| (1, 0) 3 | Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un. |
| (1, 0) 4 | Y mae gwaith clochydd yn eitha diddorol, ac mi ga i dipyn o hyfrydwch wrth wylio'r hen elyn yn agoshau. |
| (1, 0) 5 | Rwy'n gwybod yn eitha da pwy fydd y nesa' i fynd. |
| (1, 0) 6 | Yr hen Wil y Carter. |
| (1, 0) 7 | 'Roedd golwg angeu yn 'i wyneb e' dydd Sul, a mi dowles i olwg drosto er mwyn bod yn barod. |
| (1, 0) 8 | Mi alla neud hyn o ymffrost 'mod i yn gwbod maint y bedd fydd yn eisie arnyn' nhw i gyd. |
| (1, 0) 9 | Un olwg i Sioni, 'does eisie na phlan na mesur wedyn. |
| (1, 0) 10 | Mi greda i mai'r lle gore i gladdu yr hen Wil fydd o dan yr hen goeden dderw wrth ochor Parc y Ficer. |
| (1, 0) 11 | Mi leicie'r hen "foy" orwedd fan hynny, mi wn. |
| (1, 0) 17 | Am ddeg, syr; mi ofala eich galw mewn amser. |
| (1, 0) 18 | Yr ydych chi a finne wedi rhoi cannoedd dan y dywarchen lâs erbyn hyn, syr, a dyna'r hen Fari Gingerbread wedi mynd ar ei thaith ola' o'r diwedd, er mor wddyn oedd yr hen greadur. |
| (1, 0) 19 | 'Does ganddi na châr na chyfaill i wylo deigryn ar ei hol. |
| (1, 0) 20 | Druan o'r hen Fari. |