| (Awdur) Pwy ar y ddaear...? | |
| (Awdur) Mae arna' i eisiau eglurhad. | |
| (1, 0) 19 | Gennych chi mae gwaith egluro, 'rwy'n credu. |
| (Awdur) Fi? | |
| (Awdur) 'Wn i yn y byd─ | |
| (1, 0) 23 | Ystyriwch eto. |
| (Awdur) O dowch, dowch! | |
| (Awdur) Llai o'r chware plant yma! | |
| (1, 0) 26 | Nid chware plant mono fo. |
| (1, 0) 27 | 'Rwy' o ddifri'. |
| (Awdur) O'r gora'. | |
| (Awdur) Mae yna ryw gamgymeriad yn amlwg. | |
| (1, 0) 30 | 'Does yna ddim camgymeriad o fath yn y byd. |
| (Awdur) Yna'n enw rheswm, 'wnewch chi esbonio'r dirgelwch i mi? | |
| (Awdur) Beth ydy'ch meddwl chi'n dwad i'r tŷ yma mor ddiseremoni? | |
| (1, 0) 33 | 'Doedd gen'i ddim dewis. |
| (1, 0) 34 | 'Roedd yn rhaid i mi ddwad yma. |
| (Awdur) Ond—! | |
| (Awdur) Ond—! | |
| (1, 0) 36 | Oeddech chi ddim yn fy nisgwyl? |
| (Awdur) Am y tro d'wetha', pwy ydych chi? | |
| (Awdur) Am y tro d'wetha', pwy ydych chi? | |
| (1, 0) 38 | 'Ddylech chi ddim gofyn hynna. |
| (1, 0) 39 | 'Rydych yn fy 'nabod i'n well na neb. |
| (Awdur) Beth! | |
| (Awdur) 'Welais i 'rioed monoch chi o'r blaen. | |
| (1, 0) 42 | Edrychwch arna' i eto—yn fanwl. |
| (1, 0) 45 | Wel, 'ydych chi'n fodlon? |
| (Awdur) {A'i gefn ati. Nid oes argyhoeddiad yn ei lais.} | |
| (Awdur) Ydw'... rydych yn hollol ddieithr i mi. | |
| (1, 0) 48 | 'Dydy' hynna ddim yn wir. |
| (1, 0) 49 | Pam na wnewch chi gyfadde'? |
| (Awdur) O, hwyrach i mi eich gweld yn rhywle, rywdro─yn un o'r dorf. | |
| (Awdur) 'Ydy' hynna'n glir? | |
| (1, 0) 54 | Ac eto mae yna anesmwythyd yn eich meddwl. |
| (1, 0) 55 | Fel pe baech yn teimlo y dylech f'adnabod. |
| (1, 0) 56 | Ond ar yr un pryd, yn ofni beth fyddai hynny'n 'i olygu. |
| (Awdur) 'Rydych chi'n siarad mewn damhegion. | |
| (Awdur) 'Dydw'i ddim yn eich deall. | |
| (1, 0) 59 | 'Fynnwch chi ddim deall, yn hytrach... |
| (1, 0) 60 | O'r gora' rhaid wrth braw' felly. |
| (1, 0) 61 | 'Ydy' o'n wir mai Awdur ydych chi? |
| (Awdur) Ydy'. | |
| (Awdur) Ydy'. | |
| (1, 0) 63 | A'r foment yma 'rydych wrthi'n sgrifennu drama? |
| (Awdur) {Syn} | |
| (Awdur) Sut y gwyddech chi hynna? | |
| (1, 0) 66 | 'Rwy'n gwybod cymaint â chwitha' pob tipyn,—mwy efallai. |
| (1, 0) 67 | 'Rwy'n gwybod er enghraifft i chi fod mewn cyfyng-gyngor ers rhai misoedd. |
| (1, 0) 68 | Rydych wedi sgrifennu hanner eich drama ond fedrwch chi'n eich byw fynd ymlaen. |
| (1, 0) 69 | 'Fedrwch chi mo'i gadael hi chwaith, er i chi drio fwy nag unwaith. |
| (1, 0) 70 | 'Rydych yn gwingo mewn rhwyd. |
| (1, 0) 71 | A pho fwyaf y gwingwch, tynna'n y byd y'ch clymir yn y rhaffau... |
| (1, 0) 72 | Ydych chi'n dechra' gylweddoli pwy ydw' i? |
| (Awdur) {Cymryd cam yn ôl} | |
| (Awdur) Na, 'dydy' o ddim yn bosibl! | |
| (1, 0) 75 | 'Ellwch chi ddim gwadu tystiolaeth eich llygaid eich hun. |
| (1, 0) 76 | Edrychwch ar fy llaw. |
| (1, 0) 77 | Teimlwch wres bywyd yn 'i chnawd, a churiad y gwaed yn 'i gwythiennau. |
| (1, 0) 79 | Pam 'rydych chi'n petruso? |
| (1, 0) 80 | 'Wna'i ddim niwed i'r sawl a'm creodd! |
| (Awdur) Beth... dd'wedsoch chi? | |
| (Awdur) Beth... dd'wedsoch chi? | |
| (1, 0) 82 | 'Mod i'n un o gymeriadau eich drama, a fy mod i'n fyw. |
| (Awdur) Ann! | |
| (Awdur) Ann! | |
| (1, 0) 84 | Ann Morgan, ia. |
| (1, 0) 85 | Wyth ar hugain oed, ac yn wraig i Lewis ers pedair blynedd. |
| (1, 0) 86 | 'Roedde' ni'n byw yng Nghaerdydd nes i'w iechyd dorri i lawr,— ydych chi'n cofio? |
| (1, 0) 87 | Dyna pam y daethom yma wyth mis yn ôl, i aros efo'i dad... |
| (Awdur) Arhoswch! | |
| (Awdur) P'le dd'wedsoch chi mae'r hen ŵr yn byw? | |
| (1, 0) 90 | Yma, debyg iawn, yn hen blasty-fferm "Llwyn Bedw". |
| (Awdur) Dyna ben ar eich chwedl! | |
| (Awdur) Ewch, ewch i mi gael deffro! | |
| (1, 0) 100 | Lewis, mae o'n trio'n cadw ni allan! |
| (Lewis) Mae'n rhy hwyr i hynny, wyddoch chi. | |
| (Lewis) Mae pethau wedi mynd yn rhy bell. | |
| (1, 0) 104 | Ond fyn o ddim coelio, Lewis. |
| (Lewis) Amser a ddengys. | |
| (Awdur) Celwydd! | |
| (1, 0) 124 | Seth—! |
| (Seth) {Bras-gamw'n syth at yr AWDUR} | |
| (Lewis) Ond 'dydy'r gwewyr ddim yn gyfyngedig i chi. | |
| (1, 0) 137 | A pha fath ar enedigaeth ydy' o, os ydych yn gwadu bodolaeth y sawl a enir? |
| (Seth) Yn hollol! | |
| (Morus) Beth...? | |
| (1, 0) 178 | Mae o'n wir. |
| (1, 0) 179 | Ychydig cyn i chi ddwad i mewn, 'roedd o'n gwadu'n bodolaeth ni. |
| (Awdur) 'Rwy'n dal i'w wadu. | |
| (Awdur) Colli'r Awen dros dro, dyna'r cyfan. | |
| (1, 0) 194 | Beth ydych chi'n 'i olygu wrth "Awen"? |
| (Awdur) Wel, ysbrydoliaeth,—yr ysfa i greu os mynnwch chi. | |
| (1, 0) 236 | Os ydych yn credu hynna, ewch ati. |
| (1, 0) 237 | Buan iawn y gwelwch eich camgymeriad. |
| (1, 0) 238 | Nid cymeriadau o gig a gwaed fyddai gennych ar ddiwedd y daith. |
| (1, 0) 239 | I chwi mae'r dewis. |
| (1, 0) 240 | Os ydych yn fodlon ar bypedau'n dawnsio ar ben llinyn popeth yn iawn, ewch ati,—sgrifennwch. |
| (1, 0) 241 | Ac ar ôl i chi orffen eich tipyn drama, taflwch hi i'r tân o gywilydd! |
| (1, 0) 242 | Hwyrach y byddwch yn barotach wedyn i gydnabod a pharchu'n personoliaeth. |
| (Awdur) Peidiwch â dweud ein bod am gael dagrau! | |
| (Awdur) 'Does gennych chi ddim profiad ar wahan i mi, eich crewr! | |
| (1, 0) 333 | 'Rydy' ni wedi trafod hynna'n barod. |
| (Seth) A pheidiwch â rhygnu ar y busnes creu yna. | |
| (Awdur) A mi fynna'i wybod pwy ydy' o. | |
| (1, 0) 347 | Pa faint gwell fyddwch chi? |
| (1, 0) 348 | 'Ellwch chi ddim dianc rwan, mae'n rhy hwyr. |
| (Awdur) Wrth gwrs 'rydych yn ofni'n eich calon! | |
| (1, 0) 400 | Dowch, 'steddwch i lawr. |
| (1, 0) 401 | Mae'n siŵr eich bod wedi blino. |
| (Mabli) Ydw' braidd... | |
| (Awdur) Yn enw popeth, ewch odd' yma rwan cyn iddi fynd yn rhy hwyr! | |
| (1, 0) 407 | Mae hi'n aros yma. |
| (Mabli) Wel, Sioned. | |
| (Lewis) Dyma'r dewis i chi, felly,—un ai aros mewn cyfyng-gyngor parhaus, neu adael i ni gyflawni'n tynged yn ein ffordd ein hunain. | |
| (1, 0) 458 | P'run gymrwch chi i |
| (Awdur) Cyn i mi ateb hynna, 'rwyf am awgrymu ffordd arall o'r dryswch. | |
| (Awdur) Ystyriwch eto, 'rwy'n erfyn arnoch. | |
| (1, 0) 473 | 'Rydym wedi ystyried popeth. |
| (1, 0) 474 | Ein cyfrifoldeb ni ydy'r dyfodol. |
| (1, 0) 475 | Does arno' ni ddim ofn ei wynebu. |
| (Awdur) 'Fedrwch chi ddim gwneud hebof fi. | |
| (Morus) O'r diwedd! | |
| (1, 0) 492 | Yn rhydd! |
| (Seth) Yn rhydd, a'r dyfodol yn ein dwylo! | |
| (1, 0) 512 | Gadwch iddi, Seth. |
| (Sioned) Mae'r dyn o'i go'n lân! | |
| (Seth) Gwaed y grawnwin a heulwen y de! | |
| (1, 0) 528 | Hidiwch befo, Sioned. |
| (1, 0) 529 | Mi wna' fi. |
| (1, 0) 530 | Ewch i'r gegin i wneud 'panaid i chi'ch hun. |
| (1, 0) 531 | Rwy'n siwr na chymrwch chi ddim o hwn. |
| (Sioned) 'Yfais i 'rioed ddiferyn o ddiod feddwol. | |
| (Seth) {Rhoi gwydr iddi.} | |
| (1, 0) 545 | Beth am...? |
| (Seth) Tipyn o hen Biwritan ydy' ynta' hefyd. | |
| (1, 0) 550 | O wel... Mabli? |
| (Morus) Na, mae o'n agosau at ben 'i gŵys, 'rhen greadur. | |
| (1, 0) 576 | 'Chwaneg o win, Mabli? |
| (Mabli) Na, dim diolch. | |
| (Mabli) Rhaid i minna' feddwl am fynd. | |
| (1, 0) 579 | Mor fuan? |
| (Mabli) Wel, does dim diben aros yma rwan. | |
| (Mabli) Wel, does dim diben aros yma rwan. | |
| (1, 0) 581 | Ond! |
| (Mabli) Peidiwch â phryderu. | |
| (Mabli) Mae'n debyg bod hyn yn ffarwel... | |
| (1, 0) 597 | Ond 'rydym yn siŵr o gyfarfod eto? |
| (Mabli) Pwy a ŵyr? | |
| (Lewis) 'Does gen' i fawr o awydd eu cymryd nhw—y tabledi yna 'rwy'n 'i feddwl. | |
| (1, 0) 613 | Ond pam? |
| (1, 0) 614 | 'Does yna ddim rhinwedd mewn diodde' poen ag ymgeledd wrth law. |
| (Lewis) Hwyrach eich bod yn iawn. | |
| (Lewis) Ac eto, 'dyw poen ddim heb ei fantais. | |
| (1, 0) 617 | 'Dwy' i ddim yn deall. |
| (Lewis) Mae o wedi cryfhau fy ffydd i yn ystod y misoedd diwetha' yma, yn un peth. | |
| (1, 0) 623 | Lewis? |
| (Lewis) la? | |
| (Lewis) la? | |
| (1, 0) 625 | Ai dyna'r unig reswm pam 'roeddech chi'n dewis eich rhyddid? |
| (Lewis) Dyna'r prif reswm, yn naturiol... | |
| (Lewis) Ann? | |
| (1, 0) 633 | Ar ddim yn neilltuol... |
| (1, 0) 634 | Cysgodion yn y dŵr, patrwm y dail ar yr awyr... |
| (1, 0) 635 | Mae yna greyr-glas draw acw'n hedfan i'r mynydd: arwydd o 'law, medda' nhw. |
| (Lewis) {Codi.} | |
| (Lewis) Mae Seth wedi gwneud ers talwm. | |
| (1, 0) 648 | Ple y rhowch chi o? |
| (Lewis) 'Does yna ond un lle,—yn y fan yma, o dan enw 'nhad. | |
| (1, 0) 686 | 'Ydych chi'n meddwl 'i fod o'n gwella? |
| (Morus) Wel... fe glywsoch be' dd'wedais i funud yn ôl. | |
| (Morus) Wel... fe glywsoch be' dd'wedais i funud yn ôl. | |
| (1, 0) 688 | 'Oeddech chi'n dweud y gwir? |
| (Morus) Oeddwn, hyd y gwyddwn i. | |
| (Morus) Ond ar ôl heno mae'r rhagolygon yn fwy calonogol, efallai. | |
| (1, 0) 693 | 'Gymrwch chi lymaid arall o win? |
| (Morus) Diolch yn fawr. | |
| (1, 0) 698 | O, dim ond Medoc... |
| (1, 0) 699 | A'r diferion olaf, 'rwy'n ofni! |
| (Morus) Meddwl oeddwn i rwan... | |
| (1, 0) 704 | Ia? |
| (Morus) Am y tro cyntaf y dois i yma. | |
| (Morus) P'run bynnag, 'roedd hi'n noson stormus—. | |
| (1, 0) 709 | A'r afon yn genlli'. |
| (1, 0) 710 | 'Roedde' ni'n meddwl na fedrech chi byth ddwad yma. |
| (1, 0) 711 | A minnau'n poeni am Lewis. |
| (1, 0) 712 | Ac yn credu 'i fod o ar fin... marw. |
| (Morus) Ia, rwy'n eich gweld rwan,—eich llygaid yn llawn pryder, a'r gwynt yn datod modrwy fach o'ch gwallt─ | |
| (1, 0) 716 | Gawn ni—? |
| (Morus) 'Rydy' ni wedi yfed eisoes i Ryddid. | |
| (Morus) Beth fydd o y tro yma? | |
| (1, 0) 719 | 'Wn i ddim. |
| (1, 0) 720 | Hapusrwydd efallai,—na, gwell peidio. |
| (Morus) Pam? | |
| (Morus) Pam? | |
| (1, 0) 722 | Ofn digio Ffawd, hwyrach. |
| (Morus) Ond 'dydy' o ddim gormod i' ofyn. | |
| (Morus) Onid dyna'r rheswm i ni ddewis mynd ein ffordd ein hunain? | |
| (1, 0) 725 | Ia, ond mae hapusrwydd yn beth mor wibiog. |
| (1, 0) 726 | Mae yna beryg' i ni fethu â chael gafael ynddo wedi'r cyfan. |
| (Morus) Ein bai ni fyddai hynny. | |
| (1, 0) 730 | Maddeuwch i mi. |
| (1, 0) 731 | 'Ddylwn i ddim swnio mor bruddglwyfus. |
| (1, 0) 733 | A 'dydw'i ddim wedi diolch i chi eto am eich caredigrwydd yn ystod y misoedd d'wetha' yma. |
| (Morus) 'Does dim rhaid i chi ddiolch. | |
| (Morus) Wnes i ddim ond fy nyletswydd. | |
| (1, 0) 736 | Fe wnaethoch lawer mwy na hynny. |
| (Morus) {Mynd ati.} | |
| (1, 0) 740 | Wn i ddim ydych chi wedi sylwi ar y llun yma o'r blaen? |
| (1, 0) 742 | Copi ydy' o, wrth gwrs. |
| (1, 0) 743 | Y gwreiddiol gan Filippo Lippi, 'rwy'n credu. |
| (1, 0) 744 | Fe wyddoch beth ydy' o? |
| (Morus) {Nid yw wedi tynnu ei lygad oddi ar ANN.} | |
| (Morus) Gwn,─ llun Sant Jerôm yn 'i guro'i hun â charreg i ddarostwng y cnawd. | |
| (1, 0) 747 | Mae Lewis yn meddwl y byd ohono fo. |
| (Morus) Ydy', mi greda'i hynny... | |
| (Morus) Ydy', mi greda'i hynny... | |
| (1, 0) 749 | 'Dydy' ni ddim wedi yfed ein gwin. |
| (Morus) Naddo. | |
| (Morus) 'Dydw'i ddim yn bwriadu ei yfed nes... | |
| (1, 0) 752 | Nes beth? |
| (Morus) Nes y byddwn wedi dewis y llwnc-destun priodol. | |
| (Morus) Nes y byddwn wedi dewis y llwnc-destun priodol. | |
| (1, 0) 754 | Digon hawdd tostio Rhyddid unwaith yn rhagor. |
| (Morus) Ydy', rhy hawdd. | |
| (Morus) A'r ateb i'r cwestiwn fydd ein llwnc-destun. | |
| (1, 0) 762 | Fedrwn ni ddim ateb dros y lleill. |
| (Morus) 'Does a wnelo' ni ddim â nhw rwan. | |
| (Morus) 'Does a wnelo' ni ddim â nhw rwan. | |
| (1, 0) 764 | Sut felly? |
| (Morus) Mae ganddyn' nhw eu rhesymau eu hunain. | |
| (Morus) A dyna Lewis,—wel, does dim angen dweud am dano fo. | |
| (1, 0) 768 | Abram Morgan a Sioned? |
| (Morus) Mae nhw'n wahanol. | |
| (Morus) Maddeuwch i mi. | |
| (1, 0) 775 | 'Does yna ddim i' fadda'. |
| (Morus) 'Ydych chi'n dweud...? | |
| (Morus) Beth oedd eich cymhelliad? | |
| (1, 0) 779 | Dianc. |
| (Morus) Dianc oddi wrth beth? | |
| (Morus) Dianc oddi wrth beth? | |
| (1, 0) 781 | Oddi wrth fywyd oedd wedi troi'n ddiffaethwch... |
| (Morus) Ia, mi wyddwn i hynna. | |
| (Morus) 'Doedd dim rhaid i mi ofyn. | |
| (1, 0) 784 | O, mi driais ei wynebu, Duw a ŵyr. |
| (1, 0) 785 | Ond yn y diwedd... |
| (Morus) 'Rydych chi allan o'r diffaethwch 'rwan, Ann. | |
| (Morus) 'Rwy'n eich caru, gorff ac enaid. | |
| (1, 0) 792 | Mi wn i hynny ers tro, John. |
| (1, 0) 793 | 'Fedrech chi mo'i guddio'n llwyr... |
| (1, 0) 794 | 'Does dim rhaid i chi drio'i guddio rwan. |
| (Morus) Ann! | |
| (Morus) Ann! | |
| (1, 0) 797 | 'Ydych chi'n cofio am y llwnc-destun? |