Ciw-restr

Brad y Llyfrau Gleision

Llinellau gan Beelzebub (Cyfanswm: 174)

 
(1, 1) 4 Tân brwmstan gwyllt, darperwch fflamllyd Gethern,
(1, 1) 5 Mwyhewch ei wrês â holl feginau uffern,
(1, 1) 6 I drochi'r CYMRY yn ei fflamau gwyrddion;
(1, 1) 7 I'w poeni—tyngaf fil-fyrdd o ellyllon!
(1, 1) 8 Pob un a ddaw o'r genedl atgas yma
(1, 1) 9 Eu hyrddio wnaf i lawr i'r dyfnder eitha',
(1, 1) 10 I gael eu rhwygo gan bicellau gwynias,
(1, 1) 11 A seirph a dreigiau tanllyd yn gymdeithas:
(1, 1) 12 Mae enw'r CYMRY bron mor anyoddefol
(1, 1) 13 Gan lîd fy mron, ag enw'r Duw tragwyddol;
(1, 1) 14 Och fi! nad allwn wneud y ddau yn wag-nod,
(1, 1) 15 A threisio llwybr i orsedd fawr y Duwdod:
(1, 1) 16 Ond yn lle hyny, rhwym wrth danllyd gadwen,
(1, 1) 17 Dan gosb yr wyf, yn glythu ar genfigen;
(1, 1) 18 A llygaid byw fy ngelyn Hollalluog
(1, 1) 19 Yn gwylied arnaf gyda thremiant llidiog;
(1, 1) 20 A phob edrychiad sydd yn âeth tragwyddol
(1, 1) 21 Yn creu pangfeydd ar ol pangfeydd dirdynol:
(1, 1) 22 Ond er y cwbl, mi chwarddaf yn ei wyneb,
(1, 1) 23 A meddwaf ar gynddaredd a chasineb;
(1, 1) 24 A holl alluoedd y tywyllwch ŷraf
(1, 1) 25 I frwydro'r CYMRY câs, ei bobl anwylaf,
 
(1, 1) 151 Melldithion uffern, gwlawiwch yn echrydus
(1, 1) 152 Gawodydd eirias ar y Cymry bradus!
(1, 1) 153 Gwarth, ing, a dinystr, yn eu mysg ymdaenwch,
(1, 1) 154 Phïolau gwae ar ben pob un tywalltwch!
(1, 1) 155 Nid oes un genedl yn y byd daearol
(1, 1) 156 Mor wrthryfelgar ì lywodraeth diafol!
(1, 1) 157 Er's llawer canrif ofn sibrydai wrthyf
(1, 1) 158 Y rhoddent i mi archoll gwaeth na chleddyf,
(1, 1) 159 Ryw ddydd i dd'od, nes teimlai uffern drwyddi,
(1, 1) 160 Ac Och! mae'r archoll wedi cael ei roddi,
(1, 1) 161 Nes mae fy mron, gan loesion, yn gynddeiriog,
(1, 1) 162 A'm llid yn arllwys allan fflamau fforchog:
(1, 1) 163 Mae genyf ddigon o gynddaredd meddw
(1, 1) 164 Y munud hwn, i wneud y byd yn ulw,—
(1, 1) 165 I ddamnio enaid pob Cymraes a Chymro,
(1, 1) 166 A chreu ellyllon fil-fyrdd i'w poenydio:
(1, 1) 167 O! fel y dawnsiwn ar eu penau celyd—
(1, 1) 168 Dyrchafwn grechwen hyd at borth y gwynfyd,
(1, 1) 169 Ac arddangoswn hwynt yn ngwydd y Duwdod
(1, 1) 170 Yn arwydd-nôd o fuddugoliaeth pechod!
(1, 1) 171 A gwnawn i uffern ganu cân cynddaredd,
(1, 1) 172 Wylofain, gruddfan, och, a rhingcian danedd;
(1, 1) 173 Ond hyn nid allaf, —Duw sydd yn fy ngwylio,
(1, 1) 174 A'i olwg beunydd trwy fy mron yn treiddio;
(1, 1) 175 Yr eiliad hwn, fe wêl fy nrwg amcanion—
(1, 1) 176 Fe glyw fy iaith, ac enfyn ei angylion
(1, 1) 177 I sefyll ar fy ffordd fel cedyrn dduwiau,
(1, 1) 178 Heb neb a'u beiddia trwy fy holl daleithiau:
(1, 1) 179 Pe suddo wnawn i'r dwfn anfesuradwy
(1, 1) 180 Ac uwch fy mhen dywyllwch anhreiddiadwy,
(1, 1) 181 Fe fyddwn yno hefyd yn ei wyddfod,
(1, 1) 182 A'i bresenoldeb rüai fy nghydwybod;
(1, 1) 183 Pe na b'ai gair o'm genau yn diferu,
(1, 1) 184 Fy meddwl distaw glywai yn llefaru
(1, 1) 185 Yn gwbl mor eglur â fy mron fy hunan—
(1, 1) 186 Fel pe llefarwn â tharanau allan;
(1, 1) 187 Ac felly darganfyddai fy nghynlluniau
(1, 1) 188 A gwnai yn llawer tynach fy nghadwynau
(1, 1) 189 Er hyn i gyd, mi weithiaf yn ei erbyn—
(1, 1) 190 Cynlluniau dynaf gyda bron ddiddychryn:
(1, 1) 191 Dichellion fyrdd grynhöant yn fy meddwl—
(1, 1) 192 Rhaid i mi ddechrau..
 
(1, 1) 194 Ust! glywch chwi y gwaeddi?
(1, 1) 195 Mae talaeth Rhagrith mewn cyffröad trwyddi!
(1, 1) 196 Dialedd Chwim, fy hên negesydd ffyddlon,
(1, 1) 197 Yn gynt na mellten disgyn i'r gwaelodion
(1, 1) 198 O gylch i gylch, trwy ganol fflamau myglyd,
(1, 1) 199 A myn y rheswm am y twrf disyfyd.
 
(1, 1) 201 Yn uwch, ac uwch, fe gyfyd eu 'sgrechiadau,
(1, 1) 202 O hyd fe adymdorant íel taranau,
(1, 1) 203 Nes yw holl uffern gan y twrf yn crynu,
(1, 1) 204 A phawb o'i mewn gan ofnau yn gruddfanu;
(1, 1) 205 Yr wyf yn methu yn fy myw a dirnad
(1, 1) 206 Beth allai fod yr achos o'r cyffrôad;
(1, 1) 207 Feallai mai gwrthryfel newydd ydyw,
(1, 1) 208 I wneud gwerinaeth o unbenaeth distryw;
(1, 1) 209 Ond dichon nad yw ddim ond ffrwyth anghydfod
(1, 1) 210 Rhwng y penaethiaid a'u dilynwyr parod,—
(1, 1) 211 Neu ynte frwydr gynddeiriog rhwng ellyllon
(1, 1) 212 Y dalaeth isel hon a'r damnedigion!
(1, 1) 213 Ond dacw'm cenad ar ei edyn pygddu
(1, 1) 214 Fel mellten drwy y caddug yn dynesu,
(1, 1) 215 A'r hanes oll yn drefnus ar eì dafod—
 
(1, 1) 217 Ha! dyma fe o flaen ei feistr yn barod:
(1, 1) 218 Dialedd, adrodd—adrodd mewn amrantiad
(1, 1) 219 Yr achos, maint, a natur y cyffröad!
 
(1, 1) 274 Yr achos, maint, a natur y cyffröad,
(1, 1) 275 Ac nid dy daith, a geisiais genyt adrodd,—
(1, 1) 276 Gad wybod pwy o'm deiliaid a'i hachosodd?
 
(1, 1) 287 Rhagorol iawn.
 
(1, 1) 289 Ardderchog!
(1, 1) 290 Yn wir teilyngant fy nghanmòliaeth wresog:
(1, 1) 291 Ac er mwyn talu iddo gyflog ddigon,
(1, 1) 292 Ewch chwithau, hefyd, iy nghynghorwyr ffyddlon,
(1, 1) 293 I lawr yn union a mwyhewch y cyffro,
(1, 1) 294 A rhoddwch groesaw heb ei ail i'r Cymro!
 
(1, 1) 318 Daeth i fy meddwl rhyw feddylddrych gynau
(1, 1) 319 A allai fod yn ddedwydd ei effeithiau;
(1, 1) 320 Pe byddai modd ei roddi mewn gweithrediad
(1, 1) 321 Nid oes fawr os beth fyddai ei ganlyniad:
(1, 1) 322 Ond rhwystrau fyrdd sydd i gwblhau fy amcan,
(1, 1) 323 Mae deddfau Duw mor sicr âg ef ei hunan:
(1, 1) 324 Pob deddf o'i eiddo sydd yn hollalluog
(1, 1) 325 Ac uffern oll ni ddichon byth eu hysgog;
(1, 1) 326 Fe fyddai ceisio myned yn eu herbyn,
(1, 1) 327 A thori trwyddynt, i gwblhau fy nghynllun,
(1, 1) 328 Mor anobeithiol â'r gwrthryfel cyntaf
(1, 1) 329 I dreisio gorsedd gadarn y Goruchaf;
(1, 1) 330 Ei holl ewyllys a'i fwriadau dwyfol
(1, 1) 331 Fel Crewr pawb a Llywydd pen-arglwyddol
(1, 1) 332 A fỳn gwblhau, er gwaethaf fy ngelyniaeth,
(1, 1) 333 Cadarnach y'nt na seiliau'r greadigaeth!
(1, 1) 334 A'r neb mewn rhyfyg ar eu ffordd a safant
(1, 1) 335 A fethrir byth dan draed anfeidrol soriant,
(1, 1) 336 Fe allwn ddwyn byd newydd i fodolaeth
(1, 1) 337 A dim ond gair; dileu y greadigaeth
(1, 1) 338 A Duw ei hun, mor hawdd ag atal iota
(1, 1) 339 O arfaeth ben-arglwyddol y Jehofa:
(1, 1) 340 Ond er nad allaf drwy fy ngallu lwyddo,
(1, 1) 341 Trwy ddichell cyfrwys mynaf ei effeithio;
(1, 1) 342 Cyflawnais fwy na hyn dan anfanteision
(1, 1) 343 Nad oes eu tebyg ar fy ffordd yr awrhon:
(1, 1) 344 Pan ydoedd dyn mor lân âg engyl gwynion,
(1, 1) 345 Heb duedd ddrwg na llygredd yn ei galon,
(1, 1) 346 A Duw ag ef yn cyfeillachu beunydd—
(1, 1) 347 Gan daflu drosto gysgod ei adenydd,
(1, 1) 348 Mi weithiais ffordd i'w galon yn llwyddianus
(1, 1) 349 A gwnaethum ef yn adyn pechadurus,—
(1, 1) 350 Yn elyn Duw—yn fradwr fel fy hunan,
(1, 1) 351 A ffurfiais ef yn ol fy nelw aflan;
(1, 1) 352 Mi dynais ddagrau, do, o lygaid engyl,
(1, 1) 353 Fath lwyddiant mawr nid oeddwn byth yn dysgwyl;
(1, 1) 354 Fe ddysgais i'r Cerubiaid ocheneidio
(1, 1) 355 Ac i'r Seraphiaid uwch fy mrâd i wylo;
(1, 1) 356 Mi deflais brudd-der dros drigfanau gwynfyd
(1, 1) 357 A dwysder sỳn ar wyneb y cyfanfyd!
(1, 1) 358 Ac er i'r dyn, trwy allu mawr trugaredd,
(1, 1) 359 Gael ei ryddhau o rwymau ei anwiredd,
(1, 1) 360 Mi gefais fuddugoliaeth gwerth ei chofio
(1, 1) 361 A'i chanlyniadau sydd yn aros eto.
(1, 1) 362 ~
(1, 1) 363 Rhaid i mi gyfaddasu fy nghynlluniau
(1, 1) 364 I ateb natur dyn a'i amgylchiadau;
(1, 1) 365 Oblegid nid yw Duw yn llywodraethu
(1, 1) 366 Y teulu dynol gyda deddfau gallu;
(1, 1) 367 Pe felly gwnai, nid allwn yn oes oesoedd
(1, 1) 368 Gwblhau fy amcan, mwy na chloi y Nefoedd;
(1, 1) 369 Ond gyda deddfau cariad, —deddfau denu,
(1, 1) 370 Mae'n dirio'r byd —a'r dyn yn ymresymu;
(1, 1) 371 Mae yn ei lwytho â daioni beunydd
(1, 1) 372 Gan daflu drosto gysgod ei adenydd,—
(1, 1) 373 Gan ddangos ar un llaw y gwynfyd bythol
(1, 1) 374 Ac ar y llall, echryslawn wae tragwyddol!
(1, 1) 375 Gan adael iddo ddewis, ynte gwrthod,
(1, 1) 376 Anfeidrol olud cariad rhâd y Duwdod:
(1, 1) 377 Yn awr, mae yma le i minau weithio,
(1, 1) 378 A mantais fawr sydd genyf hefyd arno;
(1, 1) 379 Ei galon ddrwg sydd wrthyf yn ymlynu
(1, 1) 380 Ac yn fy llwybrau mae yn ymyfrydu;
(1, 1) 381 I mi mae pawb yn ddeiliaid wrth naturiaeth,
(1, 1) 382 Trwy feiau fyrdd arddelant fy llywodraeth;
(1, 1) 383 Ac oni b'ai fod Duw â'i ras yn tynu,
(1, 1) 384 Ni welid un o honynt yn fy ngwadu;
(1, 1) 385 Ond pwy a ŵyr na lwyddaf finau eto
(1, 1) 386 I ddwyn rhyw luoedd lawer oddi arno?
(1, 1) 387 ~
(1, 1) 388 Ond och! och fi! mae llygad yr Anfeidrol
(1, 1) 389 Yn tremio arnaf nes mae poen dirdynol
(1, 1) 390 Yn cynddeiriogi gwae fy holl deimladau,
(1, 1) 391 Ac yn lle pleser, ing ddaw o'm cynlluniau:
(1, 1) 392 Rhaid i mi fyned, gan fy mhoen, am enyd
(1, 1) 393 I lawr i orphwys ar fy ngwely tanllyd.