| (1, 0) 8 | Pwy ar y ddaear...? |
| (1, 0) 11 | Esgusodwch fi, ond beth ydy' ystyr hyn? |
| (1, 0) 12 | 'Chlywais i monoch chi'n cnocio. |
| (1, 0) 13 | Pwy ydych chi? |
| (1, 0) 15 | Wel?... |
| (1, 0) 16 | Edrychwch yma. |
| (1, 0) 17 | 'Does gen' i ddim amser nac amynedd i wastraffu. |
| (1, 0) 18 | Mae arna' i eisiau eglurhad. |
| (Ann) Gennych chi mae gwaith egluro, 'rwy'n credu. | |
| (Ann) Gennych chi mae gwaith egluro, 'rwy'n credu. | |
| (1, 0) 20 | Fi? |
| (1, 0) 21 | Beth ydych yn 'i feddwl? |
| (1, 0) 22 | 'Wn i yn y byd─ |
| (Ann) Ystyriwch eto. | |
| (Ann) Ystyriwch eto. | |
| (1, 0) 24 | O dowch, dowch! |
| (1, 0) 25 | Llai o'r chware plant yma! |
| (Ann) Nid chware plant mono fo. | |
| (Ann) 'Rwy' o ddifri'. | |
| (1, 0) 28 | O'r gora'. |
| (1, 0) 29 | Mae yna ryw gamgymeriad yn amlwg. |
| (Ann) 'Does yna ddim camgymeriad o fath yn y byd. | |
| (Ann) 'Does yna ddim camgymeriad o fath yn y byd. | |
| (1, 0) 31 | Yna'n enw rheswm, 'wnewch chi esbonio'r dirgelwch i mi? |
| (1, 0) 32 | Beth ydy'ch meddwl chi'n dwad i'r tŷ yma mor ddiseremoni? |
| (Ann) 'Doedd gen'i ddim dewis. | |
| (Ann) 'Roedd yn rhaid i mi ddwad yma. | |
| (1, 0) 35 | Ond—! |
| (Ann) Oeddech chi ddim yn fy nisgwyl? | |
| (Ann) Oeddech chi ddim yn fy nisgwyl? | |
| (1, 0) 37 | Am y tro d'wetha', pwy ydych chi? |
| (Ann) 'Ddylech chi ddim gofyn hynna. | |
| (Ann) 'Rydych yn fy 'nabod i'n well na neb. | |
| (1, 0) 40 | Beth! |
| (1, 0) 41 | 'Welais i 'rioed monoch chi o'r blaen. |
| (Ann) Edrychwch arna' i eto—yn fanwl. | |
| (1, 0) 47 | Ydw'... rydych yn hollol ddieithr i mi. |
| (Ann) 'Dydy' hynna ddim yn wir. | |
| (Ann) Pam na wnewch chi gyfadde'? | |
| (1, 0) 50 | O, hwyrach i mi eich gweld yn rhywle, rywdro─yn un o'r dorf. |
| (1, 0) 52 | Ond 'wn i ddim pwy ydych chi. |
| (1, 0) 53 | 'Ydy' hynna'n glir? |
| (Ann) Ac eto mae yna anesmwythyd yn eich meddwl. | |
| (Ann) Ond ar yr un pryd, yn ofni beth fyddai hynny'n 'i olygu. | |
| (1, 0) 57 | 'Rydych chi'n siarad mewn damhegion. |
| (1, 0) 58 | 'Dydw'i ddim yn eich deall. |
| (Ann) 'Fynnwch chi ddim deall, yn hytrach... | |
| (Ann) 'Ydy' o'n wir mai Awdur ydych chi? | |
| (1, 0) 62 | Ydy'. |
| (Ann) A'r foment yma 'rydych wrthi'n sgrifennu drama? | |
| (1, 0) 65 | Sut y gwyddech chi hynna? |
| (Ann) 'Rwy'n gwybod cymaint â chwitha' pob tipyn,—mwy efallai. | |
| (1, 0) 74 | Na, 'dydy' o ddim yn bosibl! |
| (Ann) 'Ellwch chi ddim gwadu tystiolaeth eich llygaid eich hun. | |
| (Ann) 'Wna'i ddim niwed i'r sawl a'm creodd! | |
| (1, 0) 81 | Beth... dd'wedsoch chi? |
| (Ann) 'Mod i'n un o gymeriadau eich drama, a fy mod i'n fyw. | |
| (Ann) 'Mod i'n un o gymeriadau eich drama, a fy mod i'n fyw. | |
| (1, 0) 83 | Ann! |
| (Ann) Ann Morgan, ia. | |
| (Ann) Dyna pam y daethom yma wyth mis yn ôl, i aros efo'i dad... | |
| (1, 0) 88 | Arhoswch! |
| (1, 0) 89 | P'le dd'wedsoch chi mae'r hen ŵr yn byw? |
| (Ann) Yma, debyg iawn, yn hen blasty-fferm "Llwyn Bedw". | |
| (Ann) Yma, debyg iawn, yn hen blasty-fferm "Llwyn Bedw". | |
| (1, 0) 91 | Dyna ben ar eich chwedl! |
| (1, 0) 92 | Ai hen blas 'rydych chi'n galw'r byngalo-brics yma? |
| (1, 0) 93 | Edrychwch arno fo,—yn dŷ newydd sbon â'r cyfleustera modern i gyd; a'i rent, gwaetha'r modd, yn ddeuddeg punt y mis! |
| (1, 0) 94 | Ewch yn ôl i fyd breuddwydion, Ann Morgan. |
| (1, 0) 95 | Yno mae eich lle, nid yma... |
| (1, 0) 96 | Ewch, ewch i mi gael deffro! |
| (Ann) Lewis, mae o'n trio'n cadw ni allan! | |
| (Lewis) Fe ddaw'r lleill yma'n y man. | |
| (1, 0) 107 | Y... lleill? |
| (Lewis) Ia, y gweddill ohono' ni. | |
| (1, 0) 117 | Y presennol sy'n bwysig i mi. |
| (1, 0) 118 | 'Dydych chi ddim yn sôn am hwnnw. |
| (1, 0) 119 | Feiddiwch chi ddim. |
| (1, 0) 120 | Does gennych chi na bywyd na bodolaeth y tu allan i'm dychymyg i! |
| (1, 0) 121 | SETH |
| (1, 0) 123 | Celwydd! |
| (Ann) Seth—! | |
| (Seth) Y presennol dd'wedsoch chi? | |
| (1, 0) 129 | Ia, 'rwy'n eich herio! |
| (Seth) Heriwch faint â fynnoch. | |
| (Seth) Chi, sydd mewn poen meddwl ers misoedd. | |
| (1, 0) 134 | Poen creu ydy' hwnnw. |
| (1, 0) 135 | 'Does yna 'run genedigaeth heb ei wewyr. |
| (Lewis) Ond 'dydy'r gwewyr ddim yn gyfyngedig i chi. | |
| (Lewis) Na, Doctor Morus ydy' hwn. | |
| (1, 0) 158 | Doctor Morus! |
| (Morus) Hanner munud, os gwelwch yn dda. | |
| (Ann) Ychydig cyn i chi ddwad i mewn, 'roedd o'n gwadu'n bodolaeth ni. | |
| (1, 0) 180 | 'Rwy'n dal i'w wadu. |
| (1, 0) 181 | Beth bynnag sydd i' gyfri' am yr hunlle yma, mi ddaliaf fy ngafael ar reswm a synnwyr cyffredin. |
| (Seth) Synnwyr cyffredin...! | |
| (Lewis) 'Ydych chi'n meddwl bod rheswm yn ddigon? | |
| (1, 0) 186 | Mae o'n ddigon i mi. |
| (Morus) Ydy'—a dyna pam 'rydy' ni'n y picil truenus yma efo'n gilydd. | |
| (Lewis) Ystyriwch hyn; i fyny i dri mis yn ôl 'roeddech chi'n cael hwyl ar eich gwaith; yn sgrifennu'n rhwydd, a'r ddrama'n datblygu'n foddhaol... | |
| (1, 0) 189 | Mae hynna'n wir. |
| (Lewis) Ac yna, yn sydyn, dyma saib. | |
| (Lewis) Pam? | |
| (1, 0) 193 | Colli'r Awen dros dro, dyna'r cyfan. |
| (Ann) Beth ydych chi'n 'i olygu wrth "Awen"? | |
| (Ann) Beth ydych chi'n 'i olygu wrth "Awen"? | |
| (1, 0) 195 | Wel, ysbrydoliaeth,—yr ysfa i greu os mynnwch chi. |
| (1, 0) 196 | 'Fedrwch chi mo'i ddadansoddi. |
| (Lewis) Yn hollol,—am ei fod yn ddirgelwch y tu hwnt i ddeddfau rheswm. | |
| (Lewis) 'Rydych yn dod yn nes ato' ni ar eich gwaetha'. | |
| (1, 0) 199 | Beth ydych yn 'i feddwl? |
| (Morus) Mae o'n berffaith syml. | |
| (1, 0) 205 | Dyna'r ora' eto! |
| (1, 0) 206 | 'Ydy'r ffasiwn o fynd ar streic wedi cyrraedd byd y cysgodion hefyd? |
| (1, 0) 207 | Wel! Wel! |
| (Seth) Nid dyma'r amser i ffraethineb. | |
| (1, 0) 210 | Gwaith hawdd fydd datrys y broblem, felly. |
| (1, 0) 211 | Dim ond cytuno ar gyflog,—yr un hen gân! |
| (1, 0) 212 | Faint ga'i gynnig i chi—saith a chwech yr awr? |
| (Lewis) Peidiwch â chymryd y peth yn ysgafn. | |
| (1, 0) 225 | Wel, mae hi'n ddiddorol dros ben, rhaid cyfadde'! |
| (1, 0) 226 | Yn wahanol iawn i'r helyw o freuddwydion. |
| (1, 0) 227 | Ond am hwyl, gadewch i ni fynd ymlaen efo'r sgwrs. |
| (1, 0) 228 | 'Ydych chi'n beiddio dweud na fedrwn i eich denu ar fy ôl? |
| (Seth) Na fedrwch byth! | |
| (Seth) Na fedrwch byth! | |
| (1, 0) 230 | Yna, fe fydd rhaid eich gorfodi. |
| (Seth) 'Rydych wedi methu hyd yma. | |
| (Seth) 'Rydych wedi methu hyd yma. | |
| (1, 0) 232 | Peidiwch â bod yn rhy siwr. |
| (1, 0) 233 | Hwyrach i mi anelu'n rhy uchel. |
| (1, 0) 234 | Ond mae un peth yn sicr; mi fedrwn eich llusgo gerfydd eich gwalltiau i unrhyw gyfeiriad a fynwyf. |
| (Ann) {Angerddol.} | |
| (Ann) Hwyrach y byddwch yn barotach wedyn i gydnabod a pharchu'n personoliaeth. | |
| (1, 0) 244 | Peidiwch â dweud ein bod am gael dagrau! |
| (1, 0) 245 | Wel, mae pethau'n gwella bob munud. |
| (Seth) {Yn wyllt.} | |
| (Morus) Ein hunig obaith ydyw iddo fynd o'i ewyllys ei hun. | |
| (1, 0) 262 | A 'dydy' hynny, gysgodion annwyl, ddim yn debygol iawn o ddigwydd! |
| (Seth) {Cam ymlaen.} | |
| (1, 0) 284 | Hanner munud, Abram Morgan. |
| (Abram) {Sefyll.} | |
| (Abram) Ia? | |
| (1, 0) 287 | 'Fyddwch chi gystal ag ateb un cwestiwn? |
| (1, 0) 288 | Ym mhle dybiwch chi 'rydy' ni rwan? |
| (Abram) 'Does yna ddim amheuaeth ynglŷn â hynny. | |
| (Seth) Wel, 'goeliwch chi rwan? | |
| (1, 0) 306 | Ond beth am y tu allan yna? |
| (1, 0) 307 | Welwch chi mo'r stryd a'r ysgol a'r eglwys a'r ffatri? |
| (Abram) {Nid yw wedi symud.} | |
| (Abram) A'r Cnicht yn codi fel dagr ar y gorwel. | |
| (1, 0) 313 | Beth! |
| (Abram) Clywch!... | |
| (Seth) Dechra' gweld y gwirionedd hwyrach? | |
| (1, 0) 327 | Beth wyddoch chi am wirionedd? |
| (Lewis) Cymaint â chwithau. | |
| (1, 0) 331 | 'Dydych chi ddim yn unigolion. |
| (1, 0) 332 | 'Does gennych chi ddim profiad ar wahan i mi, eich crewr! |
| (Ann) 'Rydy' ni wedi trafod hynna'n barod. | |
| (Seth) Safwch yn y fan yna. | |
| (1, 0) 341 | Ewch o'r ffordd. |
| (Seth) 'Rwy'n eich herio. | |
| (Seth) 'Rwy'n eich herio. | |
| (1, 0) 343 | Gadewch i mi fynd heibio! |
| (Morus) I beth? | |
| (Morus) I beth? | |
| (1, 0) 345 | Mae yna rywun y tu allan i'r drws yna. |
| (1, 0) 346 | A mi fynna'i wybod pwy ydy' o. |
| (Ann) Pa faint gwell fyddwch chi? | |
| (Ann) 'Ellwch chi ddim dianc rwan, mae'n rhy hwyr. | |
| (1, 0) 349 | Wrth gwrs 'rydych yn ofni'n eich calon! |
| (1, 0) 350 | Realiti ydy'r drws yna: man deffro. |
| (1, 0) 351 | Cyn gynted ag yr agora'i o, fe fydd ar ben arnoch. |
| (1, 0) 352 | Ewch o'r neilltu! |
| (Seth) Symuda' i 'run fodfedd. | |
| (Morus) Agorwch y drws. | |
| (1, 0) 363 | Mae'r AWDUR yn agor y drws yn sydyn, a daw MABLI i mewn. |
| (1, 0) 364 | Mae ei chot etc. amdani, a charia gas yn ei llaw fel petai wedi teithio o bell.. |
| (1, 0) 365 | Dengys SETH yn amlwg ei fod yn ei hadnabod, ond nid oes ryw lawer o groeso yn ei edrychiad. |
| (Mabli) {Wrth y drws.} | |
| (1, 0) 371 | Beth ydy'ch neges chi? |
| (Mabli) Neges? | |
| (Mabli) Neges? | |
| (1, 0) 373 | Wel 'rwy'n cymryd yn ganiataol mai i'm gweld i y daethoch chi yma. |
| (1, 0) 375 | Oddi wrth y cyhoeddwyr efallai? |
| (Mabli) Dim o gwbwl. | |
| (Mabli) Dim o gwbwl. | |
| (1, 0) 377 | Ond 'rydych yma i ryw bwrpas. |
| (1, 0) 378 | Beth ydy' o? |
| (Mabli) "Llwyn Bedw"! 'Run fath o hyd. | |
| (Mabli) 'Dydy' o wedi newid dim. | |
| (1, 0) 382 | Peidiwch â dweud mai un ohonyn' nhw 'rydych chi! |
| (Mabli) Mae'n well i chi ofyn hynna i Seth. | |
| (1, 0) 385 | 'Dwy' i ddim yn deall. |
| (Seth) O peidiwch ag edrych mor hurt, da chi! | |
| (Seth) 'Ydy'r enw Mabli yn golygu rhywbeth i chi? | |
| (1, 0) 390 | Mabli? |
| (1, 0) 391 | Mabli... ond mae hyn yn wrthun! |
| (1, 0) 392 | 'Wnes i ddim ond ei chrybwyll ar ddechrau'r ddrama. |
| (1, 0) 393 | 'Doeddwn i ddim yn bwriadu datblygu ei chymeriad. |
| (Mabli) Ond datblygu wnes i heb yn wybod i chi. | |
| (Mabli) {Eistedd.} | |
| (1, 0) 405 | 'Dydych chi ddim yn sylweddoli. |
| (1, 0) 406 | Yn enw popeth, ewch odd' yma rwan cyn iddi fynd yn rhy hwyr! |
| (Ann) Mae hi'n aros yma. | |
| (Mabli) A pheth arall, fe dâl ei atgoffa fo {cyfeirio af yr AWDUR} o'i gyfrifoldeb am y trybini. | |
| (1, 0) 432 | 'Does dim rhaid i chi. |
| (1, 0) 433 | Roedd eich sefyllfa'n un digon cyffredin— |
| (Mabli) Rhy gyffredin efallai. | |
| (Seth) 'Ydych chi'n meddwl y medrwch chi gronni pedair blynedd o uffern i hanner dwsin o eiriau? | |
| (1, 0) 443 | 'Roedd o'n ddigon i bwrpas y plot. |
| (1, 0) 444 | Nid chi'ch dau oedd y prif gymeriadau. |
| (Mabli) 'Roeddwn i, wrth gwrs, i fod i farw mewn damwain ar y ffordd. | |
| (Mabli) 'Fynna'i ddim marw i siwtio plot dramodydd anghelfydd! | |
| (1, 0) 453 | O, pa ddiben dadla'! |
| (Morus) Yn hollol. | |
| (Ann) P'run gymrwch chi i | |
| (1, 0) 459 | Cyn i mi ateb hynna, 'rwyf am awgrymu ffordd arall o'r dryswch. |
| (1, 0) 460 | Rydych yn honni na allaf eich gwthio ymlaen yn erbyn eich ewyllys. |
| (1, 0) 461 | O'r gora'. |
| (1, 0) 462 | Ond pe bawn yn cynnig eich arwain, er eich lles, a fyddech chi'n fodlon fy nilyn? |
| (Seth) Nid plant diymgeledd ydy' ni. | |
| (1, 0) 466 | Er eich lles, ddywedais i. |
| (1, 0) 467 | Da chi gwrandewch arna'i. |
| (1, 0) 468 | 'Ydych chi wedi meddwl beth all fod o'ch blaen? |
| (1, 0) 469 | Nid gardd flodau ydy' bywyd, ond maes brwydr, â'i ofid a'i drallod a'i siomedigaeth. |
| (1, 0) 470 | Rydych yn hawlio rhyddid heb sylweddoli ei bris. |
| (1, 0) 471 | Rwy'n dweud hyn o dosturi ac o gariad tuag atoch. |
| (1, 0) 472 | Ystyriwch eto, 'rwy'n erfyn arnoch. |
| (Ann) 'Rydym wedi ystyried popeth. | |
| (Ann) Does arno' ni ddim ofn ei wynebu. | |
| (1, 0) 476 | 'Fedrwch chi ddim gwneud hebof fi. |
| (1, 0) 477 | Yn enw trugaredd, Abram Morgan, ceisiwch chi eu darbwyllo! |
| (Abram) Mae'n ddrwg gen' i, 'alla' i ddim ymyrryd rwan. | |
| (Abram) 'Does gen'i ddim hawl i'w rhwystro. | |
| (1, 0) 485 | O'r gora. |
| (1, 0) 486 | Cymrwch yr awenau yn eich dwylo, ac ewch y ffordd a fynnoch. |
| (1, 0) 488 | Ond os digwydd i chi syrthio i'r gors, peidiwch â gweld bai arnaf fi... |
| (1, 0) 489 | Duw a'ch helpo! |