|
|
(1, 0) 1 |
Golygfa: (O safle'r chwaraewyr.) |
(1, 0) 2 |
~ |
(1, 0) 3 |
Siop 'Sgidiau Hobson yn Chapel Streel, Salford. |
(1, 0) 4 |
Mae'r ffenestri a'r drws i'r heol ar y chwith. |
(1, 0) 5 |
Yn wynebu'r edrychwyr saif y cownter ac arno dryblith o 'sgidiau o bob math. |
(1, 0) 6 |
Ar y pared y tu cefn iddo, y mae rhesi o silffoedd yn llawn o "boxes" 'sgydiau. |
(1, 0) 7 |
O flaen y cownter saif tair neu bedair o gadeiriau gwiail (cane). |
(1, 0) 8 |
I lawr y llwyfan ar y chwith y mae desc a chadair. |
(1, 0) 9 |
Y mae'r drws a dau ris yn codi ato ar y dde yn arwain i'r tŷ. |
(1, 0) 10 |
Yng nghanol y llwyfan y mae "trap-door" yn agor ar y seler—siop waith y cryddion. |
(1, 0) 11 |
~ |
(1, 0) 12 |
Syml a diaddurn yw popeth yn y siop. |
(1, 0) 13 |
Mae'r fusnes yn llewyrchus. |
(1, 0) 14 |
Eithr yn Salford yn 1880, nid oedd y gwychter a'r rhwysg a modwedda siopau y dydd heddiw yn anhepgor i lwyddiant masnachol. |
(1, 0) 15 |
Arwenir cwsmer pwysig i ffitio 'sgidiau yn ystafell fyw Hobson. |
(1, 0) 16 |
Eithr eistedd y cyffredin ar y cadeiriau gwiail sydd yn y siop dywyll ond addas ir fwsnes. |
(1, 0) 17 |
Nŷ ddangosir ond ychydig o'r stoc yn y ffenestr a chlocsiau (clogs) sy'n fwyaf lluosog ac amlycaf yno. |
(1, 0) 18 |
Trwy'r ffenestr tywynna goleuni llachar hanner dydd. |
(1, 0) 19 |
~ |
(1, 0) 20 |
Yn eistedd y tu cefn i'r cownter y mae dwy ferch ieuengaf Hobson, ALICE, ar y dde, 23 oed, a VICTORIA, ar y chwith, geneth brydferth iawn, 21 oed. |
(1, 0) 21 |
Mae ALICE... a VICTORIA yn darllen. |
(1, 0) 22 |
Maent wedi ymwisgo mewn du a chanddynt ffedogau duon. |
(1, 0) 23 |
Egyr y drws ar y dde a daw MAGGIE i mewn. |
(1, 0) 24 |
Merch hynaf Hobson ydyw hi, yn 30 oed. |
|
|
(1, 0) 42 |
Daw ALBERT PROSSER i mewn o'r stryd. |
(1, 0) 43 |
Mae e'n 26 oed, ac wedi ymwisgo'n drwsiadus fel y gweddai i fab cyfreithiwr o safle. |
(1, 0) 44 |
Cerdda ymlaen i'r dde, a chwyd ei het yn foesgar i gyfarch ALICE). |
|
|
(1, 0) 50 |
Try i fynd allan; y mae ar ei ffordd at y drws pan gwyd MAGGIE a dod i'r canol. |
|
|
(1, 0) 75 |
Daw VICKEY â'r "box" sgidiau; egyr MAGGIE ef. |
|
|
(1, 0) 79 |
Gesyd MAGGIE yr esgid newydd am droed ALBERT a'i chlymu. |
|
|
(1, 0) 95 |
Daw ALICE tuag atynt drachefn. |
|
|
(1, 0) 102 |
 VICKEY yn ôl tu cefn i'r cownter. |
|
|
(1, 0) 108 |
Erbyn hyn y mae MAGGIE wedi clymu'r esgid arall. |
(1, 0) 109 |
Cwyd a cherdda yn ôl at y ddesc gan daflu'r "box" gwag at VICKEY. |
(1, 0) 110 |
Dyry hithau sgrech wedi ei brawychu ar ganol darllen ei llyfr. |
|
|
(1, 0) 137 |
Daw HENRY HORATIO HOBSON i mewn i'r tŷ. |
(1, 0) 138 |
Mae yn 55 oed, yn hunan-ddigonol, yn wridgoch a graenus, ac yn engraifft byw o ben-teulu'r cyfnod. |
(1, 0) 139 |
Mae ei het ar ei ben, het galed hanner y ffordd at fod yn het uchel. |
(1, 0) 140 |
Addurnir ei wasgod a chadwyn aur drom a sêl fawr yn crogi wrthi. |
(1, 0) 141 |
Dillad taclus a ddeil eu gwisgo sydd am dano. |