Dwy Briodas Ann

Cue-sheet for Ann

(Lowri) Mae Syr John wedi gorffen cinio.
 
(Walter) Ti fu'n tynnu llwch yma heddiw?
(1, 0) 44 Fi oedd i wneud, ond mi anfonodd Mrs. Roberts fi am neges i'r pentre cyn imi orffen.
(Walter) Rhed dy fys ar hyd y sideboard yma?
 
(1, 0) 48 Go ddrwg yntê?
(1, 0) 49 Chyrhaeddais i ddim hyd yma.
(1, 0) 50 Dim ond y lle tân a'r llawr.
(Walter) Rhyw slemp o lanhau.
 
(Walter) Rhyw slemp o lanhau.
(1, 0) 52 Dydy hynny ddim yn deg, Mr. Walter.
(1, 0) 53 Nid un i lechian gweithio ydw i.
(1, 0) 54 Mae'r forwyn fach at alwad pawb bob munud.
(Walter) Be wyt ti'n hornio, 'mechan i?
 
(1, 0) 58 Peidiwch, Mr. Walter.
(Walter) {Gan ei thynnu hi ato a cheisio'i chusanu.}
 
(Walter) Gwen bob man a choch ei bocha".
(1, 0) 63 Cilia dy ddwylo, y sbachwr budr!
(Walter) Y mwnci diawl, be haru ti?
 
(Walter) Y mwnci diawl, be haru ti?
(1, 0) 66 Chaiff neb holmyn fynd yn hy arna i, Dic Walter.
(Walter) Mynd yn hy!
 
(Walter) Rwyt ti'n siarad fel pladres o wraig fonheddig.
(1, 0) 69 Mae gan forwyn fach ei pharch gystal â gwraig fonheddig.
(Walter) Cau dy hopran, y gnawes gipog, os dyna dy siort di.
 
(1, 0) 72 Rydach chi yn llygad eich lle.
(1, 0) 73 Dyna fy siort i.
(Walter) O'r gorau, mae hi wedi cau arnat ti am le yma.
 
(Walter) Mi gei hel dy garcas a ffwrdd a thi bore fory nesa.
(1, 0) 76 Holics gwyllt, ie?
(1, 0) 77 Dydy hynny'n dychryn dim arna i.
(1, 0) 78 Mae gen i ewyrth yn Dronwy yn yr un swydd â chithau.
(1, 0) 79 Hawdd imi symud yno.
(Walter) Heb garictor?
 
(Walter) Heb garictor?
(1, 0) 81 Mi ofynna i Mrs. Roberts am garictor.
(1, 0) 82 Hi ddaru 'nghyflogi i.
(Walter) Rwyt ti'n lartsh ar y naw, 'nglasan i.
 
(Walter) Pam na ofynni di i Syr John?
(1, 0) 85 A dweud wrtho pam rydw i'n mynd?
(Walter) Capten yn y llynges fu Syr John.
 
(Walter) Roi di glewtan o ddiolch i Syr John?
(1, 0) 89 Nid rhyw glwpa bron torri ar ei draws eisiau cusan ydy Syr John.
(Walter) Pwy sy eisiau dy gusan di, y sili-ffrit?
 
(Walter) Pwy sy eisiau dy gusan di, y sili-ffrit?
(1, 0) 91 Chi, nid fi, ddwedodd Syr John.
(Walter) Rwyt ti'n mynd yn llond y tŷ.
 
(1, 0) 95 Mi fydde'r llestri wedi eu gorffen rwan heb i chi anfon amdana i a chael slap am eich gwendid.
(Walter) Mae'r te'n barod i chi syr.
 
(Syr John) Be ydy d'enw di?
(1, 0) 108 Ann, syr.
(1, 0) 109 Ann Thomas.
(Syr John) Be ydy d'oed di.
 
(Syr John) Be ydy d'oed di.
(1, 0) 111 Deunaw, syr.
(Syr John) O ble doist ti?
 
(Syr John) O ble doist ti?
(1, 0) 113 O Aberffraw, syr.
(1, 0) 114 Ffermwr, a chanddo dyddyn go lew, Thomas Williams, ydy nhad i.
(Syr John) Ydy dy ddwylo di'n lân?
 
(1, 0) 117 Roedden nhw'n lanach bum munud yn ôl.
(Syr John) Fedri di dywallt te?
 
(Syr John) Fedri di dywallt te?
(1, 0) 119 A'i yfed hefyd, syr, pan fedra i fforddio.
(Syr John) O'r gore, Walter.
 
(Syr John) ... Does dim rhaid iti aros.
(1, 0) 129 Siwgwr, Syr?
(Syr John) Ydy'r te'n gry?
 
(Syr John) Ydy'r te'n gry?
(1, 0) 131 Mae o'n sefyll ryw bum munud.
(Syr John) Un darn, felly...
 
(Syr John) 'Fedri di sgwennu, Ann?
(1, 0) 134 Cymraeg a Saesneg, syr.
(1, 0) 135 Be' wnawn i yma heb lythyrau?
(Syr John) Wyt ti'n forwyn?
 
(Syr John) Wyt ti'n forwyn?
(1, 0) 137 Yn fy mlwyddyn gynta, syr.
(Syr John) Nid dyna rydw i'n ei ofyn...
 
(1, 0) 142 Naddo erioed...
(1, 0) 143 Ond pa hawl sy gennych chi i ofyn?
(Syr John) Peth prin yn dy ddosbarth di.
 
(1, 0) 146 Mi alwa i ar Mr. Walter i dywallt i chi, ─ syr.
(Syr John) Mi ofynnais i ti dywallt.
 
(Syr John) Mi ofynnais i ti dywallt.
(1, 0) 148 Mae gen i'r llestri i'w golchi.
(Syr John) Dos ymlaen...
 
(1, 0) 155 Dyna ofynsoch chi'r tro cynta?
(Syr John) Ie.
 
(Syr John) Ie.
(1, 0) 157 Roeddwn i'n amau 'mod i'n clywed pethau ac yn gwirioni.
(Syr John) Wel?...
 
(Syr John) Wnei di?
(1, 0) 160 Tad annwyl!
(1, 0) 161 ... Gwnaf.
 
(Syr John) Pam 'rwyt ti'n chwerthin?
(1, 0) 164 Mae pethau'n digwydd imi heddiw.
(Syr John) Rydw i o ddifri, Ann.
 
(Syr John) Rydw i o ddifri, Ann.
(1, 0) 166 Gobeithio'ch bod chi.
(Syr John) Rwyt ti'n fy nghredu i?
 
(Syr John) Rwyt ti'n fy nghredu i?
(1, 0) 168 Rydw i'n ceisio 'ngore.
(1, 0) 169 Rhowch funud neu ddau imi.
(Syr John) Dyna pam y gyfynnais i─
 
(Syr John) Dyna pam y gyfynnais i─
(1, 0) 171 Rydach chi'n reit sobor, syr?
(Syr John) Fûm i erioed yn sobrach er pan wnes i f'ewyllys yn Gibraltar saith mlynedd yn ôl.
 
(1, 0) 174 Mae hynny'n gysur...
(1, 0) 175 Ewyllys hen lanc?
(Syr John) Mae darpariaeth ynddi i wraig...
 
(Syr John) Un unig ydw i, Ann.
(1, 0) 178 'Does dim rhaid i chi fod.
(Syr John) Rydw i'n hen, 'merch i.
 
(Syr John) Blwyddyn arall ac mi fydda i'n ddeugain.
(1, 0) 181 Dyna glep y gegin er pan ddois i yma.
(1, 0) 182 Mi fu 'na ddal grotiau y priodech chi cyn eich deugain.
(Syr John) 'Gân' nhw ddychryn?
 
(Syr John) 'Gân' nhw ddychryn?
(1, 0) 184 Mi gaiff Richard Walter sioc ei fywyd.
(Syr John) Mae arna i ofn y bydd peth dychryn ar y cynta yn Bath ac yn Baron Hill... cyn iddyn nhw dy weld di.
 
(Syr John) Mae arna i ofn y bydd peth dychryn ar y cynta yn Bath ac yn Baron Hill... cyn iddyn nhw dy weld di.
(1, 0) 186 A chwerthin go fawr am eich pen chi yn priodi cangen o forwyn weini.
(1, 0) 187 A'r gwatwar yn yr |assembly| ym Miwmares!
(Syr John) 'Fydd arnat ti ofn?
 
(Syr John) 'Fydd arnat ti ofn?
(1, 0) 189 Mae gwragedd eich dosbarth chi yn fedrus iawn i frifo.
(1, 0) 190 Fel tynnu gwaed.
(Syr John) Mi fyddi di'n un ohonyn nhw.
 
(Syr John) Mi fyddi di'n un ohonyn nhw.
(1, 0) 192 'Ddwedwch chi hynny wrth Mrs. King?
(Syr John) Mi fydd yn haws sgwennu ati na dweud wrthi.
 
(Syr John) Tipyn o arglwyddes ydy fy chwaer.
(1, 0) 195 Syr John, munud o wallgofrwydd ydy hwn.
(1, 0) 196 Rydw i'n barod i anghofio'r cwbl a mynd odd'ma.
(1, 0) 197 Mi fydd yn hawdd imi fynd.
(1, 0) 198 Rydw i wedi cael notis.
(Syr John) Ddaru ti addo 'mhriodi i, Ann Thomas?
 
(Syr John) Ddaru ti addo 'mhriodi i, Ann Thomas?
(1, 0) 200 Do, syr.
(Syr John) Wyt ti'n tynnu'n ôl?
 
(Syr John) Wyt ti'n tynnu'n ôl?
(1, 0) 202 Rhoi cyfle i chi i dynnu'n ôl.
(Syr John) Rhaid inni briodi heb fod neb yn gwybod...
 
(Syr John) Fedri di fod allan y bore heb i neb yn y cefn amau?
(1, 0) 210 Bore pobi bara.
(1, 0) 211 Fi sy'n picio i'r pentre'r noson gynt i brynu burum.
(1, 0) 212 Os anghofia i rhaid imi redeg cyn brecwast drannoeth.
(1, 0) 213 Tair wythnos i neithiwr mi anghofia i'r burum.
(Syr John) Fedri di ddilyn dy waith yma am dair wythnos fel cynt?
 
(Syr John) Fedri di ddilyn dy waith yma am dair wythnos fel cynt?
(1, 0) 215 Hawdd deffro o freuddwyd a dau droed ar y llawr.
(Syr John) Nid breuddwyd ydy hyn, Ann.
 
(Syr John) Nid breuddwyd ydy hyn, Ann.
(1, 0) 217 Breuddwyd i mi nes mynd am y burum.
(1, 0) 218 Tan hynny peidiwch chi â gofyn am fy ngweld.
(Syr John) Paid dithau â rhedeg i ffwrdd.
 
(Syr John) Paid dithau â rhedeg i ffwrdd.
(1, 0) 220 Rhaid imi ofyn maddeuant Mrs. Roberts er mwyn aros.
(Syr John) Be fu?
 
(Syr John) Be fu?
(1, 0) 222 Mymryn o ffrwgwd wedi imi fethu codi llwch.
(1, 0) 223 Dim o bwys.
(1, 0) 224 Mae gen i dymer wyllt.
(1, 0) 225 Tendiwch!
(Syr John) Fedri di reoli tŷ fel hwn?
 
(Syr John) Fedri di reoli tŷ fel hwn?
(1, 0) 227 Mi fydd gen i Mrs. Roberts.
(1, 0) 228 Nid dyna fydd fy mhroblem i.
(Syr John) Be' fydd dy broblem di?
 
(Syr John) Be' fydd dy broblem di?
(1, 0) 230 Ond chi...
(1, 0) 231 Chi!
(Syr John) Ann bach, rydw i'n methu'n lân â dirnad pam rwyt ti'n fy mentro i.
 
(Syr John) Ann bach, rydw i'n methu'n lân â dirnad pam rwyt ti'n fy mentro i.
(1, 0) 233 Mi fydde'n ffitiach fy mod i'n deud hynny na chi...
(1, 0) 234 Chi sy'n mentro.
(Syr John) Mi wn i pam rydw i'n mentro.
 
(Syr John) Ond pam yr wyt ti?
(1, 0) 237 Gofynnwch i Mrs. King.
(Syr John) I ti rydw i'n gofyn.
 
(Syr John) I ti rydw i'n gofyn.
(1, 0) 239 Mi ro i ateb Mrs. King.
(1, 0) 240 Chawn i ddim cynnig gwell tawn i'n aros chwarter canrif.
(Syr John) Dyna'r unig reswm?
 
(Syr John) Dyna'r unig reswm?
(1, 0) 242 Cwestiwn teg tair wythnos i heno.
(1, 0) 243 Dowch, mae'ch te chi'n oeri, syr, a'r llestri heb eu golchi...