Absalom Fy Mab

Cue-sheet for Abisâg

(Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
 
(1, 0) 222 Nid neuadd brenin, ond neuadd y brenin-fardd;
(1, 0) 223 Nid brebliach llysoedd, ond llais Eneiniog Duw
(1, 0) 224 Y dysgais ganu ei salmau wrth lin fy mam
(1, 0) 225 Ar delyn faelwyd. Hynny, f'Arglwydd Joab,
(1, 0) 226 A'm dug i yma; nid uchelgais ddim.
(Joab) {Tan wenu.}
 
(Joab) Estynnodd Israel o Dan hyd Beerseba!
(1, 0) 230 Hwy fydd ei glod fel bardd na hyd yn oed
(1, 0) 231 Ei glod fel brenin; fe fydd swyn ei salm
(1, 0) 232 Ar wefus cenedlaethau. Ac am hyn,
(1, 0) 233 Fy Arglwydd Joab, y mynnwn weld ei wedd,
(1, 0) 234 A chanu'r delyn iddo.
(Joab) Abisâg,
 
(Joab) Ac erfyn arno alw am Absalom.
(1, 0) 242 Mi gadwaf air fy llw, a mentro Peinioes
(1, 0) 243 Trwy enwi'r enw nad yngana neb;
(1, 0) 244 Am hyn, gweddïa drosof.
(Joab) Ar fy llw,
 
(1, 0) 251 Dŷ Dafydd, fe'th fendithiaf ar dy drothwy.
(1, 0) 252 Duw a'th eneinio'n wastad â'i dangnefedd.
(Joab:) Amen i hynna,—o galon hen ryfelwr!
 
(Joab) A'i thannau wedi llacio ers llawer dydd.
(1, 0) 288 Fe ellir eu tynhau.
(Joab) Gwir, delynores.
 
(Joab) Gwir, delynores.
(1, 0) 290 A'i hailgyweirio'n hyfryd.
(Joab) {Gan godi'r delyn oddi ar yr hoel a'i hestyn at yr eneth.}
 
(Joab) Cymer hi!
(1, 0) 294 Y delyn a fu'n canu Salmau Dafydd,
(1, 0) 295 Pwy ydwyf fi i'w chyffwrdd?
(Joab) Cymer hi!
 
(Joab) O dan dy law dychweled Duw ei rhin.
(1, 0) 302 Delyn y bugail-lanc! Rho eto gân
(1, 0) 303 Fel yn y dyddiau pan wrandawai'r praidd
(1, 0) 304 Dy dannau'n tiwnio gerllaw'r dyfroedd tawel
(1, 0) 305 Nes aros ar eu pori; ac yntau'n cwafrio
(1, 0) 306 "Yr Arglwydd yw fy mugail." Neu rho'r gân
(1, 0) 307 A genaist am y sêr, gwaith bysedd Duw
(1, 0) 308 Ar sidan glas y nefoedd,—a pheth yw dyn
(1, 0) 309 I'w Grëwr ei gofio ac ymweled ag ef?
(1, 0) 310 Deffro, O delyn Dafydd! Llawenha,
(1, 0) 311 Fel yn y dydd pan gyrchodd ef yr Arch,
(1, 0) 312 Â dawns gorfoledd o dŷ Obed-Ebdom,
(1, 0) 313 A'th dannau dithau'n dawnsio tan ei law
(1, 0) 314 I'r Hwn sy'n ymddisgleirio rhwng y ceriwbiaid.
(1, 0) 315 Delyn, a fu'n iacháu drwg ysbryd Saul,
(1, 0) 316 Cân eto i iacháu drwg ysbryd Dafydd;
(1, 0) 317 Tydi'n offeryn gobaith yn fy llaw,
(1, 0) 318 A minnau yn offeryn yn Llaw Dduw.
(Cŵsi) {O'r golwg.}
 
(1, 0) 387 Nid caethferch, Gapten. Merch pendefig wyf.
(Joab) Ac nid fel gordderch y daeth-hi at y Brenin.
 
(Joab) Fel Abner, hen gadfridog byddin Saul!
(1, 0) 429 Eistedd, Dywysog bach.
(Meffiboseth) {Yn ufuddhau.}
 
(Meffiboseth) A'r haul fel gwayw tanbaid trwy fy mhen.
(1, 0) 437 Does dim fel sudd y grawnwin i'th adfywio.
(1, 0) 438 Cymer a bwyta'r rhain, Dywysog bach.
 
(1, 0) 442 Ac nid arglwyddes finnau,—ond ar delyn.
(Meffiboseth) {Gan wenu yntau am y tro cyntaf.}
 
(Meffiboseth) Na minnau'n arglwydd, ond ar gerfio coed.
(1, 0) 445 'Rwyt tithau'n grefftwr?... Dwed im beth a gerfi.
(Meffiboseth) Llun carw a ddihangodd rhac y cŵn
 
(1, 0) 454 Maddau foesau llys
(1, 0) 455 Crachach fel hwn na wybu urddas Saul.
(Beneia) Dydd da i'n Twysog Solomon, lleufer llys.
 
(Solomon) A phwy wyt ti?
(1, 0) 486 Myfi yw Abisâg,
(1, 0) 487 Dy wasanaethferch, Dwysog, o fro Sŵnem,
(1, 0) 488 A ddaeth i ganu i'th Dad, y Brenin claf.
(Joab) Y delynores orau yn y deyrnas.
 
(Solomon) O Sŵnem, ddwedaist-ti?
(1, 0) 498 Ie, Dywysog.
(Solomon) Mi glywais glod ei chân i Rosyn Saron,
 
(Solomon) Rhaid iti ei dysgu imi.
(1, 0) 501 Anrhydedd fydd.
(Beneia) Yr olaf o Dŷ Saul yw'r efrydd hwn.
 
(Meffiboseth) A phedair saeth trwy'i fron.
(1, 0) 515 Mab ydyw hwn
(1, 0) 516 I'r Twysog Jonathan, cyfaill mawr dy dad.
(Solomon) Roedd hynny cyn fy ngeni; 'chlywais-i ddim
 
(1, 0) 621 Ac yn nhŷ Machir
(1, 0) 622 Y bu'n preswylio hyd heddiw fel gwerinwr,
(1, 0) 623 Heb dir na chyfoeth, ond y ddawn a roes Duw
(1, 0) 624 I'w ddwylo cywraint, yn lle'i efrydd draed.
(1, 0) 625 Mae'n ennill ei fywoliaeth fel cerfiwr coed
(1, 0) 626 A lluniwr cistiau celfydd. {Gan benlinio.} Trugarha,
(1, 0) 627 Frenhines deg;—ymbil am einioes crefftwr.
(Bathseba) A phwy wyt ti sy'n gofyn imi ymbil?
 
(Bathseba) A phwy wyt ti sy'n gofyn imi ymbil?
(1, 0) 629 Dy wasanaethferch Abisâg, f'arglwyddes,
(1, 0) 630 A ddaeth i ganu i'r Brenin.
(Solomon) O Sŵnem, Mam,
 
(1, 0) 646 Nid gordderch wyf, f'arglwyddes.
(Bathseba) {Yn ymbwyllo beth.}
 
(Bathseba) {Yn diosg breichled a'i hestyn iddi.}
(1, 0) 665 Ni cheisiaf wobr.
(Bathseba) Ond gwisg hi'n arwydd cymod.
 
(1, 0) 668 Byth nid ymedy â'm braich, Frenhines Israel.
(Bathseba) Cyfod. Rhaid imi dy gofleidio di.
 
(Bathseba) {Cyfyd y Frenhines yr eneth ar ei thraed a'i chofleidio mewn cymod.}
(1, 0) 671 F'arglwyddes, trugarha wrth Meffiboseth,
(1, 0) 672 Y crefftwr nas dirymodd gwawd y Capten,
(1, 0) 673 A derbyn yntau gyda mi i'th gymod.
(Bathseba) {Gan wenu ar y ddau.}
 
(Bathseba) Er bwrw'i flinder ysbryd?
(1, 0) 691 Caniatâ
(1, 0) 692 Im ganu cân yn gyntaf, fwyn arglwyddes,
(1, 0) 693 O barch i ddewrder y bachgennyn hwn.
 
(Solomon) Pa gân fydd honno?
(1, 0) 696 Y gân a wnaeth dy dad
(1, 0) 697 Mewn galar am ei dad, pan ddaeth newyddion
(1, 0) 698 Am gwymp ei gyfaill pennaf yn Gilboa.
(1, 0) 699 Gwrando hi, Meffiboseth, a barna di
(1, 0) 700 A raid it ofni'r gŵr a ganodd hyn
(1, 0) 701 Am ddewrder Jonathan a'i garïad ato:
 
(1, 0) 703 ~
(1, 0) 704 Pa fodd y cwympodd Llyw mor ddewr
(1, 0) 705 A grymus yn y gad?
(1, 0) 706 Pa le 'r oedd nawdd ei fryniau ban
(1, 0) 707 A hen allorau'i wlad?
(1, 0) 708 ~
(1, 0) 709 Fryniau Gilboa, na ddoed mwy
(1, 0) 710 I'ch oeri law na gwlith,
(1, 0) 711 Am dywallt ffrydlif boeth o waed
(1, 0) 712 Tywysog Duw i'ch plith.
(1, 0) 713 ~
(1, 0) 714 Cynt oeddit nag yw'r eryr chwim,
(1, 0) 715 A chryfach nag yw'r llew;
(1, 0) 716 Beth ddarfu i'th darian rhag y saeth?
(1, 0) 717 Beth ddarfu i'th gleddyf glew?
(1, 0) 718 ~
(1, 0) 719 Llesg wyf gan hiraeth ar dy ôl,
(1, 0) 720 Fy nghymrawd Jonathan;
(1, 0) 721 Tu hwnt i gariad gwragedd oedd
(1, 0) 722 Y cariad ddaeth i'n rhan.
(1, 0) 723 ~
(1, 0) 724 O Ardderchowgrwydd Israel, dwfn
(1, 0) 725 Fy nghlwyf a di-wellhad.
(1, 0) 726 Pa fodd y cwympodd Llyw mor ddewr
(1, 0) 727 A grymus yn y gad?
(Bathseba) Fy Arglwydd Frenin!
 
(Dafydd) Pwy wyt ti?
(1, 0) 798 Dy wasanaethferch Abisâg, O Frenin,
(1, 0) 799 A Sŵnamês.
(Dafydd) Ple dysgaist ti fy nghân?
 
(Dafydd) Ple dysgaist ti fy nghân?
(1, 0) 801 Fe'i dysgais gartref, f'arglwydd, gan fy nhad.
(1, 0) 802 Yr oedd o'n un o'th gedyrn gynt, ar herw,
(1, 0) 803 A'i enw yw Eleasar.
(Dafydd) {Yn llawen.}
 
(Dafydd) Pa fodd y ffynna fy hen gymrawd gynt?
(1, 0) 812 Yn dda, fy arglwydd, ar y tir a roddaist
(1, 0) 813 Yn wobr hen filwr iddo yn Sŵnem ffrwythlon;
(1, 0) 814 A'r llaw fu'n glynu wrth gledd yn glynu wrth gryman.
(Dafydd) A chanddo y dysgaist fy ngalarnad?
 
(Dafydd) A chanddo y dysgaist fy ngalarnad?
(1, 0) 816 Ie,
(1, 0) 817 A'th salmau gan fy Mam, sy'n Sŵnamês,
(1, 0) 818 A hi a ddysgodd imi ganu'r delyn.
(Dafydd) {Yn atgofus.}
 
(1, 0) 836 I Dduw bo'r clod, a'm cymerth i'n offeryn.
(Dafydd) 'Rwy'n hen a blin, ond hoffwn petai'r llais
 
(Dafydd) Yn ei fynediad a'i ddyfodiad fyth.
(1, 0) 840 Nid am dy fod yn frenin, nid am fod
(1, 0) 841 Arswyd dy gledd ar wledydd ein gelynion,
(1, 0) 842 Nid am fod clod it fel gwladweinydd mawr,
(1, 0) 843 Ond am dy fod yn fardd, a rhin y wawr
(1, 0) 844 Ddihenydd yn dy gân yn mynd i ddeffro
(1, 0) 845 Dychymyg glân ieuenctid llawer oes,
(1, 0) 846 Fel y deffrodd hi finnau;
 
(1, 0) 848 Dy delynores ydwyf heddiw a byth.
(Dafydd) {Â'i law ar ei phen mewn bendith.}
 
(1, 0) 861 Un wobr a geisiaf fi am ganu i'r Brenin—
(1, 0) 862 Ei weld yn llawen, weddill dyddiaw'i oes.
(Dafydd) {Tan wenu.}
 
(Dafydd) A pheth yw rhin llawenydd, lances fwyn?
(1, 0) 865 Mae'i rin yn syml—gellit ei roi mewn gair.
(Dafydd) Dysg imi'r gair, ac fel mai byw yr Arglwydd,
 
(Dafydd) Mi a'i llefaraf yng ngwylfeydd y nos.
(1, 0) 868 Gair dy lawenydd di yw—"Absalom."
 
(1, 0) 877 Anfon dy fodrwy iddo i Gesŵr
(1, 0) 878 Yn arwydd cymod. Nid oes llonder mwy
(1, 0) 879 Na llonder tad sydd wedi maddau i'w fab.
 
(1, 0) 881 Er mwyn llawenydd, galw Absalom!
(Ahitoffel) Er mwyn y llwythau, galw Absalom!
 
(2, 1) 1290 Na sonied F'arglwydd frenin ddim am waddod.
(2, 1) 1291 Wele, mi ddygais iddo gwpan arian
(2, 1) 1292 Yn llawn gwin melys, peraroglus. Cesglais
(2, 1) 1293 Y llysiau llesol, pêr, â'm llaw fy hun
(2, 1) 1294 A'u trwytho yn y gwin er twymo'i ysbryd.
(2, 1) 1295 Atolwg iddo yfed.
(Dafydd) {Yn cymryd y cwpan.}
 
(Hŵsai) A'i hulio â blodau hyfryd yn feunyddiol.
(2, 1) 1303 A fyn fy arglwydd fynd i rodio heddiw?
(2, 1) 1304 Cyrchais dy fantell.
(Dafydd) Mynnaf, Abisâg.
 
(Dafydd) A ddoi-di gyda mi? Cei weld yr Arch.
(2, 1) 1309 Yn llawen, f'arglwydd.
(Dafydd) Y Cynghorwr Hŵsai,
 
(Dafydd) Tyrd dithau gyda ni i drefnu'r Wyl.
(2, 1) 1312 Pa Wyl yw honno?
(Ahimâs) Henffych well i'r Brenin!
 
(Dafydd) Cyfod, a hebrwng ni at Was yr Arglwydd.
(2, 1) 1332 A diolch am dyredeg... 'Fynni-di win?
 
(Ahitoffel) Nid cwrtais yfed dwfr yn Llys y Brenin.
(2, 1) 1336 Nid gwaeth a yfo i'r Brenin mewn dwfr oer
(2, 1) 1337 Os yw ei fron heb frad.
 
(2, 1) 1339 A dyma ddwfr.
(Absalom) Dy enw yw Ahimâs?
 
(Dafydd) Y ddau can sicl oll yn wobr iti.
(2, 1) 1374 A minnau'r eurdlws hwn sydd ar fy mron.
(Ahimâs) Yn ffydd fy mrenin fyth ni allaf fethu.
 
(2, 1) 1378 A'm hymddiriedaeth innau, Ahimâs?
(Ahimâs) {Yn ymateb yn deimladwy gan ymgrymu iddi.}
 
(Joab) Salm gyda'r tannau.
(2, 2) 1567 Yn llawen. Dyma salm
(2, 2) 1568 A wnaeth y Brenin at y dwthwn hwn
 
(2, 2) 1570 ~
(2, 2) 1571 Llonder y Brenin yn ddi-lyth,
(2, 2) 1572 O Arglwydd, yw dy nerth;
(2, 2) 1573 A'i holl hyfrydwch a fydd byth
(2, 2) 1574 Preswylydd Mawr y Berth.
(2, 2) 1575 ~
(2, 2) 1576 Achubaist flaen ei weddi daer
(2, 2) 1577 A hael rasusau'r nen;
(2, 2) 1578 Gosodaist, megis coron aur,
(2, 2) 1579 Lawenydd ar ei ben.
(2, 2) 1580 ~
(2, 2) 1581 Oherwydd iddo wneud ei nyth
(2, 2) 1582 Yng nghysgod allor Duw,
(2, 2) 1583 Y Brenin nid ysgogir byth...
(Cŵsi) Brad! Brad!! Brad!!!
 
(Dafydd) Yn Sŵnem. Mi anfonaf was i'th hebrwng.
(2, 2) 1721 Nac erfyn arnaf i ymado â thi,
(2, 2) 1722 Fy Iôr a'm Brenin tirion. Oni ddwedais
(2, 2) 1723 "Dy delynores ydwyf heddiw a byth?"
(2, 2) 1724 Lle trig fy Mrenin, yno y trigaf i.
(Ahimâs) Cyfarch ffyddlonaf oddi wrth fy nhad Sadoc,
 
(2, 2) 1752 Ffarwel, Ahimâs.
(Joab) Utgorn Beneia! Mae'r Gwŷr o Gard yn disgwyl.
 
(Meffiboseth) Syrthiodd yr haul o'r wybren. Beth a wnaf?
(2, 2) 1769 Dangos dy rodd i'r Brenin.
(Meffiboseth) Mae'n rhy hwyr!
 
(Meffiboseth) Mae'n rhy hwyr!
(2, 2) 1771 Bu'n cerfio cist, i'w Frenin gadw'r goron
(2, 2) 1772 Ynddi bob nos; a'i fwriad oedd cyflwyno
(2, 2) 1773 Ei waith yn anrheg heno wedi'r wledd.
(Dafydd) Pa le y mae hi?
 
(Dafydd) Pa le y mae hi?
(2, 2) 1775 Cuddiodd hi tan y fainc
(2, 2) 1776 Nes dod o'r awr.
(Meffiboseth) {Mewn dagrau.}
 
(2, 2) 1805 Ni fu dim siawns i'w chyrchu.
(Ahimâs) {Yn diosg ei fantell fer ei hun a'i gosod o'r tu ôl yn dyner ar ei hysgwyddau hi.}
 
(2, 2) 1810 Ahimâs,
(2, 2) 1811 Duw a'th warchodo nes cawn eto gwrdd.
(Absalom) {Yn gweinio'i gledd.}
 
(Joab) {Diffydd ei lantern.}
(3, 1) 2278 Rhoed Duw mai gwir y goel.
 
(3, 1) 2302 A'r rhain fydd heddiw'n penderfynu tynged
(3, 1) 2303 Achos ein Brenin.
(Dafydd) Buont ffyddlon imi,
 
(Dafydd) Mi wnaf.
(3, 1) 2373 Os myn y Brenin, af yn awr
(3, 1) 2374 I'w llety yn y ddinas er mwyn deffro'r
(3, 1) 2375 Frenhines a'r Tywysog Solomon i weled
(3, 1) 2376 Y fyddin yn ymdeithio i'r frwydyr.
(Dafydd) Na,
 
(Joab) Dowch, Ahimâs a Chŵsi! Glynwch wrthyf!
(3, 1) 2410 Gwisg hon yn arwydd rhyngom yn y frwydyr,
(3, 1) 2411 A'i rhin a'th amddifynno.
(Ahimâs) {Dan deimlad dwys gan ei gwasgu unwaith i'w gôl yn gyflym cyn martsio allan ar ôl ei Gadfridog.}
 
(3, 1) 2428 Eled fy Arglwydd Frenin i orffwyso;
(3, 1) 2429 Bu'r straen yn ormod iti. Cwsg ychydig.
(Dafydd) Ni allaf gysgu, a'm byddin ar ei ffordd
 
(Dafydd) Er mynd i orwedd dro.
(3, 1) 2443 Coffa it ganu,
(3, 1) 2444 Yn ifanc, am ryw Fugail Da a'th ddug
(3, 1) 2445 O'th wae i borfa ir ger dyfroedd tawel,
(3, 1) 2446 Ac yno adfywhau dy enaid blin...
(3, 1) 2447 Dos gyda'r Capten, gorwedd ar dy wely
(3, 1) 2448 Am orig, ac mi ganaf tan y ffenest
(3, 1) 2449 Dy salm yn lle hwiangerdd... Pwy a ŵyr
(3, 1) 2450 Na rydd y Bugail eto hun i ti,
(3, 1) 2451 Fel i'w anwylyd?
(Dafydd) Ac fe elwch arnaf?
 
(3, 1) 2465 Hist! A thosturia, ddyn, wrth galon tad.
(Beneia) {Yn ffyrnig ddistaw wrth groesi'n ôl i'w le fel gwyliwr ar y Ddisgwylfa.}
 
(3, 1) 2470 Yr Arglwydd yw fy Mugail cu,
(3, 1) 2471 Am hynny llawenhaf,
(3, 1) 2472 Gorffwysfa deg mewn porfa ir
(3, 1) 2473 Ger dyfroedd clir a gaf.
(3, 1) 2474 ~
(3, 1) 2475 Ei ofal Ef sy'n adfywhau
(3, 1) 2476 Yr enaid mau bob awr;
(3, 1) 2477 Hyd union ffordd y deil i'm dwyn
(3, 1) 2478 Er mwyn ei enw mawr.
(3, 1) 2479 ~
(3, 1) 2480 Er rhodio Glyn y Dychryn Du
(3, 1) 2481 A'r niwl o'm deutu'n daen,
(3, 1) 2482 Os oes gelynion yno 'nghudd,
(3, 1) 2483 Y Bugail fydd o'm blaen.
(3, 1) 2484 ~
(3, 1) 2485 Fe'm dwg i'w babell rhag pob clwy
(3, 1) 2486 At arlwy rasol iawn,
(3, 1) 2487 Pêr olew croeso fydd fy rhan
(3, 1) 2488 A gwin mewn cwpan llawn.
(3, 1) 2489 ~
(3, 1) 2490 Daioni 'Mugail sy'n parhau
(3, 1) 2491 A'i drugareddau i gyd;
(3, 1) 2492 A byth ni dderfydd croeso'r wledd
(3, 1) 2493 Yn hedd ei babell glyd.
 
(3, 2) 2507 Welaist-ti rywbeth eto? Oes rhyw arwydd?
(Beneia) {Yn goeglyd.}
 
(Beneia) Peth braf yw gallu cysgu ar ganol brwydr.
(3, 2) 2510 Chefais-i ond cyntun byr... A oes rhyw newid?
(Beneia) Dim newid, na dim arwydd, na dim sŵn.
 
(Beneia) A rhu cynddaredd ei ddialwyr ef.
(3, 2) 2527 Ton brwydr, yn ôl a blaen, a thynged gwlad
(3, 2) 2528 Yn hongian ar ei brig. Eto, ers oriau
(3, 2) 2529 Pam na ddôi sŵn hyd yma o graidd y Fforest
(3, 2) 2530 I ddweud eu hynt?... Gwrando!... Mor dawel yw.
(3, 2) 2531 Y miloedd ynddi'n marw'r funud hon,
(3, 2) 2532 Eto dim siw na miw i siglo'r prennau,
(3, 2) 2533 Dim sŵn ym mrig y morwydd.
(3, 2) 2534 ~
(3, 2) 2535 Ni chyffroir
(3, 2) 2536 Tawelwch natur gan gymhelri dyn
(3, 2) 2537 A'i nwydau gwallgof. Heno twynna'r lloer
(3, 2) 2538 Rhwng cangau'r coed ar oer wynebau'r meirwon
(3, 2) 2539 Heb wahaniaethu dim rhwng ffrind a gelyn.
(Beneia) Gobeithio i Dduw y bydd Absalom yn eu plith.
 
(Beneia) Gobeithio i Dduw y bydd Absalom yn eu plith.
(3, 2) 2541 Yr wyt ti'n galed.
(Beneia) Caled yw gair y nef
 
(Beneia) Eryrod rheibus sydd i fwyta'i gnawd."
(3, 2) 2548 Och! Meddwl am ei dad.
 
(Beneia) Tad a genhedlo ffŵl, hyd ddydd ei dranc.
(3, 2) 2552 Edrych!... Ar y gwastadedd... Gŵr yn rhedeg!
(Beneia) Negesydd ydyw!... Galw ar y Brenin
 
(Dafydd) Ha! Os ei hun y mae, negesydd yw.
(3, 2) 2574 Ynawr 'rwy'n ei adnabod... Cŵsi ddu!
(Dafydd) Negesydd Joab. Bydded wyn ei neges.
 
(3, 2) 2581 Fy Mrenin, 'rwy'n ei nabod... Ahimâs!
(Dafydd) Llanc da yw hwnnw. Newyddion da sydd ganddo.
 
(Dafydd) Llanc da yw hwnnw. Newyddion da sydd ganddo.
(3, 2) 2583 Coffa i'r Brenin ddweud y gwystlai'i goron
(3, 2) 2584 Y trechai'r bachgen Cŵsi mewn tri mis;
(3, 2) 2585 A gwir y gair.
(Beneia) {Yn llawn cyffro, yntau.}
 
(Dafydd) Beth a ddywed hi?
(3, 2) 2630 Am ei ffyddlondeb mawr i'w Frenin rhoddais
(3, 2) 2631 Fy serch ar Ahimâs o'r cychwyn. Heddiw,
(3, 2) 2632 A'r nefoedd wedi ei ddwyn o safn marwolaeth,
(3, 2) 2633 Fe'i caraf fel fy ngŵr a'm harglwydd byth.
(3, 2) 2634 Yn ôl dy lw, atolwg, gwrando'i gais.
(Dafydd) Haws, petai wedi gofyn hanner fy nheyrnas!
 
(Dafydd) Ar henaint heb dy gân.
(3, 2) 2638 Ac ni bydd rhaid.
(3, 2) 2639 Arhosaf yn dy Lys fel telynores,
(3, 2) 2640 A gwna fy ngŵr yn Gapten ar dy Gedyrn
(3, 2) 2641 Am ei wrhydri trosot.
(Dafydd) {Yn ei ddyrchafu ar ei draed, a'i droi i'w chwith, a chyflwyno Abisâg iddo.}
 
(Dafydd) Wyt ti'n fodlon?
(3, 2) 2648 O frenin mawr, haelfrydig.
 
(3, 2) 2736 Mae'n ormod iddo! O! mae'n ormod iddo!
(3, 2) 2737 Gan y fath alar chwerw tyr ci galon
(3, 2) 2738 Os dônt i mewn i'r ddinas mewn gorfoledd
(3, 2) 2739 Yn sŵn y bib a'r drwm... Dos, Ahimâs,
(3, 2) 2740 Os wyt-ti yn fy ngharu, rhed i'w hatal,
(3, 2) 2741 Ac erfyn arnynt ddod trwy'r porth yn dawel
(3, 2) 2742 I'r ddinas, o ran parch i ing y brenin
(3, 2) 2743 A'i alar am e ifab... Rhed, Ahimâs.
(Dafydd) {Drwy'r ffenestr.}
 
(3, 2) 2752 Ni allaf oddef mwy.
 
(3, 2) 2754 Er mwyn trugaredd, diffodd fflam y ffaglen.
(3, 2) 2755 O flaen y faner, er tawelu'r llu.
(3, 2) 2756 Mae'u trwst yn sicr o ladd y Brenin.
(Beneia) Beth?
 
(Dafydd) Absalom!
(3, 2) 2764 Rhaid imi ddiffodd fflam y ffaglen yna!
 
(3, 2) 2771 Diolch i Dduw, 'roedd Ahimâs mewn pryd.
(Beneia) {Yn edrych i lawr o'r Ddisgwylfa.}
 
(3, 2) 2781 Diolch i Dduw, fe lwyddodd Ahimâs.
(Joab) Pe le mae'r Brenin?... Pe le mae ffrind y bradwyr?
 
(Joab) O'i ŵyr ffyddlonaf?
(3, 2) 2787 Aros, Gadfridog;
(3, 2) 2788 Mae'r Brenin yn ei stafell, —wedi ei glwyfo.
(Joab) "Ei glwyfo," meddai hi! Welodd-o'r gwaed
 
(Joab) {Gan gyffwrdd â'i glun.}
(3, 2) 2793 Joab, trugarha
(3, 2) 2794 Gad iddo efo'i alar am ei fab
(3, 2) 2795 Yr un nos hon. Deued y fyddin adref
(3, 2) 2796 Yn ddistaw bach drwy'r Porth rhag torri ei galon.