Ciw-restr

Sdimbydineud

Llinellau gan Swyddog (Cyfanswm: 41)

 
(0, 5) 267 Mm.
(0, 5) 268 Wna'i edrych i weld a oes modd rhoi hoist yn y siambr i'ch helpu.
 
(0, 5) 273 Ie, wel... â phob parch atoch chithau hefyd, gan gofio eich bod yn newydd, ynte, y pwynt yw: cadw'ch harweinydd grŵp – y'ch plaid – yn hapus.
 
(0, 5) 276 Wel, mae'n amlwg, ond-yw-hi.
(0, 5) 277 Iddyn nhw fedru gweld pa ffordd y'ch chi'n pleidleisio.
 
(0, 5) 282 Doniol iawn.
(0, 5) 283 'Annibynnol'.
(0, 5) 284 Doniol iawn.
 
(0, 5) 286 Diolch, gyfaill.
(0, 5) 287 Ymlaen at y wers nesaf.
(0, 5) 288 Siwt mae swyddogion y cyngor yn gallu eich helpu i ddod i benderfyniad.
(0, 5) 289 Nawrte, mae llawer o waith y cyngor yn gymhleth iawn.
(0, 5) 290 Mor gymhleth, mae rhai ohonom ni – y staff broffesiynol – ambell waith – ambell-ambell waith – yn cael trafferth deall y materion ry' ni'n eu trafod.
(0, 5) 291 Wel, os y'n ni – y staff broffesiynol – yn cael trafferth, pa ddisgwyl i chi – gynrychiolwyr rhan amser – i ddeall.
(0, 5) 292 Dyna pam, cyn pob pleidlais fawr mi fydd Swyddogion – Uwch-Swyddogion a Chyfarwyddwyr – y cyngor yn rhoi braslun o'r dewis ger eich bron a chyngor parthed y llwybrau cywir i'w dilyn.
 
(0, 5) 299 Sori.
(0, 5) 300 Beth oedd y gair defnyddioch chi fyn'na nawr?
 
(0, 5) 302 W!
(0, 5) 303 Cystal i fi eich rhybuddio nawr, dyw hwnna ddim yn air i'w ddefnyddio yn y siambr hon – yn sicr ddim o flaen Swyddogion.
 
(0, 5) 310 Ie, wi'n gwbod, ond...
 
(0, 5) 318 Mr/Mrs Cyfreithiwr – cyn i'r drafodaeth hon fynd gam ymhellach, dwi'n credu fod angen i fi ymddiheuro i bawb.
(0, 5) 319 Dwi'n rhyw feddwl, falle, fod cam pwysig yn y broses hon o'ch cyflwyno at y gwaith o fod yn gynghorwyr newydd heb ddigwydd.
(0, 5) 320 Yn y pecyn gawsoch cyn dod yma heddi a oedd 'na becyn tabledi ynddo – debyg i hwn?
 
(0, 5) 322 Mm.
(0, 5) 323 O'n i'n meddwl falle.
(0, 5) 324 Nawrte, cyn i chi fynd o 'ma heddi, ma na becyn i bob yr un ohonoch.
(0, 5) 325 Y cyfan sydd raid i chi gofio yw cymryd un bob bore – cyn agor eich i-pad cyngor, os yn bosib.
 
(0, 5) 328 Oes.
(0, 5) 329 Protocol.
(0, 5) 330 Llyncwch un dos o Protocol bob dydd ac ymhen fawr o dro mi fyddwch yn gynghorwyr hapus ac esmwyth a braf eich byd.
(0, 5) 331 Dim problemau pwysau gwaed na stress na dim.
(0, 5) 332 Ac yn awr, ar gyfer y wers olaf heddi...
 
(0, 5) 338 Da iawn.
(0, 5) 339 Ry' chi ar y ffordd i fod yn gynghorwyr hyfryd iawn.
(0, 5) 340 Ar y ffordd mas mi fydd rolyn o dâp i bob yr un ohonoch i roi dros eich cegau.
(0, 5) 341 Ond nawr, cyn i ni orffen, gawn ni gyd blygu pen a dweud gyda'n gilydd y geiriau cysegredig...
(0, 5) 342 Mae'n ddrwg gen i, ond sdim byd i neud.
(0, 5) 343 ~
(0, 5) 344 Gyda'n gilydd?
 
(0, 5) 346 A-men.
 
(0, 9) 486 Cyfarfod cyngor yn dechrau mhen 30 eiliad.