|
|
|
|
(1, 1) 4 |
Tân brwmstan gwyllt, darperwch fflamllyd Gethern, |
(1, 1) 5 |
Mwyhewch ei wrês â holl feginau uffern, |
(1, 1) 6 |
I drochi'r CYMRY yn ei fflamau gwyrddion; |
(1, 1) 7 |
I'w poeni—tyngaf fil-fyrdd o ellyllon! |
(1, 1) 8 |
Pob un a ddaw o'r genedl atgas yma |
(1, 1) 9 |
Eu hyrddio wnaf i lawr i'r dyfnder eitha', |
(1, 1) 10 |
I gael eu rhwygo gan bicellau gwynias, |
(1, 1) 11 |
A seirph a dreigiau tanllyd yn gymdeithas: |
(1, 1) 12 |
Mae enw'r CYMRY bron mor anyoddefol |
(1, 1) 13 |
Gan lîd fy mron, ag enw'r Duw tragwyddol; |
(1, 1) 14 |
Och fi! nad allwn wneud y ddau yn wag-nod, |
(1, 1) 15 |
A threisio llwybr i orsedd fawr y Duwdod: |
(1, 1) 16 |
Ond yn lle hyny, rhwym wrth danllyd gadwen, |
(1, 1) 17 |
Dan gosb yr wyf, yn glythu ar genfigen; |
(1, 1) 18 |
A llygaid byw fy ngelyn Hollalluog |
(1, 1) 19 |
Yn gwylied arnaf gyda thremiant llidiog; |
(1, 1) 20 |
A phob edrychiad sydd yn âeth tragwyddol |
(1, 1) 21 |
Yn creu pangfeydd ar ol pangfeydd dirdynol: |
(1, 1) 22 |
Ond er y cwbl, mi chwarddaf yn ei wyneb, |
(1, 1) 23 |
A meddwaf ar gynddaredd a chasineb; |
(1, 1) 24 |
A holl alluoedd y tywyllwch ŷraf |
(1, 1) 25 |
I frwydro'r CYMRY câs, ei bobl anwylaf, |
|
|
(1, 1) 151 |
Melldithion uffern, gwlawiwch yn echrydus |
(1, 1) 152 |
Gawodydd eirias ar y Cymry bradus! |
(1, 1) 153 |
Gwarth, ing, a dinystr, yn eu mysg ymdaenwch, |
(1, 1) 154 |
Phïolau gwae ar ben pob un tywalltwch! |
(1, 1) 155 |
Nid oes un genedl yn y byd daearol |
(1, 1) 156 |
Mor wrthryfelgar ì lywodraeth diafol! |
(1, 1) 157 |
Er's llawer canrif ofn sibrydai wrthyf |
(1, 1) 158 |
Y rhoddent i mi archoll gwaeth na chleddyf, |
(1, 1) 159 |
Ryw ddydd i dd'od, nes teimlai uffern drwyddi, |
(1, 1) 160 |
Ac Och! mae'r archoll wedi cael ei roddi, |
(1, 1) 161 |
Nes mae fy mron, gan loesion, yn gynddeiriog, |
(1, 1) 162 |
A'm llid yn arllwys allan fflamau fforchog: |
(1, 1) 163 |
Mae genyf ddigon o gynddaredd meddw |
(1, 1) 164 |
Y munud hwn, i wneud y byd yn ulw,— |
(1, 1) 165 |
I ddamnio enaid pob Cymraes a Chymro, |
(1, 1) 166 |
A chreu ellyllon fil-fyrdd i'w poenydio: |
(1, 1) 167 |
O! fel y dawnsiwn ar eu penau celyd— |
(1, 1) 168 |
Dyrchafwn grechwen hyd at borth y gwynfyd, |
(1, 1) 169 |
Ac arddangoswn hwynt yn ngwydd y Duwdod |
(1, 1) 170 |
Yn arwydd-nôd o fuddugoliaeth pechod! |
(1, 1) 171 |
A gwnawn i uffern ganu cân cynddaredd, |
(1, 1) 172 |
Wylofain, gruddfan, och, a rhingcian danedd; |
(1, 1) 173 |
Ond hyn nid allaf, —Duw sydd yn fy ngwylio, |
(1, 1) 174 |
A'i olwg beunydd trwy fy mron yn treiddio; |
(1, 1) 175 |
Yr eiliad hwn, fe wêl fy nrwg amcanion— |
(1, 1) 176 |
Fe glyw fy iaith, ac enfyn ei angylion |
(1, 1) 177 |
I sefyll ar fy ffordd fel cedyrn dduwiau, |
(1, 1) 178 |
Heb neb a'u beiddia trwy fy holl daleithiau: |
(1, 1) 179 |
Pe suddo wnawn i'r dwfn anfesuradwy |
(1, 1) 180 |
Ac uwch fy mhen dywyllwch anhreiddiadwy, |
(1, 1) 181 |
Fe fyddwn yno hefyd yn ei wyddfod, |
(1, 1) 182 |
A'i bresenoldeb rüai fy nghydwybod; |
(1, 1) 183 |
Pe na b'ai gair o'm genau yn diferu, |
(1, 1) 184 |
Fy meddwl distaw glywai yn llefaru |
(1, 1) 185 |
Yn gwbl mor eglur â fy mron fy hunan— |
(1, 1) 186 |
Fel pe llefarwn â tharanau allan; |
(1, 1) 187 |
Ac felly darganfyddai fy nghynlluniau |
(1, 1) 188 |
A gwnai yn llawer tynach fy nghadwynau |
(1, 1) 189 |
Er hyn i gyd, mi weithiaf yn ei erbyn— |
(1, 1) 190 |
Cynlluniau dynaf gyda bron ddiddychryn: |
(1, 1) 191 |
Dichellion fyrdd grynhöant yn fy meddwl— |
(1, 1) 192 |
Rhaid i mi ddechrau.. |
|
|
(1, 1) 194 |
Ust! glywch chwi y gwaeddi? |
(1, 1) 195 |
Mae talaeth Rhagrith mewn cyffröad trwyddi! |
(1, 1) 196 |
Dialedd Chwim, fy hên negesydd ffyddlon, |
(1, 1) 197 |
Yn gynt na mellten disgyn i'r gwaelodion |
(1, 1) 198 |
O gylch i gylch, trwy ganol fflamau myglyd, |
(1, 1) 199 |
A myn y rheswm am y twrf disyfyd. |
|
|
(1, 1) 201 |
Yn uwch, ac uwch, fe gyfyd eu 'sgrechiadau, |
(1, 1) 202 |
O hyd fe adymdorant íel taranau, |
(1, 1) 203 |
Nes yw holl uffern gan y twrf yn crynu, |
(1, 1) 204 |
A phawb o'i mewn gan ofnau yn gruddfanu; |
(1, 1) 205 |
Yr wyf yn methu yn fy myw a dirnad |
(1, 1) 206 |
Beth allai fod yr achos o'r cyffrôad; |
(1, 1) 207 |
Feallai mai gwrthryfel newydd ydyw, |
(1, 1) 208 |
I wneud gwerinaeth o unbenaeth distryw; |
(1, 1) 209 |
Ond dichon nad yw ddim ond ffrwyth anghydfod |
(1, 1) 210 |
Rhwng y penaethiaid a'u dilynwyr parod,— |
(1, 1) 211 |
Neu ynte frwydr gynddeiriog rhwng ellyllon |
(1, 1) 212 |
Y dalaeth isel hon a'r damnedigion! |
(1, 1) 213 |
Ond dacw'm cenad ar ei edyn pygddu |
(1, 1) 214 |
Fel mellten drwy y caddug yn dynesu, |
(1, 1) 215 |
A'r hanes oll yn drefnus ar eì dafod— |
|
|
(1, 1) 217 |
Ha! dyma fe o flaen ei feistr yn barod: |
(1, 1) 218 |
Dialedd, adrodd—adrodd mewn amrantiad |
(1, 1) 219 |
Yr achos, maint, a natur y cyffröad! |
|
|
(1, 1) 274 |
Yr achos, maint, a natur y cyffröad, |
(1, 1) 275 |
Ac nid dy daith, a geisiais genyt adrodd,— |
(1, 1) 276 |
Gad wybod pwy o'm deiliaid a'i hachosodd? |
|
|
(1, 1) 287 |
Rhagorol iawn. |
|
|
(1, 1) 289 |
Ardderchog! |
(1, 1) 290 |
Yn wir teilyngant fy nghanmòliaeth wresog: |
(1, 1) 291 |
Ac er mwyn talu iddo gyflog ddigon, |
(1, 1) 292 |
Ewch chwithau, hefyd, iy nghynghorwyr ffyddlon, |
(1, 1) 293 |
I lawr yn union a mwyhewch y cyffro, |
(1, 1) 294 |
A rhoddwch groesaw heb ei ail i'r Cymro! |
|
|
(1, 1) 318 |
Daeth i fy meddwl rhyw feddylddrych gynau |
(1, 1) 319 |
A allai fod yn ddedwydd ei effeithiau; |
(1, 1) 320 |
Pe byddai modd ei roddi mewn gweithrediad |
(1, 1) 321 |
Nid oes fawr os beth fyddai ei ganlyniad: |
(1, 1) 322 |
Ond rhwystrau fyrdd sydd i gwblhau fy amcan, |
(1, 1) 323 |
Mae deddfau Duw mor sicr âg ef ei hunan: |
(1, 1) 324 |
Pob deddf o'i eiddo sydd yn hollalluog |
(1, 1) 325 |
Ac uffern oll ni ddichon byth eu hysgog; |
(1, 1) 326 |
Fe fyddai ceisio myned yn eu herbyn, |
(1, 1) 327 |
A thori trwyddynt, i gwblhau fy nghynllun, |
(1, 1) 328 |
Mor anobeithiol â'r gwrthryfel cyntaf |
(1, 1) 329 |
I dreisio gorsedd gadarn y Goruchaf; |
(1, 1) 330 |
Ei holl ewyllys a'i fwriadau dwyfol |
(1, 1) 331 |
Fel Crewr pawb a Llywydd pen-arglwyddol |
(1, 1) 332 |
A fỳn gwblhau, er gwaethaf fy ngelyniaeth, |
(1, 1) 333 |
Cadarnach y'nt na seiliau'r greadigaeth! |
(1, 1) 334 |
A'r neb mewn rhyfyg ar eu ffordd a safant |
(1, 1) 335 |
A fethrir byth dan draed anfeidrol soriant, |
(1, 1) 336 |
Fe allwn ddwyn byd newydd i fodolaeth |
(1, 1) 337 |
A dim ond gair; dileu y greadigaeth |
(1, 1) 338 |
A Duw ei hun, mor hawdd ag atal iota |
(1, 1) 339 |
O arfaeth ben-arglwyddol y Jehofa: |
(1, 1) 340 |
Ond er nad allaf drwy fy ngallu lwyddo, |
(1, 1) 341 |
Trwy ddichell cyfrwys mynaf ei effeithio; |
(1, 1) 342 |
Cyflawnais fwy na hyn dan anfanteision |
(1, 1) 343 |
Nad oes eu tebyg ar fy ffordd yr awrhon: |
(1, 1) 344 |
Pan ydoedd dyn mor lân âg engyl gwynion, |
(1, 1) 345 |
Heb duedd ddrwg na llygredd yn ei galon, |
(1, 1) 346 |
A Duw ag ef yn cyfeillachu beunydd— |
(1, 1) 347 |
Gan daflu drosto gysgod ei adenydd, |
(1, 1) 348 |
Mi weithiais ffordd i'w galon yn llwyddianus |
(1, 1) 349 |
A gwnaethum ef yn adyn pechadurus,— |
(1, 1) 350 |
Yn elyn Duw—yn fradwr fel fy hunan, |
(1, 1) 351 |
A ffurfiais ef yn ol fy nelw aflan; |
(1, 1) 352 |
Mi dynais ddagrau, do, o lygaid engyl, |
(1, 1) 353 |
Fath lwyddiant mawr nid oeddwn byth yn dysgwyl; |
(1, 1) 354 |
Fe ddysgais i'r Cerubiaid ocheneidio |
(1, 1) 355 |
Ac i'r Seraphiaid uwch fy mrâd i wylo; |
(1, 1) 356 |
Mi deflais brudd-der dros drigfanau gwynfyd |
(1, 1) 357 |
A dwysder sỳn ar wyneb y cyfanfyd! |
(1, 1) 358 |
Ac er i'r dyn, trwy allu mawr trugaredd, |
(1, 1) 359 |
Gael ei ryddhau o rwymau ei anwiredd, |
(1, 1) 360 |
Mi gefais fuddugoliaeth gwerth ei chofio |
(1, 1) 361 |
A'i chanlyniadau sydd yn aros eto. |
(1, 1) 362 |
~ |
(1, 1) 363 |
Rhaid i mi gyfaddasu fy nghynlluniau |
(1, 1) 364 |
I ateb natur dyn a'i amgylchiadau; |
(1, 1) 365 |
Oblegid nid yw Duw yn llywodraethu |
(1, 1) 366 |
Y teulu dynol gyda deddfau gallu; |
(1, 1) 367 |
Pe felly gwnai, nid allwn yn oes oesoedd |
(1, 1) 368 |
Gwblhau fy amcan, mwy na chloi y Nefoedd; |
(1, 1) 369 |
Ond gyda deddfau cariad, —deddfau denu, |
(1, 1) 370 |
Mae'n dirio'r byd —a'r dyn yn ymresymu; |
(1, 1) 371 |
Mae yn ei lwytho â daioni beunydd |
(1, 1) 372 |
Gan daflu drosto gysgod ei adenydd,— |
(1, 1) 373 |
Gan ddangos ar un llaw y gwynfyd bythol |
(1, 1) 374 |
Ac ar y llall, echryslawn wae tragwyddol! |
(1, 1) 375 |
Gan adael iddo ddewis, ynte gwrthod, |
(1, 1) 376 |
Anfeidrol olud cariad rhâd y Duwdod: |
(1, 1) 377 |
Yn awr, mae yma le i minau weithio, |
(1, 1) 378 |
A mantais fawr sydd genyf hefyd arno; |
(1, 1) 379 |
Ei galon ddrwg sydd wrthyf yn ymlynu |
(1, 1) 380 |
Ac yn fy llwybrau mae yn ymyfrydu; |
(1, 1) 381 |
I mi mae pawb yn ddeiliaid wrth naturiaeth, |
(1, 1) 382 |
Trwy feiau fyrdd arddelant fy llywodraeth; |
(1, 1) 383 |
Ac oni b'ai fod Duw â'i ras yn tynu, |
(1, 1) 384 |
Ni welid un o honynt yn fy ngwadu; |
(1, 1) 385 |
Ond pwy a ŵyr na lwyddaf finau eto |
(1, 1) 386 |
I ddwyn rhyw luoedd lawer oddi arno? |
(1, 1) 387 |
~ |
(1, 1) 388 |
Ond och! och fi! mae llygad yr Anfeidrol |
(1, 1) 389 |
Yn tremio arnaf nes mae poen dirdynol |
(1, 1) 390 |
Yn cynddeiriogi gwae fy holl deimladau, |
(1, 1) 391 |
Ac yn lle pleser, ing ddaw o'm cynlluniau: |
(1, 1) 392 |
Rhaid i mi fyned, gan fy mhoen, am enyd |
(1, 1) 393 |
I lawr i orphwys ar fy ngwely tanllyd. |