a1

Cyfyng-Gyngor (1958)

Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1958 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


ACT I Pan godir y Llen, gwelir yr AWDUR wrth ei beiriant-teipio. Mae'n amlwg ei fod yn cael cryn anhawster â'i waith, ac ar ôl ychydig eiliadau tyn y papur o'r peiriant a'i daflu'n ddiamynedd i'r fasged. Cyfyd yr AWDUR, a dod ymlaen at ymyl y llwyfan; saif yno mewn myfyrdod, a thanio sigaret. Heb yn wybod ddo, agorir y drws y tu ôl, a daw merch (ANN) i mewn; mae'n cau'r drws ac yn sefyll â'i chefn arno. Yna, fel petai'n teimlo'i phresenoldeb, try'r AWDUR a syllu arni'n syn. Am eiliad nid oes air rhyngddynt.

Awdur

Pwy ar y ddaear...?



Nid yw'r ferch yn ateb. Cymer yr AWDUR ddau neu dri cham tuag ati, yna saif drachefn.

Awdur

Esgusodwch fi, ond beth ydy' ystyr hyn? 'Chlywais i monoch chi'n cnocio. Pwy ydych chi?



Daw'r ferch ymlaen yn araf at yr AWDUR.

Awdur

Wel?... Edrychwch yma. 'Does gen' i ddim amser nac amynedd i wastraffu. Mae arna' i eisiau eglurhad.

Ann

Gennych chi mae gwaith egluro, 'rwy'n credu.

Awdur

Fi? Beth ydych yn 'i feddwl? 'Wn i yn y byd─

Ann

Ystyriwch eto.

Awdur

O dowch, dowch! Llai o'r chware plant yma!

Ann

Nid chware plant mono fo. 'Rwy' o ddifri'.

Awdur

O'r gora'. Mae yna ryw gamgymeriad yn amlwg.

Ann

'Does yna ddim camgymeriad o fath yn y byd.

Awdur

Yna'n enw rheswm, 'wnewch chi esbonio'r dirgelwch i mi? Beth ydy'ch meddwl chi'n dwad i'r tŷ yma mor ddiseremoni?

Ann

'Doedd gen'i ddim dewis. 'Roedd yn rhaid i mi ddwad yma.

Awdur

Ond—!

Ann

Oeddech chi ddim yn fy nisgwyl?

Awdur

Am y tro d'wetha', pwy ydych chi?

Ann

'Ddylech chi ddim gofyn hynna. 'Rydych yn fy 'nabod i'n well na neb.

Awdur

Beth! 'Welais i 'rioed monoch chi o'r blaen.

Ann

Edrychwch arna' i eto—yn fanwl.



Mae'r AWDUR yn craffu arni. Yna try oddiwrthi mewn mnenbleth.

Ann

Wel, 'ydych chi'n fodlon?

Awdur

(A'i gefn ati. Nid oes argyhoeddiad yn ei lais.) Ydw'... rydych yn hollol ddieithr i mi.

Ann

'Dydy' hynna ddim yn wir. Pam na wnewch chi gyfadde'?

Awdur

O, hwyrach i mi eich gweld yn rhywle, rywdro─yn un o'r dorf. (Troi ati.) Ond 'wn i ddim pwy ydych chi. 'Ydy' hynna'n glir?

Ann

Ac eto mae yna anesmwythyd yn eich meddwl. Fel pe baech yn teimlo y dylech f'adnabod. Ond ar yr un pryd, yn ofni beth fyddai hynny'n 'i olygu.

Awdur

'Rydych chi'n siarad mewn damhegion. 'Dydw'i ddim yn eich deall.

Ann

'Fynnwch chi ddim deall, yn hytrach... O'r gora' rhaid wrth braw' felly. 'Ydy' o'n wir mai Awdur ydych chi?

Awdur

Ydy'.

Ann

A'r foment yma 'rydych wrthi'n sgrifennu drama?

Awdur

(Syn) Sut y gwyddech chi hynna?

Ann

'Rwy'n gwybod cymaint â chwitha' pob tipyn,—mwy efallai. 'Rwy'n gwybod er enghraifft i chi fod mewn cyfyng-gyngor ers rhai misoedd. Rydych wedi sgrifennu hanner eich drama ond fedrwch chi'n eich byw fynd ymlaen. 'Fedrwch chi mo'i gadael hi chwaith, er i chi drio fwy nag unwaith. 'Rydych yn gwingo mewn rhwyd. A pho fwyaf y gwingwch, tynna'n y byd y'ch clymir yn y rhaffau... Ydych chi'n dechra' gylweddoli pwy ydw' i?

Awdur

(Cymryd cam yn ôl) Na, 'dydy' o ddim yn bosibl!

Ann

'Ellwch chi ddim gwadu tystiolaeth eich llygaid eich hun. Edrychwch ar fy llaw. Teimlwch wres bywyd yn 'i chnawd, a churiad y gwaed yn 'i gwythiennau.



Edrych yr AWDUR arni'n syn, ond nid yw'n cyffwrdd ynddi.

Ann

Pam 'rydych chi'n petruso? 'Wna'i ddim niwed i'r sawl a'm creodd!

Awdur

Beth... dd'wedsoch chi?

Ann

'Mod i'n un o gymeriadau eich drama, a fy mod i'n fyw.

Awdur

Ann!

Ann

Ann Morgan, ia. Wyth ar hugain oed, ac yn wraig i Lewis ers pedair blynedd. 'Roedde' ni'n byw yng Nghaerdydd nes i'w iechyd dorri i lawr,— ydych chi'n cofio? Dyna pam y daethom yma wyth mis yn ôl, i aros efo'i dad...

Awdur

Arhoswch! P'le dd'wedsoch chi mae'r hen ŵr yn byw?

Ann

Yma, debyg iawn, yn hen blasty-fferm "Llwyn Bedw".

Awdur

Dyna ben ar eich chwedl! Ai hen blas 'rydych chi'n galw'r byngalo-brics yma? Edrychwch arno fo,—yn dŷ newydd sbon â'r cyfleustera modern i gyd; a'i rent, gwaetha'r modd, yn ddeuddeg punt y mis! Ewch yn ôl i fyd breuddwydion, Ann Morgan. Yno mae eich lle, nid yma... Ewch, ewch i mi gael deffro!



Saif ANN am ennyd, yna try'n sydyn a rhedeg at y drws a'i agor. Daw LEWIS i mewn ar bwys ei ffon. Mae golwg braidd yn gystuddiol arno.

Ann

Lewis, mae o'n trio'n cadw ni allan!



Daw LEWIS ymlaen yn araf at yr AWDUR.

Lewis

Mae'n rhy hwyr i hynny, wyddoch chi. Mae pethau wedi mynd yn rhy bell.

Ann

Ond fyn o ddim coelio, Lewis.

Lewis

Amser a ddengys. Fe ddaw'r lleill yma'n y man.

Awdur

Y... lleill?

Lewis

Ia, y gweddill ohono' ni. Fy nhad, a Seth fy mrawd, Sioned y forwyn a Doctor Morus. 'Rydych yn eu 'nabod i gyd... Maddeuwch i mi am eistedd i lawr. (Mae'n eistedd.) Fel y gwyddoch chi, 'dydy' fy iechyd i ddim fel y dyla' fo fod. 'Wna' i ddim cweryla efo chi am hynny, er mai chi sy'n gyfrifol. Y dyfodol sy' gen' i dan sylw, nid y gorffennol.

Awdur

(Codi ei lais) Y presennol sy'n bwysig i mi. 'Dydych chi ddim yn sôn am hwnnw. Feiddiwch chi ddim. Does gennych chi na bywyd na bodolaeth y tu allan i'm dychymyg i! SETH (Yn dod i mewn.) Celwydd!

Ann

Seth—!

Seth

(Bras-gamw'n syth at yr AWDUR) Celwydd meddaf eto! 'Rydym mor fyw â chwithau pob tipyn. Y presennol dd'wedsoch chi?

Awdur

Ia, 'rwy'n eich herio!

Seth

Heriwch faint â fynnoch. Beth am y presennol i chi? 'Ydych chi'n fodlon arno fo? Chi, sydd mewn poen meddwl ers misoedd.

Awdur

Poen creu ydy' hwnnw. 'Does yna 'run genedigaeth heb ei wewyr.

Lewis

Ond 'dydy'r gwewyr ddim yn gyfyngedig i chi.

Ann

A pha fath ar enedigaeth ydy' o, os ydych yn gwadu bodolaeth y sawl a enir?

Seth

Yn hollol! Myn enaid, 'ydych chi'n meddwl mai hanner dwsin o erthylod ydy' ni?

Lewis

Gan bwyll, Seth.

Seth

Gan bwyll, o ddiawl! 'Rwy' wedi diodde' digon oddiar ei law heb iddo goroni'r cyfan â'i sarhad!



Mae'r AWDUR yn troi i ffwrdd.

Lewis

Gwranda arna' i am funud...

Seth

Os wyt ti am awgrymu dwad i delerau, Lewis, cei arbed dy wynt. 'Does yna ddim cyfaddawd i fod.

Lewis

'Doeddwn i ddim yn bwriadu awgrymu'r fath beth. Ond 'setlwn ni mo'r broblem y naill ffordd na'r llall nes y bydd pawb wedi cyrraedd.... P'le mae nhad?

Seth

Fe fydd yma unrhyw funud 'rwan. Paid â phryderu, mae o yng ngofal Sioned. 'Chaiff o ddim cam.



Mae SETH yn tanio sigaret yn nerfus.

Lewis

Dyma nhw ar y gair 'rwy'n credu.



Daw DOCTOR MORUS i mewn a chaw'r drws ar ei ôl. Saif am ennyd a syllu yn llygaid ANN.

Lewis

Na, Doctor Morus ydy' hwn.

Awdur

Doctor Morus!

Morus

Hanner munud, os gwelwch yn dda. Popeth yn ei dro. (Gesyd ei fag ar y bwrdd a dod ymlaen at LEWIS.) Sut ydych chi'n teimlo?

Lewis

O rhywbeth yn debyg, doctor. Ac wedi blino braidd wrth gwrs.

Morus

Beth am y goes? Dal yn boenus? (Rhoi ei fysedd ar arddwrn LEWIS.)

Lewis

Ydy' weithia. Ac yn ddiffrwyth bob yn ail.

Morus

Hm! Fe all hynny fod yn arwydd da. Y peth pwysica' rwan ydy' rhoi terfyn ar yr ansicrwydd yma. (Mynd at yr AWDUR.) Ac y mae hynny'n dibynnu arnoch chi. 'Rwy'n gobeithio eich bod yn sylweddoli...

Lewis

Dyna'r drwg, gwaetha'r modd, doctor. 'Dydy' o ddim.

Morus

Beth...?

Ann

Mae o'n wir. Ychydig cyn i chi ddwad i mewn, 'roedd o'n gwadu'n bodolaeth ni.

Awdur

'Rwy'n dal i'w wadu. Beth bynnag sydd i' gyfri' am yr hunlle yma, mi ddaliaf fy ngafael ar reswm a synnwyr cyffredin.

Seth

Synnwyr cyffredin...!

Lewis

Hanner munud, Seth. (Wrth yr AWDUR.) 'Ydych chi'n meddwl bod rheswm yn ddigon?

Awdur

Mae o'n ddigon i mi.

Morus

Ydy'—a dyna pam 'rydy' ni'n y picil truenus yma efo'n gilydd.

Lewis

Ystyriwch hyn; i fyny i dri mis yn ôl 'roeddech chi'n cael hwyl ar eich gwaith; yn sgrifennu'n rhwydd, a'r ddrama'n datblygu'n foddhaol...

Awdur

Mae hynna'n wir.

Lewis

Ac yna, yn sydyn, dyma saib. 'Fedrech chi symud 'run cam ymlaen ond troi yn eich unfan. Pam?

Awdur

Colli'r Awen dros dro, dyna'r cyfan.

Ann

Beth ydych chi'n 'i olygu wrth "Awen"?

Awdur

Wel, ysbrydoliaeth,—yr ysfa i greu os mynnwch chi. 'Fedrwch chi mo'i ddadansoddi.

Lewis

Yn hollol,—am ei fod yn ddirgelwch y tu hwnt i ddeddfau rheswm. 'Rydych yn dod yn nes ato' ni ar eich gwaetha'.

Awdur

Beth ydych yn 'i feddwl?

Morus

Mae o'n berffaith syml. Anghofiwch bopeth am Awen ac ysbrydoliaeth. 'Dydy'nhw'n golygu dim. 'Rydych chi mewn penbleth am ein bod ni'n dal yn ôl.

Awdur

(Chwerthin.) Dyna'r ora' eto! 'Ydy'r ffasiwn o fynd ar streic wedi cyrraedd byd y cysgodion hefyd? Wel! Wel!

Seth

Nid dyma'r amser i ffraethineb.

Awdur

(Ei anwybyddu.) Gwaith hawdd fydd datrys y broblem, felly. Dim ond cytuno ar gyflog,—yr un hen gân! Faint ga'i gynnig i chi—saith a chwech yr awr?

Lewis

Peidiwch â chymryd y peth yn ysgafn. Mae'r hyn a ddywedodd Doctor Morus yn berffaith wir. 'Roedde' ni'n ddigon bodlon cyd-gerdded â chi ar y cychwyn. Roedd popeth mewn cytgord, a datblygiad naturiol ymhob cymeriad. Ond yn y man, dyma ni'n cyrraedd y groesffordd. 'Roedde' ni'n hollol sicr pa lwybr i' ddewis. Ond 'fynnech chi ddim gadael i ni fynd. Roeddech yn benderfynol o'n hudo ar eich ôl i gyfeiriad arall. O ganlyniad, ar y groesffordd 'rydy' ni o hyd, a chwithau efo ni.



Mae'r AWDUR yn mynd â'r cwpwrdd a thywall gwirod bwygilydd i wydr. Cymer lymaid ohono.

Awdur

(Dan wenu.) Wel, mae hi'n ddiddorol dros ben, rhaid cyfadde'! Yn wahanol iawn i'r helyw o freuddwydion. Ond am hwyl, gadewch i ni fynd ymlaen efo'r sgwrs. 'Ydych chi'n beiddio dweud na fedrwn i eich denu ar fy ôl?

Seth

Na fedrwch byth!

Awdur

Yna, fe fydd rhaid eich gorfodi.

Seth

'Rydych wedi methu hyd yma.

Awdur

Peidiwch â bod yn rhy siwr. Hwyrach i mi anelu'n rhy uchel. Ond mae un peth yn sicr; mi fedrwn eich llusgo gerfydd eich gwalltiau i unrhyw gyfeiriad a fynwyf.

Ann

(Angerddol.) Os ydych yn credu hynna, ewch ati. Buan iawn y gwelwch eich camgymeriad. Nid cymeriadau o gig a gwaed fyddai gennych ar ddiwedd y daith. I chwi mae'r dewis. Os ydych yn fodlon ar bypedau'n dawnsio ar ben llinyn popeth yn iawn, ewch ati,—sgrifennwch. Ac ar ôl i chi orffen eich tipyn drama, taflwch hi i'r tân o gywilydd! Hwyrach y byddwch yn barotach wedyn i gydnabod a pharchu'n personoliaeth.



Mae ANN yn disgyn i gadair a chuddio'i hwyneb â'i dwylo.

Awdur

Peidiwch â dweud ein bod am gael dagrau! Wel, mae pethau'n gwella bob munud.

Seth

(Yn wyllt.) Ai dyna'r cyfan sy' gennych i' ddweud?

Lewis

Seth!

Seth

Mi fedra'i wneud heb dy ymyrryd parhaus, Lewis. Edrych ar dy wraig; 'wyt ti am adael i hwn ei gwawdio? 'Oes gennyt ti ddim mymrun o asgwrn-cefn?

Lewis

Nid mater o asgwrn-cefn ydy' o. Beth wyt ti'n 'i ddisgwyl i mi 'i wneud.

Seth

Gafael yn ei war a'i daflu allan.



Mae'r AWDUR yn chwerthin ac yn gorffen ei ddiod.

Lewis

Paid â siarad yn wirion, Seth. 'Fedrwn ni ddim.

Seth

Pam na fedrwn ni?

Morus

Mae Lewis yn iawn, Seth. Nid dyna'r ffordd. Ein hunig obaith ydyw iddo fynd o'i ewyllys ei hun.

Awdur

A 'dydy' hynny, gysgodion annwyl, ddim yn debygol iawn o ddigwydd!

Seth

(Cam ymlaen.) Ar fy llw!

Morus

Arhoswch Seth...!



Maent yn gwrando ar sŵn traed yn nesáu. LEWIS (Codi.) Dyma fo 'nhad. Mae'r drws yn agor a daw ABRAM MORGAN a SIONED i mewn. Mae dallineb yr hen ŵr yn ychwanegu at ei urddas tawel).

Abram

Mae'n ddrwg gen' i eich cadw. Ond fel y gwyddoch 'dydw' i ddim mor sionc ag y bum i... Ydy' pawb yma?... Lewis?

Lewis

Dyma fi, 'nhad.



Daw ABRAM ymlaen, a SIONED yn cynnig gafael yn ei fraich.

Abram

Na, mi ydw' i'n iawn 'rwan, Sioned. 'Rwyn gwybod am bob modfedd yn 'rhen dŷ yma. (Yn mynd i gyfeiriad y tân, ond saif o flaen yr AWDUR.) Wel, dyma ni o'r diwedd. Mae'n dda gen' i'ch cyfarfod yn y cnawd. (Mae ar fynd ymlaen at y gadair.)

Awdur

(Mewn penbleth eto.) Hanner munud, Abram Morgan.

Abram

(Sefyll.) Ia?

Awdur

'Fyddwch chi gystal ag ateb un cwestiwn? Ym mhle dybiwch chi 'rydy' ni rwan?

Abram

'Does yna ddim amheuaeth ynglŷn â hynny. Hen blasty-fferm "Llwyn Bedw" ydy' hwn. Yma y ce's i fy ngeni a 'magu. Pam 'rydych chi'n gofyn?

Seth

Am ei fod yn haeru mai rhywle arall ydy' o, 'nhad.

Abram

O? Wel, 'rydych yn camsynied yn siŵr i chi. Mae'r hen blasty yma'n y teulu ers amser y Tuduriaid. Edrychwch ar yr arfbais uwchben y drws acw. A dyma i chi'r hen simdde fawr: 'welwch chi'r enwau wedi'u cerfio ar y pren? Cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o fechgyn y teulu,─ma' nhw i gyd yma. A minnau rywle yn eu plith. (Codi ei law fel petai'n teimlo â'i fysedd.) Ia, dyma fo... Naw oed oeddwn i ar y pryd, ond 'rwy'n ei gofio fel petai ddoe.



Yr AWDUR yn edrych arno'n syn.

Seth

Wel, 'goeliwch chi rwan?



Yr AWDUR yn bras-gamu at y ffenestr.

Awdur

Ond beth am y tu allan yna? Welwch chi mo'r stryd a'r ysgol a'r eglwys a'r ffatri?

Abram

(Nid yw wedi symud.) Yn anffodus 'rwy' bron yn ddall. Ond petai fy ngolwg gen' i, mi wn yn iawn be' welwn i allan acw. Y llwyn bedw-arian yn y pant, a'r cae yd yn ymestyn at odre'r bryn. A'r Cnicht yn codi fel dagr ar y gorwel.

Awdur

Beth!

Abram

Clywch!... Dyna i chwi goch-y-berllan yn switian wrth y ffynnon... a phibydd-y-waun yn ei ateb yn y pellter. (Eistedd.) 'Rwy' wedi gwrando ar eu deuawd ganwaith yng nghwrs y blynyddoedd.



Daw'r AWDUR yn araf oddi wrth y ffenestr ac eistedd i lawr.

Sioned

'Rwy' am wneud tipyn o lefrith cynnes i chi, Abram Morgan... 'Wn i ddim beth am y gweddill ohonoch chi? (Nid oes ateb.) O wel, 'panaid o de yn nes ymlaen, efalla'.



SIONED yn mynd allan ar y dde.

Seth

(Wrth yr AWDUR) 'Dydych chi ddim yn edrych mor hyderus rwan. Dechra' gweld y gwirionedd hwyrach?

Awdur

Beth wyddoch chi am wirionedd?

Lewis

Cymaint â chwithau. 'Does dim ystyr iddo y tu allan i brofiad unigol.

Awdur

(Angerddol) 'Dydych chi ddim yn unigolion. 'Does gennych chi ddim profiad ar wahan i mi, eich crewr!

Ann

'Rydy' ni wedi trafod hynna'n barod.

Seth

A pheidiwch â rhygnu ar y busnes creu yna. Oni fedre' ni haeru mai nyni a'ch dewisodd chi i'n dibenion ein hunain. Mai chi ydy'r cysgod wedi'r cyfan!

Morus

Ia, cofiwch mai ni sy'n y mwyafrif,—chwech yn erbyn un.



Clywir cnoc ar y drws. Cyfyd yr AWDUR yn obeithiol, ond saif SETH o'i flaen).

Seth

Safwch yn y fan yna.

Awdur

Ewch o'r ffordd.

Seth

'Rwy'n eich herio.

Awdur

Gadewch i mi fynd heibio!

Morus

I beth?

Awdur

Mae yna rywun y tu allan i'r drws yna. A mi fynna'i wybod pwy ydy' o.

Ann

Pa faint gwell fyddwch chi? 'Ellwch chi ddim dianc rwan, mae'n rhy hwyr.

Awdur

Wrth gwrs 'rydych yn ofni'n eich calon! Realiti ydy'r drws yna: man deffro. Cyn gynted ag yr agora'i o, fe fydd ar ben arnoch. Ewch o'r neilltu!

Seth

Symuda' i 'run fodfedd.

Abram

(Yn dawel.) Gad iddo fynd, Seth.

Seth

Ond 'nhad, 'dydych chi ddim yn deall!

Abram

Ydw' 'machgen i, 'rwy'n deall. Ond 'fynna' i ddim i ti ei rwystro.



Saif SETH o'r neilllu a gadael â'r AWDUR fynd at y drws. Mae'n petruso yno.

Morus

Pam 'rydych chi'n petruso? Agorwch y drws.

Awdur

Mae'r AWDUR yn agor y drws yn sydyn, a daw MABLI i mewn. Mae ei chot etc. amdani, a charia gas yn ei llaw fel petai wedi teithio o bell.. Dengys SETH yn amlwg ei fod yn ei hadnabod, ond nid oes ryw lawer o groeso yn ei edrychiad.

Mabli

(Wrth y drws.) Mae'n ddrwg gen' i mod i'n hwyr. Taith go bell, a bu bron i mi a cholli'r ffordd. (Daw i'r canol.)

Awdur

(Yn syn.) Beth ydy'ch neges chi?

Mabli

Neges?

Awdur

Wel 'rwy'n cymryd yn ganiataol mai i'm gweld i y daethoch chi yma. (Yn obeithiol.) Oddi wrth y cyhoeddwyr efallai?

Mabli

Dim o gwbwl.

Awdur

Ond 'rydych yma i ryw bwrpas. Beth ydy' o?



Mae MABLI yn edrych o'i chwmpas heb ei ateb.

Mabli

"Llwyn Bedw"! 'Run fath o hyd. 'Dydy' o wedi newid dim.

Awdur

Peidiwch â dweud mai un ohonyn' nhw 'rydych chi!

Mabli

Mae'n well i chi ofyn hynna i Seth.

Awdur

(Wrth SETH.) 'Dwy' i ddim yn deall.

Seth

O peidiwch ag edrych mor hurt, da chi! Os ydych yn holl-wybodol pam 'rydych chi'n gofyn? Chi ydy'r Awdur: fe ddylech wybod pwy ydy' hi... 'Ydy'r enw Mabli yn golygu rhywbeth i chi?

Awdur

Mabli? Mabli... ond mae hyn yn wrthun! 'Wnes i ddim ond ei chrybwyll ar ddechrau'r ddrama. 'Doeddwn i ddim yn bwriadu datblygu ei chymeriad.

Mabli

Ond datblygu wnes i heb yn wybod i chi. Os hauwch chi hedyn peidiwch â synnu ei weld o'n tyfu.



Mae MABLI yn mynd at ABRAM a rhoi ei llaw ar ei ysgwydd.

Abram

Croeso i chi yma, merch i. Mi wyddwn na fyddech chi ddim yn hir.

Ann

(Wrth MABLI.) Dowch, 'steddwch i lawr. Mae'n siŵr eich bod wedi blino.

Mabli

Ydw' braidd... Diolch i chi. (Eistedd.)

Awdur

'Dydych chi ddim yn sylweddoli. Yn enw popeth, ewch odd' yma rwan cyn iddi fynd yn rhy hwyr!

Ann

Mae hi'n aros yma.



Daw SIONED i mewn â hambwrdd yn ei llaw.

Mabli

Wel, Sioned.

Sioned

Mabli! Dyma chi wedi cyrraedd. 'Ro'n i'n dechra' pryderu. Rwy'n falch iawn o'ch gweld chi... Eich llefrith, Abram Morgan.

Abram

Diolch, Sioned.

Morus

Maddeuwch i mi, ond 'ga' fi ofyn i rywun fy nghyflwyno?

Lewis

Seth? (Ond nid yw SETH yn awyddus.) O wel... Mabli, 'ga'i gyflwyno Dr. Morus?... Gwraig Seth ydy' Mabli, Doctor.

Morus

O? Mae'n ddrwg gen' i. 'Wyddwn i ddim─

Mabli

Popeth yn iawn, Doctor. 'Rwy'n deall. Peth digon naturiol ydy' celu sgandal mewn teulu—y sgerbwd yn y cwpwrdd chwedl y Sais. Ond mae'r sgerbwd yn mynnu dwad allan weithia'. 'Hoffech chi wybod yr helynt?

Seth

'Does a wnelo Dr. Morus ddim â fo, Mabli. Gad iddo.

Mabli

'Does gen'i ddim achos i deimlo cywilydd, Seth. A pheth arall, fe dâl ei atgoffa fo (cyfeirio af yr AWDUR) o'i gyfrifoldeb am y trybini.

Awdur

'Does dim rhaid i chi. Roedd eich sefyllfa'n un digon cyffredin—

Mabli

Rhy gyffredin efallai. Pâr ifanc yn cyfarfod yn ystod y rhyfel; carwriaeth wyllt ynghanol y tryblith; priodi a byw o ddydd i ddydd heb hidio am yfory. Yna corn heddwch yn eu deffro o freuddwyd rhamant i wynebu ffeithia'. A hwythau, wrth gwrs, yn methu. Yr hen, hen stori!

Seth

'Dydy' o ddim mor syml â hynna. (Wrth yr AWDUR.) Un cyfeiriad bach sy'n eich drama am f'amser i yn y fyddin. 'Ydych chi'n meddwl y medrwch chi gronni pedair blynedd o uffern i hanner dwsin o eiriau?

Awdur

'Roedd o'n ddigon i bwrpas y plot. Nid chi'ch dau oedd y prif gymeriadau.

Mabli

'Roeddwn i, wrth gwrs, i fod i farw mewn damwain ar y ffordd. Hwylus dros ben! Er bod Seth, efallai, yn cytuno â chi yn hynna o beth.

Seth

Paid!

Mabli

(Ei anwybyddu.) Wel, 'dderbynia' i mo'r fath ddiwedd ystrydebol. 'Rwy'n mynnu byw. 'Fynna'i ddim marw i siwtio plot dramodydd anghelfydd!

Awdur

O, pa ddiben dadla'!

Morus

Yn hollol. Mae'r amser wedi dwad i chi benderfynu. Rydych yn sylweddoli erbyn hyn fod gennym fodolaeth annibynnol.

Lewis

Dyma'r dewis i chi, felly,—un ai aros mewn cyfyng-gyngor parhaus, neu adael i ni gyflawni'n tynged yn ein ffordd ein hunain.

Ann

P'run gymrwch chi i

Awdur

Cyn i mi ateb hynna, 'rwyf am awgrymu ffordd arall o'r dryswch. Rydych yn honni na allaf eich gwthio ymlaen yn erbyn eich ewyllys. O'r gora'. Ond pe bawn yn cynnig eich arwain, er eich lles, a fyddech chi'n fodlon fy nilyn?

Seth

Nid plant diymgeledd ydy' ni. 'Thâl y tric yna ddim chwaith.

Awdur

(Gydag angerdd) Er eich lles, ddywedais i. Da chi gwrandewch arna'i. 'Ydych chi wedi meddwl beth all fod o'ch blaen? Nid gardd flodau ydy' bywyd, ond maes brwydr, â'i ofid a'i drallod a'i siomedigaeth. Rydych yn hawlio rhyddid heb sylweddoli ei bris. Rwy'n dweud hyn o dosturi ac o gariad tuag atoch. Ystyriwch eto, 'rwy'n erfyn arnoch.

Ann

'Rydym wedi ystyried popeth. Ein cyfrifoldeb ni ydy'r dyfodol. Does arno' ni ddim ofn ei wynebu.

Awdur

'Fedrwch chi ddim gwneud hebof fi. Yn enw trugaredd, Abram Morgan, ceisiwch chi eu darbwyllo!

Abram

Mae'n ddrwg gen' i, 'alla' i ddim ymyrryd rwan. Rhaid i bethau gymryd eu cwrs bellach. Ma' nhw'n benderfynol o fynd eu ffordd eu hunain. 'Rwyf fi wedi byw fy mywyd a chyrraedd oed yr addewid. Mae'r gorffennol yn golygu mwy i mi na'r ychydig amser sydd o'm blaen. Ond mae pethau'n wahanol iddyn' nhw: 'rwy'n deall eu dyhead am ryddid a hunan fynegiant. 'Does gen'i ddim hawl i'w rhwystro.

Awdur

O'r gora. Cymrwch yr awenau yn eich dwylo, ac ewch y ffordd a fynnoch. (Mynd at y drws.) Ond os digwydd i chi syrthio i'r gors, peidiwch â gweld bai arnaf fi... Duw a'ch helpo! (Exit.)

Morus

O'r diwedd!

Ann

Yn rhydd!

Seth

Yn rhydd, a'r dyfodol yn ein dwylo!



Mae ANN yn mynd at y ddesg a rhoi gorchudd ar y peiriant-teipio.

Lewis

'Ydy' o wedi mynd o ddifri'? Doctor, edrychwch rhag ofn.



Mae MORUS yn mynd at y ffenestr.

Morus

Na, 'does yna ddim golwg ohono fo.

Abram

Gellwch fod yn dawel eich meddwl. Mae o wedi mynd. 'Ddaw o ddim yn ôl heb i ni alw arno.

Seth

A 'does dim peryg' i hynny ddigwydd. Pa garcharor fynnai fynd yn ôl i'w gell a'i gyffion? O'r nefoedd, prin y galla' i goelio! Rwy'n teimlo fel dawnsio,—dowch Sioned!



Mae'n gafael am SIONED.

Sioned

Seth! Be' sy' wedi dwad drosoch chi!

Seth

Bywyd, 'rhen chwaer, bywyd! (Cais ddawnsio.)

Sioned

Gwarchod pawb!

Ann

(Gwenu.) Gadwch iddi, Seth.



SETH yn gollwng SIONED dan chwerthin.

Sioned

Mae'r dyn o'i go'n lân!

Morus

Wel, mae hi'n achlysur go arbennig, wyddoch chi Sioned.

Sioned

Ia, ond─

Seth

Dim "ond" o gwbwl. Mae hyn yn haeddu ei ddathlu â gwin.



SETH yn mynd i'r cwpwrdd a thynnu gwydrau etc. allan.

Seth

Dowch, Sioned, helpwch fi efo'r gwydrau yma.

Sioned

Ond 'roeddwn i'n meddwl gwneud 'panaid o de i chi.

Seth

Te ar adeg fel hyn? Dim o'r fath beth! Cadwch de i gyn'ebrwn'. Mae yna fflam i mewn yn y botel yma, Sioned, a mi ydw' i'n dyheu am 'i gwres. "Gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn." Gwaed y grawnwin a heulwen y de!

Ann

Hidiwch befo, Sioned. Mi wna' fi. Ewch i'r gegin i wneud 'panaid i chi'ch hun. Rwy'n siwr na chymrwch chi ddim o hwn.

Sioned

'Yfais i 'rioed ddiferyn o ddiod feddwol. A 'dwy' i ddim yn bwriadu dechra' rwan. Rhyddid ai peidio, 'fydd yna ddim newid yn fy mywyd i...

Lewis

Ond 'rydych yn falch 'i fod o wedi mynd, Sioned?

Sioned

'Wn i ddim beth i' ddweud... Os ydy' hynny'n eich gwneud chi'n hapusach, wel, dyna fo.



Exit SIONED.

Morus

Chware teg iddi!

Seth

Ia, 'rhen Sioned druan! (Ym tywallt gwin.) Pan ddaw ei hamser, fe fydd yn cyrraedd y Porth Aur yn 'i siwt Ysgol Sul a'i sana' duon gwlan... Dyma chi, Ann. (Rhoi gwydr iddi.)

Ann

Beth am...? (Cyfeirio at ABRAM.)

Seth

(Chwerthin.) Na, 'waeth i chi heb na chynnig dim i 'nhad, chwaith. Tipyn o hen Biwritan ydy' ynta' hefyd.

Ann

O wel... Mabli? (Rhoi gwydr iddi.)

Mabli

Diolch. Dyma'r tro cyntaf ers 'wn i ddim pa bryd.

Morus

Gora' oll. Fe gewch well blas arno fo.

Seth

Wel, ydy' ni'n barod? Mi ydw' i am gynnig llwnc-destun i Ryddid!

Pawb

(Ag eithrio ABRAM.) Rhyddid! (Maent yn yfed.)

Lewis

Beth am air gennych chi, 'nhad?

Seth

Ia, gwell cael bendith yr hen batriarch!

Abram

'Does gen' i ddim ond hyn i'ddweud: ymddiriedaeth cysegredig ydy' Rhyddid. Gobeithio y byddwn ni'n deilwng ohono. Ac os ca' fi gynnig gair o gyngor, fe dâl i ni ofalu bod gennym angor yn ein bywyd newydd. Mae peryg' mawr i ni fynd ar ddisberod hebddo... Dyna'r cyfan am wn i. (Codi.) Rwan, mae'n amser i mi fynd. (Mynd at y drws.)

Morus

Mi ddof i fyny i'ch gweld mewn munud, Abram Morgan.

Abram

O, o'r gora', Doctor. Diolch i chi. (Exit ABRAM.)

Lewis

'Dydy' hyn yn golygu fawr o ddim i 'nhad, mae arna'i ofn.

Morus

Na, mae o'n agosau at ben 'i gŵys, 'rhen greadur.

Ann

'Chwaneg o win, Mabli?

Mabli

Na, dim diolch. Rhaid i minna' feddwl am fynd.

Ann

Mor fuan?

Mabli

Wel, does dim diben aros yma rwan.

Ann

Ond!

Mabli

Peidiwch â phryderu. Mi fydda' i'n iawn... Seth, mi hoffwn i gael gair efo ti cyn i mi fynd.

Seth

I beth?

Mabli

Fe wyddost yn iawn i beth.

Seth

Oes rhaid i ti ddifetha'r cyfan?

Mabli

Nac oes, ond i ti fod yn rhesymol.

Seth

'Fedra'i ddim bod yn rhesymol heno.

Mabli

Dyna dd'wedi di fory a'r flwyddyn nesa'. Dyma fy unig gyfle. Mae gan ryddid ystyr ychwanegol i mi fel y gwyddost.

Seth

O, o'r gora' os wyt ti'n mynnu. (Exit SETH.)

Mabli

(Wrth y drws.) Mae'n debyg bod hyn yn ffarwel...

Ann

Ond 'rydym yn siŵr o gyfarfod eto?

Mabli

Pwy a ŵyr? 'Rwy'n gobeithio y gwnawn ni... Tan hynny, pob dymuniad da i chi... Brysiwch wella, Lewis. (Exit MABLI.)

Morus

Wel, gair bach efo'r hen ŵr cyn iddo fo gysgu. (Cychwyn at y drws, ond saif wrth fynd heibio i LEWIS.) Poen eto?

Lewis

Ia,—pwl sydyn.

Morus

Hidiwch befo, 'phery o ddim yn hir. Mi ro'i dabledi i chi fory i leddfu tipyn arno fo. (Gafael yn ei fag.) Esgusodwch fi. (Exit.)

Lewis

'Does gen' i fawr o awydd eu cymryd nhw—y tabledi yna 'rwy'n 'i feddwl.

Ann

Ond pam? 'Does yna ddim rhinwedd mewn diodde' poen ag ymgeledd wrth law.

Lewis

Hwyrach eich bod yn iawn. Ac eto, 'dyw poen ddim heb ei fantais.

Ann

'Dwy' i ddim yn deall.

Lewis

Mae o wedi cryfhau fy ffydd i yn ystod y misoedd diwetha' yma, yn un peth. 'Fedra'i ddim esbonio pam, ond mae'n ffaith.



(ANN yn troi at y ffenestr.)

Lewis

P'run bynnag, 'rwy'n hyderus y ca' fi ymwared o'r aflwydd ar ôl heno.

Ann

(A'i chefn ato) Lewis?

Lewis

la?

Ann

Ai dyna'r unig reswm pam 'roeddech chi'n dewis eich rhyddid?

Lewis

Dyna'r prif reswm, yn naturiol... Wrth gwrs 'dydw' i ddim yn disgwyl gwyrth. Mae o'n siŵr o gymryd tipyn o amser. Ond mae'r ansicrwydd wedi mynd rwan. 'Roedd hwnnw'n waeth na'r poen os rhywbeth... Ar be 'rydych chi'n edrych. Ann?

Ann

Ar ddim yn neilltuol... Cysgodion yn y dŵr, patrwm y dail ar yr awyr... Mae yna greyr-glas draw acw'n hedfan i'r mynydd: arwydd o 'law, medda' nhw.

Lewis

(Codi.) Dyna sy'n achosi poen yn fy nghoes, hwyrach... Ond mae hi'n 'stwythach 'rwan. (Cerdded yn araf at y tân.) Yr hen simdde fawr!... 'Rwan 'rwy'n sylweddoli,─ 'dydw' i ddim wedi llosgi f'enw ar y pren yma eto. Wel, pa well achlysur na heno i ddathlu'n rhyddid? Ple mae'r procer? (Mae'n meimio rhoi'r procer yn y tân.) Mae'r hen ŵr wedi f'atgoffa fi lawer tro am hyn. Fe fydd yn falch pan glyw o fory... Mae Seth wedi gwneud ers talwm.

Ann

Ple y rhowch chi o?

Lewis

'Does yna ond un lle,—yn y fan yma, o dan enw 'nhad. (Meimio llosgi ei enw.) Dyna fo...



(Daw MORUS i mewn.)

Lewis

O,—'fuoch chi ddim yn hir iawn, Doctor.

Morus

Na, mae o wedi blino, 'rhen greadur. 'Rwy'n fodlon 'rwan ar ôl 'i weld o'n setlo i lawr am y noson... Mae'n amser i chitha' fynd i fyny hefyd, Lewis. Gorffwys ydy'r peth pwysica' 'rwan.

Lewis

Ia, mi ydw' i ar gychwyn... 'Fydda' i'n hir, ydych chi'n meddwl, cyn adfer fy iechyd?

Morus

'Alla' i ddim ateb hynna.

Lewis

Ond mae gennych ryw syniad?

Morus

Wel, 'fyddwch chi ddim o gwmpas eich petha'n iawn am chwe' mis, beth bynnag.

Lewis

Cymaint â hynny? O, wel, mae Adran Hanes y Brifysgol yn siŵr o fynd ymlaen heb un darlithydd! A mi fedra' i fanteisio ar y seibiant i orffen fy ngwaith ymchwil. Dim gwrthwynebiad gobeithio?

Morus

Dim o gwbl. Fe fydd yn llesol i chi. Peidio â gorweithio wrth gwrs.

Lewis

Ia, rhaid i mi gofio.

Morus

Beth ydy'r maes?

Lewis

Hanes yr Eglwys Geltaidd.

Morus

O ia. 'Wn i ddim am dano fo, 'rwy'n ofni!

Lewis

Mae o'n hynod o ddiddorol. 'Hoffech chi gael benthyg llyfr?

Morus

Na, mi arosa' i nes y bydd eich un chi wedi'i gyhoeddi!

Lewis

Gweniaith! (Mynd at y drws.) Diolch yn fawr i chi am bopeth, Doctor... Nos dawch.

Morus

Nos dawch. Mi gaf eich gweld yfory.



Exit LEWIS. Saib ennyd.

Ann

(Anesmwyth.) 'Ydych chi'n meddwl 'i fod o'n gwella?

Morus

Wel... fe glywsoch be' dd'wedais i funud yn ôl.

Ann

'Oeddech chi'n dweud y gwir?

Morus

Oeddwn, hyd y gwyddwn i. Rhaid cofio, wrth gwrs, fod ei salwch o,—wel yn un braidd yn gymhleth. Ond ar ôl heno mae'r rhagolygon yn fwy calonogol, efallai.



(Saib ennyd.)

Ann

'Gymrwch chi lymaid arall o win?

Morus

Diolch yn fawr. Mae'n anodd gwrthod. Beth ydy'o?

Ann

(Tywallt gwin i ddau wydr.) O, dim ond Medoc... A'r diferion olaf, 'rwy'n ofni! (Rhoi gwydr â MORUS.)

Morus

Diolch. (Nid yw yn yfed.) Meddwl oeddwn i rwan...

Ann

Ia?

Morus

Am y tro cyntaf y dois i yma. Pa bryd oedd o,─ chwe mis yn ôl, ynte' chwe canrif? Mae amser wedi colli 'i ystyr rhywsut. P'run bynnag, 'roedd hi'n noson stormus—.

Ann

A'r afon yn genlli'. 'Roedde' ni'n meddwl na fedrech chi byth ddwad yma. A minnau'n poeni am Lewis. Ac yn credu 'i fod o ar fin... marw.

Morus

Ia, rwy'n eich gweld rwan,—eich llygaid yn llawn pryder, a'r gwynt yn datod modrwy fach o'ch gwallt─ (Mae'n tewi'n sydyn fel pe bai wedi datguddio cyfrinach.)

Ann

(Codi ei gwydr.) Gawn ni—?

Morus

'Rydy' ni wedi yfed eisoes i Ryddid. Beth fydd o y tro yma?

Ann

'Wn i ddim. Hapusrwydd efallai,—na, gwell peidio.

Morus

Pam?

Ann

Ofn digio Ffawd, hwyrach.

Morus

Ond 'dydy' o ddim gormod i' ofyn. Onid dyna'r rheswm i ni ddewis mynd ein ffordd ein hunain?

Ann

Ia, ond mae hapusrwydd yn beth mor wibiog. Mae yna beryg' i ni fethu â chael gafael ynddo wedi'r cyfan.

Morus

Ein bai ni fyddai hynny. Os oes unrhyw rwystr yn ein ffordd, mae modd i ni ei symud rwan.

Ann

(Ceisio sirioli.) Maddeuwch i mi. 'Ddylwn i ddim swnio mor bruddglwyfus. (Mynd at y tân a'i chefn at MORUS.) A 'dydw'i ddim wedi diolch i chi eto am eich caredigrwydd yn ystod y misoedd d'wetha' yma.

Morus

'Does dim rhaid i chi ddiolch. Wnes i ddim ond fy nyletswydd.

Ann

Fe wnaethoch lawer mwy na hynny.

Morus

(Mynd ati.) Os gwnes i, roedd yn waith agos iawn at fy nghalon i.

Ann

(Cais guddio'i phenbleth.) Wn i ddim ydych chi wedi sylwi ar y llun yma o'r blaen? (Cyfeirio at lun dychmygol uwchben y tân.) Copi ydy' o, wrth gwrs. Y gwreiddiol gan Filippo Lippi, 'rwy'n credu. Fe wyddoch beth ydy' o?

Morus

(Nid yw wedi tynnu ei lygad oddi ar ANN.) Gwn,─ llun Sant Jerôm yn 'i guro'i hun â charreg i ddarostwng y cnawd.

Ann

Mae Lewis yn meddwl y byd ohono fo.

Morus

Ydy', mi greda'i hynny...

Ann

'Dydy' ni ddim wedi yfed ein gwin.

Morus

Naddo. 'Dydw'i ddim yn bwriadu ei yfed nes...

Ann

Nes beth?

Morus

Nes y byddwn wedi dewis y llwnc-destun priodol.

Ann

Digon hawdd tostio Rhyddid unwaith yn rhagor.

Morus

Ydy', rhy hawdd. Mae'n amser i ni gymryd cam ymlaen rwan. Wnaeth 'run ohono' ni hawlio Rhyddid er 'i fwyn ei hun. 'Roedd yna amcan mwy pendant na hynny. Mae'n syn i'r Awdur beidio â gofyn—Rhyddid i beth? 'Roedd o'n gwestiwn mor amlwg. A'r ateb i'r cwestiwn fydd ein llwnc-destun.

Ann

Fedrwn ni ddim ateb dros y lleill.

Morus

'Does a wnelo' ni ddim â nhw rwan.

Ann

Sut felly?

Morus

Mae ganddyn' nhw eu rhesymau eu hunain. Seth yn ceisio rhedeg oddi wrth ei gyfrifoldeb, a Mabli oddi wrth ei phenbleth. A dyna Lewis,—wel, does dim angen dweud am dano fo.

Ann

Abram Morgan a Sioned?

Morus

Mae nhw'n wahanol. 'Roedden' nhw'n ddigon bodlon ar yr hen fywyd... Roeddwn innau'n fodlon hefyd, nes y gwelais i chi, Ann.



(Nid yw ANN yn ateb.)

Morus

Mae'n ddrwg gen'i os ydy' hynna'n eich digio. Maddeuwch i mi.

Ann

'Does yna ddim i' fadda'.

Morus

'Ydych chi'n dweud...? Ann, beth wnaeth i chi ddyheu am ryddid? Beth oedd eich cymhelliad?

Ann

Dianc.

Morus

Dianc oddi wrth beth?

Ann

Oddi wrth fywyd oedd wedi troi'n ddiffaethwch...

Morus

Ia, mi wyddwn i hynna. 'Doedd dim rhaid i mi ofyn.

Ann

O, mi driais ei wynebu, Duw a ŵyr. Ond yn y diwedd...

Morus

'Rydych chi allan o'r diffaethwch 'rwan, Ann. Edrychwch i gyfeiriad arall. Hyd yma, 'rwy' wedi cuddio fy nheimladau, ond rwan... (Sydyn.) 'Rwy'n eich caru, Ann. 'Rwy'n eich caru, gorff ac enaid.

Ann

Mi wn i hynny ers tro, John. 'Fedrech chi mo'i guddio'n llwyr... 'Does dim rhaid i chi drio'i guddio rwan.

Morus

Ann!



(Mae'n mynd i afael amdani, ond rhydd ANN y gwydr yn ei law.)

Ann

'Ydych chi'n cofio am y llwnc-destun?

Morus

Ydw'—ein serch! (Yn rhoi ei wydr ar y bwrdd heb yfed ohono.) Ond 'dyw gwydriad o win Medoc ddim yn deilwng i'r achlysur. (Gafael amdani.) Mae gwin eich gwefus yn felysach, Ann! (Maent yn cofleidio fel y daw'r llen i lawr yn araf.)

a1