Ciw-restr

Yr Hen Deiliwr

Llinellau gan Sioni (Cyfanswm: 13)

 
(1, 0) 3 Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un.
(1, 0) 4 Y mae gwaith clochydd yn eitha diddorol, ac mi ga i dipyn o hyfrydwch wrth wylio'r hen elyn yn agoshau.
(1, 0) 5 Rwy'n gwybod yn eitha da pwy fydd y nesa' i fynd.
(1, 0) 6 Yr hen Wil y Carter.
(1, 0) 7 'Roedd golwg angeu yn 'i wyneb e' dydd Sul, a mi dowles i olwg drosto er mwyn bod yn barod.
(1, 0) 8 Mi alla neud hyn o ymffrost 'mod i yn gwbod maint y bedd fydd yn eisie arnyn' nhw i gyd.
(1, 0) 9 Un olwg i Sioni, 'does eisie na phlan na mesur wedyn.
(1, 0) 10 Mi greda i mai'r lle gore i gladdu yr hen Wil fydd o dan yr hen goeden dderw wrth ochor Parc y Ficer.
(1, 0) 11 Mi leicie'r hen "foy" orwedd fan hynny, mi wn.
 
(1, 0) 17 Am ddeg, syr; mi ofala eich galw mewn amser.
(1, 0) 18 Yr ydych chi a finne wedi rhoi cannoedd dan y dywarchen lâs erbyn hyn, syr, a dyna'r hen Fari Gingerbread wedi mynd ar ei thaith ola' o'r diwedd, er mor wddyn oedd yr hen greadur.
(1, 0) 19 'Does ganddi na châr na chyfaill i wylo deigryn ar ei hol.
(1, 0) 20 Druan o'r hen Fari.