| (Oll) {Yn canu.} | |
| (Brenin) Fy Arglwydd Farnwr, a yw De Grey yn iawn? | |
| (1, 2) 347 | Er cywilydd i gyfreithiau Lloegr, felly y mae. |
| (1, 2) 348 | Mae'n rhaid i lw y Sais orbwyso eiddo'r Cymro ymhob llys drwy'r wlad. |
| (Tywysog) Fy Arglwydd Frenin! | |
| (Tywysog) Na foed i ni lychwino enw'n gwlad drwy bwyso ar lythyren cyfraith ffol, anghyfiawn, os yw honno'n bod. | |
| (1, 2) 351 | Mae hi yn bod ar lyfr deddfau Lloegr heddyw! |
| (Tywysog) Wel, cywilydd i lyfr deddfau Lloegr, ynte, ddwedaf fi. | |
| (Mortimer) 'Rwy'n deall fod y Barnwr doeth yn gwrthod llw Syr Owen de Glendore fel Cymro? | |
| (1, 2) 365 | Ie. |
| (1, 2) 366 | Dyna'r ddeddf. |
| (Mortimer) Ond er mai Cymro yw Syr Owen de Glendore, mae ef yn fwy na Chymro, am ei fod yn un o bendefigion Lloegr. | |
| (Iolo) Ie, dyna gyfraith dda ond rheswm gwael! | |
| (1, 2) 372 | Gwir iawn, Syr Edmund Mortimer. |
| (1, 2) 373 | Gall hawlio rhoi ei lw fel un o bendefigion Lloegr. |