Cuesheet

Brad y Llyfrau Gleision

Lines spoken by Rhagrith (Total: 85)

 
(1, 1) 36 Yn wir, cyffelyb yw fy meddwl inau,—
(1, 1) 37 Fy nghynrychiolwyr yn eu mysg y'nt denau;
(1, 1) 38 Nid gwisgo mwgwd maent i dwyllo'r gwirion
(1, 1) 39 A chario brâd i wersyll ein gelynion;
(1, 1) 40 Ond trôant hwy o galon yn ein herbyn,
(1, 1) 41 Ac amddiffyniad Duw sydd yn eu dilyn.
(1, 1) 42 Gwir yw, fod eto nifer o bersoniaid—
(1, 1) 43 Rhai ffyddlon hefyd y'nt yr holl Biwseaid,
(1, 1) 44 A'n ymegnio dros ein teyrnas beunydd
(1, 1) 45 Yn nghanol gwersyll Duw mewn rhith o grefydd:
(1, 1) 46 Fe wnant eu gorau er gorchfygu rhinwedd,
(1, 1) 47 Trwy feithrin anwybodaeth ao ofergoeledd,—
(1, 1) 48 Mewn ffyrdd amrywiol, fel y bydd angenrhaid,
(1, 1) 49 Trwy siamplau teilwng o gymeriad diafliaid:
(1, 1) 50 Fel hyn y gwnant,—arweiniant eu gwrandawyr,
(1, 1) 51 Gan ocheneidio megis gwraig mewn gwewyr,
(1, 1) 52 Oddiwrth y sylwedd at y dyddim gysgod,—
(1, 1) 53 Oddiwrth yr ysbryd at y farwaidd ddefod!
(1, 1) 54 Gan luchio llaid a llwch i'w llygaid gweiniaid,
(1, 1) 55 Rhag i'r goleuni dreiddio idd eu henaid;
(1, 1) 56 A llanwant eu meddyliau gyda rhagfarn
(1, 1) 57 Yn erbyn geiriau y gwirionedd cadarn;
(1, 1) 58 A phorthant hwy â gwynt a drydd yn gorwynt
(1, 1) 59 Pan yrir angau i ymosod arnynt;
(1, 1) 60 Difyrant hwy â swn teganau gweigion
(1, 1) 61 Rhag iddynt flysio y trysorau mawrion
(1, 1) 62 A geir heb rif mewn crefydd ymarferol,—
(1, 1) 63 Sancteiddrwydd moes, ac ysbryd rhydd brawdgarol;
(1, 1) 64 A gellid meddwl wrth eu gwedd ddifrifol
(1, 1) 65 Fod swm eu truth yn genhadwri ddwyfol;
(1, 1) 66 Nes enill rhai i roddi pwy? eu henaid
(1, 1) 67 Ar sylfaen ffugiol o ddychymyg ffyliaid,
(1, 1) 68 Yr hon a'u gollwng, pan fydd raid am dani,
(1, 1) 69 Dros geulan dinystr atom i'r trueni!
(1, 1) 70 Ond hyn sydd dôst,—mae ambell berson eglwys
(1, 1) 71 Y dyddiau hyn, fel angel o Baradwys,
(1, 1) 72 Yn traethu y gwirionedd yn ei burdeb,
(1, 1) 73 Heb ofni'r gosb am dori y cytundeb
(1, 1) 74 A ni a'r esgob yn eu hurddiad wnaethant;
(1, 1) 75 Yn lle yr eglwys, Iesu Grist bregethant,
(1, 1) 76 Ac ymegniant gyda'r Ymneillduwyr,
(1, 1) 77 Ein hen elynion—melldigedig fradwyr,
(1, 1) 78 I ddwyn y byd o dan lywodraeth Iesu,
(1, 1) 79 Ac nid oes Pâb na Phiwsi all eu llethu;
(1, 1) 80 Mae hyn yn erchyll! troi yr eglwys wladol
(1, 1) 81 Yn erbyn uffern,—eglwys wnaeth y diafol,
(1, 1) 82 I gadw'r byd trwy grefydd yn ei feddiant,
(1, 1) 83 Ac hyd yn hyn rhyfeddol fu eì llwyddiant!
(1, 1) 84 Ond nid oes mwyach fawr ymddiried iddi
(1, 1) 85 Tra bydd y dynion hyn o'i mewn yn gweini;
(1, 1) 86 Ac heblaw hyny, nid ynt y Piwseaid
(1, 1) 87 Yn gallu twyllo ond ychydig ffyliaid,
(1, 1) 88 Pa rai nad ydyw nemawr o wahaniaeth
(1, 1) 89 I bwy y rhoddant eu diles wasanaeth;
(1, 1) 90 Rywfodd, fe ŵyr y Cymry eu cymeriad—
(1, 1) 91 Canfyddant hwy y blaidd yn nghroen y ddafad;
(1, 1) 92 A rhoddant rybudd trwy eu hudgyrn allan
(1, 1) 93 Fod blaidd rhithiedig wedi d'od i'r gorlan;
(1, 1) 94 A'r wŷn a'r defaid ffoant oddiwrtho
(1, 1) 95 Heb adael dim ond muriau moelion iddo;
(1, 1) 96 Ac wedi hyn bydd pawb a'u llygaid arno,
(1, 1) 97 A'r holl fugeiliaid ffoniog yn ei wylio,
(1, 1) 98 Ac nid all symud, druan bach o hono,
(1, 1) 99 Na rêd rhyw gòryn yn y fan i'w guro;
(1, 1) 100 Ac er gwastraffu'i ddawn, ni fedr ddarbwyllo
(1, 1) 101 Ond ambell hurtyn i ymddiried ynddo;
(1, 1) 102 Yn wir, gresynus ydyw gwedd y truan,
(1, 1) 103 (Caethiwed tôst i flaidd yw byw mewn corlan,)
(1, 1) 104 Yn edrych ar yr wŷn o'i gylch yn flysiog,
(1, 1) 105 A'r dwr yn rhedeg rhwng ei ddanedd miniog
(1, 1) 106 Wrth flysio'u cnawd yn wledd i'w gylla gwangcus,
(1, 1) 107 Ac yntau'n methu cael y tamaid blasus:
(1, 1) 108 Ond heb lefaru mwy yn gymhariaethol
(1, 1) 109 Pe allaf ddweud, heb arfer iaith ormodol,
(1, 1) 110 Y gwel y Cymry ar eu prês dalcenau
(1, 1) 111 Sicr nôd y bwystfil, er yr holl ystrywiau
(1, 1) 112 Yn ddoeth arferant i'w ddirgelu rhagddynt,
(1, 1) 113 Mewn haner munud, fel pe byddai ganddynt
(1, 1) 114 Olygon Duw i ganfod pob dirgelwch,—
(1, 1) 115 Neu fel pe b'ai y nôd mewn du dywyllwch
(1, 1) 116 Yn argraffedig gyda heuliau mawrion:
(1, 1) 117 Nid wn am neb mor graff yn mysg marwolion,
(1, 1) 118 Fe sawriant uffern ar eu gwisg yn union;
(1, 1) 119 Ac onid allwn gael rhyw ddyfais newydd
(1, 1) 120 Y Dalaeth hon a gollwn yn dragywydd.