g1

Woof (2019)

Elgan Rhys

Ⓗ 2019 Elgan Rhys
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 1

Ym Mharc y Rhath.
Mae JESSE ar ben ei hun, yn aros.
Daw DAF i mewn.
Mae JESSE'n gadael.

Daf
Oer.
Haul ar ei ffordd.
Rhaid i fi fynd nôl.
Sai gallu mynd nôl.
Sai gallu.
Sai gallu.


Yn fflat JESSE.

Jesse
Trusta fi.
Ni'n gallu neud e.

Daf
Fi jyst, ofn.

Jesse
Ofn be?

Daf
Colli ti.


Curiad.

Jesse
Ma' mwy a mwy o bobl neud e.
Jyst bo' nhw ddim yn siarad amdano fe.
So ni'n swans.

Daf
E?

Jesse
So ni'n swans.

Daf
Be' i ni 'de? Flamingos?


Mae JESSE'n chwerthin.

Jesse
Na, wel/

Daf
Be?/

Jesse
Swans – ma' nhw'n monogamous.
They mate for life. Yn nôl Google.
A ma' nhw gyd yn floato ar yr un "trywydd".
So nhw fel cŵn.
We're two men.
Ni'n gallu creu perthynas ein hunan.
Ni'n gallu herio.
A t'bo, fi'n dri deg dau, a ti'n, ti'n.../

Daf
Tri deg.

Jesse
Ie ie, tri deg!
Tri deg!
A ni'n byw, ni'n fucking byw yn 2019! A fi isie ni fyw/

Daf
OK...

Jesse
Fi isie byw, fel fi'n hunan, y fersiwn gore o'n hunan – gyda ti.

Daf
Sai'n deall be' ti'n/

Jesse
Ma'r byd yn mynd fwy a fwy unpredictable ydy, ond ma fe'n fwy explicitly lliwgar/

Daf
Lliwgar?

Jesse
Ie lliwgar, sy'n wych i ni, ni'n ca'l y'n derbyn yn fwy, yn fwyfwy cryfach fel diwylliant/

Daf
Ti'n mynd yn political 'da fi nawr.

Jesse
Na na, wel, ma' fe' jyst yn bwysig i ni wir berchnogi/

Daf
Perchnogi?

Jesse
Perchnogi ein diwylliant ni, perchnogi y'n ffordd ni o fyw, a, a, a.../

Daf
Perchnogi?

Jesse
Ie! Perchnogi/

Daf
Fucking hell.

Jesse
...y'n ffordd ni o fod mewn perthynas, a bod yn proud o 'ny/

Daf
Proud o be' sori?

Jesse
...a rhannu fe, dathlu fe, rhannu a dathlu ni 'da pawb, i rymuso'r dyfodol/

Daf
Oh god.

Jesse
...union fel ma' dynion y gorffennol 'di neud i ni, dynion fel Tony a/

Daf
Tony?

Jesse
Ie ie, ti'bo Tony.

Daf
Nope.

Jesse
Ma' fe wastad mas da'r criw hŷn yn, yn... O, so fe ots, ond dynion fel fe dylen ni edrych lan at, a dyle ysbrydoli ni i rymuso dyfodol i ddynion hoyw'r dyfodol... grymuso ein lle a'n, a'n, a'n gwerth ni yn y byd/

Daf
Ti'n siarad fel twat.


[Diwedd y detholiad]


g1