Y Llyffantod (Huw Lloyd Edwards)


Rhagair

Rwy'n rhoi'r bai am y ddrama hon yn solet ar sgwyddau fy nghyfeillion yn Adran Ddrama y Coleg Normal, Bangor. Ers tro byd, mi fuon nhw'n ceisio fy mherswadio i sgrifennu drama a fyddai'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ymarfer amryfal agweddau ar weithgaredd llwyfan, gan gynnwys cydadrodd, dawns a meim.

Ar ôl hir ymesgusodi a gohirio, penderfynais o'r diwedd mai'r ffordd orau i wneud hynny fyddai cymhwyso ffurf yr Hen Gomedi Roegaidd, a chymryd Y Llyffantod gan Aristoffanes yn rhyw fath o batrwm. Sgrifennwyd hi ganddo yn fuan ar ôl marw Ewripides, ac ynddi ceir hanes Dionysos, nawdd-dduw Drama a Gwin, yn mynd i Hades i geisio denu'r dramodydd enwog hwnnw yn ôl i Fyd y Byw er mwyn sicrhau dyfodol y Theatr yn Athen.

I werthfawrogi ergyd dychan Aristoffanes, mae'n rhaid gwybod rhywbeth am ei gefndir cymdeithasol a pholiticaidd, ac mae'n syndod mor debyg oedd argyfwng Athen yn y cyfnod cynnar hwnnw i'n sefyllfa ni yng Nghymru heddiw. Nid wyf wedi ystumio dim ar yr ychydig ffeithiau a digwyddiadau hanesyddol y cyfeirir atyn nhw yn fy nrama; y cyfan a wnes oedd eu dethol a'u haildrefnu.

Drama newydd sbon yw hon, serch hynny, ond wrth fenthyca mymryn o'r un hen chwedl — ynghyd â'r teitl — beiddiais geisio tywallt gwin cyfoes i hen gostrel. Os digwydd i hyn beri iddo egru, rwy'n siwr mai Aristoffanes fyddai'r cyntaf i faddau imi.