| (0, 5) 267 | Mm. |
| (0, 5) 268 | Wna'i edrych i weld a oes modd rhoi hoist yn y siambr i'ch helpu. |
| (0, 5) 273 | Ie, wel... â phob parch atoch chithau hefyd, gan gofio eich bod yn newydd, ynte, y pwynt yw: cadw'ch harweinydd grŵp – y'ch plaid – yn hapus. |
| (0, 5) 276 | Wel, mae'n amlwg, ond-yw-hi. |
| (0, 5) 277 | Iddyn nhw fedru gweld pa ffordd y'ch chi'n pleidleisio. |
| (0, 5) 282 | Doniol iawn. |
| (0, 5) 283 | 'Annibynnol'. |
| (0, 5) 284 | Doniol iawn. |
| (0, 5) 286 | Diolch, gyfaill. |
| (0, 5) 287 | Ymlaen at y wers nesaf. |
| (0, 5) 288 | Siwt mae swyddogion y cyngor yn gallu eich helpu i ddod i benderfyniad. |
| (0, 5) 289 | Nawrte, mae llawer o waith y cyngor yn gymhleth iawn. |
| (0, 5) 290 | Mor gymhleth, mae rhai ohonom ni – y staff broffesiynol – ambell waith – ambell-ambell waith – yn cael trafferth deall y materion ry' ni'n eu trafod. |
| (0, 5) 291 | Wel, os y'n ni – y staff broffesiynol – yn cael trafferth, pa ddisgwyl i chi – gynrychiolwyr rhan amser – i ddeall. |
| (0, 5) 292 | Dyna pam, cyn pob pleidlais fawr mi fydd Swyddogion – Uwch-Swyddogion a Chyfarwyddwyr – y cyngor yn rhoi braslun o'r dewis ger eich bron a chyngor parthed y llwybrau cywir i'w dilyn. |
| (0, 5) 299 | Sori. |
| (0, 5) 300 | Beth oedd y gair defnyddioch chi fyn'na nawr? |
| (0, 5) 302 | W! |
| (0, 5) 303 | Cystal i fi eich rhybuddio nawr, dyw hwnna ddim yn air i'w ddefnyddio yn y siambr hon – yn sicr ddim o flaen Swyddogion. |
| (0, 5) 310 | Ie, wi'n gwbod, ond... |
| (0, 5) 318 | Mr/Mrs Cyfreithiwr – cyn i'r drafodaeth hon fynd gam ymhellach, dwi'n credu fod angen i fi ymddiheuro i bawb. |
| (0, 5) 319 | Dwi'n rhyw feddwl, falle, fod cam pwysig yn y broses hon o'ch cyflwyno at y gwaith o fod yn gynghorwyr newydd heb ddigwydd. |
| (0, 5) 320 | Yn y pecyn gawsoch cyn dod yma heddi a oedd 'na becyn tabledi ynddo – debyg i hwn? |
| (0, 5) 322 | Mm. |
| (0, 5) 323 | O'n i'n meddwl falle. |
| (0, 5) 324 | Nawrte, cyn i chi fynd o 'ma heddi, ma na becyn i bob yr un ohonoch. |
| (0, 5) 325 | Y cyfan sydd raid i chi gofio yw cymryd un bob bore – cyn agor eich i-pad cyngor, os yn bosib. |
| (0, 5) 328 | Oes. |
| (0, 5) 329 | Protocol. |
| (0, 5) 330 | Llyncwch un dos o Protocol bob dydd ac ymhen fawr o dro mi fyddwch yn gynghorwyr hapus ac esmwyth a braf eich byd. |
| (0, 5) 331 | Dim problemau pwysau gwaed na stress na dim. |
| (0, 5) 332 | Ac yn awr, ar gyfer y wers olaf heddi... |
| (0, 5) 338 | Da iawn. |
| (0, 5) 339 | Ry' chi ar y ffordd i fod yn gynghorwyr hyfryd iawn. |
| (0, 5) 340 | Ar y ffordd mas mi fydd rolyn o dâp i bob yr un ohonoch i roi dros eich cegau. |
| (0, 5) 341 | Ond nawr, cyn i ni orffen, gawn ni gyd blygu pen a dweud gyda'n gilydd y geiriau cysegredig... |
| (0, 5) 342 | Mae'n ddrwg gen i, ond sdim byd i neud. |
| (0, 5) 343 | ~ |
| (0, 5) 344 | Gyda'n gilydd? |
| (0, 5) 346 | A-men. |
| (0, 9) 486 | Cyfarfod cyngor yn dechrau mhen 30 eiliad. |