| (0, 2) 9 | Sdimbydineud-i-neud |
| (0, 2) 10 | ~ |
| (0, 2) 11 | (1) |
| (0, 2) 12 | Pan glywais fod y Cyngor Sir |
| (0, 2) 13 | Yn mynd i dorri'r Chweched yn grwn |
| (0, 2) 14 | Gofynnais paham |
| (0, 2) 15 | I Mam ac i Dat |
| (0, 2) 16 | A dyma eu hateb llwm... |
| (0, 2) 17 | ~ |
| (0, 2) 18 | Sdimbydineud, i neud |
| (0, 2) 19 | Sdim ots be' ni'n neud na gweud |
| (0, 2) 20 | Os y'n Nhw yn dweud, yn dweud |
| (0, 2) 21 | Does dim byd i neud, |
| (0, 2) 22 | Sdiawl o ddim i neud. |
| (0, 2) 23 | ~ |
| (0, 2) 24 | (2) |
| (0, 2) 25 | Cysylltais i â'r c'nghorwyr sir, |
| (0, 2) 26 | Wedes i: Drychwch, s'o hyn yn iawn, |
| (0, 2) 27 | Rhaid i chi sefyll |
| (0, 2) 28 | Yn gadarn a chryf |
| (0, 2) 29 | Ond hyn oedd eu hateb yn llawn... |
| (0, 2) 30 | ~ |
| (0, 2) 31 | Sdimbydineud, i neud |
| (0, 2) 32 | Sdim ots be' ni'n neud na gweud |
| (0, 2) 33 | Os yw'r Swyddogion yn dweud, yn dweud |
| (0, 2) 34 | Does dim byd i neud, |
| (0, 2) 35 | Sdiawl o ddim i neud. |
| (0, 2) 36 | ~ |
| (0, 2) 37 | (3) |
| (0, 2) 38 | Dyma fi'n holi yn ei glust |
| (0, 2) 39 | Y Cyfarwyddwr Mawr ei hun |
| (0, 2) 40 | 'Pam wyt ti'n mynnu |
| (0, 2) 41 | Lladd cefen gwlad?' |
| (0, 2) 42 | Atebodd yntau yn flin... |
| (0, 2) 43 | ~ |
| (0, 2) 44 | Sdimbydineud, i neud |
| (0, 2) 45 | Sdim ots be' ch'n neud na gweud |
| (0, 2) 46 | Caerdydd sy'n dweud, sy'n dweud |
| (0, 2) 47 | Does dim byd i neud, |
| (0, 2) 48 | Sdiawl o ddim i neud. |
| (0, 2) 49 | ~ |
| (0, 2) 50 | (4) |
| (0, 2) 51 | Mi gefais fraw, y dydd o'r blaen, |
| (0, 2) 52 | Meddwl am bopeth |
| (0, 2) 53 | A aeth i'r llaid – |
| (0, 2) 54 | Tafarn a chapel, |
| (0, 2) 55 | Ysgol a siop, |
| (0, 2) 56 | Clywais fy hun yn dweud... |
| (0, 2) 57 | ~ |
| (0, 2) 58 | Sdimbydineud, i neud |
| (0, 2) 59 | Sdim ots be' ni'n neud na gweud |
| (0, 2) 60 | Os y'n Nhw yn dweud, yn dweud... |