Absalom Fy Mab

Cue-sheet for Absalom

(Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
 
(1, 0) 957 Fy Nhad a'm Brenin!
(Dafydd) {Yn ei godi a'i gofleidio, a'i gofleidio,—a'i lef orfoleddus yn dyrchafu drwy'r tŷ.}
 
(2, 1) 1028 Yn ara' deg, frawd bach, yn ara' deg!
(2, 1) 1029 Y mae ailddechrau rywbryd ar bob chwarae,
(2, 1) 1030 —Ar chwarae gwyddbwyll ac ar chwarae teyrnas.
(2, 1) 1031 Mynwes yr ynfyd sy'n coleddu siom
(2, 1) 1032 Y collwr sâl.
 
(2, 1) 1034 Mae'r werin dost ar lawr
(2, 1) 1035 Ar ôl dy chwyldro sydyn; onid braint
(2, 1) 1036 Tywysog yw eu codi?
(Solomon) {Yn edifeiriol ddigon, wrth eu casglu.}
 
(2, 1) 1044 Llawn digon imi ddweud
(2, 1) 1045 Wrth fy mrawd bach fel hyn.
 
(2, 1) 1047 Gwêl, Solomon,
 
(2, 1) 1049 Fy ngherbyd ar y ífordd, wrth borth y brenin;
(2, 1) 1050 Y grymus Metheg-Ama ydyw gyrrwr
(2, 1) 1051 Y ddau farch du, porthiannus. Esgyn dithau
(2, 1) 1052 A Meffiboseth iddo, ac fe'ch dwg
(2, 1) 1053 Trwy borth y ddinas ac am dro i'r wlad.
(Solomon) {Yn awchus.} Ac yno a gaf i gymryd yr awenau?
 
(Solomon) {Yn awchus.} Ac yno a gaf i gymryd yr awenau?
(2, 1) 1055 Ti gei,—tan wers a gofal Metheg-Ama;
 
(2, 1) 1057 A'r dydd y dwedo wrthyf fod dy freichiau
(2, 1) 1058 Yn ddigon cryf i drin dau geffyl nwyfus,
(2, 1) 1059 Heb droi fy ngherbyd, mi rof anrheg iti—
(2, 1) 1060 Cerbyd i ti dy hun â dau farch gwyn.
(Solomon) {Yn ei anwesu.}
 
(Solomon) Brysia ar unwaith! Ple mae'r baglau? Brysia!
(2, 1) 1064 Gan bwyll!—O wers i wers mae dysgu gyrru
(2, 1) 1065 Y cerbyd hwn,—fel cerbyd y wladwriaeth.
 
(2, 1) 1067 Gall diffyg pwyll rhwng brodyr droi y ddau.
(Dafydd) Dydd da, fy meibion.
 
(Dafydd) Ryw ddydd ar beraroglus rin brawdgarwch.
(2, 1) 1077 Dydd da i'n harglwydd a'n brenhinol dad.
(Hŵsai) Newyn yn Gilgal, a newyddion drwg
 
(Hŵsai) Yn ddigon i orbwyso pob gorthrymder.
(2, 1) 1081 Newyddion drwg o Hebron, lle y'm ganed?
(Ahitoffel) Ie, o Hebron. 'Roedd ein harglwydd frenin
 
(Ahitoffel) Ar osod ein prifddinas yng Nghaersalem.
(2, 1) 1089 Nid rhyfedd chwaith! Fy Hebron hardd a hen,
(2, 1) 1090 A'i chastell tyrog yng Nghadernid Jwda,
(2, 1) 1091 A'i thraddodiadau 'n ôl at Abraham
(2, 1) 1092 A Sara, sydd â'u hesgyrn yno'n huno'n
(2, 1) 1093 Ogof Macpela; Hebron sydd â'r heniaith
(2, 1) 1094 Yn groyw, gadarn, ar dafodau'i phlant,
(2, 1) 1095 Nid megis bratiaith y Jebiwsiaid hyn
(2, 1) 1096 O'n cwmpas yng Nghaersalem.
(Dafydd) Ond mewn cyrch
 
(Dafydd) Ag adeiladau teilwng o Brifddinas.
(2, 1) 1102 Nid adeiladau sydd yn gwneud prifddinas;
(2, 1) 1103 Nid urddas gair y brenin na'i gynghorwyr,
(2, 1) 1104 Ond urddas llên ac iaith a hir wasanaeth.
(Ahitoffel) Mae Hebron wedi gwrthod treth y Brenin.
 
(2, 1) 1109 Frodyr da, dywedwch
(2, 1) 1110 Beth sydd yn uno cenedl tan brifddinas?
(Solomon) Beth sydd yn uno cenedl? Cyfraith union
 
(Solomon) Hyn sydd yn uno cenedl.
(2, 1) 1114 Meffiboseth?
(Meffiboseth) Tegwch bro, a serch ei llwythau'n clymu
 
(Meffiboseth) Fe fyddai'n wiw gan ddyn gael marw drosti.
(2, 1) 1124 Beth sydd yn uno cenedl, F'arglwydd Joab?
(Joab) 'Does dim sy'n haws i'w ateb,—Byddin gref.
 
(Dafydd) Beth sydd yn uno cenedl, Absalom?
(2, 1) 1141 Crefydd sy'n uno cenedl, f'arglwydd frenin.
(2, 1) 1142 Un Duw, un allor, un teyrngarwch dwys,
(2, 1) 1143 Yn asio llwyth wrth lwyth yn fflam un ffydd.
(2, 1) 1144 Am hynny, f'arglwydd frenin, dyma 'nghyngor;
(2, 1) 1145 Gwneler Caersalem yn brifddinas crefydd
(2, 1) 1146 Israel a Jwda gan Orseddfainc Dafydd...
(2, 1) 1147 Erys yr Arch o hyd mewn pabell foel,
(2, 1) 1148 A ninnau'n byw mewn plasau o goed cedrwydd.
(2, 1) 1149 Cyfoder yma Demel genedlaethol,
(2, 1) 1150 Un enw gwell y sydd na "Dinas Dafydd,"
(2, 1) 1151 A'r enw hwnnw—"Dinas y Brenin Mawr."
(Dafydd) "Dinas y Brenin Mawr!" Fy mab ardderchog!
 
(Ahitoffel) Â thref wrthnysig?
(2, 1) 1176 Fy mrenhinol dad,
(2, 1) 1177 Nes codi'r deml unol yng Nghaersalem
(2, 1) 1178 Fe lŷn pob tref wrth ei huchelfa'i hun.
(2, 1) 1179 A chan mai Hebron yw 'nhref enedigol,
(2, 1) 1180 Atolwg, gollwng fi yfory, ac af
(2, 1) 1181 At allor Hebron. Talaf yr adduned
(2, 1) 1182 Fan honno i Dduw am gymod mwyn â'm tad;
(2, 1) 1183 Ac felly yr enillwn yr Hebroniaid.
(Ahitoffel) Cyngor rhagorol—teilwng o Fab Dafydd.
 
(Joab) Pum cant! Yr wyt ti'n gofyn gosgordd brenin!
(2, 1) 1220 Rho imi ddeucant, Joab.
(Joab) Gwnaf, Dywysog,
 
(2, 1) 1271 Cyn dod o'n Brenin grasol i'w neuadd heddiw
(2, 1) 1272 Addewais i'm cyd-dywysogion hyn
(2, 1) 1273 Fenthyg fy ngherbyd i roi tro i'r wlad,
(2, 1) 1274 A ganiatei-di hynny?
(Dafydd) Pwy yw'r gyrrwr?
 
(Dafydd) Pwy yw'r gyrrwr?
(2, 1) 1276 Y grymus Metheg-Ama.
(Dafydd) Cerbydwr da!
 
(2, 1) 1282 Hwde!... Dyro fy chwip i Metheg-Ama.
 
(Abisâg) A dyma ddwfr.
(2, 1) 1342 Dy enw yw Ahimâs?
(Ahimâs) Ie, Dywysog.
 
(Ahimâs) Ie, Dywysog.
(2, 1) 1344 Ac oni welais-i di gyda Llanciau Joab,
(2, 1) 1345 Wrthi'n ymarfer ddoe ar ymgodymu
(2, 1) 1346 A thaflu gwaywffon ac ymryson ras?
(Ahimâs) Do, f'arglwydd; un o Lanciau Joab wyf.
 
(Ahimâs) Do, f'arglwydd; un o Lanciau Joab wyf.
(2, 1) 1348 Ac oni welais-i di'n ymryson ras
(2, 1) 1349 A Chŵsi ddu, gwas Joab?
(Ahimâs) Diau, f'arglwydd.
 
(Ahimâs) Cŵsi yw'r rhedwr gorau yng Nghaersalem.
(2, 1) 1352 Threchaist-ti mono?
(Ahimâs) Naddo, syr, ddim eto.
 
(Ahimâs) Naddo, syr, ddim eto.
(2, 1) 1354 "Ddim eto!" Beth yw ystyr hynny?
(Ahimâs) {Tan wenu.}
 
(Ahimâs) Nes trechu'r campwr Cŵsi, caethwas Joab.
(2, 1) 1359 Purion uchelgais, ond 'threchi-di mono byth.
(2, 1) 1360 Mae haul Ethiopia'n fflam yn ei gyhyrau.
(Dafydd) A dygnwch Iddew ym mwriad Ahimâs!
 
(2, 1) 1366 Am gant o siclau arian?... Bodlon fi!
(2, 1) 1367 O fewn tri mis? Rhagorol! Ond, fy nhad,
(2, 1) 1368 Mae'r peth fel dwyn dy arian da.
(Dafydd) Cawn weld.
 
(Dafydd) At bobol Hebron... Hyd yfory, ynteu!
(2, 1) 1391 Duw gadwo'r Brenin.
(Ahitoffel) Ni ellir lladd y brenin.
 
(2, 1) 1395 Beth a ddywedaist-ti?
(Ahitoffel) Wrth chwarae gwyddbwyll
 
(Ahitoffel) 'Waeth pa mor anobeithiol fyddo'r safle.
(2, 1) 1399 Ond gellir cau amdano a'i ddirymu.
(Ahitoffel) Siŵr iawn,—a dyna derfyn ar y chwarae...
 
(Ahitoffel) Siŵr iawn,—a dyna derfyn ar y chwarae...
(2, 1) 1401 Be' ddwedwn-ni wrth bobol Hebron 'fory?
(Ahitoffel) Ofer fydd dwedyd dim.
 
(Ahitoffel) Ofer fydd dwedyd dim.
(2, 1) 1403 Ofer, fy arglwydd?
(Ahitoffel) Ofer, tra byddo Dafydd ar yr orsedd.
 
(Ahitoffel) Fe'u digiodd hwynt, ac ni faddeuant byth.
(2, 1) 1406 Trwy symud ei brifddinas i Gaersalem?
(Ahitoffel) Fe ddoent dros hynny... Yr hyn ni faddau gwlad
 
(Ahitoffel) I frenin yw priodi gyda'i butain.
(2, 1) 1409 Hen stori ddeunaw mlynedd! Dwyt ti 'rioed
(2, 1) 1410 Yn dal yn ddigllon am yr anffawd hwnnw?
(Ahitoffel) Y wlad sy'n dal ei dig. Nid anghofiasant
 
(Ahitoffel) A gorwedd gyda hi, a'i gŵr yn y gad.
(2, 1) 1416 Gad i'r hen stori. Oni thalodd Dafydd
(2, 1) 1417 Yn ddrud mewn penyd ac mewn edifeirwch?
(2, 1) 1418 Tosturiodd Duw; maddeuodd Nathan Broffwyd!
(2, 1) 1419 Pa synnwyr i |ti| ddal yn ddig o hyd?
(Ahitoffel) Fe'i priododd-hi,—a dyna gŵyn ei wlad.
 
(Ahitoffel) I frenin byth ydyw priodi ei butain.
(2, 1) 1426 Beth sydd a wnelo hynny â threthi Hebron?
(Ahitoffel) Mwy nag a dybi-di... Pa bryd y gwelaist
 
(Ahitoffel) Bathseba olaf?
(2, 1) 1429 Welais-i mo'r Frenhines
(2, 1) 1430 Ers dyddiau bellach. Prin yn wir y daw
(2, 1) 1431 Ar draws fy llwybr i, os gall hi beidio.
 
(2, 1) 1433 Mae Solomon a minnau'n eithaf ffrindiau.
(Ahitoffel) Wyddost-ti ddim p'le mae-hi?
 
(Ahitoffel) Wyddost-ti ddim p'le mae-hi?
(2, 1) 1435 Na wn i.
(2, 1) 1436 Clywais ei bod ar daith i weld ei thylwyth.
(Ahitoffel) O! mae hi'n gyfrwys; ond mae sbïwyr da'n
 
(Ahitoffel) Fel ei olynydd, a'i arwisgo felly.
(2, 1) 1444 'Feiddiai-hi byth.
(Ahitoffel) Fe feiddiai unrhyw beth
 
(Ahitoffel) Er mwyn ei mab, o'r dydd y daethost adref.
(2, 1) 1447 Beth yw dy gyngor?
(Ahitoffel) F'arglwydd Dywysog,
 
(Ahitoffel) Ac Absalom fydd yn teyrnasu yn Hebron.
(2, 1) 1453 F'arglwydd Ahitoffel, bradwriaeth yw!
(Ahitoffel) Dywysog, 'rwy'n rhy hen i air fy nychryn,
 
(Ahitoffel) {Esgyn i fyny at yr Orsedd.}
(2, 1) 1465 A phe cytunwn, byddai 'nhad yn ddiogel?
(Ahitoffel) Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll.
 
(Ahitoffel) I ddal ar gyfle?
(2, 1) 1478 Na chaiff, yn enw Duw!
(2, 1) 1479 Beth sydd yn rhaid ei wneud?
(Ahitoffel) {Wedi dychwelyd y goron i'w lle.}
 
(Ahitoffel) Fe'th gyfyd dy gyd-drefwyr di'n gyd-frenin.
(2, 1) 1484 Beth am Gaersalem?
(Ahitoffel) Gyda sydyn gyrch,
 
(2, 1) 1492 Abhitoffel, beth wyt-ti? Ai proffwyd doeth
(2, 1) 1493 Yn gweld trwy'r llen, a'th air fel gair y nef?
(2, 1) 1494 Ai adlais i uchelgais llosg fy mron?
(2, 1) 1495 Ai cennad Satan, y gwrthryfelwr mawr
(2, 1) 1496 A gododd blaid yn erbyn Gorsedd Nef
(2, 1) 1497 A chael ei hyrddio i'r pwll?
(Ahitoffel) {Yn llefain.}
 
(2, 3) 1842 Dim enaid byw! Mae'r adar wedi ffoi
(2, 3) 1843 O gyrraedd ein cleddyfau.
(Ahitoffel) {Mewn angerdd.}
 
(2, 3) 1859 Atal dy law!... Llais Meffiboseth yw.
 
(2, 3) 1861 Cyfod mewn heddwch. Nid oes gennyf gweryl
(2, 3) 1862 Â thi fy mrawd-dywysog.
(Meffiboseth) O! paham
 
(Meffiboseth) {Cyfyd Ahitoffel ei gleddyf bygythiol eto.}
(2, 3) 1869 Gad iddo, arglwydd.
 
(2, 3) 1871 Gwrando Meffiboseth,
(2, 3) 1872 Yr wyf mor hoff o'm tad ag yr ydwyt tithau.
(2, 3) 1873 Ond llawn o dwyll a dichell yw'r Frenhines.
(Meffiboseth) Hi a fu'n pledio drosof.
 
(Meffiboseth) Ynghŷd yn Llys y Brenin.
(2, 3) 1879 Yr wyt ti'n
(2, 3) 1880 Rhy ifanc i wleidyddiaeth; ac ni wyddost
(2, 3) 1881 Mor enbyd cyflwr Israel.
(Meffiboseth) Mi wn hyn,
 
(Meffiboseth) Mai Dafydd yw fy mrenin i, a'm tad.
(2, 3) 1884 Ac ni niweidiwn innau ef er dim;
(2, 3) 1885 Fe ddown i ddealltwriaeth.—Amdanat ti,
(2, 3) 1886 Nac ofna ddim. Ni ddaw i tithau niwed.
(2, 3) 1887 Cei aros yma'n Ddistain Llys y Brenin.
(2, 3) 1888 A wyt-ti'n fodlon?
(Meffiboseth) Nes dychwelo ef.
 
(Meffiboseth) Nes dychwelo ef.
(2, 3) 1890 O'r gorau... Ple mae'r goron... Wyddost ti?
(Meffiboseth) {Yn troi at yr orsedd i'w cheisio.}
 
(Meffiboseth) Ac fe ddiflannodd.
(2, 3) 1899 Wyddost ti ddim mwy?
(Meffiboseth) Dim mwy. Mi gerfiais gist o dderw i'w chadw.
 
(Meffiboseth) Diflannodd hi a'r gist; ond sut ni wn.
(2, 3) 1902 Na phoena ragor. Fe ddown ni o hyd i'r goron.
(2, 3) 1903 Ond edrych—gwna gymwynas â mi, 'wnei-di?
(Meffiboseth) Os yw'n fy ngallu, heb wneud drwg i'r Brenin.
 
(Meffiboseth) Os yw'n fy ngallu, heb wneud drwg i'r Brenin.
(2, 3) 1905 Llychlyd y ffordd wrth deithio yma o Hebron,
(2, 3) 1906 A'r haul yn danbaid arnom.
(Meffiboseth) {Yn codi costrel a ffiol.}
 
(Meffiboseth) {Fe yf o'r ffiol ei hun.}
(2, 3) 1914 Na, nid wy'n ofni gwenwyn
(2, 3) 1915 Gan Meffiboseth, ond ni ddeisyfaf win.
(2, 3) 1916 Mae 'ngenau'n gras,—syched am ffrwyth sydd arnaf
(2, 3) 1917 O'r ardd frenhinol wedi'n hymdaith boeth.
(2, 3) 1918 Grawnsypiau pêr ac aur-afalau'r brenin,
(2, 3) 1919 Y rhain ymrithiai o'm blaen o Hebron yma.
(2, 3) 1920 A ei-di i gasglu rhai?
(Meffiboseth) {Gan gymryd basged fechan a myned ŵ'r ardd.}
 
(Ahitoffel) Sut yr wyt ti'n ei oddef?
(2, 3) 1925 Does dim twyll
(2, 3) 1926 Yn agos iddo. Y mae'n werth ei ennill
(2, 3) 1927 O blaid fy hawl,—yr olaf o Dŷ Saul.
(2, 3) 1928 Eistedd, Ahitoffel, mae mwy i'w drafod.
(2, 3) 1929 Na phrepian Meffiboseth.
(Ahitoffel) Eistedd |di|,
 
(2, 3) 1933 O! nid fel hyn bûm i'n dyfalu'r foment
(2, 3) 1934 Cawn eistedd yn fy nhro ar Orsedd Dafydd.
(2, 3) 1935 Yr oedd y Llys yn llawn; ac â llef utgyrn
(2, 3) 1936 Y rhoddai 'nhad y goron ar fy mhen,
(2, 3) 1937 Wedi i Sadoc fy eneinio i
(2, 3) 1938 I gyd-deyrnasu â'm tad; a phawb yn bloeddio
(2, 3) 1939 "Duw gadwo Absalom!" a "Duw gadwo Dafydd!"
(Ahitoffel) Petai ein byddin heddiw wedi cyrraedd
 
(Ahitoffel) Cawsant ddwy awr o rybudd.
(2, 3) 1945 Nid heb waed
(2, 3) 1946 Y dof yn frenin bellach.
(Ahitoffel) 'Rwyt-ti'n frenin.
 
(2, 3) 1954 Tyrfa Caersalem! Oriog fel y gwynt
(2, 3) 1955 Yw honno byth. Heddiw yn frwd "Hosanna,"
(2, 3) 1956 Yfory'n bloeddio "Ymaith."
(Ahitoffel) Gwrando 'nghyngor,
 
(Absalom ac Ahitoffel) Hŵsai!
(2, 3) 1964 Pa fodd nad aethost tithau heddiw
(2, 3) 1965 Gyda dy gyfaill Dafydd?... Ai dyma'r tâl
(2, 3) 1966 Am ei holl garedigrwydd iti?
(Hŵsai) Na,
 
(Ahitoffel) Trwy ei gynghori i'th alw adre'n ôl.
(2, 3) 1975 Do, nid anghofiais hynny, Ahitoffel.
(2, 3) 1976 Mwyn yw dy eiriau, Hŵsai. A daethost yma
(2, 3) 1977 Yn gyntaf o'r dinaswyr i'm croesawu,
(2, 3) 1978 'Rwy'n gwerthfawrogi'r weithred.
(Hŵsai) Frenin Seion,
 
(Hŵsai) Gad imi fod i'r Brenin Absalom.
(2, 3) 1986 Croeso i'n plith, Gynghorwr. Eistedd yma.
(2, 3) 1987 Rho imi fantais dy brofiadol farn.
 
(2, 3) 1989 F'arglwydd Ahitoffel, trafod yr oeddit
(2, 3) 1990 Ffordd i droi oriog ffydd y dyrfa'n ffaith.
(Ahitoffel) Dangos dy hun yn berchen eiddo Dafydd.
 
(2, 3) 2008 Chytunais i erioed i ladd fy nhad.
(Ahitoffel) Gad hynny imi. Bellach nid oes ffordd arall
 
(2, 3) 2016 Na! Na!... Fy arglwydd Hŵsai,
(2, 3) 2017 Beth yw dy gyngor di?
(Hŵsai) Nid da yw cyngor
 
(Hŵsai) Cânt winllan ar y ffin, i'w thrin a'i throi.
(2, 3) 2074 Hŵsai a roes y cyngor gorau heddiw.
(Ahitoffel) Mae'n gyngor ynfyd! Rhaid eu taro heno
 
(Ahitoffel) Byth eto i ladd y brenin.
(2, 3) 2079 Pam "ei ladd"?
(Ahitoffel) Am na chei heddwch fyth ac yntau'n fyw.
 
(Ahitoffel) Gad imi ei daro heno â chleddyf barn.
(2, 3) 2085 Yr un hen stori.—Oni ddwedais wrthyt
(2, 3) 2086 Dalu ohono'n ddrud mewn edifeirwch?
(2, 3) 2087 Tosturiodd Duw, a hyd yn oed Nathan Broffwyd.
(2, 3) 2088 Paham y deli i sôn o hyd am ladd?
(Ahitoffel) Fy Mrenin Absalom, offeryn dial
 
(2, 3) 2098 'Chei-di mo'i ladd!
(Ahitoffel) Wyt ti'n ynfydu, lencyn?
 
(2, 3) 2102 Dyna ddigon
(2, 3) 2103 A chofia 'mod i'n fab i Ddafydd Frenin.
(Ahitoffel) {Yn derfysglyd.}
 
(Ahitoffel) O'r gorau! Mab i minnau oedd Ureias!
(2, 3) 2106 Beth? Mab i ti?
(Ahitoffel) Fy mab... Nid mab cyfreithlon:
 
(Ahitoffel) Y Brenin gysgu'n esmwyth gyda'i wraig.
(2, 3) 2118 Mae deunaw mlynedd er y trosedd hwn.
(Ahitoffel) Beth yw blynyddoedd wrth ddialedd tad?
 
(2, 3) 2132 Yr wyt ti'n wallgof!
(Ahitoffel) (Yn bloeddio'n fygythiol a'r cleddyf yn dal yn ddyrchafedig.}
 
(2, 3) 2137 'Wyt-ti'n fy mygwth? Wyt-ti'n codi'r cledd
(2, 3) 2138 Yn f'erbyn innau, fel yn erbyn Dafydd?
(Ahitoffel) {Yn cywilyddio a disgyn ar ei lin, gan newid ei dôn yn llwyr.}
 
(Ahitoffel) Anghofia ngeiriau byrbwyll.
(2, 3) 2142 Cofiaf y lleill,
(2, 3) 2143 "Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll,
(2, 3) 2144 Digon fydd cau o'i gwmpas i'w ddirymu..."
(2, 3) 2145 Dilynaf gyngor Hŵsai.
(Ahitoffel) {Yn codi'n drist a distaw.}
 
(2, 3) 2154 Ffrind, tywallt win.
 
(Hŵsai) {Yf eto.}
(2, 3) 2161 Llwydd i tithau!
 
(2, 3) 2163 A diolch am aeddfedrwydd barn a phwyll
(2, 3) 2164 Yn lle gwylltineb gwallgo.
 
(2, 3) 2166 Beth oedd hyn'na?
 
(Hŵsai) Fe fydd yn llwyr gytuno â ni.
(2, 3) 2173 'Wyddwn i ddim
(2, 3) 2174 Hyd heddiw fod Ureias yn fab iddo.
(Hŵsai) Mi wyddwn i. Ond nid yw gwleidydd doeth
 
(Hŵsai) Am les y wlad, yn lle defnyddio'i ben.
(2, 3) 2178 Megis y gwnaethost ti, trwy ddyfod ataf
(2, 3) 2179 A'th gyngor, er dy gariad tuag at Dafydd
(2, 3) 2180 Fy nhad.
(Hŵsai) 'Rwy'n gyfaill iddo o hyd. Ond rhaid
 
(Hŵsai) Byth ni niweidiwn dy frenhinol dad.
(2, 3) 2185 Na minnau byth. Ac O! mi allwn wylo
(2, 3) 2186 Wrth gofio'i groeso... Nid i'w erbyn ef
(2, 3) 2187 Y codais i wrthryfel, ond Bathseba.
(2, 3) 2188 Hi sy'n rheoli; a pha wir dywysog
(2, 3) 2189 A adai i hon ladrata'i etifeddiaeth
(2, 3) 2190 I'w phlentyn siawns?
(Hŵsai) Tybed, a fyddai modd
 
(Hŵsai) Yr orsedd hon i ti.
(2, 3) 2196 Byth ni chytunai
(2, 3) 2197 Tan orfod rhyfel. Ni adai balchder iddo.
(Hŵsai) Dwys
 
(Hŵsai) Cynnig amodau i Dafydd?
(2, 3) 2204 Hollol ofer!
(2, 3) 2205 Dychwelai hwy â sen. Ni chyfamodai
(2, 3) 2206 Joab nac yntau â rhyw haid o fradwyr.
(2, 3) 2207 Minnau, ni siomwn wŷr a fentrodd bopeth
(2, 3) 2208 Er mwyn unioni cam â min y cledd.
(2, 3) 2209 Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch
(2, 3) 2210 Ymlaen i fuddugoliaeth neu i fedd.
(Hŵsai) {Yn myned ato i'w gysuro ac eistedd gerllaw iddo ar y grisiau.}
 
(Hŵsai) Be' sydd, fy machgen annwyl-i, be' sydd?
(2, 3) 2215 Ai un o'm milwyr i...?
(Meffiboseth) Acw...yn yr ardd...
 
(Hŵsai) Wedi ymgrogi wrth raff y Gloch Alarwm.
(2, 3) 2226 "Mae'r chwarae trosodd," meddai, "a minnau'n gollwr."
 
(2, 3) 2229 Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch
(2, 3) 2230 Ymlaen, i fuddugoliaeth neu i fedd.