a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2

Absalom Fy Mab (1957)

Albert Evans-Jones (Cynan)

Ⓗ 1957 Cynan
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


Golygfa:

Y Neuadd yn Llys Dafydd Frenin yng Nghaersalem. Symlrwydd llwyd-galchog sy'n nodweddu'r parwydydd ond fe dorrir trwyddynt gan dri phorth artistig. Ni cheir drysau i'r pyrth namyn llenni coeth o grimswn, weithiau'n gaeëdig, weithiau'n agored, yn ôl fel y bo'r galw. Ar hyn o bryd mae'r llenni'n agored yn y porth mawr sydd ar y dde yn y cefn; (de a chwith o safbwynt yr actor). Trwyddo gan hynny fe gawn gip ar yr ardd frenhinol tan heulwen bore teg o haf. Trwy'r porth hwn y daw pob cymeriad o'r byd oddi allan i'r Plas.

Mae'r ail borth ychydig yn llai. Saif yntau yn y pared cefn, ychydig i'r chwith o'r canol; ac uwch ei fwa peintiwyd arwyddlun coron Israel a Jwda, canys hwn yw'r porth sy'n arwain i ystafell wely ac ystafelloedd preifat y Brenin.

Yn y pared chwith, ac yn lled agos i flaen y llwyfan, y saif y trydydd porth—y lleiaf o'r tri. Hwn sy'n arwain i stafelloedd y gwragedd a'r plant, yr Harîm brenhinol.

O'r tu hwnt i'r porth hwn rhed esgynlawr ar hanner tro hyd at bwynt yn y pared cefn, i'r dde o'r ail borth (sy'n arwain i stafelloedd y Brenin). Bydd dau ris yn esgyn o lawr y neuadd i'r esgynlawr hwn yr holl ffordd o amgylch yr hanner tro. Ar yr esgynlawr, ac yng nghornel chwith y neuadd gosodwyd gorseddfainc y Brenin. Ar hon y bydd yn eistedd i farnu Israel, pan ddygir cyngaws ger ei fron. Byddai gorseddfainc y Brenin hyd yn oed mor fore â hynny yn gelfyddydwaith wych, wedi ei haddurno ag aur ac ifori, ac yn gorffwys megis ur ddau lew goreurog. Nid yw'r gwychder hwnnw yn hanfodol i'r chwarae. Y mae troedfainc i'r chwith o'r orseddfainc.

Syml yw'r gweddill o'r dodrefn. Mainc ar y pared de ar wyler eirchiaid a fo'n disgwyl wrth y Brenin; mainc lai ar y pared chwith rhwng porth y gwragedd a blaen y llwyfan. Bwrdd bychan ar y pared cefn, yn y gornel dde. Ar y bwrdd bydd llestri arian yn dwyn amryfal ffrwythau; bwrdd arall, llai, ar yr esgynlawr, ac ar y chwith i'r orseddfainc, yn dwyn costrelau gwin a ffiolau aur.

Ar y pared chwith, rhwng porth y gwragedd a'r orseddfainc, croga telyn Dafydd yn segur ar yr hoel. Ar y pared de gosodwyd cleddyf Goleiath y Philistiad, cleddyf a ddefnyddiwyd gan Ddafydd yntau pan oedd ar ffo rhag cynddaredd Saul. Felly, er ei fod yn gleddyf cawr, ni ddylai fod yn hwy na rhyw bedair troedfedd. Ar y pared uwch y cleddyf ac ar y pared y tu ôl i'r orseddfainc, crogwyd tarianau'r cedyrn a orchfygwyd mewn rhyfel gan Ddafydd.

Bydd y tarianau hirsgwâr hyn bob un yn celu ffenestr hirgul, gastellog. Dadlennir y rhain yn y tyrau wedi'r newid cyflym o'r Olygfa Neuadd i'r Olygfa ar Fur Dinas Mahanaim yn Act III.

Pan gyfyd y llen gwelwn ddau o brif gynghorwyr y Brenin, sef Hŵsai ac Ahitoffel, wedi bod yn disgwyl ers amser am ei ymddangosiad o'i ystafell wely. Y mae Hŵsai yn eistedd yn dawel, amyneddgar, ar y fainc sydd yn ochr chwith y neuadd, (de a chwith o safbwyni yr actor), ac Ahitoffel â'i gefn atom yn edrych allan yn bur aflonydd trwy Borth yr Ardd. Hynafgwr corffol, rhadlon, pwyllog yw Hŵsai, ac y mae ei wên dirion a'i lais caredig yn ein hargyhoeddi o'r cychwyn paham y gelwir ef yn "Gyfaill Dafydd." Hynafgwr tra gwahanol yw Ahitoffel, gŵr henffel, cyfrwys, tenau, llym ei wynepryd, aflonydd ar ei draed, sydyn ei ysgogiadau, cyflym ei benderfyniadau, byr ei amynedd, brathog ei eiriau.

Gwelwn wrth guriadau ei ddwylo y tu ôl i'w gefn yn awr fod ei amynedd ar ballu o'r hir ddisgwyl hwn am y Brenin. O'r diwedd dyna'r geiriau'n ffrwydro wrth iddo droi at Hŵsai ar ôl clywed caniad. Corn Hanner Dydd yn y pellter o Dŷ'r Osgordd.

Ahitoffel
Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
O lu Philistia'n crefu am gadoediad
I gladdu'n meirw, 'chadwai o monom cyd.

Hŵsai
(Gan fwyta grawnwin o'r swp.)
Gan bwyll, Ahitoffel. Mae'r dydd yn ifanc,
Fe gŵyd y Brenin toc. Gan bwyll! Gan bwyll!

Ahitoffel
Rhwydd, f'arglwydd Hŵsai, ydyw dweud "Gan bwyll."
Mae'r wlad yn anesmwytho. Pa sawl cyngaws
Sy'n aros heb ei farnu gan y Brenin?
A pha sawl cennad daer o ba sawl gwlad
Sy'n ceisio cynghrair—heb gael gweld ei wedd?
"Dowch eto yfory, ac fe'ch gwêl ein Harglwydd,
Nid yw mor hwylus heddiw."

Hŵsai
Mae ei wedd
Tan gwmwl am fod cwmwl ar ei feddwl.

Ahitoffel
Ac enw'r cwmwl ydyw ystyfnigrwydd!

Hŵsai
Ac enw'r cwmwl, f'arglwydd, ydyw hiraeth.
Dolur y galon sydd yn llethu'r ysbryd.
Mae'i galon gydag Absalom ei fab
Yng ngwlad Gesŵr. Ie, gyda'r tylwyth nomad
Fan honno'n symud gwersyll fel bo'r borfa
Mae pabell ysbryd Dafydd. Oni chadd
Loches y llwyth ei hun pan oedd ar ffo
Rhag dicter Saul, a chael yn wraig
Eu tywysoges Mâcha?

Ahitoffel
(Yn atgofus.)
Priod ei ienctid!
Main ac unionsyth fel palmwydden ifanc,
Nid fel Bathseba, ein buwch-frenhines hon.


Croesir y llwyfan o'r ardd gan gaethferch yn cario cawellaid o flodau i stafelloedd y gwragedd.

Hŵsai
(Gan daflu trem bryderus i gyfeiriad porth y gwragedd a gostwng ei lais.)
Yn enw Duw, Ahitoffel, gofala!
Mae gan barwydydd glustiau, ac mae'i hysbiwyr
Yn rhedeg â phob chwedl at Bathseba.

Ahitoffel
(Wedi edrych bod llenni'r pyrth yn glir.)
Tair blynedd y cynllwyniodd hi'n ddeheuig,
O'r diwrnod yr aeth Absalom ar ffo;
Tair blynedd, er mwyn i Solomon ei mab
Gael bod yn frenin ar ôl marw'i dad.

Hŵsai
Nid hwnnw ond Absalom ydyw'r etifedd.
Ac Absalom a daniodd fryd y bobol,
Er bod yn alltud.

Ahitoffel
Alltud! Am ba hyd?
Mae'r bobol yn hiraethu am weld ei harddwch.
Tywysog Jwda ac Anwylyd Hebron,
A gerddai trwy Gaersalem gynt fel angel,
A'r haul yn sgleinio ar ei hirwallt hardd.

Hŵsai
Hyd ddydd ei drosedd. Na, nid angel oedd
Yr herwr a lofruddiodd Amnon ei frawd,
A hwnnw'n profi o'i win yng Ngwledd y Cneifwyr.
Nid hawdd yw maddau lladd etifedd y goron.

Ahitoffel
Mae'r bobol wedi maddau iddo. Rhagor,
Yr Amnon hwnnw, fe lwyr haeddodd angau.
Ystyria—treisio'i hanner-chwaer fel bwch,
A'i chwipio wedyn, tan ei gwarth, o'i dŷ;
Y Dywysoges Tamar, hoff chwaer Absalom.
Yntau, pan welodd ing ei brydferth chwaer,
A'i chael, â'i gwisg symudliw wedi ei rhwygo,
Yn crogi oddi ar ddist ei stafell wely,
Fe dyngodd lw gerbron yr uchel Iôr
I'w dial, —merch ei mam, o fflam a fflur.
Felly, yr hyn a wnaed yng Ngwledd Baal-hasor
Â'r gyllell hir, 'doedd hynny ond cyfiawn dâl
I gnaf na fynnai'r Brenin ei hun ei gosbi;
Bwystfil na haeddai fyw, a bwch direol,
Pa fodd y gallai hwnnw reoli cenedl?
Mae'r bobol wedi maddau i Absalom,
Fel y maddeuais innau.

Hŵsai
(Gan godi ac estyn afal o'r bwrdd.)
Ond nid y Brenin.

Ahitoffel
Maddeuodd yntau iddo yn ei galon.
Ac felly enw'r cwmwl yw ystyfnigrwydd!
Ystyria, f'arglwydd Hŵsai, fod gŵr mor fawr
Yn gadael i falchder sefyll rhyngddo a'i gysur.
Un gair, un amnaid llaw, un gogwydd pen,
A alwai ei anwylyd ato'n ôl.
Ond fel mai byw yr Arglwydd, daeth drwg ysbryd
Ar Ddafydd Frenin megis cynt ar Saul.

Hŵsai
O! na bai telyn heddiw a fedrai ymlid
Ysbrydion drwg; ond ni cheir yng Nghaersalem
Delynor ail i'r bugail-lanc, a ddug
Dangnefedd y corlannau i fynwes Saul.
A mud yw telyn Dafydd ers amser maith.
(Gan edrych ar y delyn ar yr hoel.)

Ahitoffel
Am hynny, f'arglwydd Hŵsai, rhaid it fentro
Cynghori'r brenin i alw Absalom adref.

Hŵsai
'Ryfygodd neb ei enwi ers tair blynedd
Yng nghlyw ei dad. Gwyddost fod llid y brenin
Fel rhuad llew o'i ffau. Pwy a'i gwrthsaif?

Ahitoffel
A ffafr y brenin megis gwlith ar laswellt
I'r neb sy'n ennill diolch ganddo a gras.
Llefara wrtho heddiw.

Hŵsai
(Gan ddal i fwyta'r afal.)
Aros beth,
Mae'n antur enbyd.

Ahitoffel
Mwy enbyd bod yn fud
A'r deyrnas a sefydlodd yn dadfeilio
Er mawr lawenydd i'r dienwaededig.
Gŵyr gwlad mai hi, y sarff wenwynig, a'i hudodd gynt
I odinebus frad, trwy ladd y dewr
Ureias, ei Gapten ffyddlon,—mai hyhi
Sy'n llywodraethu'r llys.

Hŵsai
Hyn a ŵyr gwlad,
Ond gŵyr y Llys na alwodd am Bathseba
I'w stafell wely ar ôl geni Solomon.
Ciliodd ei thegwch ac fe ymfrasaodd.

Ahitoffel
Hon sydd yn tynnu barn ar Israel.

Hŵsai
Ac eto hi a eilw o'n Frenhines,
Ac arni hi y gwrendy.

Ahitoffel
(Yn ffrwydro.)
Duw a'i tago!
Haws ganddo wrando arni na'i Gynghorwyr!

Hŵsai
Hist!
(Gan edrych fod pobman yn glir, cyn myned ymlaen mewn llais isel.)
Ei chyngor iddo'n awr yw addo'r goron
I Solomon ei mab. A Nathan broffwyd,
Hwnna'n ategu ei chais.

Ahitoffel
(Yn wawdlyd.)
Hy! Nathan broffwyd!
Condemniwr eon eu godineb gynt!

Hŵsai
Llogodd y gyfrwys ef yn athro i'w mab
I'w ddysgu yn ffyrdd doethineb. Llif damhegion
A diarhebion hwn o enau'r llanc.

Ahitoffel
Megis y llif yn ddiau'r siclau arian
O goffr brenhines i goffr gwas yr Arglwydd.

Hŵsai
I ddofi proffwyd, gwna fo'n gaplan llys!

Ahitoffel
Ond ti a mi, nis dofwyd, f'arglwydd Hŵsai.

Hŵsai
Ac nid er siclau hon y'n prynir ni.

Ahitoffel
Ac nid er siclau hon y prynir Israel
I dderbyn mab y butain! Coelia fi,
Un enw'n unig a ddichon uno'r llwythau
Ac arbed rhyfel cartref a thywallt gwaed
Ar ôl marwolaeth Dafydd,—Absalom!

Hŵsai
Duw a'i dychwelo.

Ahitoffel
Rhaid llefaru heddiw.
A thithau, f'arglwydd Hŵsai, cyfaill Dafydd,
Yw'r gŵr i ymliw â'r Brenin ar ei ran.
Awn i'w ystafell cyn ein galw. Heddiw
Rhaid iti ei ddarbwyllo. Os arhoswn
Hyd ddydd y Cyngor, byddwn yn rhy hwyr.
Duw roddo inni lwyddiant.

Hŵsai
Onis rhydd,
Ffarwel, hen ffrind; ffarwel oleuni'r dydd.


Ffarweliant trwy gydio y naill yn arddwrn y llall.

Ahitoffel
Tyred i ffau y llew; ond cofia hyn—
Yn llaw yr Arglwydd y mae calon brenin,
Ac megis afon ddwfr yn troi o'i gwely
Yntau a'i try hi fel y mynno Ef.



Myned o'r ddau trwy borth y brenin.

Bron cyn gynted ag yr elont o'r golwg, daw Joab ac Abisâg i'r golwg o'r chwith ym Mhorth yr Ardd, ac o'r tu ôl iddynt Hen Fugail yng ngofal Cŵsi, caethwas du Joab. Gŵr talgryf, cydnerth barfog, canol-oed, yw'r Cadfridog Joab, lled arw ei ddull, sydyn a chwta ei barabl, er hynny'n drwsgl garedig wrth y neb a gâr. Rhyfelwr, bob modfedd ohono, a'i wedd rychiog yn dywyll gan haul a gwynt llawer rhyfelgyrch ar ran ei ewythr y Brenin.

Llances deg iawn a gosgeiddig yw Abisâg. Y mae ei llygaid yn loyw a deallus a charedig, a'i llais yn llawn mwynder a miwsig.

Saif yr Hen Fugail y tu hwnt i'r Porth â'i bwys ar ei fuseilffon hir. Gŵr tal ond bod ei ysgwyddau wedi crymu dros ei fugeilfon. Mae'n gwisgo mantell ddu, hirllaes, ag iddi, gwfl yn codi dros y pen, bron fel cwcwll mynach. Tan y cwfl mae gorchudd o liain gwyn yn cuddio'r rhan isaf o'r wyneb yn null y byrnŵs (burnoose) Arab.

Gŵr ifanc cyhyrog, cawraidd, pump ar hugain oed yw Cŵsi yr Ethiop du. Noeth yw ei goesau a'i freichiau a'i ysgwydd dde. Gwisga wregys o liain o amgylch ei lwynau, ond prif addurn ei wisg yw'r croen llewpart sy'n rhedeg dros ei ysgwydd chwith ac yn cau o dan ei fraich dde. Ar ei ysgwydd dde mae'n cario cleddau noeth,—cleddau llydan, troellog ac addurnedig (scimitar). Mae'n amlwg ei fod yn falch iawn o'r arf anrhydedd hwn fel cludydd arfau ei Feistr a'i Gadfridog, ac fe'i defnyddia'n seremonïol, â'r llafn ar draws ei dalcen mewn saliwt, wrth ymateb i alwad neu orchymyn Joab.

Tra bo Joab ac Abisâg yn croesi'r trothwy saif Yr Hen Fugail a Cŵsi ychydig yn ôl ar lwybr yr ardd. Deil Joab gwr y llen ar y dde i'r Porth i Abisâg basio heibio i'r neuadd.

Joab
(Yn goeglyd.)
Wele, ferch Sŵnem, yr hyn addewais iti
Yn nhŷ dy dad—ddeisyfiad mawr dy fywyd.
Portha dy drem ar wychder neuadd brenin
A'th glust ar frebliach llysoedd, fel y gwypech
Ragoriaeth pebyll y bugeiliaid syml.

Abisâg
(Yn sefyll ar y trothwy â'i llygaid yn edmygu Gorsedd Dafydd. Clywir anwyldeb a hefyd barchedig ofn yn ei llais.)
Nid neuadd brenin, ond neuadd y brenin-fardd;
Nid brebliach llysoedd, ond llais Eneiniog Duw
Y dysgais ganu ei salmau wrth lin fy mam
Ar delyn faelwyd. Hynny, f'Arglwydd Joab,
A'm dug i yma; nid uchelgais ddim.

Joab
(Tan wenu.)
Beth a dâl bardd wrth frenin a rhyfelwr?
Estynnodd Israel o Dan hyd Beerseba!

Abisâg
Hwy fydd ei glod fel bardd na hyd yn oed
Ei glod fel brenin; fe fydd swyn ei salm
Ar wefus cenedlaethau. Ac am hyn,
Fy Arglwydd Joab, y mynnwn weld ei wedd,
A chanu'r delyn iddo.

Joab
Abisâg,
Cofia d'addewid im. Yn nhŷ dy dad
Addewaist os arweiniwn di at y brenin
Fel telynores, a chael ohonot ffafr
Y brenin am dy ganu ac am dy degwch,
Y rhoddit lais i ddyheadau'r bobol
Ac erfyn arno alw am Absalom.

Abisâg
Mi gadwaf air fy llw, a mentro Peinioes
Trwy enwi'r enw nad yngana neb;
Am hyn, gweddïa drosof.

Joab
Ar fy llw,
Coronodd Duw dy degwch di â dewrder,
Ac mor aeddfetach na'th flynyddoedd wyt:
Nac ofna ddim.—Dy enaid di a rwymwyd
Yn rhwymyn bywyd gan yr Arglwydd Dduw.

Abisâg
(Penlinia Abisâg ar y trothwy, ac wedi cyffwrdd yn ddefosiynol â'i llaw dde â'i chalon, a'i gwefusau, a'i thalcen, fe dynn gledr ei llaw ar hyd y trothwy mewn anwes gan ddywedyd:)
Dŷ Dafydd, fe'th fendithiaf ar dy drothwy.
Duw a'th eneinio'n wastad â'i dangnefedd.

Joab:
Amen i hynna,—o galon hen ryfelwr!
(gan bwyntio i'r dde)
Edrych! Prif grair y llys,—cleddyf Goleiath
A laddodd y llanc Dafydd â'i ffon-dafl;
Y cawr oedd wrthi'n rhegi Sanct yr Israel.
Dos rhagot, Abisâg.
Minnau a roddaf
I Cŵsi fy ngorchymyn caeth i hebrwng
Y gennad oddi wrth Absalom yn ddiogel
I'r deildy acw, lle nas gwelo neb,
Nes dyfod awr ei neges fawr,—os daw.



Cerdda Abisâg heibio i Joab i'r dde a sefyll, ar fedr syllu ar y cleddau mawr. Try Joab yn y Porth ab Cŵsi i'w gyfarwyddo'n gyfrinachol a phwyntio'r deildy iddo ef a'r Hen Fugail. Ond yn ddisymwth fe ddarganfu llygad Abisâg delyn Dafydd sy'n crogi ar yr hoel ar y chwith, ac o'r foment honno darfu ei diddordeb yn y cledd. Goleua ei hwyneb megis â heulwen addolgar a thynnir hi trosodd i'r ochr chwith i'r neuadd, megis gan dynfaen anorfod. Â'i dwylo ymhleth ar ei mynwes, saif o flaen telyn Dafydd fel pererin o flaen ei eilun. Wedi ymgolli yn yr olwg gyntaf ar delyn enwog ei harwr nid yw hi'n ymglywed bellach â dim sy'n digwydd wrth y Porth. Fe gychwyn Cŵsi hebrwng yr Hen Fugail ymaith i gyfeiriad y deildy, a bwyntiwyd allan gan Joab i lawr llwybr yr ardd. Cama Joab dros y trothwy, ond try'n sydyn ar ei sawdl i roddi ei gyfarwyddyd olaf i Cŵsi: gan daflu allan ei law i atal symudiad y caethwas a'r Hen Fugail, fe eilw:

Joab
Gwarchod y Bugail fel dy fywyd, Cŵsi!
A gwêl na ddelo neb trwy'r ardd i'r Llys
Heb fedru'r gair. A gair yr arwydd heddiw
A roed i'r Osgordd ydyw "Cymod." Dos.
Os myn fy Arglwydd Frenin, galwaf arnoch
I ddwyn y neges iddo o Gesŵr.
A wyt-ti'n deall?

Cŵsi
(Tn ymgrymu â'r cleddyf ar ei dalcen.)
Clywaf ac ufuddhaf.



Ymgryma'r Hen Fugail hefyd i Joab, ac fêi hebryngir o'r golwg i'r chwith gan y caethwas, yn ôl gorchymyn ei feistr. Try Joab at Abisâg.

Joab
(Gan daflu ei law o amgylch y neuadd.)
Cleddyf Goleiath, a tharianau'r cedyrn
A'r orsedd aur... ond 'does gan delynores
Lygad i ddim ond i hen delyn fud
A'i thannau wedi llacio ers llawer dydd.

Abisâg
Fe ellir eu tynhau.

Joab
Gwir, delynores.

Abisâg
A'i hailgyweirio'n hyfryd.

Joab
(Gan godi'r delyn oddi ar yr hoel a'i hestyn at yr eneth.)
Cymer hi!


Greddf gyntaf y llances yw estyn ei dwylo i'w derbyn, ond yn sydyn meddiennir hi gan arswyd cyffwrdd â chrair mor gysegredig yn ei golwg, a thyn ei dwylo'n ôl.

Abisâg
Y delyn a fu'n canu Salmau Dafydd,
Pwy ydwyf fi i'w chyffwrdd?

Joab
Cymer hi!
Hon ydyw'r delyn, a fu gynt yn ymlid
Yr ysbryd drwg a lethai enaid Saul.
O dan dy law dychweled Duw ei rhin.



O'r diwedd fe dderbyn Abisâg y delyn ac eistedd ar risiau'r esgynlawr i'w chywewio ar ei glin, bron fel mam yn maldodi baban. Wrth iddi ei chyweirio fe sieryd yn dyner wrthi, ac ymhell cyn diwedd ei haraith bydd ei bysedd yn teimlo'r delyn am gordiau sy'n gyfeiliant i amrywiol foddau ei brawddegau).

Abisâg
Delyn y bugail-lanc! Rho eto gân
Fel yn y dyddiau pan wrandawai'r praidd
Dy dannau'n tiwnio gerllaw'r dyfroedd tawel
Nes aros ar eu pori; ac yntau'n cwafrio
"Yr Arglwydd yw fy mugail." Neu rho'r gân
A genaist am y sêr, gwaith bysedd Duw
Ar sidan glas y nefoedd,—a pheth yw dyn
I'w Grëwr ei gofio ac ymweled ag ef?
Deffro, O delyn Dafydd! Llawenha,
Fel yn y dydd pan gyrchodd ef yr Arch,
 dawns gorfoledd o dŷ Obed-Ebdom,
A'th dannau dithau'n dawnsio tan ei law
I'r Hwn sy'n ymddisgleirio rhwng y ceriwbiaid.
Delyn, a fu'n iacháu drwg ysbryd Saul,
Cân eto i iacháu drwg ysbryd Dafydd;
Tydi'n offeryn gobaith yn fy llaw,
A minnau yn offeryn yn Llaw Dduw.



Erys ennyd mewn gweddi â'i phen yn ymgrymu ar y delyn. Torrir yn ddisymwth ar y tawelwch gan her y gwyliwr Cŵsi o'r ardd, ac ateb Beneia, Capten y Gŵyr o Gard.

Cŵsi
(O'r golwg.)
Sefwch! Dim cam ymhellach heb roi'r gair!

Beneia
(O'r golwg.)
Y gair yw "Cymod."

Cŵsi
(O'r golwg.)
Ewch ymlaen eich dau.



Ymddengys Meffiboseth a'r Capten Beneia trwy'r Porth o'r ardd. Bachgen tua 18 oed yw Meffiboseth. Mae'n gloff o'i ddeudroed ac ymlwybra'n llafurus ar ddwy faglan. Syml a glân yw ei wisg ond carpiog yw ei glog. Y mae ei urddas tawel, ei leferydd mwyn a chwrtais, a'i wyneb glân a hawddgar yn ei gyhoeddi'n eglur yn wir bendefig o'r hen gyff brenhinol. Ar hyn o bryd mae ei lygaid yn rhedeg yn bryderus o amgylch yr ystafell ac yna'n gorffwys ar y Cadfridog Joab, oherwydd cred mai er mwyn ei ddienyddio y cyrchwyd ef —yr olaf o Dŷ Saul—i Lys y Brenin.

Gŵr tal, tua deg ar hugain oed, yw Beneia, Capten y Gwŷr o Gard. Math o filwr hollol wahanol i'r Cadfridog, ac wedi ei wisgo'n fwy ysblennydd nag ef. Gŵr gerwin a phlaen ei ymadrodd yw Joab; gŵr llys, llyfn ei ymadrodd a llaes ei foes yw Beneia. Eto, o dan ei lyfnder a'i foesgarwch arwynebol llecha'r sinig sbeitlyd o'r llofrudd parod, a "ruthrodd" ar Joab yn y diwedd a'i ladd wrth gyrn yr allor. Ar hyn o bryd y mae'r ddau'n lled foesgar a gochelgar tuag at ei gilydd; eithr ni thwyllir Joab. Gŵyr o'r gorau fod y Capten Beneia yn dirgel chwennych ei safle anrhydeddus ef fel Cadfridog y Llu, a'i fod yn un o'r gwŷr llys hynny sydd wedi bwrw eu coelbren o blaid olyniaeth Solomon, ac o'r herwydd yn derbyn gras a ffafr y Frenhines Bathseba. Ar hyn o bryd, oeraidd a dirmygus yw agwedd Beneia tuag at ei garcharor Meffiboseth, fel pob bwli tuag at y diamddiffyn a'r di-gefn. Mae'n ddig oherwydd darfod ei atal ef, Gapten yr Osgordd, gan Cŵsi yn yr ardd; ac yn ystod yr ymddiddan sy'n dilyn gadewir i'r bachgen cloff sefyll yn flinedig ar ei faglau yn y Porth.

Beneia
(Yn dyrchafu ei law dde mewn saliwt wrth ganfod Joab.)
Dydd da, Gadfridog.
(Yn ffug-chwareus.} A ddechreuodd chwyldro
Na chaffai Capten y Gard ddynesu i'r plas
Heb roddi gair yr arwydd?

Joab
Maddau hyn,
Gapten Beneia. Mae gennyf reswm da
Dros roddi Cŵsi i warchod gardd y Brenin.

Beneia
(Yn goeglyd.)
Rhaid fod yn wir! Y mae fy ngwŷr i'n gwarchod
Pob porth ac adwy. Erioed ni chlywais-i gŵyn
Fod neb o'm gwŷr o gard yn dechrau hepian,
Fod eisiau gwyliwr arall yn yr ardd
Ar fore teg o haf. Ai rhag llaw brad
Y rhoed dy was i gadw llwybrau'r ardd
Â'i gleddyf ysgwydedig, fel y rhoed
Ceriwbiaid Eden i warchod pren y bywyd?
Ceriwb go dlws, wir Dduw,—mor ddu ag uffern!
(O'r diwedd yn dangos ei ddannedd).
Fy rhwystro gan ddienwaededig gi!

Joab
Gwrando, Beneia, nid rhag ofn llaw brad
Y rhoddais Cŵsi i wylio'r ardd; ond mynnwn
Gael cyfle i'r delynores fedrus hon
Ganu o flaen y brenin, er ymlid ymaith
Ei ysbryd pruddglwyf: a rhag tarfu dim
Ar naws ei chanu, pan ddaw'n teyrn i'w neuadd,
Gosodais Cŵsi i gadw eirchiaid draw
Y bore hwn,—rhag torri ar y rhin...
Credais dy fod ar daith.

Beneia
(Gan daflu golwg ar Meffiboseth.)
Newydd ddychwelyd,
Ar ôl cyflawni neges dros y brenin.



Fe symud at Abisâg, a gadael, Meffiboseth yn sefyll o hyd yn ŷ porth. Mae'n edmygu eu thegwch, a hithau'n dal i eistedd fel delw â'i phen yn crymu ar y delyn.

Beneia
P'le cest-ti hon, Gadfridog?

Joab
Yn ardal Sŵnem.

Beneia
Ha! Gwlad y lili a'r pomgranadau pêr,
Cartref caneuon serch a merched hardd,
A blas y gwin ar eu cusanau brwd.
(Gan roi ei law tan ei gên, a chodi ei hwyneb teg, a'i barnu fel merchelwr profiadol.)
Llongyfarchiadau, f'arglwydd! Mae dy chwaeth
Mor sicr wrth ddewis milwr, march,—a merch.
Cei ddiolch y brenin am gaethferch deg fel hon,
A cherddgar hefyd,—at ei ordderchwragedd.

Abisâg
(Yn taro ei law ymaith mewn balchder clwyfedig. Syll Meffiboseth arni.)
Nid caethferch, Gapten. Merch pendefig wyf.

Joab
Ac nid fel gordderch y daeth-hi at y Brenin.
A deall hyn o'r cychwyn,—yn forwyn daeth
Y llances hon i'r llys, a rhois fy llw
I'w thad mai'n forwyn y dychwelai. Rho
Fy rhybudd caeth i'th osgordd na chyffyrddont
 hi ar boen eu bywyd. (Yn filwrol.) Mae'n orchymyn!

Beneia
(Yn ymaleb ar unwaith i'r gair "gorchymyn" o enau swyddog uwch.)
Purion, Gadfridog!

Joab
Dywed pwy yw hwn—
Y cloff a ddygaist tithau i lys y brenin
Â'i garpiog glog? (Yn ysgafn.) Wneith hwn ddim gŵr o gard!

Beneia
Y Brenin a ddywedodd wrthyf, "Dos
I Lo-Debâr, i dŷ Machîr, mab Amiel.
Clywais fod yno un o deulu Saul
Yn fabwysiedig. Brysia, cyrch ef ataf."
Minnau a frysiais ac a gefais hwn
A fagwyd ar ei dyddyn gan Machîr.

Joab
Pa beth sy ym mryd y Brenin?

Beneia
Ni wn i,
Onid ei grogi fel y gwnaeth â meibion
Rispa a Saul, ar furiau tref Gibeon.
(Gydag ystum crogi at Meffiboseth.)
A'r deyrnas mor aniddig, yr unig aelod
Daionus o Dŷ Saul yw aelod marw,
Rhag creu gwrthryfel eto. A dyma'r cyw
Olaf o'r nyth adfydus—Meffiboseth,
Mab Jonathan, medd Machîr. Y cloff hwn.
(Ymelyb Abisâg i'r gaîr "Mab Jonathan".)

Joab
(Yn ddiflas gan droi draw.)
Tŷ Saul! Pa ffafr a wnaethant hwy erioed
Â'm hewythr Dafydd? Mur, y nos a'r dydd
Oedd ef a'i filwyr rhyngddynt a'r Philistiaid.
A'i dâl?—Ei hela o le i le fel petris.

Beneia
Am hynny, meddaf innau, f'arglwydd Joab,
Colofn ddi-syfl Tŷ Dafydd, yr unig aelod
Daionus o Dŷ Saul yw aelod marw.

Joab
Eto pa bleser crogi llencyn cloff
Fel hwn? Gresyn na bai'n rhyfelwr hy
Fel Abner, hen gadfridog byddin Saul!



Gedy Abisâg y delyn ar yr esgynlawr a mynd at Meffiboseih a'i arwain yn dyner i'r fainc hir ar y dde. Ni faidd na Beneia na Joab ei rhwystro, er rhyfeddu ati.

Abisâg
Eistedd, Dywysog bach.

Meffiboseth
(Yn ufuddhau.)
O! Duw a dalo
Dy fwynder im, arglwyddes... Wedi'r daith
Hyd yma gyda'r Capten 'rwyf mor flin,
A'r haul fel gwayw tanbaid trwy fy mhen.



Wedi eistedd, gesyd ei faglau ar lawr tan y fainc, o'r ffordd, ac yna tyn ei law dros ei dalcen. Cyrch Abisâg swp o rawnwin iddo.

Abisâg
Does dim fel sudd y grawnwin i'th adfywio.
Cymer a bwyta'r rhain, Dywysog bach.
(Gan eistedd wrth ei ochr a rhoddi ei llaw ar ei dalcen i'w oeri.)

Meffiboseth
Diolch, arglwyddes—ond nid tywysog wyf.

Abisâg
(Gan wenu arno.)
Ac nid arglwyddes finnau,—ond ar delyn.

Meffiboseth
(Gan wenu yntau am y tro cyntaf.)
Na minnau'n arglwydd, ond ar gerfio coed.

Abisâg
'Rwyt tithau'n grefftwr?... Dwed im beth a gerfi.

Meffiboseth
Llun carw a ddihangodd rhac y cŵn
At draed bugeiles deg, tan ddail y gwinwydd,
Ac a orweddodd yno heb ofni angau
O deimlo'i thyner law ar gur ei ben...
Arglwyddes Telyn, a gaf i wneud it gist?

Beneia
Rhaid iti frysio, 'r cyw! Oherwydd sydyn
Yw barnau'r Brenin.

Abisâg
(Wrth Meffiboseth yn wawdlyd am Beneia.)
Maddau foesau llys
Crachach fel hwn na wybu urddas Saul.



Cyn bod cynddaredd Beneia wedi ffrwydro armi am y sarhad, daw Solomon i mewn trwy Borth y Gwragedd. Bachgen tua 17 oed ydy, wedi ei wisgo mewn maniell fraith, orwych. Delir ei wallt mewn cylchyn arian cul, ysgafn, lywysogaidd. Wrth ei wregys mae'n cario tabledi pren, gorchuddiedig â chŵyr, a phin o ddur, sef offer sgrifennw'r cyfnod.

Bachgen gwybodus, ond preplyd ei barabl, a'i ragaeddfedrwydd braidd yn ddiflas gan bobl hŷn. Mae'n dra sicr ohono'i hun ac yn dra ymwybodol o'i safle fel tywysog, ac (yn ôl pob argoel) fel olynydd Dafydd.

Ymgryma Joab a Beneia iddo ar ei ddyfodiad i'r neuadd.

Ymgrymiad pen, bychan a ffurfiol, gan yr hen gadfridog, ymgrymiad llaes, o'r wasg, gan Beneia. Cyfyd Abisâg hithau i ymgrymu a phlygu glin (cyrtsi). Erys Meffiboseth ar ei eistedd gan na fedr gael at ei faglau tan y fainc, heibio i'r fan lle'r ymgryma Abisâg.

Beneia
Dydd da i'n Twysog Solomon, lleufer llys.

Solomon
Dydd da, foneddigion... Gapten, beth yw "lleufer"?

Beneia
"Lleufer," Dywysog, yw goleuni disglair, —
Dy dad yw'r haul, dy freiniol fam yw'r lloer,
Ac ynot cydgyferfydd eu disgleirdeb.

Solomon
(Yn ysgrifennu.)
Ac felly, "lleufer"! Rhaid im gofio'r gair.
(Yn croesi at Meffiboseth.)
A phwy yw hwn, na chyfyd pan ddaw "lleufer"
I mewn i'r neuadd?... Ddiogyn ar dy eistedd,
Dos at y morgrug...

Meffiboseth
Maddau im, Dywysog,
Yr wyf yn gloff o'm deudroed, a'm dwy faglan
O'm cyrraedd tan y fainc. Crymais fy mhen
I gyfarch mab y brenin. Ni allwn fwy.

Solomon
(Wrth Abisâg.)
A phwy wyt ti?

Abisâg
Myfi yw Abisâg,
Dy wasanaethferch, Dwysog, o fro Sŵnem,
A ddaeth i ganu i'th Dad, y Brenin claf.

Joab
Y delynores orau yn y deyrnas.
Ni fedd apothecari ddim fel balm
Ei llais gan dant at godi calon drom.
Myfi a'i cyrchais hi i lys y brenin.

Solomon
"Fel finegr ar neitr ydyw'r neb
A gân ganiadau llon i galon drist."
— Dihareb 'ddysgais i gan Nathan Broffwyd.
(Wrth Abisâg.)
O Sŵnem, ddwedaist-ti?

Abisâg
Ie, Dywysog.

Solomon
Mi glywais glod ei chân i Rosyn Saron,
Rhaid iti ei dysgu imi.

Abisâg
Anrhydedd fydd.

Beneia
Yr olaf o Dŷ Saul yw'r efrydd hwn.
Â'r fantell garpiog. Dy frenhinol dad
A'i galwodd yma fel y gwypai'i ddedfryd,
A'i enw yw Meffiboseth.

Solomon
O Dŷ Saul
Fu'n ymladd â Thŷ Dafydd trwy'r blynyddoedd
Nes eu dinistrio?

Meffiboseth
Nid ymleddais i.
Ac ni bu cweryl rhwng fy nhad a'th dad.

Solomon
Ai gŵr heddychol oedd?

Meffiboseth
Yng nghanol rhyfel
Y cwympodd-ô, ar bentwr cyrff Philistiaid,
A phedair saeth trwy'i fron.

Abisâg
Mab ydyw hwn
I'r Twysog Jonathan, cyfaill mawr dy dad.

Solomon
Roedd hynny cyn fy ngeni; 'chlywais-i ddim
O'r hanes. Ond mae mab rhyfelwr dewr
Yn haeddu pob ystyriaeth. Mynnaf air
Â'm tad, y brenin, ar dy ran. Mi rof
Yr enw ar fy nhabled i'm hatgoffa.
(Yn barod i sgrifennu.)
Beth hefyd, ddwedaist-ti, oedd enw dy dad?

Meffiboseth
Ei enw, Fab y Brenin, ydoedd Jonathan.

Solomon
(Yn ysgrifennu.)
Jo-na-than.
(Yn ymfalchïo.)
A fedri di sgrifennu?

Meffiboseth
Ni ddysgwyd imi grefft ond cerfio coed
Yn ddail a blodau...

Solomon
O! ni fedri ddarllen
A thithau'n fab Tywysog?

Meffiboseth
Petai 'nhad...

Solomon
Ond o ran hynny, nid oedd sgrifennu a darllen
Mor bwysig i Dŷ Saul. Brenhiniaeth Dafydd,
Estynnwyd honno hyd lannau pell Iwffrates,
(Gan gerdded draw i ddangos ei mawredd.)
A daw llythyrau inni o lawer gwlad
Yn ceisio cynghrair. Gwir fod gan fy nhad
Gofiadur hyddysg, ac ysgrifennydd doeth
I'w hateb trosto, ond pan ddof fi i'r orsedd,
(Fe esgyn i'r Orsedd ac eistedd arni'n fawreddog tan esgus sgrifennu.)
Sgrifennaf at bob teyrn â'm llaw fy hun.
A bydd ysgolor ar yr orsedd hon.



Edmygedd sydd yn llygaid Beneia wrth foes-ymgrymu i'r Orsedd; diflasiod yn llygaid Joab wrth droi oddi wrth yr Orsedd at y Porth. Daw'r Frenhines Bathseba i mewn trwy Borth y Gwragedd a saif mewn dychryn o weled rhyfyg annhymig ei bachgen.

Gwraig dal ac urddasol, tua deugain oed, yw Bathseba, ac er ei bod hi'n awr wedi ymfrasáu gwelir ynddi o hyd olion yr harddwch a ddenodd Dafydd gynt.

Y mae ei cherddediad yn rheiol a'i hystum yn osgeiddig, o ferch mor drom. Dwfn a llawn nwyd yw ei llais; ac at alw gall fod yn awdurdodol. Dwfn hefyd ei natur; gall feddwl yn gyflym a chyfrwys, a gweld ymhell. Cyfarwydd ydyw â holl ystryw politicaidd y llys, ac nid er dim y rhestrwyd hi ymhlith cynghorwyr y Brenin.

Fflam loyw ei chorff a dynnodd Dafydd ati ar y cyntaf, fel gwyfyn at gannwyll; ond fflam loyw ei meddwl a enillodd iddi le arhosol yn ei barch—fel ei frenhines a'i ddoeth gynghorwr uwchlaw ei wragedd oll. Solomon, wrth gwrs, yw cannwyll ei llygad, ac fe ganolbwyntiodd hi ei holl fryd a'i holl ewyllys a'i holl adnoddau ar ddiogelu iddo'r olyniaeth. Mae Solomon yn ei haddoli.

Y mae ei gwisg liwus, ysblennydd, a'i thlysau lawer, a fflach ei choroned ysgafn, emog, yn wrthgyferbyniad llwyr i symlrwydd hyfryd gwisg Abisâg.

Esgus o gerydd sydd yn ei llais yn awr wrth gyfarch ei mab, gan sylweddoli wrth agwedd cefn Joab fod Solomon y tro yma wedi mynd yn rhy bell.

Bathseba
(Wedi delwi wrth y Porth.)
Solomon!
(Ymgryma pawb iddi, megis o'r blaen i'r tywysog.)
Disgyn ar frys o uchel fainc y Brenin!

Beneia
(Yn wên i gyd.)
F'arglwyddes, nid oedd hyn ond chwarae plant
Heb unrhyw fwriad drwg.

Bathseba
Gadfridog Joab,
Nid ti a ddwedodd wrtho?

Joab
(Gan syllu i'r ardd.)
Nage, ddim.

Bathseba
(Wrth Solomon.)
Ar unwaith, ymddiheura i'r Cadfridog!

Joab
(Gan droi ati.)
Nage, F'arglwyddes. Gad i'r bachgen fod.
Na feier gormod arno. 'Doedd y cast
Ond gwers a bwniodd athro ffôl i'w ben
Wrth ddysgu darllen.

Solomon
(Yn ddiniwed iawn.)
Dweud yr oeddwn-i Mam,
Wrth fab tywysog, y dylai tywysogion
Tan y frenhiniaeth newydd fedru darllen,
I helpu'r Brenin.

Bathseba
(Heb weled neb arall yn y neuadd wedi ei wisgo fel mab tywysog.)
Dweud wrth ba fab twysog?

Solomon
Wrth Meffiboseth yma. _ Mae o'n gloff,
A'i faglau tan y fainc; fedr-o ddim sefyll.
Ond mab i dwysog ydyw, meddai wrthyf,
Ac enw'i dad—arhoswch—(Trem ar y tabled.) ydoedd
Jonathan.

Bathseba
(Yn anghofio'i cherydd i Solomon wrth glywed yr enw hwn ac yn ymchwerwi.)
Tŷ Saul! Tŷ Saul! Pa hyd y'n blinir ganddynt?
Pa hyd bydd Gorsedd Dafydd mewn enbydrwydd?

Beneia
Dyma'r cyw olaf un o nyth y neidr.
Sathred y Brenin heddiw ar ei ben,
A dyna ddiwedd arnynt!

Meffiboseth
Trugarha,
Frenhines hawddgar, nid oes ynof golyn,
Na gwenwyn at dy fab, na chwant gorseddfainc,
Na had gwrthryfel. Edrych ar fy nhraed.
Pwy a'm cyfodai i i arwain byddin?
Tosturia wrthyf!

Bathseba
(Yn meddalhau beth.)
Ai yn gloff y'th aned?

Meffiboseth
Nage, arglwyddes:—Maddau 'mod i'n eistedd
I ddweud fy stori wrthyt—Wedi brwydr
Mynydd Gilboa, pan gwympodd Saul a Jonathan,
Rhuthrodd yr haid Philistaidd hyd at blas
Fy nhad i ladd a llosgi ac ysbeilio.
Fe ffodd fy mamaeth gyda minnau'n faban
A'r fflamau'n lliwio'r nos; ond yn ei brys
A'i dychryn fe'm gollyngodd ar y cerrig;
Torrwyd fy fferau. Cawsom loches gudd
Yn nhŷ Machir, un o dyddynwyr Saul.
Eithr o ddiffyg meddyg yn ein cuddfan
Asiodd fy fferau'n gam. Ni cherddais byth
Heb help ffyn baglau.

Abisâg
(A'i llygaid yn llaith gan y stori.)
Ac yn nhŷ Machir
Y bu'n preswylio hyd heddiw fel gwerinwr,
Heb dir na chyfoeth, ond y ddawn a roes Duw
I'w ddwylo cywraint, yn lle'i efrydd draed.
Mae'n ennill ei fywoliaeth fel cerfiwr coed
A lluniwr cistiau celfydd. (Gan benlinio.) Trugarha,
Frenhines deg;—ymbil am einioes crefftwr.

Bathseba
A phwy wyt ti sy'n gofyn imi ymbil?

Abisâg
Dy wasanaethferch Abisâg, f'arglwyddes,
A ddaeth i ganu i'r Brenin.

Solomon
O Sŵnem, Mam,
Bro enwog am ei lili a'i chanu serch.
Addawodd ddysgu "Rhosyn Saron" imi.



Cerdda'r Frenhines at yr eneth sydd ar ei gliniau'n ymbil o hyd. Cymer ei gwddf rhwng ei dwylo a'i hanner-dagu.

Bathseba
(Yn gynddeiriog.)
Myn enw Belial! Ai rhy wag oedd tŷ
Y gordderch wragedd, fel bod rhaid wrth hon
O ardal Sŵnem eto i'w gysuro?
Clyw'r ffolog, dos yn ôl i dŷ dy dad.
Aeth Brenin Israel yn hen, —yn hen, yn hen!
Mae'i waed o'n oer. Mae'n cysgu wrtho'i hunan.
'Does iddo ddim diddanwch mewn llancesi!
(Gan ei bwrw i'r llawr.)

Abisâg
(O'r llawr, mewn dagrau, gan deimlo'i gwddf dolurus.)
Nid gordderch wyf, f'arglwyddes.

Bathseba
(Yn ymbwyllo beth.)
Beth a ddwedaist?

Joab
Nid gordderch yw, ond telynores gywrain
A merch pendefig. Gwael i Frenhines Israel
Sarhau'r forwynig dirion hon, a ŵyr
Holl Salmau Dafydd a holl rin ei delyn.

Bathseba
(Wedi llwyr newid.)
Ni wyddwn i.

Joab
O garedigrwydd daeth,
A hynny heb ofyn gwobr nac unrhyw dâl,
I ganu ei delyn iddo, a chodi'r cwmwl
Sydd ar ei ysbryd blin, os myn y nef.



Yn edifeiriol iawn, y mae Bathseba, yn cymryd pen y llances yn dyner rhwng ei dwylo ac yn edrych yn nwfn ei llygaid.

Bathseba
Maddau, fy mhrydferth. Gwelaf nad oes dichell
Yn nwfn y llygaid hyn. Maddau, yn wir,
Im fod mor fyrbwyll. (Yn anwesu ei phen.) O mor dlws dy wallt.
Cymer y freichled hon yn anrheg gennyf.
(Yn diosg breichled a'i hestyn iddi.)

Abisâg
Ni cheisiaf wobr.

Bathseba
Ond gwisg hi'n arwydd cymod.

Abisâg
(Yn ei gwisgo.)
Byth nid ymedy â'm braich, Frenhines Israel.

Bathseba
Cyfod. Rhaid imi dy gofleidio di.
(Cyfyd y Frenhines yr eneth ar ei thraed a'i chofleidio mewn cymod.)

Abisâg
F'arglwyddes, trugarha wrth Meffiboseth,
Y crefftwr nas dirymodd gwawd y Capten,
A derbyn yntau gyda mi i'th gymod.

Bathseba
(Gan wenu ar y ddau.)
Mi wnaf, fy nhlos. Boed hynny'n iawn brenhinol
Am y sarhad. A phan gyfodo'r Brenin
Mi blediaf drosto.

Meffiboseth
(Y cael ei faglau a chyfodi i ddiolch.)
O, Frenhines Rasol,
Yn fy ngweddïau beunydd cofiaf di...
Yn fy rhyfeddod 'mod i eto'n fyw.
Rhoed Duw i'r Brenin estyn edau f'einioes.
(Â gwên chwerw.)
Mae ar gardotyn efrydd eisiau byw!

Bathseba
(Yn edmygu ei ddewrder, er gwaethaf ei llid at Dŷ Saul.):
Cei fyw, fachgennyn dewr, os caf fi ffafr
Y Brenin heddiw. Dywed Abisâg,
Pa gân o salmau Dafydd a ddewisaist
I'w chanu iddo'n gyntaf yn ei lys
Er bwrw'i flinder ysbryd?

Abisâg
Caniatâ
Im ganu cân yn gyntaf, fwyn arglwyddes,
O barch i ddewrder y bachgennyn hwn.
(Gan symud ac eistedd ar yr esgynlawr a chodi'r delyn ar ei glin.)

Solomon
Pa gân fydd honno?

Abisâg
Y gân a wnaeth dy dad
Mewn galar am ei dad, pan ddaeth newyddion
Am gwymp ei gyfaill pennaf yn Gilboa.
Gwrando hi, Meffiboseth, a barna di
A raid it ofni'r gŵr a ganodd hyn
Am ddewrder Jonathan a'i garïad ato:
(Yn canu tuag at Meffiboseth gyda'r delyn, â'i chefn at Borth y Brenin.)

Pa fodd y cwympodd Llyw mor ddewr
A grymus yn y gad?
Pa le 'r oedd nawdd ei fryniau ban
A hen allorau'i wlad?

Fryniau Gilboa, na ddoed mwy
I'ch oeri law na gwlith,
Am dywallt ffrydlif boeth o waed
Tywysog Duw i'ch plith.

Cynt oeddit nag yw'r eryr chwim,
A chryfach nag yw'r llew;
Beth ddarfu i'th darian rhag y saeth?
Beth ddarfu i'th gleddyf glew?

Llesg wyf gan hiraeth ar dy ôl,
Fy nghymrawd Jonathan;
Tu hwnt i gariad gwragedd oedd
Y cariad ddaeth i'n rhan.

O Ardderchowgrwydd Israel, dwfn
Fy nghlwyf a di-wellhad.
Pa fodd y cwympodd Llyw mor ddewr
A grymus yn y gad?



Y mae pawb ohonynt yn canolbwyntio'u holl sylw arni, tan swyn ei dull o ganw'r alarnad,—Beneia, Bathseba a Solomon ar yr ochr chwith iddi wrth Borth y Gwragedd, Joab ar y dde iddi wrth Borth yr Ardd, Meffiboseth i'r dde yn gorffwys ar ei faglau ger ei fainc, gan syllu i lawr arni, a'i wyneb yn goleuo o wrando am wrhydri ei dad.

Ni sylwodd neb ohonynt fod Dafydd a'i ddau Gynghorwr erbyn diwedd yr ail bennill wedi cyrraedd hyd Borth y Brenin. Saif yno fel delw, â'i fraich ar yr ystlysbost de, wedi ei gyfareddu gan y gân, a'i wyneb cuchiog, cymylog, dan deimlad dwys. Saif Hŵsai ac Ahitoffel ychydig y tu ôl iddo wrth yr ystlysbost chwith. Er ei heneiddio, mae'r Brenin yn ei gario'i hun ag urddas. Yn ystod y gân cilia'r cuwch yn raddol o'i wedd.

Ar ddiwedd y gân, fe eistedd Abisâg yn dawel yn ei hagwedd nodweddiadol, â'i phen yn crymu ar y delyn.

Y Frenhines yw'r gyntaf i ddeffro o'r cyfaredd, ac i sylwi fod y Brenin yno, ac i dorri ar y dwys ddistawrwydd.

Bathseba

Fy Arglwydd Frenin!



Ysguba i lawr mewn cyrtsi isel iddo. Felly hefyd Abisâg, gan roi'r delyn i lawr a throi i'w wynebu.

Ymgryma'r meibion eu pennau mewn parch. Yn araf cerdda Dafydd i'w orseddfainc ac eistedd arni'n drwm a gostwng ei ben, a chuddio'i wyneb â'i ddwylo. Saif Hŵsai ac Ahiloffel ychydig yn ôl, y naill ar y dde a'r llall ar yr aswy i'r orseddfainc.

Distawrwydd.

Pan ostwng y Brenin ei ddwylo a dyrchafu ei wyneb, y mae pob argoel o'r cwmwl wedi cilio. Bron nad oes arlliw o wên ar ei wedd wrth gyfarch Bathseba.

Dafydd
Dydd da, fy Mrenhines.

Bathseba
(Yn codi ac yn cymryd cam at yr Orsedd gan ddangos y cloff.)
Wele, fy Arglwydd Frenin, Meffiboseth,
Unig fab Jonathan, yn dlawd a chloff,
I'th gyfarch ac i erfyn dy drugaredd.

Dafydd
(Yn dosturiol tan ei anadl.)
Mab Jonathan!

Meffiboseth
(Yn dynesu at yr Orsedd ar ci faglau gan grymu ei ben, ond heb ddringo'r esgynlawr.)
Trugaredd, Frenin grasol!

Dafydd
Mab Jonathan mewn carpiau! Gapten Beneia!

Beneia
F'Arglwwydd!...

Dafydd
Cyrch ymo'r fantell fraith sy ar fy ngwely.
(Ymgryma Beneia a myned i ystafell y Brenin i gyrchw'r fantell fraith, dywysogaidd.)

Meffiboseth
(A'r dagrau o'r diwedd yn ei lais.)
O Frenin mawr a grasol, beth wyf fi
It edrych ar gi marw, cloff, o'm bath?

Dafydd
(A'r dagrau yn ei lais yntau.)
Mab Jonathan yn gloff!... Dwg ef i eistedd,
Gadfridog Joab... Mae cwrteisi ein llys?



Dwg Joab ef i astedd ar fainc yr eirchiaid ar y dde, a dychwel i'w le ger Porth yr Ardd. Rhydd yntau ei faglau tan y fainc, a cheisio cuddio'r tyllau yn ei glog rhag llygad y Brenin.}

Dafydd
Mab Jonathan yn dlawd!—Fy machgen, gwrando,—
Rhoddaf yn ôl i'th gadw dir dy dadau.
Nac ofna mwyach. Mab fy nghyfaill wyt.
(Daw Beneia yn ôl â'r fantell ysblennydd ar ei fraich.)
(Wrth Beneia.)
Diosg ei garpiog glog, a dyro'r fantell
Fu gennyf fi fy hun dros ei ysgwyddau.
(Nid gwiw gwrthod, ond mae'n amlwg nad yw calon Beneia yn y gwaith.)
(Wedi gweled arwisgo'r bachgen â'r fantell dywysogaidd.)
Gwrandewch i gyd!
(Gan amneidio ar Joab, Hŵsai, Ahitoffel a Beneia.)
O'r dwthwn hwn ymlaen
Bydd Meffiboseth megis mab i mi.
Bwyty ar fwrdd y Brenin. Telwch iddo
Yr un wrogaeth ag i'n tywysogion.



Ymgryma iri o'r swyddogion iddo ar unwaith, a phrysura Beneia—tan lygad y Brenin—i ddilyn eu hesiampl. Gwena Dafydd yn garuaidd.

Dafydd
Hyn oll, fy machgen, er mwyn Jonathan.

Meffiboseth
Tad pob amddifad tlawd a dalo iti.
Gwelodd fy llygaid heddiw fawredd Dafydd,
A Duw a sicrha dy orsedd byth.

Dafydd
(Gan amneidio ar Abisâg, sy'n aros o hyd yn ymgrymw'n isel ar ris yr esgynlawr gerllaw'r delyn.)
Tyred ac eistedd yma.
(Gan bwyntio at y droedfainc i'r chwith o'r Orseddfainc. Ufuddha hithau.)
Pwy wyt ti?

Abisâg
Dy wasanaethferch Abisâg, O Frenin,
A Sŵnamês.

Dafydd
Ple dysgaist ti fy nghân?

Abisâg
Fe'i dysgais gartref, f'arglwydd, gan fy nhad.
Yr oedd o'n un o'th gedyrn gynt, ar herw,
A'i enw yw Eleasar.

Dafydd
(Yn llawen.)
'Rwyt ti'n ferch
I Eleasar? Cymrawd llawer cad.
(Wrth Joab ac yn gwenu wrth yr atgof.)
Fe drawodd gymaint o'r Philistiaid, Joab,
Nes glynu o'i ddeheulaw wrth y cleddyf
A'i fraich yn ddiffrwyth dro, ar ganol cad.
Pa fodd y ffynna fy hen gymrawd gynt?

Abisâg
Yn dda, fy arglwydd, ar y tir a roddaist
Yn wobr hen filwr iddo yn Sŵnem ffrwythlon;
A'r llaw fu'n glynu wrth gledd yn glynu wrth gryman.

Dafydd
A chanddo y dysgaist fy ngalarnad?

Abisâg
Ie,
A'th salmau gan fy Mam, sy'n Sŵnamês,
A hi a ddysgodd imi ganu'r delyn.

Dafydd
(Yn atgofus.)
Peraidd ganiedydd Israel gynt y'm galwent
Pan gyrchodd gwŷr fi'n llanc o blith y praidd
I wared Saul. (Ochenaid.) Mae dyn yn mynd yn hen.
Mwynder ieuenctid,—cynt na'r bore wlith
Ymedy hwn.
Ond heddiw clywais lais
A'm dug yn ôl i Fethlehem fy ienctid,
I ffresni ei blodau ac i'w phorfa serog,
A lliwiau'r Eden goll ar daen i gyd.
Mi glywais lais yn moli cyfeillgarwch
Uwch marwol don,—pan oedd y fron heb frad.
Bendithiaf Dduw a'th yrrodd ataf heddiw,
Bendithiaf dithau a'm lluddiaist â'th hyfrydlais
Rhag tywallt gwaed y gwirion, ac ymddial
Ar lanc diniwed,—er mwyn Jonathan.

Abisâg
(Yn ostyngedig.)
I Dduw bo'r clod, a'm cymerth i'n offeryn.

Dafydd
'Rwy'n hen a blin, ond hoffwn petai'r llais
A glywais heddiw'n aros gyda'r brenin
Yn ei fynediad a'i ddyfodiad fyth.

Abisâg
Nid am dy fod yn frenin, nid am fod
Arswyd dy gledd ar wledydd ein gelynion,
Nid am fod clod it fel gwladweinydd mawr,
Ond am dy fod yn fardd, a rhin y wawr
Ddihenydd yn dy gân yn mynd i ddeffro
Dychymyg glân ieuenctid llawer oes,
Fel y deffrodd hi finnau;
(Gan benlinio a chusanu ei law.) Cymer fi,
Dy delynores ydwyf heddiw a byth.

Dafydd
(Â'i law ar ei phen mewn bendith.)
Yr Arglwydd Dduw a dalo it dy ras.
Er hynny, ni rown fyth aderyn gwyllt
I fyw mewn cawell a gofyn ganddo gân.
Yr wyt ti'n rhydd bob dydd i fynd a dyfod,
Fy Swnamês, fel un o blant y brenin.
Yr wyt ti'n rhydd i ofyn anrheg hael
Yn wobr dy ganu ganddo; nid gŵr tlawd
Yw Brenin Israel.
(Gan gynnig iddi fodrwy emog oddi ar ei law.)
Cymer y fodrwy hon.

Abisâg
(Yn ysgwyd ei phen.)
Un wobr a geisiaf fi am ganu i'r Brenin—
Ei weld yn llawen, weddill dyddiaw'i oes.

Dafydd
(Tan wenu.)
A pheth yw rhin llawenydd, lances fwyn?

Abisâg
Mae'i rin yn syml—gellit ei roi mewn gair.

Dafydd
Dysg imi'r gair, ac fel mai byw yr Arglwydd,
Mi a'i llefaraf yng ngwylfeydd y nos.

Abisâg
Gair dy lawenydd di yw—"Absalom."



Yn ystod yr ymddiddan uchod, bw'r lleill yn ymateb yn nodweddiadol. Beneia, Solomon a Bathseba, yn ffurfio yn un grŵp â sgwrs dawel rhyngddynt. Joab a Meffiboseth yn ffurfio un arall, ond bod llygad a chlust Joab yr un pryd ar bob datblygiad o'r ymddiddan wrth yr Orsedd, megis y mae'n amlwg bod llygad a chlust y Ddau Gynghorwr o'r cychwyn. Fel y bo'r ymddiddan am y wobr yn dyrchafu i'w huchafbwyni, atelir pob sgwrs arall. Ac y mae sioc y gair gwaharddedig "Absalom" fel sioc saeth i ganol ystafell dawel. Braidd na chlywn ni hwy'n llyncu anadl yn frawychus yn y saib. Yna, â'r eneth rhagddi mor ddi-droi'n ôl â Thynged. Yn wir, onid offeryn Tynged yw?

Abisâg
Anfon dy fodrwy iddo i Gesŵr
Yn arwydd cymod. Nid oes llonder mwy
Na llonder tad sydd wedi maddau i'w fab.
(Gan estyn ei dwylo mewn ymbil.)
Er mwyn llawenydd, galw Absalom!



Try'r Brenin ei ben yn araf am ymateb y ddau Gynghorwr a Joab. Penliniant, hwythau gan estyn eu dwylo mewn ymbil.

Ahitoffel
Er mwyn y llwythau, galw Absalom!

Joab
Er mwyn y fyddin, galw Absalom!

Hŵsai
Er mwyn dy orsedd, galw Absalom!



Oddi wrth tableau y grŵp ymbilgar hwn try'r Brenin ei olygon i'r chwith lle mae'r Frenhines wedi gafael am Solomon yn ddiffynnol, a Beneia'n barod i'w gwarchod.

Dafydd
Beth yw dy gyngor dithau, fy Mrenhines?

Bathseba
Ni ddychwel byth. Caledu a wnaeth ei galon
Ym mhebyll llwyth ei fam; ni cheisiodd gymod
Â'i dad trwy dymor ei alltudiaeth hir.

Dafydd
Ac er fy hiraeth, nid anfonais air.

Beneia
Gan hynny, Frenin, ped anfonit heddiw
Ar ôl distawrwydd hir, onid fel gwendid
Yn Israel y cyfrifai yntau hyn,
A chroesi'r ffin â gwrthryfelgar blaid
I'w wneud ei hun yn frenin yn dy le?

Dafydd
Beneia! Am fy mab yr wyt-ti'n sôn!

Bathseba
(Gan anwesu Solomon.)
Ond cofia'i drosedd—lladd ei frawd ei hun!
Mae gan y Brenin feibion mewn oed tyner;
Ai iawn gan hynny galw llofrudd adref?

Dafydd
Iawn, pan fu'r Brenin yntau'n llofrudd. Iawn!

Bathseba
(Yn protestio tan ei hanadl ac wedi ei chlwyfo.) O!

Dafydd
Gwnaf, lances, mi anfonaf am fy mab.



Ymateb cynhyrfus gan blaid y Frenhines. Llawenydd ar wedd y ddau Gynghorwr.

Joab
(Yn codi ar ei draed yn llawen ac agosáu at yr Orsedd.)
Yn awr, fy Mrenin, gwn im dderbyn ffafr
Yn d' olwg am fy holl ryfeloedd erot.
—Cyflawnaist ddyheadau dwys dy weision.

Dafydd
Ni chredi-di, Joab, fel ein doeth Frenhines,
Mai ofer anfon?—Na ddychwelai byth
O dir Gesŵr? Fod balchder yn ei war?

Joab
Mae cennad o Gesŵr nawr yn yr ardd
Tan ofal Cŵsi'n aros am dy weled,
—Hen ŵr o fugail o'r bugeiliaid nomad;
Daeth yma ar ran Absalom.

Dafydd
(Rhwng pryder a llawenydd.)
Wyt-ti'n siŵr?

Joab
Gofyn y mae am arwydd o'th faddeuant,
A'i warant ydyw modrwy aur dy fab.
A fynni ei weld?

Dafydd
Mynnwn, yn enw Duw!



Try Joab ai y Porth ac wedi galw Cŵsi," fe amneidia arno ddwyn yr hen fugail i'r neuadd. Tra bônt yn dod i lawr llwybr yr ardd, eglura Joab i'r brenin beth arall am yr hen fugail.

Joab
Nid yw'n llefaru ein tafodiaith ni,
Ond mae'n ei deall.



Ymddengys Cŵsi a'r Hen Fugail ym Mhorth yr Ardd. Saif Cŵsi ynghanol y Porth fel gwyliwr, a'i gleddau noeth o'i flaen; dygir y Bugail ymlaen at yr Orsedd gan Joab. Ymgrymant i'r Brenin.

Joab
F'arglwydd, dyma'r gennad.



Cymer ei ffon fugail oddi arno. Amneidia'r Brenin arno ddyfod i fyny grisiau'r esgynlawr.

Dafydd
Croesoi'n llys!...
Cennad y Twysog wyt?
(Gogwydda'r Hen Fugail ei ben i'w ateb a deil allan fodrwy Absalom.)
(Yn gyffrous iawn wrth ei hadnabod hi a'i derbyn, a'i dal i fyny.)
Pa raid wrth ragor?
—Modrwy fy mab yw hon!
(Cyffro yn y Llys.)
Dwg dithau iddo ef fy modrwy innau
Yn arwydd cymod a maddeuant tad,
A bod pob croeso iddo adre'n ôl.



Fe estyn y Brenin ei fodrwy yntau i'r Hen Fugail, sy'n gwyro'i ben i'w chusanu, ac yna'n troi am y Porth i ymadael. Ond cyn iddo gyrraedd o'r esgynlawr i lawr y Neuadd fei hatelir gan genadwri olaf y Brenin.

Dafydd
(Yn gweiddi ar ei ôl dan deimlad dwys.)
Arch iddo frysio, cyn bod fy mhenwynni'n
Disgyn mewn hiraeth mawr amdano i fedd.



Eiliad, ac fe chwipia'r Hen Fugail y fantell laes a'r cwfl yn gyflym oddi amdano gan droi o gylch i wynebu'r gynulleidfa. O'n blaen fe saif y Tywysog Absalom yn ei holl harddwch talgryf â'i hirwallt gloyw, a'i wisg dywysogaidd.

Wedi ennyd o sioc, y mae pob un yn ymateb yn ei ffordd bersonol yn ôl ei blaid, a rhed y sibrwd "Absalom" trwy'r holl neuadd. Mae'r Brenin ar ei draed, yn gwegian fel petai'n methu coelio tystiolaeth ei lygaid ei hun. Llais ei fab sy'n torri argae olaf ei deimladau.

Absalom
(Yn ei fwrw ei hun ar ei liniau o flaen y Brenin.)
Fy Nhad a'm Brenin!

Dafydd
(Yn ei godi a'i gofleidio, a'i gofleidio,—a'i lef orfoleddus yn dyrchafu drwy'r tŷ.)
Absalom, fy mab!


LLEN

a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2