a1, g1a1, g2
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 1


ACT I. GORMES.

GOLYGFA I. TIR Y CROESAU.

Yr Olygfa: Tir agored. Coed yn y cefn. Llumanbren gyda Baner Glyndwr yn chwyfio.

Yr Amser.─Y Bore.

Cyn codi'r Llen, clywir swn y canu. Y Llen yn codi.

GLYNDWR a'i Gwmni, yn cynnwys GRUFFYDD, IOLO GOCH, LLEWELYN AP GRUFFYDD VYCHAN, SYR RHYS TEWDWR, a'i fab OWAIN, ac eraill yn dod i fewn─R 2─dan ganu. Oll mewn gwisg hela. Gall nifer yr helwyr fod yn fawr neu yn fach yn ol adnoddau a dewisiad y Cwmni. Os bernir yn ddoeth gall tri neu bedwar o fechgyn ieuainc, o 12 i 15 oed, fod yn eu plith; a gall y cyfryw wasanaethu fel macwyaid, neu wychweision i'r pendefigion mewn Golygfeydd eraill, megys er enghraifft yn y Noson Lawen yn Sycharth (Gol. IV).

Oll
(Yn canu.)
Wel hai! mae'r helfa ar droed, ar droed,
Wel hai i hela'n y coed, y coed.
Y carw mawr coch,
Pen frith ddaear foch,
Y cadno, y ceinach a'r hydd buan droed,
A dyma y tywydd,
I'r cwn gael y trywydd
Y milgi a'r helgi,
Bytheuad a hyddgi.
Wel hai! mae'r helfa ar droed, ar droed,
Wel hai i hela'n y coed, y coed.

Glyndwr

(Wrth Llewelyn ap Grwffydd.) Dyma Dir y Croesau y soniais am dano neithiwr. Tir yw a ddylasai fod yn ffrwythlon o ran ei fod wedi ei fwydo â gwaed dewrion dwy wlad gyfa.

Llywelyn

Pob un at ei chwaeth, gefnder mwyn. Mae tir Caio'n ddigon gwael, ond mae'n well na hwn o gryn dipyn.

Iolo

Gwir bob gair! Chydig o ffrwyth welais i arno, nac o hono erioed, ond anghydfod. Ac o hwnnw cawn ddigon─a mwy.

Rhys

Taw ditha, Iolo. Mi gefaist ti dy ran fel gwr cyfraith pan fu'r achos gerbron y llys goeliai. Welis i 'run twrnai 'rioed na fynnai dynnu pres o groen dyn cyn methu.

Iolo

Na! Choeliai fawr! Mi faswn i'n llwgu fel twrna─mi rydw i'n rhy onast, wyddost!

Gruffydd

Mi 'rwyt wedi pesgu rywle a rhywsut fodd bynnag!

Iolo
Ydw'n tad! Ond ar y delyn, ac ar fwyd da, bwrdd yr Arglwyddes, dy fam, wel di. Does le fel Sycharth na gwraig fel dy fam i ofalu am angen corff prydydd.

Amla lle nid er ymliw
Penhwyaid a gwyniaid gwiw;
A'i dri bwrdd, a'i adar byw
Paunod, cryhyrod hoewryw.

Rhys

Taw da'ch ditha a'th brydyddu. Rhaid dy fod yn breuddwydio mewn cynghanedd. Ond dywed imi, Glyndwr. Mi gostiodd y gyfraith yn ddrud oni do?

Glyndwr

Gwell colli arian na gwaed─ond mi golla'm gwaed cyn colli'm tir.

Llywelyn

Prin 'rwy'n gweld y lle yn werth ymladd am dano mewn na llys barn na chad waedlyd.

Gruffydd

Nid gwerth y tir, f'ewyrth, ond yr egwyddor odditan y cweryl sy bwysig.

Iolo

Be sy'n iawn sy o bwys i ni!

Glyndwr

Cofia dithau hynny, Gruff. Mae'r Sais, a'i drais, a'i draha yn Grey o'r Castell Coch yn bygwth helynt newydd. Mi gefais air yn ddistaw y gallem ddisgwyl rhuthr ar y Croesau eto.

Iolo
Twt! lol wirion! Llosgodd Grey ei fysedd y tro dweutha. Fe losgir ei esgyrn os daw eto.

Pwy a ostwng Powysdir
Tra bo cyfraith a gwaith gwir!

Glyndwr

Ie, tra bo cyfraith a gwaith gwir. Ond chydig geir o rheiny tra b'o Harri ar ei orsedd a Grey o Ruthin yn ei lawes.

Iolo

Onid wyt tithau cyn belled yn llawes y brenin ag ydyw Grey? Neu mi ddylit fod, a thithau wedi cynnal ei freichiau mewn gwledydd pell. Mi clywais i o yn dy frolio am yr hyn a wnest yn y twrnameint trosto yn Calais a Thunis, a'r brwydro ar lannau'r Baltic yn erbyn y Germaniaid, ac ar y Danaw fawr yng ngwlad y Twrc. A be wnai Grey, greadur truan, mewn lleoedd felly, amgen beichio fel llo neu ffoi am ei hoedl!

Glyndwr

Mae pethau wedi newid er hynny, Iolo bach! Cof byr yw cof cymwynas, ond hir yw atgo digter.

Oll

Wele hai am yr helfa drwy'r coed!



Ant allan oll. Gall y cwmni wrth fyned allan ganu y lliaell olaf o'r Gan Hela fel o'r blaen. Yna ennyd fer o aros cyn y daw Cadben Marglee i'r golwg. CADBEN MARGLEE, a nifer o FILWYR De Grey yn dod i fewn. L 3.

Marglee

'Rwan lads! Mae gweled y Ddraig Goch yn chwyfio ar dir y Croesau yn anfri ar ein Harglwydd Grey. I lawr ynte â baner y bradwr, ac i fyny â lluman Arglwydd Grey. (Yn taro ei law ar y llumanbren.)



(Y MILWYR yn gwneud hynny.)

Milwr 1

Pe caem Glyndwr o dan draed mor rhwydd a chael ei faner, buasai'n rhywbeth.

Marglee

Y faner gyntaf, Glyndwr wedyn. Mi gawn y ddau dan draed. Tydy Cymro dda i ddim ond i wasanaethu ei feistr, y Sais.



Swn canu i'w glywed yn y coed ac yn agoshau.

Marglee

(Yn troi at ei ddynion.) Ust, lads! 'Rwan am hwyl! Ymguddiwn!



Ciliant oll i gysgod y coed yn y cefn. GWENFRON a JANE GLYNDWR yn dod i fewn─R 3─dan ganu.

Gwenfron a Jane

(Yn canu.) Clywch gân yr ehedydd, Fry, fry, hai a ho A thelyn yw'r goedwig Dan awel y fro. Mae'r llanc yntau'n canu, Hai a ho, tra la la A minnau pan glywaf, Wel, canu a wnaf.

Cusanu mae'r adar, Twi, twi, hai a ho, A'r brigau gusana Y gwynt yn ei dro Mae'r llanc yntau'n dysgu, Hai a ho, tra la la Pan ddaw i'm cyfarfod Mi wn beth a wna.



MARGLEE yn dyfod yn llechwraidd y tu ol i GWENFRON, ymaflyd ynddi a'i chusanu. GWENFRON a JANE yn ysgrechian.

Marglee
(Yn dynwared Gwenfron.)
"Pan ddaw i'm cyfarfod, mi wn beth a wna!"



Y MILWYR oll yn chwerthin wrth ddod allan o'r coed ac yn amgylchw'r merched.

Milwr 2

Ar f'einioes i dyna waith da!

Milwr 3

Ar fy ngair, Cadben, welis i rioed gusan yn cael ei ennill yn well!

Marglee
(Yn canu eto.)
"Pan ddof i'th gyfarfod, mi wn beth a wnaf!"

Gwenfron

I'm cyfarfod yn wir! Yr adyn hyll a'r llabwst meddw!

Marglee

Be ddeydist di? A wyddost ti pwy ydwyf?

Gwenfron

Gwn yn iawn. Llyfryn mewn gwisg milwr, yn ddewr i ymosod ar ferch ond na feiddia wynebu dyn!

Marglee

A feiddi di!

Gwenfron

Adyn iselradd mewn gwisg boneddwr.

Marglee

Mi dy ddysgaf, y feiden dafodrydd!

Gwenfron

Y lleidr sut ag ydwyt, yn dwyn yr hyn ni allet byth ei ennill!

Marglee

Myn Mair! Cei weld beth a fedraf ddwyn. 'Rwan lads! Ymeflwch yn y ddwy, ac awn a hwynt lle y cant ddysgu caru Saeson!



MILWYR yn ceisio ymaflyd yn JANE. Hithau yn tynnu dagr allan. O hyn i ddiwedd yr Olygfa dylasai'r holl symudiadau fod yn gyflym iawn.

Jane

Caru Saeson yn wir! Y cyntaf un o honoch a esyd law i'm cyffwrdd, a ga serch fy nagr yn ei galon os myn!

Marglee

(Yn dal braich GWENFRON ond yn troi i edrych ar y milwyr.) Y llyfriaid! A oes arnoch ofn merch! Ymeflwch ynddi!



Y MILWYR yn ceisio ymaflyd yn JANE, hithau yn eu cadw ymaith a'i dagr. GWENFRON yn rhoi slap ar wyneb MARGLEE, yn rhyddau ei hunan, ac yn ceisio ffoi. Yntau yn rhedeg ar ei hol a'i dal drachefn. GRUFFYDD GLYNDWR yn rhuthro i fewn, yn rhoi dyrnod i MARGLEE nes ei daro i'r llawr. IOLO GOCH yn rhuthro at ochr JANE gan ysgubo'r MILWYR i'r dde a'r aswy.)

Marglee

(Yn codi, gan dynnu eí gledd ac ymosod ar GRUFFYDD.) Nid ydynt ond dau! Lladdwch hwynt, lads!

Iolo

(Yn noethi eí fraich.) Cyfra'n gywir y ffwl! Mae yma ugain, gan fod un Cymro yn werth deg Sais, a dwrn Cymro'n well nag arf estron! (Yn ymosod.)



MARGLEE a GRUFFYDD GLYNDWR yn ymladd gledd yng nghledd. GWENFRON yn tynnu ei mantell a'i daflu í wyneb MARGLEE. GLYNDWR a'r gweddill o'r cwmni yn dyfod i fewn. L 1.

Glyndwr

Pa beth yw hyn? Ha! (Yn cyfeirio ei fys at lifre Marglee.) Lifre Grey o Ruthyn! Pam y troseddwch ar dir Glyndwr?

Marglee

(Yn gweinio eí gledd.) Mae hawl gan weision Grey ar y tir lle chwyfia lluman Grey. (Yn cyfeirio at y faner ar y llumanbren.)

Glyndwr

Myn fy einioes! Oni bae fod gennyf fwy o barch i mi fy hun nag i ti a'th feistr, mi dy grogwn y funud hon, tydi a'th wyr, am y sarhad a wnest. Pa le mae fy manner?

Milwr 1

(Yn cerdded yn gloff tuag ato.) Dyma hi, fy Arglwydd.

Glyndwr

Yn ol a hi i'w lle! I lawr â lluman Grey!



Y CYMRY yn agoshau i wneud─ond GLYNDWR yn eu rhwystro.

Glyndwr

Na! Ca'r dwylaw a daflasant laid ar luman Cymru ei olchi eto i ffwrdd! Chwi filwyr Grey, â'ch dwylaw eich hun gwnewch hyn!



Y MILWYR, ar ol edrych ar MARGLEE, yn fynnu baner Grey i lawr, gan godi'r Ddraig Goch drachefn yn ei lle.

Glyndwr

(Wrth Marglee.) Yn ol a chwi i'ch ffau! A dywed wrth dy feistr Grey os beiddia ef, neu ti, neu neb o'i wyr, roi troed ar dir y Croesau mwy heb ganiatad Glyndwr, mai'r crogbren a fydd rhan y neb a wna.

Iolo

Da iawn, Glyndwr. Ond un peth a anghofiaist.

Glyndwr

Pa beth yw hynny?

Iolo

Mae'r fanner yn ei lle─ond ble mae'r parch? Anrhydedd yw i Sais gael cyfarch y Ddraig!

Syr Rhys a'r Cymry Oll

Gwir! Gwir!



Y SAESON yn cyfarch y Ddraig Goch, ac yna yn myned allan ─L 3.

Glyndwr

Wel, dyna ddechreu'r storm.



Ant allan R 2. Os dewisir gall y Cymry ganu'r tair llinell olaf o'r Gân Hela wrth fyned allan.

Llen

NODIAD. Aeth Arglwydd Grey a'i gŵyn i Lundain at y Brenin Harri. Gwysiwyd Glyndwr yno i'r Llys i Westminster. Ceir y prawf yn yr Olygfa nesaf.

a1, g1a1, g2