Ciw-restr

Dewis Anorfod

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 40)

(1, 0) 1 Golygfa: (O safle'r chwaraewyr.)
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Siop 'Sgidiau Hobson yn Chapel Streel, Salford.
(1, 0) 4 Mae'r ffenestri a'r drws i'r heol ar y chwith.
(1, 0) 5 Yn wynebu'r edrychwyr saif y cownter ac arno dryblith o 'sgidiau o bob math.
(1, 0) 6 Ar y pared y tu cefn iddo, y mae rhesi o silffoedd yn llawn o "boxes" 'sgydiau.
(1, 0) 7 O flaen y cownter saif tair neu bedair o gadeiriau gwiail (cane).
(1, 0) 8 I lawr y llwyfan ar y chwith y mae desc a chadair.
(1, 0) 9 Y mae'r drws a dau ris yn codi ato ar y dde yn arwain i'r tŷ.
(1, 0) 10 Yng nghanol y llwyfan y mae "trap-door" yn agor ar y seler—siop waith y cryddion.
(1, 0) 11 ~
(1, 0) 12 Syml a diaddurn yw popeth yn y siop.
(1, 0) 13 Mae'r fusnes yn llewyrchus.
(1, 0) 14 Eithr yn Salford yn 1880, nid oedd y gwychter a'r rhwysg a modwedda siopau y dydd heddiw yn anhepgor i lwyddiant masnachol.
(1, 0) 15 Arwenir cwsmer pwysig i ffitio 'sgidiau yn ystafell fyw Hobson.
(1, 0) 16 Eithr eistedd y cyffredin ar y cadeiriau gwiail sydd yn y siop dywyll ond addas ir fwsnes.
(1, 0) 17 Nŷ ddangosir ond ychydig o'r stoc yn y ffenestr a chlocsiau (clogs) sy'n fwyaf lluosog ac amlycaf yno.
(1, 0) 18 Trwy'r ffenestr tywynna goleuni llachar hanner dydd.
(1, 0) 19 ~
(1, 0) 20 Yn eistedd y tu cefn i'r cownter y mae dwy ferch ieuengaf Hobson, ALICE, ar y dde, 23 oed, a VICTORIA, ar y chwith, geneth brydferth iawn, 21 oed.
(1, 0) 21 Mae ALICE... a VICTORIA yn darllen.
(1, 0) 22 Maent wedi ymwisgo mewn du a chanddynt ffedogau duon.
(1, 0) 23 Egyr y drws ar y dde a daw MAGGIE i mewn.
(1, 0) 24 Merch hynaf Hobson ydyw hi, yn 30 oed.
 
(1, 0) 42 Daw ALBERT PROSSER i mewn o'r stryd.
(1, 0) 43 Mae e'n 26 oed, ac wedi ymwisgo'n drwsiadus fel y gweddai i fab cyfreithiwr o safle.
(1, 0) 44 Cerdda ymlaen i'r dde, a chwyd ei het yn foesgar i gyfarch ALICE).
 
(1, 0) 50 Try i fynd allan; y mae ar ei ffordd at y drws pan gwyd MAGGIE a dod i'r canol.
 
(1, 0) 75 Daw VICKEY â'r "box" sgidiau; egyr MAGGIE ef.
 
(1, 0) 79 Gesyd MAGGIE yr esgid newydd am droed ALBERT a'i chlymu.
 
(1, 0) 95 Daw ALICE tuag atynt drachefn.
 
(1, 0) 102 Â VICKEY yn ôl tu cefn i'r cownter.
 
(1, 0) 108 Erbyn hyn y mae MAGGIE wedi clymu'r esgid arall.
(1, 0) 109 Cwyd a cherdda yn ôl at y ddesc gan daflu'r "box" gwag at VICKEY.
(1, 0) 110 Dyry hithau sgrech wedi ei brawychu ar ganol darllen ei llyfr.
 
(1, 0) 137 Daw HENRY HORATIO HOBSON i mewn i'r tŷ.
(1, 0) 138 Mae yn 55 oed, yn hunan-ddigonol, yn wridgoch a graenus, ac yn engraifft byw o ben-teulu'r cyfnod.
(1, 0) 139 Mae ei het ar ei ben, het galed hanner y ffordd at fod yn het uchel.
(1, 0) 140 Addurnir ei wasgod a chadwyn aur drom a sêl fawr yn crogi wrthi.
(1, 0) 141 Dillad taclus a ddeil eu gwisgo sydd am dano.