Ciw-restr

Yr Hen Deiliwr

Llinellau gan Nansi (Cyfanswm: 14)

 
(1, 0) 94 O, syr, mae gyda fi lond y tŷ o blant.
(1, 0) 95 Dyma John Thomas Henry, mae e'n naw; dyma Evan Jenkin Thomas, mae e'n wyth; a Mary Jane, yn saith; a Sarah Ellen, yn whech; a dyma'r un bach 'ma, Lloyd Williams—{yn troi at y SCWEIER gan wenu a rhoi cwtch)—mae e' wedi câl ych enw chi, syr, a dyma'r babi yn y nghôl i, mae e'n wyth mis.
 
(1, 0) 97 'Dyw Jac ddim yn botcher, syr, nag yw, wirione fach annwl.
(1, 0) 98 Yr hen gymdogion 'ma sy wedi gweyd celwy.
(1, 0) 99 Ma' pawb lawr ar bobol dlawd, a ma' nhw lawr ar Jac a finne am yn bod ni'n dlawd.
(1, 0) 100 O, Jac bach, dyna ti yn yr hen jâl heb neud un drwg, a finne a'r plant bach yn starvo.
(1, 0) 101 Beth ddaw o hono ni?
 
(1, 0) 105 Ond 'dyw Jac ddim wedi bod yn potchan eriod, nag yw, wirione i.
 
(1, 0) 110 Cawl gweningen, syr, phrofes i ddim cawl gweningen yn 'y mywyd.
(1, 0) 111 Dodd dim bwyd yn y tŷ, a mi gês asgwrn gyda Roli'r bwtchwr, i neud cawl i'r plant, a mi roes pun bach o deim a phersli o'r ardd yndo fe i neud blâs arno, a dyna beth wech chi'n smelo, syr.
(1, 0) 112 Ie, wirione fach annwl.
 
(1, 0) 117 O, syr, peidiwch bod mor galon galed; ma'r plant a finne heb fwyd yn y tŷ, ac heb dân ar y tywydd oer 'ma.
(1, 0) 118 O beth ddaw ohono ni?
 
(1, 0) 122 Diolch yn fowr, Dafi; diolch yn fowr.