Rhywun wrth y Drws (John Lasarus Williams)


Bio

Ganwyd John Lasarus Williams (John L) ar Hydref 29, 1924 yn 2 Bryn Awelon, Llangoed, yr ieuengaf o bump o blant. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llangoed ac Ysgol Ramadeg David Hughes, Biwmares lle bu yn astudio Mathemateg, Cemeg a Ffiseg a hynny drwy gyfrwng y Saesneg fel yr oedd pethau yr adeg honno. Ymunodd â'r llynges yn ystod y rhyfel a chafodd weledigaeth mai athro Cymraeg yr oedd o am fod. Parhaodd â'i addysg wedi'r rhyfel ac yn 1946 fe gofrestrodd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, ac ennill gradd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y Gymraeg, a gradd MA wedi tair blynedd o waith ymchwil. Yn y cyfnod difyr hwn y fo a gymerodd ran Llywelyn Fawr yng nghynhyrchiad y coleg o ddrama Thomas Parry.

Cafodd ei benodi yn bennaeth adran y Gymraeg yn ei hen ysgol ym 1953 a mynd ati i Gymreigio'r lle drwy sefydlu cangen o'r Urdd a chyhoeddi cylchgrawn Y Frân Wen. Symudodd i Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes ym 1961 ac yna, ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn y Gymraeg yn y Coleg Normal, Bangor.

Bu John L. yn gweithio'n ddi-flino dros y Gymraeg mewn sawl modd, gan gynnwys mynd yn gynghorydd ar Gyngor Dosbarth Gwledig Aethwy yn ei fro ei hun. Bu'n aelod o Gyngor Sir Gwynedd o 1974 hyd 1996. Y fo oedd yn rhannol gyfrifol am sefydlu UCAC ym Môn a bu'n aelod o Gyd- Bwyllgor Addysg Cymru. Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru ddwy waith yn ei sir enedigol.

Yr oedd o'n ddyn llawn syniadau creadigol ac yn weithredwr ymarferol. Y fo a sefydlodd Gwmni Drama Llangoed, a fo roddodd gychwyn i'r Ysgol Feithrin yn Llanfairpwllgwyngyll. Yn 1965 fe welwyd John yn ymgymryd ag un o anturiaethau mawr ei fywyd pan sefydlodd Undeb y Gymraeg Fyw yn dilyn achos annymunol ac anghyfiawn ym Mlaenau Ffestiniog pan geisiwyd gwahardd Cymry rhag siarad Cymraeg mewn ffatri leol. Llwyddiant mwya'r Undeb oedd sefydlu Sioe Gymraeg y Borth, eto yn 1965. Yn Llanfairpwllgwyngyll fe fu yn trefnu cyfres o ddarlithoedd — Darlith Goffa Syr John Morris-Jones — yn flynyddol o 1988 hyd 1999.

Priododd Beti ym 1956 a magu'r genod, Gwen, Rhiannon ac Olwen. Roedd ei deulu yn graidd ei fywyd ac yr oedd bod yn daid i Ifan a Greta a Gwïon ac Alun Siôn yn destun llawenydd cyson iddo.