Foneddigion a boneddigesau, nid hel at y Gymdeithas Feiblau ryden ni'r tro yma,—ond yma ar berwyl y gyfraith ryden ni.
Fel hyn y bu pethau—yr oedd y bonheddwr hwn, sef Mr. Alexander McLagan, (mae'n wir ddrwg gennyf nad ydyw ei Gymraeg yn deilyngach o'i gwmni), a minnau wrth ein post heno tuag ugain munud wedi wyth yn gwylio am boachers, ac wedi aros wyth munud wrth fy oriawr, a gweled dyn tua phum troedfedd deng modfedd o hyd yn dod allan o Winllan y Coetmor ac yn cerdded yn bwyllog tuag atom.
Pan welodd ni, trodd yn ei ol, gan daflu rhywbeth ar y clawdd a rhedeg i ffwrdd. Wedi i ni fyned tua'r fan a'r lle, to wit, y clawdd, daethom o hyd i game wedi ei adael yno. Barnasom yn ddoeth, wedi cydymgynghori, adael y game yno i edrych a ddeuai yn ol i'w gyrchu. Cyn hir gwelsom rywun yn dod—y cyhuddedig yn ddiameu—a chymerodd arno oleu'i bibell wrth ymyl y game, ond pan oeddem ar fyned i afael ynddo, clywsom dwrw ymhen draw'r winllan, ac ergid o ddryll. Erbyn ini droi i chwilio am achos yr ergid, yr oedd y poacher wedi diflannu'n hollol gyda'r game,—ond ar ol dilyn ol ei draed yn y gors y mae'n ddiameu gennym mai i'r tŷ hwn—y Sgellog Fawr—neu i rywle cyfagos yr aeth.
Yn awr, yr wyf yn eich tynghedu nad atalioch oddiwrthyf ddim os gwyddoch ! Fuoch chi allan heno? Ym mhle, mor hy a gofyn?
Mae'n rhaid imi eistedd i gymryd notes. Mae mwy yma nag sy yn y golwg. Yn awr, Mr. Emrys Williams,—newch chi ddweud wrthyf beth welsoch chi pan oeddech chi'n hel y baw coch yna ar ych esgidia ?—er mwyn helpu gwâs y gyfraith, wrth gwrs.
(Yn rhoi'i law ar y glustog.) Mae hon ar fy ffordd i. Maddeuwch i mi, Mrs. Williams. (Yn codi'r glustog ac yn gweld y ddau ffesant.)
Oho! felly wir! 'Rydw i'n gweld 'rwan. To be sure, doedd ryfedd wir ych bod chi'n gwbod am danyn nhw! Dear, dear! mi 'roedd y Sgweier yn ameu'i denantiaid. Gellwch chi'i chymryd hi fel ffaith, Mr. Williams, y bydd gwarant yn ych erbyn chi, bore fory. Os ydw i dipin yn raenus fy nghâs, mi fedrai ddal poacher cystal ag undyn. Hefyd, rhaid imi'ch rhybuddio y bydd popeth a ddywedwch yn cael ei godi i'ch erbyn eto. Dowch, gyfaill McLagan. Mi gawn ni orffen hyn eto! Nos da, deulu, nos da.
Caiff Mr. Williams bob chware teg i ddeud y gwir wrth yr ustusiaid ddydd Sadwrn, a chaiff sôn faint fynno fo am ymddanghosiad personol swyddogion y gyfraith. Dowch, McLagan.