|
|
|
|
(1, 0) 68 |
O, mishtir bach, rwy' wedi gweld pethe rhyfedd heno. |
(1, 0) 69 |
Pan o'wn i'n dod fyny drwy Allt y Cadno 'roedd mor dywyll a'r fagddu, ac ofan yn y nghalon i y cwrddwn â'r Ladi Wen, neu'r Crach y Rhibyn fu ar ol Twm Sâr pan oedd yn dod nol o garu. |
(1, 0) 70 |
Ar ac unwaith dyma fi'n clywed sŵn screchain, rhyw leisiau oerion, yn ddigon i hala iasau drwy gorff dyn, a dyma fi'n dechre' gwanddi hi fel milgi, ond dilyn oedd y sŵn, ac yn dod yn nês o hyd, ac, o'r arswyd fawr, dyma rwbeth wrth y nhraed i o'r diwedd, a dyma finne yn dechre iwso'r bastwn. |
(1, 0) 71 |
Ond er fy nychryn 'doedd yna ddim sylwedd i ddala ergyd o dan y bastwn. |
(1, 0) 72 |
Ac mi nabyddes y fileiniaid. |
(1, 0) 73 |
Haid o gŵn bendith y mamau ar eu ffordd i rwle. |
(1, 0) 74 |
Ta Sioni'r Clochydd 'ma mi alle Sioni ddweyd i ble oedden nhw yn mynd, a phwy sydd i fadel nesa. |
(1, 0) 75 |
Ond mae un cysur gen i, yr oeddynt yr ochor 'ma i'r afon. |
(1, 0) 76 |
Alle nhw ddim bod yn mynd i'r Felin, waeth chroesa nhw ddim dŵr, fel y gwyddoch. |