Ciw-restr

Yr Hen Deiliwr

Llinellau gan Siaci (Cyfanswm: 9)

 
(1, 0) 68 O, mishtir bach, rwy' wedi gweld pethe rhyfedd heno.
(1, 0) 69 Pan o'wn i'n dod fyny drwy Allt y Cadno 'roedd mor dywyll a'r fagddu, ac ofan yn y nghalon i y cwrddwn â'r Ladi Wen, neu'r Crach y Rhibyn fu ar ol Twm Sâr pan oedd yn dod nol o garu.
(1, 0) 70 Ar ac unwaith dyma fi'n clywed sŵn screchain, rhyw leisiau oerion, yn ddigon i hala iasau drwy gorff dyn, a dyma fi'n dechre' gwanddi hi fel milgi, ond dilyn oedd y sŵn, ac yn dod yn nês o hyd, ac, o'r arswyd fawr, dyma rwbeth wrth y nhraed i o'r diwedd, a dyma finne yn dechre iwso'r bastwn.
(1, 0) 71 Ond er fy nychryn 'doedd yna ddim sylwedd i ddala ergyd o dan y bastwn.
(1, 0) 72 Ac mi nabyddes y fileiniaid.
(1, 0) 73 Haid o gŵn bendith y mamau ar eu ffordd i rwle.
(1, 0) 74 Ta Sioni'r Clochydd 'ma mi alle Sioni ddweyd i ble oedden nhw yn mynd, a phwy sydd i fadel nesa.
(1, 0) 75 Ond mae un cysur gen i, yr oeddynt yr ochor 'ma i'r afon.
(1, 0) 76 Alle nhw ddim bod yn mynd i'r Felin, waeth chroesa nhw ddim dŵr, fel y gwyddoch.