Wel, wel, dyma gawl!

Twm

Traed moch, myn hyfryd i. Dyma chi wedi 'i gwneud hi'n nawr, Jacob.

Jacob

Pwy? Fi? Wnes i ddim.

Winni

Pa eisieu i chi ddod a'r tiwner yma heno?

Jacob

Ond nid y fi ddaeth ag e. Samuel Morgan, arweinydd y—

Wil

O, peidiwch a dechre ar y peth eto. Ma' William Tomos wedi mynd!



Saif pob un yn dawel fe pe yn ofni dangos ei deimladau, ond y mae'r achlysur yn ormod i Twm. Daw gwen i'w wyneb ac yna tyrr allan i chwerthin. Y mae pawb yn canlyn.

Dic

Ie, ie— ond beth am y dyfodol?

Winni

Dyma gyfle i ddewis drama dda — a dyn a helpo Caersalem.



Pawb yn cydsynio.

Wil

Hanner munud! Fe fydd yn rhaid talu am chware drama arall.

Pawb

O-O.

Wil

Nid oedd William Tomos yn cael dimai goch am ei ddrama.

Twm

Ma' pawb arall yn gorfod talu am chware drama. Pam na allwn ni?

Pawb

Eitha' reit, etc.

Twm

Beth am gael pwyllgor?



Pawd yn cydsynio.

Twm

Tynnwch y sêt 'na mlaen at y tan.



Llawer o ffwdann.

Twm

Rwy'n cynnig Jacob i fod yn gadeirydd.



Pawb yn hapus; lawer o ffwdan, ac enw Jacob ar wefus pawd. Erbyn hyn y mae y sêt o flaen y tan. Pawb ond Jacob yn eistedd. Saif Jacob a'i gefn tuag at y tan yn wynedu y cyfarfod.

Twm

Dewis y ddrama — dyna'r peth cynta.



Pawb yn cydsynio.

Jacob

Hanner munud, 'nawr. Hanner munud. Cofiwch mai fi yw'r cadeirydd!



Tawelwch, ond y mae'r tiwnwr yn gweithio'n galed.

Jacob

Mr. Isaacs, stop your old racket with that cold piano for a minute! Dyna welliant. 'Nawr te. Mae'n debyg fod rhaid talu am chwarae drama.



Pawb yn cydsynio.

Jacob

Wel, peidiwch a gofidio am hynny.

Pawb

(Mewn syndod.) O!

Jacob

Mi setla i am y talu!



Syndod mawr.

Twm

(Yn neidio i'w draed.) Rwy'n cynnig pleidlais o ddiolchgarwch i'r brawd Jacob Williams am ei garedigrwydd.



Pawb yn cydsynio.

Winni

A 'nawr — y ddrama!

Jacob

Mi ddo i at hwnna 'nawr. Rhyw chwe mis yn ol mi sgrifennais i ddrama fy hun...

Pawb

(Ar eu traed.) Beth!

Jacob

Ac mae'n grand! "Y Mab Afradlon!"

Tomos

(Yn sefyll ar y dde.) 'Rwyf wedi dod nol!



Mae pawd ond Jacob yn mynd yn gyflym ato ac yn crio'n hapus — "William Tomos". Saif Jacob, druan wrth ei hun, o flaen y tan.

Tomos

Wyddoch chi pwy sy' tuallan? Samuel Morgan, Arweinydd y Gan! Yn cerdded yn ol ac ymlaen. Ac i beth ddwedwch chi — i beth? Mae'n aros i ngweld i'n cerdded allan. Welwch chi'r gem? Welwch chi'r tric? Ond fe all gerdded nol a mlaen drwy'r nos — 'rwy'n aros!

Jacob

Mr. Isaacs, you can start again now.



Swn y piano.

Tomos

(Yn symud i ganol y llwyfan.) Gall, gall. Fe all chware oratorio os y mynn e'! (Yn troi at y lleill.) O'r dechre eto! Marged yn eistedd wrth y ford!



Ar unwaith try y chwaraewyr i fynd allan. A pawb o'r golwg, ond Marged a William Tomos. am ennyd y mae distawrwydd. Yn sydyn daw Twm i'r golwg ar y dde.

Twm

(Wedi anghofio bopeth.) Agorir y drws, daw John y Gwas i mewn.

Tomos

Yr arswyd fawr! (Yn eistedd a'i galon wedi torri.)



Yna disgyn y llen yn gyflym.

Drama un-act