Y Caneuon
Yn lle'r cyfieithiad o'r Almaeneg, "In süssen Freuden geht die Zeit, etc." ("Ffy'r amser mewn pleserau pêr."):
Cainc, Hob y deri dando
Pan ddêl gwanwyn drwy y dolau,
Pan ddêl gwên y gwanwyn,
Bydd y dydd yn deg a golau,
Pan ddêl gwên y gwanwyn;
Cân yr adar, gwên y blodau,
Pob peth byw,
Hoen a gawn o wên y gwanwyn,
Hoen, hoen, hyfryd hoen,
Gwanwyn hardd a gawn yn hoen.
Yn lle " Floret silva undique," etc.:
Cainc, Deio Bach
Mae rhai'n dwedyd am fy machgen,
Dwedyd am fy machgen gwyn,
Na ddaw adre rhawg o Lunden—
Na ddaw byth, fy machgen gwyn!
Minnau sydd pan fwy'n eu clywed
O! mor drist yw meddwl hyn!
Na bo calon neb cyn oered—
O! ble 'r aeth fy machgen gwyn?
Mi a dorra 'ngwallt yn gwta,
Fel efô, fy machgen gwyn;
A rhof ddillad mab amdana,
Fel efô, fy machgen gwyn;
Ac af ar fy nhraed i Lunden,
Er mor hir a blin fo hyn,
I edrych yno am fy machgen,
Edrych am fy machgen gwyn!
Yn lle'r cyfieithiad o'r Almaeneg "O weh o weh Frau Minne," etc. ("Gwae fi, gwae fi, O Wener," etc.):
Cainc, Brechdan i aros pryd
(Cylchgrawn "Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru," Cyf. ii, Rhan iii).
Mi fâm yn caru 'nghariad
Âm ddeuddeng mis ac un,
Yn meddwl yn fy nghalon
Fy mod i'n eithaf un;
Hi 'n lodes heini lawen
Yn tyfu 'ngardd y byd—
Nid oeddwn i'n y diwedd
Ddim ond brechdan i aros pryd !
Wedi y clywer sain y clychau:
Y Don Gron (ar Gainc Almaenig)
O mor fwyn yw ymdawelu
Pan fo clych yr hwyr yn canu,
Ding dong, ding dong.