Marged (Cwmglo, 1934)


Mae'n hen bryd i chi, mam, ddod i wybod. Mae holl dafarnau Cwm Glo yn gwybod nawr. Mae nhad wedi addo cadw'i geg ynghau, ond mae pob peint mae e'n yfed yn rhyddhau ei dafod e'n fwyfwy.

O reit nhad, byddwch chi ddistaw nawr. Mae Morgan Lewis yn credu bod yr arian mae fe yn roi iddo yn prynu ei ddistawrwydd e ; ond ei dalu e am glebran mae hynny.

Mae'n well i mam 'y nghlywed i'n ei ddweud e, na'i glywed e o bennau busneslyd menywod Cwm Glo maes law. A mae'n bryd i Bet wybod. Mae'n drueni iddi wneud dim heb wybod, odi e ddim, Id? Fydd dim hanner cymaint o flas yn Llundain os na fydd hi'n gwybod!

Bet fach ddiniwed ! Am iti ohirio mynd gyda Idwal hyd heno, mi ddaeth e gyda fi un noswaith—un noswaith wedi iti wrthod iddo. A dyma ti heno wedi bodloni iddo—yn rhy hwyr.

Ie, Bet, Idwal gyda fi. Eisteddwch lawr ; mae gyda chi ddigon o amser i ddala'r trên, a mae'n drueni na cheith Bet wybod y cyfan nawr. Eisteddwch lawr!

Rwy i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir ; ac rwy'n mynd o ma heno. Rwyt ti, Bet, yn gwybod mod i'n arfer dod nôl a mlaen i'ch tŷ chwi, a rhedeg negesau trosoch chi, er pan own i'n hen blentyn bach. Wel, pan ddechreuais i dyfu yr oedd Morgan Lewis yn leicio nghadw i ar ei ben-lin a sylwi ar 'y nghorff i'n llunio ac yn prifio. Wrth edrych nôl 'rwy'n gallu deall hynny, a rwy i'n reit, ond ydw i, Morgan Lewis ? O own, yr own i wrth 'y modd, ac yn cael arian poced gydag e. Ond un diwrnod, tua dwy flynedd yn ôl, fe ddaliodd nhad ni ; byth er hynny mae fe wedi bod yn sugno mêr esgyrn Morgan Lewis—a hwnnw'n crynu rhag i neb ddod i wybod.

Wyt ti'n cofio, Bet—noswaith oer reit, bythefnos yn ôl, yn ymyl eich clwyd chi—iti fynd i'r tŷ heb ddweud “nos da” wrth Idwal? A Idwal druan yn gadael iti fynd. Ond welaist ti ddim ohono yn troi, a gwneud am ddod ar dy ôl di, a begian pardwn ; dyna oet ti eisiau, eisiau iddo fegian pardwn ar dy law di. Ond ddaeth e ddim. Mi ddes i heibio ... a ddaeth e ddim. Rown i'n gallu gweld y cyfan, a ddaeth e ddim. Ddaeth e ddim.

Mi ddois i o rywle. O do, dyna ngwaith i Bet fach, dod o rywle i ddal ddynion ar eu horiau gwan—i dalu peth o'r pwyth. Gofyn iddyn nhw pwy ddysgodd 'y nghrefft i fi.

Mae'n well i Bet ei hadnabod ei hunan, odi e ddim? Dyw hithau'n credu dim am neb mwy—mwy na mae mam a finnau.

Dych chi erioed o'r blaen wedi mynd lawr o dan blisgyn dim byd. Roedd hi'n neis i gael bachgen fel Idwal i wneud ffys ohonoch chi, ond oedd hi? Ond nawr dyw e ddim digon neis i wneud ffys—mae fe wedi bod gen-i ; am iddo ddeall nad oedd e dda i ddim byd ond i fod yn ornament i Bet. Rwy i'n falch, er mwyn Id, mod i wedi gwneud fel gwnes i. Mae fe'n gwybod lle mae fe nawr, 'ta beth.

Ha! ha! ha! (chwardd yn hir, yna yr un mor sydyn îry o ddifrif, a chwilio a dal llygaid ei mam) ... Does dim lot o wahaniaeth ynddo ni'n dwy, cofiwch chi, mam ; a chi sy wedi cael y fargen waetha hyd yn hyn. Lawer gwaith er pan own i'n ddigon hen i sylwi rwy i wedi clywed nhad yn eich gorfodi chi—eich gorfodi i wneud ei ewyllys e—pun a fynnech chi neu beidio. Dim ond rhyw sy'n cymell dynion ... 'y nhad, a Morgan Lewis a ldwal ... A Dic? ... Dwn i ddim ... falle mai ar ei liniau y newidiodd ei gariadon ... a dewis doethineb yn lle menywod. Mae Stryd Fawr bert yng Nghaerdydd, a merched glân ar hyd-ddi. Mae gwragedd Cwm Glo i gyd, heb fynd i Gaerdydd o gwbwl, wedi gorfod troedio'r Stryd Fawr honno. Neu wedi peidio â bod, fel mae Bet wedi peidio â bod. A mae'n rhaid i finnau fynd i ddal y trên, next stop Stryd Fawr Caerdydd, a'i gonestrwydd agored. Goodnight i gyd.