Yn awr y fuddugoliaeth, a'n gelynion
Yn rhusio bendramwnwgwl drwy'r coed,
Safodd fy Meistr i dynnu saeth o'i glun
A golchi ei glwyf ; a daeth picellwr ato
Gan ddweud mewn arswyd : "Fy Nghadfridog Joab,
Ganllath oddi yma gwelais olygfa syn—
Mae Absalom yn hongian wrth ei hirwallt
Tan dewfrig derwen, a'i anifail mud
Gerllaw'n ei ffroeni, wedi colli ei farchog
Oddi ar ei gefn wrth rusio o dan y gangen ...
Mae'r llanc yn fyw!
"... O, ynfyd!" medd fy Meistr,
"Paham na threwaist ef ac ennill gennyf
Wregys anrhydedd a deg o siclau arian?"
"Na," meddai yntau, "cofia air y Brenin!
Er mil o siclau byth nis lladdwn ef."
Yna'r Cadfridog, o gawell arfau'r gŵr
A gipiodd yn ei lid dair o'i bicellau
A gwaeddodd arnom, "Hai! Dilynwch fi!"
Ac â'r tair picell, ac Absalom eto'n fyw
Yn hongian felly, brathodd ef trwy'i galon.
A gwaeddodd ar ei lanciau oll i'w daro
A'i roi o'i boen... Felly y trengodd ef.
A chan nad oedd ei gorff dan yr holl glwyfau
Yn gymwys i'w ddwyn adref at ei dad,
Fe'i claddwyd mewn ffos ddofn o dan y coed,
A gosod arno garnedd gerrig fawr ;
Ac felly y darfyddo am bob bradwr!