Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.


Testun llawn Pobun


[ ... ] = darnau a adewir allan yn y perfformiad yn Wrecsam ym 1933.

Ychwanegwyd y golygfeydd ar gyfer y fersiwn Dramâu Cymru ─ nid ydynt yn y testun gwreiddiol.


Manylion

Pobun, Chwarae am Farwolaeth y Gwr Goludog

Gan Hugo von Hoffmansthal, cymreigiwyd gan T Gwynn Jones

Cyhoeddwyd trwy ganiatad ysgutorion y diweddar Hugo von Hoffmansthal gan Bwyllgor Gweithiol Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Wrecsam 1933

Yng ngwasg "Y Brython", Hugh Evans a'i Feibion, Cyf, 356, 358, 369 Stanley Road, Lerpwl, 1933


Cymeriadau


Yr Arglwydd Dduw
Angau
Diawl
Pobun
Mam Pobun
Cydymaith Da Pobun
Goruchwyliwr Tŷ
Cogydd
Cymydog Tlawd
Dyledwr
Gwraig y Dyledwr
Meistres Pobun
Car Tew
Car Tenau
Morwyn Ieuanc 1
Morwyn Ieuanc 2
Morwyn Ieuanc 3
Gwahoddedig 1
Gwahoddedig 2
Gwas 1
Gwas 2
Mamon
Gweithredoedd Da
Ffydd
Y Criwr
Y Cwbl
Y Prif Gantor
Lleisiau
Cwnstabl
Cerddorion
Bechgyn
Mynach
Angylion


Rhagair

Yr oedd yr ystori sy'n sail i'r ddrama hon yn hysbys mewn llawer man yn yr oesau canol—ceir ffurf arni mewn cerdd Gymraeg. Yn y bymthegfed ganrif dramadeiddiwyd hi yn Saesneg. Dilynodd eraill ar y Cyfandir. Ddechrau'r ganrif hon, seiliodd Hugo von Hoffmannsthal y chwarae hwn arni, yn yr Almaeneg fel y lleferir yn Awstria. Cyfieithiad o'i ddrama ef yw hwn, a chwaraeir yn Eisteddfod Genedlaethol Gwrecsam, Awst 1933. Dymuna'r cyfieithydd gydnabod y Dr. Stefan Hock, cyfluniwr y chwaraead, am gymorth ei ddysg a'i brofiad a'i gwrteisi di-ffael.

TGJ





Nodiad

Yn y chwaraead yn Wrecsam, gadewir darnau yma ac acw allan o'r areithiau hwyaf. Yn yr argraffiad hwn ceir y darnau neu'r brawddegau hynny rhwng bachau sgwâr, [ ]. Dygwyd caneuon Cymraeg a weddai i mewn yn lle rhai o'r caneuon Almaeneg, i'w canu yn y wledd. Ceir y rhai hynny ar ddiwedd y llyfr, ond dilynwyd yr Almaeneg yn y testun. Cymerwyd y pennill a gân y côr, "Y Seren Ddydd," o lyfr tonau Ieuan Gwyllt, gan ei fod yn gyfieithiad da ac adnabyddus o'r pennill sydd yn yr Almaeneg, ac ar yr un dôn. Gwasanaetha'r argraffiad hwn felly fel cyfieithiad llawn o'r chwarae a hefyd fel llawlyfr actio.



Wikipedia: Jedermann launch
Gutenberg: Jedermann launch
Wikipedia: Hugo von Hofmannsthal launch
Porth: T Gwynn Jones launch
Wicipedia: T Gwynn Jones launch
Bywgraffiadur: Jones, Thomas Gwynn launch
Hive: Byd Gwynn (Alan Llwyd) launch