a1
Ⓗ 1975 Saunders Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


5 p.m. 19 Medi, 1806. Y drawing-room yn yr hen blas ym Mhresaddfed, Sir Fôn. RICHARD WALTER, y pen gwas tŷ, yno'n gweld fod popeth yn iawn. Rhed ei fys ar hyd wyneb yr eilfwrdd mahogani. Daw LOWRI, y brif forwyn, i mewn gan ddwyn tebot a dysglau te ar hambwrdd.

Lowri

Mae Syr John wedi gorffen cinio. Mi fydd yma toc.

Walter

Dyro'r te ar y bwrdd penfro o flaen y tân. Mae hi'n dechrau oeri.

Lowri

Trueni nad oes dim meistres i'r tŷ yma a'r gaea eto o'n blaen ni.

Walter

Pa wahaniaeth wnâi hynny?

Lowri

Cael ambell ddawns a gwledd. Mae'r wlad o gwmpas wedi mynd mor ddigalon a'r Methodistiaid yma'n lladd ar bob miri. Mae un ohonyn nhw wedi setlo'n ddiweddar yn Llanfechell, wrth ymyl.

Walter

Mi wn. John Elias. Mab i grefftwr. Wedi priodi merch i Mr. Broadhead. Codi'n arw yn y byd.

Lowri

Pam gebyst na wnaiff y mistar briodi?

Walter

Run fath â'i chwaer, Mrs. King?

Lowri

Mae honno'n dawnsio bob nos yn Bath a'i phriod yn feistr y moesau. Maen nhw'n byw mewn crandrwydd hoenus.

Walter

Does arni hi ddim eisiau i'w brawd briodi. Pan fydd y miri yn Bath a Cheltenham drosodd, mi ddaw hi'n ôl yma yn feistres. Mi gawn ddawnsio wedyn... Pwy fu'n glanhau fan yma bore heddiw?

Lowri

Nid fi.

Walter

Ann felly. Dywed wrth Ann am ddwad yma.

Lowri

Welaist ti Ann yn dawnsio?

Walter

Fedr hi?

Lowri

Mae hi'n troi mor ystwyth â'r tylwyth teg.

Walter

Welais i rioed mo'r tylwyth teg.

Lowri

Paid â brolio anwiredd.

Walter

Ar fy nhwca!

Lowri

Naddo?... Wir?... Wel, sbia ar Ann.



Exit LOWRI. Mae WALTER ymn gosod cadair yn barod i SYR JOHN. Daw ANN i mewn ato.

Walter

Ti fu'n tynnu llwch yma heddiw?

Ann

Fi oedd i wneud, ond mi anfonodd Mrs. Roberts fi am neges i'r pentre cyn imi orffen.

Walter

Rhed dy fys ar hyd y sideboard yma?



Mae'r ddau yn symud at yr eilfwrdd.

Ann

(Wedi gwneud a gwenu.) Go ddrwg yntê? Chyrhaeddais i ddim hyd yma. Dim ond y lle tân a'r llawr.

Walter

Rhyw slemp o lanhau.

Ann

Dydy hynny ddim yn deg, Mr. Walter. Nid un i lechian gweithio ydw i. Mae'r forwyn fach at alwad pawb bob munud.

Walter

Be wyt ti'n hornio, 'mechan i? (Gan roi ei fraich am ei gwasg hi.)

Ann

(Yn dawel.) Peidiwch, Mr. Walter.

Walter
(Gan ei thynnu hi ato a cheisio'i chusanu.)

"Gwen ei brest a gwen ei bronna,
Gwen bob man a choch ei bocha".

Ann

Cilia dy ddwylo, y sbachwr budr!



Mae hi'n rhoi bonclust iddo sy bron â'i daflu i'r llawr a hithau'n rhydd.

Walter

Y mwnci diawl, be haru ti?

Ann

Chaiff neb holmyn fynd yn hy arna i, Dic Walter.

Walter

Mynd yn hy! Rwyt ti'n siarad fel pladres o wraig fonheddig.

Ann

Mae gan forwyn fach ei pharch gystal â gwraig fonheddig.

Walter

Cau dy hopran, y gnawes gipog, os dyna dy siort di.

Ann

(Wedi tawelu.) Rydach chi yn llygad eich lle. Dyna fy siort i.

Walter

O'r gorau, mae hi wedi cau arnat ti am le yma. Mi gei hel dy garcas a ffwrdd a thi bore fory nesa.

Ann

Holics gwyllt, ie? Dydy hynny'n dychryn dim arna i. Mae gen i ewyrth yn Dronwy yn yr un swydd â chithau. Hawdd imi symud yno.

Walter

Heb garictor?

Ann

Mi ofynna i Mrs. Roberts am garictor. Hi ddaru 'nghyflogi i.

Walter

Rwyt ti'n lartsh ar y naw, 'nglasan i. Pam na ofynni di i Syr John?

Ann

A dweud wrtho pam rydw i'n mynd?

Walter

Capten yn y llynges fu Syr John. Siawns na chei di gusan ganddo yntau. Roi di glewtan o ddiolch i Syr John?

Ann

Nid rhyw glwpa bron torri ar ei draws eisiau cusan ydy Syr John.

Walter

Pwy sy eisiau dy gusan di, y sili-ffrit?

Ann

Chi, nid fi, ddwedodd Syr John.

Walter

Rwyt ti'n mynd yn llond y tŷ. Dos, gloywa hi i'r gegin i olchi'r llestri.

Ann

(Wedi chwerthin.) Mi fydde'r llestri wedi eu gorffen rwan heb i chi anfon amdana i a chael slap am eich gwendid.



Mae hî'n dawnsio oddi wrtho ac yn troi fel olwyn ar |ei dwylo a glanio ar ei thraed o flaen SYR JOHN BULKELEY sy newydd gyrraedd y drws. Mae hi'n ymsuddo mewn cyrtsi del ac yna'n codi iddo ef gamu i mewn i'r ystafell.

Walter

Mae'r te'n barod i chi syr. A gaf i dywallt?

Syr John

Aros funud... Pwy ydy hon?

Walter

Y forwyn fach syr. Yn ei blwyddyn gynta... (Wrth Ann.) Dos, rwan.

Syr John

Saf fan'na.... Be ydy d'enw di?

Ann

Ann, syr. Ann Thomas.

Syr John

Be ydy d'oed di.

Ann

Deunaw, syr.

Syr John

O ble doist ti?

Ann

O Aberffraw, syr. Ffermwr, a chanddo dyddyn go lew, Thomas Williams, ydy nhad i.

Syr John

Ydy dy ddwylo di'n lân?

Ann

(Gan ddangos ei dwylo.) Roedden nhw'n lanach bum munud yn ôl.

Syr John

Fedri di dywallt te?

Ann

A'i yfed hefyd, syr, pan fedra i fforddio.

Syr John

O'r gore, Walter. Mi gaiff y forwyn fach yma dywallt te imi...



Y mae WALTER yn moesymgrymu fymryn a sefyll yn ei unfan. Edrych SYR JOHN arno.

Syr John

... Does dim rhaid iti aros.



Ail foesymgrymiad gan WALTER a mynd allan mewn tymer ddrwg a chau'r drws yn glep. Mae ANN yn procio'r tân a'i lanhau. Mae yntau'n ei gwylio, wedyn eistedd yn ei gadair ger y bwrdd penfro. Cyfyd hithau a throi ato.

Ann

Siwgwr, Syr?

Syr John

Ydy'r te'n gry?

Ann

Mae o'n sefyll ryw bum munud.

Syr John

Un darn, felly... 'Fedri di sgwennu, Ann?

Ann

Cymraeg a Saesneg, syr. Be' wnawn i yma heb lythyrau?

Syr John

Wyt ti'n forwyn?

Ann

Yn fy mlwyddyn gynta, syr.

Syr John

Nid dyna rydw i'n ei ofyn... Wyt ti'n wyry?... Fuost ti'n caru yn y gwely?

Ann

(Sioc, yna'n ddig.) Naddo erioed... Ond pa hawl sy gennych chi i ofyn?

Syr John

Peth prin yn dy ddosbarth di.

Ann

(Fel rhew.) Mi alwa i ar Mr. Walter i dywallt i chi, ─ syr.

Syr John

Mi ofynnais i ti dywallt.

Ann

Mae gen i'r llestri i'w golchi.

Syr John

Dos ymlaen... (Mae hi'n codi'r tebot ac ar dywallt.) ... Wnei di 'mhriodi i, Ann?



Mae hi'n codi pig y tebot ac edrych arno; yna'n gorffen tywallt a rhoi'r tebot i lawr heb edrych arno a sefyll.

Syr John

Wnei di 'mhriodi i, Ann?

Ann

(Wedi hir edrych arno.) Dyna ofynsoch chi'r tro cynta?

Syr John

Ie.

Ann

Roeddwn i'n amau 'mod i'n clywed pethau ac yn gwirioni.

Syr John

Wel?... Wnei di?

Ann

Tad annwyl! ... Gwnaf. (Mae hi'n chwerthin yn dawel.)

Syr John

Pam 'rwyt ti'n chwerthin?

Ann

Mae pethau'n digwydd imi heddiw.

Syr John

Rydw i o ddifri, Ann.

Ann

Gobeithio'ch bod chi.

Syr John

Rwyt ti'n fy nghredu i?

Ann

Rydw i'n ceisio 'ngore. Rhowch funud neu ddau imi.

Syr John

Dyna pam y gyfynnais i─

Ann

Rydach chi'n reit sobor, syr?

Syr John

Fûm i erioed yn sobrach er pan wnes i f'ewyllys yn Gibraltar saith mlynedd yn ôl.

Ann

(Dan wenu.) Mae hynny'n gysur... Ewyllys hen lanc?

Syr John

Mae darpariaeth ynddi i wraig... Un unig ydw i, Ann.

Ann

'Does dim rhaid i chi fod.

Syr John

Rydw i'n hen, 'merch i. Blwyddyn arall ac mi fydda i'n ddeugain.

Ann

Dyna glep y gegin er pan ddois i yma. Mi fu 'na ddal grotiau y priodech chi cyn eich deugain.

Syr John

'Gân' nhw ddychryn?

Ann

Mi gaiff Richard Walter sioc ei fywyd.

Syr John

Mae arna i ofn y bydd peth dychryn ar y cynta yn Bath ac yn Baron Hill... cyn iddyn nhw dy weld di.

Ann

A chwerthin go fawr am eich pen chi yn priodi cangen o forwyn weini. A'r gwatwar yn yr assembly ym Miwmares!

Syr John

'Fydd arnat ti ofn?

Ann

Mae gwragedd eich dosbarth chi yn fedrus iawn i frifo. Fel tynnu gwaed.

Syr John

Mi fyddi di'n un ohonyn nhw.

Ann

'Ddwedwch chi hynny wrth Mrs. King?

Syr John

Mi fydd yn haws sgwennu ati na dweud wrthi. Tipyn o arglwyddes ydy fy chwaer.

Ann

Syr John, munud o wallgofrwydd ydy hwn. Rydw i'n barod i anghofio'r cwbl a mynd odd'ma. Mi fydd yn hawdd imi fynd. Rydw i wedi cael notis.

Syr John

Ddaru ti addo 'mhriodi i, Ann Thomas?

Ann

Do, syr.

Syr John

Wyt ti'n tynnu'n ôl?

Ann

Rhoi cyfle i chi i dynnu'n ôl.

Syr John

Rhaid inni briodi heb fod neb yn gwybod... Yma yn eglwys y plwy... Tair wythnos i heddiw... Am wyth ar gloch y bore... Leisens arbennig... Rhoi'r ficer ar ei lw i gau ei geg. Fedri di fod allan y bore heb i neb yn y cefn amau?

Ann

Bore pobi bara. Fi sy'n picio i'r pentre'r noson gynt i brynu burum. Os anghofia i rhaid imi redeg cyn brecwast drannoeth. Tair wythnos i neithiwr mi anghofia i'r burum.

Syr John

Fedri di ddilyn dy waith yma am dair wythnos fel cynt?

Ann

Hawdd deffro o freuddwyd a dau droed ar y llawr.

Syr John

Nid breuddwyd ydy hyn, Ann.

Ann

Breuddwyd i mi nes mynd am y burum. Tan hynny peidiwch chi â gofyn am fy ngweld.

Syr John

Paid dithau â rhedeg i ffwrdd.

Ann

Rhaid imi ofyn maddeuant Mrs. Roberts er mwyn aros.

Syr John

Be fu?

Ann

Mymryn o ffrwgwd wedi imi fethu codi llwch. Dim o bwys. Mae gen i dymer wyllt. Tendiwch!

Syr John

Fedri di reoli tŷ fel hwn?

Ann

Mi fydd gen i Mrs. Roberts. Nid dyna fydd fy mhroblem i.

Syr John

Be' fydd dy broblem di?

Ann

Ond chi... Chi!

Syr John

Ann bach, rydw i'n methu'n lân â dirnad pam rwyt ti'n fy mentro i.

Ann

Mi fydde'n ffitiach fy mod i'n deud hynny na chi... Chi sy'n mentro.

Syr John

Mi wn i pam rydw i'n mentro. Ond pam yr wyt ti?

Ann

Gofynnwch i Mrs. King.

Syr John

I ti rydw i'n gofyn.

Ann

Mi ro i ateb Mrs. King. Chawn i ddim cynnig gwell tawn i'n aros chwarter canrif.

Syr John

Dyna'r unig reswm?

Ann

Cwestiwn teg tair wythnos i heno. Dowch, mae'ch te chi'n oeri, syr, a'r llestri heb eu golchi...



Cyrtsi, ac allan â hi. Mae SYR JOHN yn sipian ei de yn araf freuddwydiol. Daw WALTER i'r drws.

Walter

Mae 'na ddyn yn y drws, syr, yn gofyn am eich gweld chi.

Syr John

Gŵr bonheddig?

Walter

Nage, syr. Methodist.

Syr John

Clerigwr?

Walter

O nage, syr. Siopwr, groser, ond ei fod o'n prygawthan pregethu hefyd.

Syr John

Un o'r pentre?

Walter

O Lanfechell. Dyn dwad, wedi priodi merch i Mr. Broadhead.

Syr John

Hwnna? Mi glywais amdano. Be sy arno'i eisiau?

Walter

Gofyn am eich gweld chi. Ddwedodd o mo'i neges.

Syr John

'Tyrd a fo yma.



Exit WALTER a dychwelyd a chyflwyno.

Walter

John Elias, syr.



Daw JOHN ELIAS i mewn, yn dal, tywyll, boneddigaidd, trwsiadus, 32 oed. Moes-ymgrymu i Syr John.

Syr John

Pnawn da.

Elias

Pnawn da, Syr John.

Syr John

Be alla i ei wneud i chi?

Elias

Mi fuoch chi'n gapten yn llynges ei Fawrhydi yn y rhyfel enbyd yma, Syr John? (Mae SYR JOHN yn moesymgrymu.) A'ch dyrchafu'n farchog i goroni'ch gyrfa enwog... (Moesymgrymu cadarnhaol eto.) Mi fuoch chi hefyd yn Uchel Sirif sir Fôn. (Yr un peth eto.) Dyna'r pam y mentrais i ofyn am eich gweld chi, Syr John. Mi wyddoch chi'n well na nemor neb am beryglon y môr a helynt llongwyr ynys Môn yn y rhyfel, yn arbennig y llongau masnach y mae llongau rhyfel Napoleon yn eu herlid a'u dal.

Syr John

Mae brwydr Traffalgar y llynedd wedi gostwng llawer ar y peryglon hynny.

Elias

Do'n wir, Syr John, ac i chi'r capteiniaid a'r Arglwydd Nelson dan ragluniaeth y nef y mae'r diolch. Roedd y tâl yn ddrud hefyd, colli'r fath lyngesydd ar union awr y fuddugoliaeth. Ond y mae ambell long ryfel o Ffrainc yn ffroeni o gwmpas moroedd Cymru hyd yn oed rwan.

Syr John

Ac weithiau'n dal ysglyfaeth. Fel yna, welwch chi, mae capteiniaid llynges yn ennill eu bara.

Elias

A'u hysglyfaeth yn dihoeni yng ngharcharau Ffrainc.

Syr John

Mae'n drueni amdanyn nhw, ond rhyfel ydy rhyfel.

Elias

Mae nifer ohonyn nhw'n Gymry, Syr John.

Syr John

Oes rhai o Sir Fôn yma?

Elias

Un o Amlwch, Capten Thomas Owen, perchennog ei long ei hun. Roedd o'n un o bum llong yn hwylio gyda llwyth o Amlwch i Lundain, ac un o'n llongau rhyfel ni yn eu hebrwng nhw. Ond tua thrwyn Cernyw mi drodd y llong ryfel yn ôl a'u gadael nhw heb warchod. Daeth llong ryfel o Brest ar eu gwartha nhw. Doedd dim amdani ond gwasgar. Fe ddaliwyd yr Elinor, llong Thomas Owen, ac y mae yntau rwan mewn carchar yn Verdun yn Ffrainc. Nid fo'n unig, ond amryw Gymry eraill, capteiniaid llongau o Fôn ac Arfon... Syr John, casglu cronfa i helpu'r Cymry hyn yn Ffrainc i brynu bwyd a chysuron yr ydw innau, a dwad yma i ofyn i chi helpu ydy fy neges i.

Syr John

Ydach chi'n nabod rhai ohonyn nhw?

Elias

Rydw i'n nabod Capten Thomas Owen yn dda. Mi fu o am dymor yn Fethodist, ond fe wrthgiliodd.

Syr John

A chithau'n casglu iddo fo?

Elias

Mae'n o'n Gymro ac mewn angen.

Syr John

I'r Cymry rydych chi'n casglu?

Elias

I'r carcharorion rhyfel yn Ffrainc o Fôn ac Arfon a Meirionnydd. Rydan ni wedi anfon hanner can punt atyn nhw eisoes, ond mae gofyn am chwaneg. Maen nhw'n crefu'n daer.

Syr John

Oes gennych chi rywbeth i ddangos iddyn nhw dderbyn yr arian?

Elias

(Gan roi papurau iddo.) Dyma i chi ddogfennau o Lundain a Pharis yn cydnabod derbyn ac yn gofyn am chwaneg.

Syr John

(Yn darllen.) Sir John Elias! (Gydag ynganiad Saesneg.) Pwy ydy hwnnw?

Elias

(Dan wenu.) Eich ufudd was. Anodd i bobl yn Ffrainc ddychmygu am neb llai na marchog sir yn estyn cymorth i drueiniaid rhyfel.

Syr John

Yn wir, rydach chi'n rhoi golwg newydd i minna ar y Methodistiaid. Peth anghyffredin yn eich hanes chi?

Elias

Syr John, mae gennym ni Fethodistiaid esgob o lywydd i Ogledd Cymru yn y Parchedig Mr. Thomas Charles o'r Bala. Fo sy'n ein dysgu ni i anrhydeddu'r brenin ac ufuddhau i'r llywodraeth. Y mae casglu i'r capteiniaid o Gymry yn Ffrainc ac i Gymdeithas y Beiblau drwy'r byd yn rhan o'n dyletswydd ni yn ôl Epistol Pedr ac yn ôl athrawiaeth Mr. Charles.

Syr John

Wel, mi gaiff fod yn rhan o 'nyletswydd inne, er nad ydw i ddim yn Fethodist. Mi ro i ddau gini i chi at yr achos da.

Elias

Bendith y nefoedd arnoch chi, syr, ac ar─roeddwn i ar fin dweud ac ar eich teulu. Ond gŵr dibriod ydach chi.

Syr John

Wel ie, hyd yn hyn, hyd yn hyn... Ond rhoswch rwan, mi fydda i'n eistedd ar y fainc weithiau gyda Mr. Richard Broadhead. Rydach chi, yn ôl a glywaf i, yn fab yng nghyfraith iddo fo?

Elias

Mi gefais i'r anrhydedd o ennill llaw ei ferch hynaf o. Ond nid o fodd Mr. Broadhead, mae'n ddrwg gen i ddeud.

Syr John

Mae hynny'n naturiol. Mae priodi'n is na'i stad yn beryg go enbyd, yn enwedig i ferch.

Elias

Mi wn ei fod o'n berigl ac yn dramgwydd. Ond chlywais i erioed awgrym o hynny gan fy ngwraig.

Syr John

Mi ddalia i naddo. Rydw i'n ei chofio hi'n eneth fach, yr hyna ohonyn nhw, ffefryn annwyl ei thad, merch fonheddig a gwraig fonheddig.

Elias

Gwraig dduwiol.

Syr John

Aha? Chi wnaeth Fethodist ohoni?

Elias

Roedd hi'n Fethodist cyn i mi ei gweld hi.

Syr John

Felly nid ei phriodas oedd achos y rhwyg rhyngddi a'i thad?

Elias

Ei chrefydd hi oedd cychwyn y trwbl, mynd i'r seiat.

Syr John

Dewis cwmni isel, gwerinol. Wedyn priodi i'w chlymu ei hun ynddo. Druan o'r hen Broadhead, colli cannwyll ei lygad. A dwyn gwarth arno hefyd. Hynny yw, yn ei gylch ei hun.

Elias

Mae o'n dechrau maddau iddi hi.

Syr John

Ac i chithau? Wedi'r cwbl, mae ganddo fab yng nghyfraith reit enwog.

Elias

Wel, mae o'n cyfrannu at y gronfa yma i helpu'r Cymry yn Ffrainc.

Syr John

Rydach chi'n swynwr heb eich bath. Mi ddalia i mai yn y pwlpud y gwelodd Miss Broadhead chi gynta?

Elias

Pregethu ydy fy ngwaith i, fy mywyd i. I hynny y'm galwyd i. Mi welodd hithau hynny.

Syr John

Mae pwlpud yn berig i ferch!

Elias

Tybed nad ydy plas hen lanc yn berig i ferch?

Syr John

Wel ie, digon posib. Ond fu 'na rioed ferch a briododd y pwlpud a'r plas.

Elias

Gadael y plas i weini ar y pwlpud, dyna offrwm fy ngwraig i.

Syr John

Offrwm? Gair da yn ei le... Dwedwch i mi, a gobeithio nad ydy'r cwestiwn ddim yn rhy bersonol... gawsoch chi fod priodi mor anghyfartal o ran dosbarth a dygiad i fyny, yn anodd?

Elias

Syr John, os ydy'r briodas o'r ddwy ochr o wirfodd─

Syr John

Ie?

Elias

Yna does dim priodi anghyfartal.

Syr John

(Gan groesi ato a chymryd ei law yn wresog.) Sir John Elias! Sir John Elias! Ateb gŵr bonheddig. Rydych chi'n codi fy nghalon i'n arw... (Chwerthin calonnog.) Fwy nag y tybiwch chi. Mi ddaethoch chi yma pan oedd eich angen chi... Faint ddwedais i y rhown i i'r gronfa yma?

Elias

Dau gini, yntê?

Syr John

Mae'ch neges chi heddiw yn haeddu mwy na hynny. Dywedwn bum punt. Arhoswch... (Mae ef yn canu'r gloch.) Rhaid inni fynd i'r offis.... (Daw Walter ato.) Walter, tyrd â het a chot Mr. Elias i'r offis. Mae gennyn ni fusnes yno...



Cymer ef fraich ELIAS a'i arwain allan a WALTER, a'i geg yn fawr agored syn, yn eu gwylio.

TERFYN YR OLYGFA

a1