Ciw-restr

Y Ddraenen Wen

Llinellau gan Myrddin (Cyfanswm: 21)

 
(1, 0) 63 Do, nen tad: coeliwch fi, Mrs. Jones-Roberts, mae parch Mr. Meredith at ŵr a gwraig yr |Hazels| yn ddi-ben-draw ond na fyn o mo'i ganmol yn ei wyneb.
 
(1, 0) 108 Mi gofiwn; mae Olifer a finnau fel arfer yn gwadnu a sodlu sgidiau'r blaid.
 
(1, 0) 111 Be sy'n bod?
 
(1, 0) 119 Wneiff o ddim ohoni yn y senedd efo'i lol am frawdoliaeth y cenhedloedd─|political morality| fy nain: chwi sy'n gyfrifol am i ni ei ddewis.
 
(1, 0) 125 Mi faddeuwch i ni fel hen ymladdwyr politicaidd, ond rhaid i chwi ddysgu; dioddef ffyliaid, Meredith.
(1, 0) 126 Rhai fel y ddau yna sydd wrth yr ugeiniau ymhob plaid.
 
(1, 0) 135 "Yn awr y gollyngi dy was."
 
(1, 0) 144 Mi ddyffeia i Harri Meredith na neb arall i ddweyd y gwir i gyd; fe âi'r senedd a phopeth yn dipiau mewn mis.
 
(1, 0) 160 Rwan Meredith─sylwn ni ddim ar goegni Syr Tomos, ond yn sicr i chi y mae llawer gwir yn well o'i gelu ac mi welwch hynny'n fuan ym myd politics.
 
(1, 0) 163 Yng nghanol berw politics y mae pob diwygiwr penboeth naill ai'n cael ei rewi allan o'r blaid neu ynteu'n troi'n bolitisian doeth.
 
(1, 0) 180 Dyna'r Hercules sy'n mynd i garthu stablau busnes a pholitics─Samson Cristnogol yr ugeinfed ganrif.
 
(1, 0) 183 Gwawdiwch ymlaen, ond beth yw Meredith well o fyw bywyd yr Apostolion yn yr ugeinfed ganrif?
 
(1, 0) 185 Hylo, a yw Syr Tomos o fewn ychydig─
 
(1, 0) 197 Rhywbeth tebyg fydd profiad Meredith, ond mi ymgynghorwn â'r oracl.
 
(1, 0) 199 Ôs daw hwn i lawr yn |King| ddwywaith, mae Meredith ar ei ffordd i fyny; os na, i lawr y daw o.
 
(1, 0) 201 Dyna'i ddyfodol o wedi'i setlo─i lawr y daw o.
 
(1, 0) 205 Mae'r gwres wedi codi i'ch pen, Syr Tomos: rhowch eich traed mewn dŵr poeth a mwstard cyn mynd i'r gwely a dôs dda o chwŷs.
(1, 0) 206 Wel rwan, Olifer, mi awn.
 
(1, 0) 209 Rhaid mynd rwan.
(1, 0) 210 Lwc dda i chi, a chyn belled ag y mae a fynno fi â'r Wasg fe ellwch ddibynnu arnaf ond {rhwng difrif a chware ond mwy o'r difrif} i chwi fodloni gweithio yn yr un tresi a'r blaid.
(1, 0) 211 Bûm yn ffrind go lew i'ch rhagflaenydd {gan nodio'i ben ar y SYR}.