Mari (Asgre Lân, 1916)


Gwen Evans, ymhle mae'ch tad? Ddath o adre?

O, ma'r newydd drwy'r pentra fod Cymdeithas yr Auxiliary wedi malu'n chwilfriw, a bod Francis y pen dyn wedi ffoi o'r wlad. Gwen Evans bach, deydwch wrtho i nad ydi hynny ddim yn wir. Os ydi o'n wir, ma enillion caled Gruffydd a finna wedi toddi fel plu eira. Gwen, dydi o ddim yn wir, ydi o?

Deydwch eneth, a pheidiwch a nghadw i yn y mhoen fel hyn. Atebwch—ych tad chi sy'n gyfrifol am y Gymdeithas yn yr ardal yma, ac mi ddylech fod yn gwbod. Does bosib fod ych tad wedi rhedeg i ffwrdd fel Francis ?

Atebwch, eneth, oes rhyw wir yn y stori? Ma'r pentra'n ferw i gyd.

Mi fydd yma dadau truan wrth ddrws ych tŷ cyn bo hir, a llawar i fam druan hefyd, os ydi hyn yn wir.

Symuda i gam oddiyma nes y daw o; mae'n gywilydd i weinidog yr efengil fel fo fod wedi camarwain yr ardal ma mor ddifrifol, os gwir y stori ma.

(Daw MR. EVANS i mewn.) Evans, ydi'r newydd ma sy'n dew drwy'r pentra yn wir? Ydi Cymdeithas yr Auxiliary wedi malu ? Ydi'r pen dyn, Francis, wedi dianc ?

O, ma hi'n rhy hwyr i chi fynd i'r cyflwr yna rwan, Evans; fe ddylsach wbod am y perig cyn hyn. Dyma bentra cyfa yn diodda o'ch achos chi : dyma Gruffydd a finna, ar ol slafio'n galad drwy'r blynyddoedd, wedi byw i weld rhan fawr o nillion ein bywyd yn mynd efo'r gwynt. Bugail iach ydach chi ar Eglwys Horeb, yn gadal i ladron Llunden gneifio'ch defaid chi. Hawdd y gellwch chi roi'ch pen i lawr, ond mi fydd llawer pen i lawr ar lwydydd yr ardal ma heno, a chi sy'n gyfrifol am y cwbl. Mi glywis wrth ddod yma am Jenny Williams, yr hen garpas dlawd, mewn llewyg, wedi cael braw wrth glywed fod y tipyn ceiniog oedd ganddi wedi'u llyncu gan y'ch Cymdeithas dwyllodrus chi.