Ciw-restr

Yr Hen Deiliwr

Llinellau gan Dafydd (Cyfanswm: 13)

 
(1, 0) 59 Wel, gyfeillion, i fod yn fyr, rhaid gweyd y gwir, mae'r ffordd o Maeslan i'r Felinganol mewn cyflwr ofnadw.
(1, 0) 60 Mi gym'rith tuag ugen llwyth o gerrig i lanw'r twlle ar ol y llif diwedda, heblaw pethau er'ill.
(1, 0) 61 Mae John a finne wedi cytuno mai y peth gore i neud ydyw gofyn i ffermwyr y plwy am roi talcweth neu ddou i gywain cerrig yn ystod y rhew, a gadael i'r mynwod 'ma sy' ag eisie gwaith i dorri'r cerrig, ac i dalu Twm Crwca whech cheiniog y dydd am edrych ar 'u hole nhw, ac wrth gwrs i neud ei shâr o'r gwaith.
(1, 0) 62 A'r ffermwyr na allant roi talcweth, rhaid codi tôll arnyn nhw yn ol 'i hamgylchiadau: cwded o flawd, neu sached o dato, neu fasned o fenyn, a dyna gyflog y mynwod i chi.
(1, 0) 63 Ma John a finne o'r farn unfrydol mai dyna'r ffordd rata, a dyna'r prif beth wedi'r cwbwl.
 
(1, 0) 149 Wel, gyfeillion, mi greda i mai y peth gore i neud gyda Nansi a'r plant ydi hyn.
(1, 0) 150 Ma' un yn whech, un yn saith, un yn wyth, ac un yn naw, a ma' ganddi ddou un bach wedyn.
(1, 0) 151 Rwy' wedi siarad â'r ffermwyrs 'ma, ac yr ydym yn foddlon cymryd y pedwar hena.
(1, 0) 152 Un i Bantmoch, un i Bensingrug, un i Blaencaron, ac un i'r Esgerwen.
(1, 0) 153 Mi rown i fwyd iddyn nhw, ac ambell i hen bilyn fel bo ishe.
(1, 0) 154 Mi fyddan o ryw dipyn bach o help i hela ofan ar y brain, i mofyn y gwartheg, i fugeilio defaid, neu i dwtian gyda'r mynwod.
(1, 0) 155 Mi all Nansi dorri cerrig, mae hi'n fenyw gref, a naiff tipyn o waith caled ddim drwg iddi.
(1, 0) 156 Mi shifftith â'r ddou leia wedyn gyda thipyn o help cymdogion.