Cuesheet

Brad y Llyfrau Gleision

Lines spoken by Cenfigen (Total: 30)

 
(1, 1) 121 I'r pen nid aethost, ellyll aml-wynebog,
(1, 1) 122 Nid oedd dy araeth ddim ond truth hanerog;
(1, 1) 123 Paham na ddywedasit am y driniaeth
(1, 1) 124 A roddir iddynt trwy y dywysogaeth?
(1, 1) 125 Gwnaf hyny yn dy le, o gariad atat,
(1, 1) 126 Dangosaf y gwaradwydd deflir arnat:
(1, 1) 127 Mae person eglwys, Piwsi yn enwedig,
(1, 1) 128 Trwy Gymru oll yn berson gwrthodedig!
(1, 1) 129 Y bobl nid ânt, er aur na dim, i'w wrando,
(1, 1) 130 Oblegid hyn, mae yntau bron yn wallgo'!
(1, 1) 131 Mae yn watwargerdd yn ngeneuau plantos,
(1, 1) 132 Fel cî cynddeiriog mae yn cael ei anos;
(1, 1) 133 Trwy ryw gamsyniad mawr ac anfaddeuol,
(1, 1) 134 Mae wedi myned yn ddiareb hollol:—
(1, 1) 135 "Mor ddwl â pherson," —"cynddrwg ag offeiriad,"
(1, 1) 136 A glywir beunydd yn y tŷ a'r farchnad!
(1, 1) 137 Hên wragedd tlodion, er mor fawr eu hangen,
(1, 1) 138 A fetha hudo gyda pheisiau gwlanen;
(1, 1) 139 Hên wyr methedig, gwan, a'u cylla'n weigion,
(1, 1) 140 Ni fedr ddarbwyllo 'chwaith â'i dorthau gwynion;
(1, 1) 141 A'r plantos carpiog, gyda dillad newydd,
(1, 1) 142 A fetha ddenu, er mor gryf ei awydd;
(1, 1) 143 Yr unig foddion sydd yn llwyddo dipyn
(1, 1) 144 Yw cinio blasus unwaith yn y flwyddyn;
(1, 1) 145 A swper weithiau, fel mae rhaid yn galw,
(1, 1) 146 Pan gyffry'r gwirod yn y gwydrau gloew!
(1, 1) 147 Mae hyn yn denu rhai, ond rhai anghymwys
(1, 1) 148 I feithrin rhagrith yn y byd na'r eglwys;
(1, 1) 149 Ond ni waeth tewi,—nid all doniau ellyll
(1, 1) 150 Ddarlunio gwarth mor fawr yn ddigon erchyll!