|
|
|
|
(1, 1) 216 |
Dialedd yn dyfod i mewn. |
|
|
(1, 1) 220 |
Ha, ha, ha! mae chwerthin bron fy hollti, |
(1, 1) 221 |
Erioed o'r blaen ni welais fath drueni: |
(1, 1) 222 |
Wrth i mi nesu tua maes y cyffro, |
(1, 1) 223 |
Ac ysgrechfeydd taranllyd bron fy moedro, |
(1, 1) 224 |
Mi sefais eiliad wedi haner ofni, |
(1, 1) 225 |
Gan dybied ddarfod i mi gyfeiliorni |
(1, 1) 226 |
A chroesi'r terfyn yn fy anwybodaeth |
(1, 1) 227 |
I ryw fyd arall, gwaeth uwchlaw cymhariaeth. |
(1, 1) 228 |
Na'r dalaeth waethaf yn dy ymerodraeth; |
(1, 1) 229 |
Mi welwn o fy mlaen fil-fyrdd o ffurfiau |
(1, 1) 230 |
Hagr, erch, ofnadwy, o bob math o liwiau— |
(1, 1) 231 |
Yn gwau yn wylltiog trwy a thraws eu gilydd, |
(1, 1) 232 |
A chynddeiriogrwydd oedd yn eu lleferydd! |
(1, 1) 233 |
Eirth hagr a llewod yn eu plith mi welwn,. |
(1, 1) 234 |
Seirph a gwiberod hefyd ddarganfyddwn, |
(1, 1) 235 |
Ac angenfilod anferth, filoedd lawer, |
(1, 1) 236 |
Nad oes un enw ddengys eu herchyllder; |
(1, 1) 237 |
A chreaduriaid, tebyg iawn i ddynion, |
(1, 1) 238 |
A'u danedd miniog dynent yn ysgyrion |
(1, 1) 239 |
Sarph danllyd fawr, ac iddi gant o benau, |
(1, 1) 240 |
A'i chorph i gyd yn orlawn o golynau; |
(1, 1) 241 |
O gylch un welwn wedi tỳn ymdorchi, |
(1, 1) 242 |
Ac wrth ei bodd edrychai yn ei boeni; |
(1, 1) 243 |
Ei phenau erch ysgydwai yn ei wyneb, |
(1, 1) 244 |
A'i llygaid aml yn gochion greulondeb; |
(1, 1) 245 |
Ac wedi edrych yn fygythiol arno, |
(1, 1) 246 |
A'r truan caeth yn wae a dychryn trwyddo, |
(1, 1) 247 |
Ei frathu wnai â'i danedd oll ar unwaith, |
(1, 1) 248 |
Nes gwaeddai allan gan bangfeydd anobaith; |
(1, 1) 249 |
Ac felly gwnai dro ar ol tro ei boeni, |
(1, 1) 250 |
Nes ydoedd ar eì loesion wedi meddwi; |
(1, 1) 251 |
Yn ymyl hwn, mi welwn adyn arall |
(1, 1) 252 |
Yn cael ei boeni am ei fywyd angall,— |
(1, 1) 253 |
Ellyllon lu a'i gwanent â'u bidogau, |
(1, 1) 254 |
Ac ar ei fynwes dawnsient i'w ruddfanau; |
(1, 1) 255 |
Ei daflu wnaent â'u gwaewffyn i fynu, |
(1, 1) 256 |
A dalient ef â'u blaenau wedi hyny; |
(1, 1) 257 |
I'w enau bwrient gorn o hylif eirias, |
(1, 1) 258 |
A lluchient ef drachefn i ffwrnes wynias; |
(1, 1) 259 |
Nes oedd ei waedd, a gwaedd llu mawr ychwaneg, |
(1, 1) 260 |
I'w clywed fel taranau fyrdd ar osteg; |
(1, 1) 261 |
Annhrefn eisteddai ar eì orsedd sitrach |
(1, 1) 262 |
A gwnai bob dim o'i gylch yn strim-stram-strellach; |
(1, 1) 263 |
Ellyllon, angenfilod, damnedigion, |
(1, 1) 264 |
Mwg taglyd poeth, a storm o danllyd wreichion, |
(1, 1) 265 |
Cleddyfau miniog, bolltau a bwledi, |
(1, 1) 266 |
A llawer mwy o offerynau cyni |
(1, 1) 267 |
Yn mhob cyfeiriad welwn yn chwyrnellu, |
(1, 1) 268 |
Ac aflywodraeth yn eu llywodraethu; |
(1, 1) 269 |
Nes haner meddwl, fel y d'wedais eisioes, |
(1, 1) 270 |
Fy mod mewn byd na welswn yn fy einioes: |
(1, 1) 271 |
Ond wedi craffu yn fwy manwl arnynt, |
(1, 1) 272 |
Fe adnabuais ambell un o honynt; |
(1, 1) 273 |
Ac yn eu canol safwn mewn amrantiad: |
|
|
(1, 1) 277 |
Neb yn neillduol: Piwsi bach o Gymro |
(1, 1) 278 |
Oedd newydd ddyfod dan ruddfanu yno, |
(1, 1) 279 |
A'r holl gythreuliaid yn y fan gyffröent |
(1, 1) 280 |
Ac ar yr adyn truan ymosodent: |
(1, 1) 281 |
O! fel y rhuthrent ar eu rhwym ysglyfaeth; |
(1, 1) 282 |
O! fel y gwaeddai yntau dan ei driniaeth; |
(1, 1) 283 |
Arteithient ef yn mhob rhyw ddull a allent, |
(1, 1) 284 |
Gan dyngu i dy enw na orphwysent |
(1, 1) 285 |
Nes iddo brofi eithaf eu cynddaredd |
(1, 1) 286 |
Ac yfed gwaddod cwpan ei ddialedd. |