| (1, 0) 11 | Dyma'r bywyd yntê, Doris? |
| (1, 0) 12 | Tydi'n braf heb Charles? |
| (Doris) Yn tydi, meistres. | |
| (Doris) Yn tydi, meistres. | |
| (1, 0) 14 | Mi fydd yn ôl yfory. |
| (Doris) Yn ôl i'r rwtîn. | |
| (Doris) Yn ôl i'r rwtîn. | |
| (1, 0) 16 | Ia, treulio gyda'r nos yn gwrando ar simffoni neu gwrando arno fo yn darllen Shakespeare. |
| (Doris) Dim teledu. | |
| (Doris) Dim teledu. | |
| (1, 0) 18 | Na, dim ond pan mae o isio gweld y Proms. |
| (1, 0) 19 | O, mae Charles yn medru bod yn boring. |
| (Doris) A chas. | |
| (Doris) Mi rydan ni wedi cael amser da ers pan aeth o. | |
| (1, 0) 22 | Codi am un ar ddeg,.. |
| (Doris) ...âr ôl brecwast yn y gwely. | |
| (Doris) ...âr ôl brecwast yn y gwely. | |
| (1, 0) 24 | Ie, mi 'rwyt ti wedi cael gormod o'r rheini. |
| (1, 0) 25 | Fi ydi'r feistres cofia. |
| (Doris) A gorwedd mewn bath wedyn am awr gyfa'. | |
| (Doris) A gorwedd mewn bath wedyn am awr gyfa'. | |
| (1, 0) 27 | A gadael dim dŵr poeth i mi. |
| (Doris) Wedyn Ben yn ein dreifio i'r dre i siopa yn hamddenol. | |
| (Doris) Wedyn Ben yn ein dreifio i'r dre i siopa yn hamddenol. | |
| (1, 0) 29 | Ac ar ôl pryd bach ysgafn o salad "smoked salmon," yn ôl i'r tŷ i orffwys cyn cinio nos. |
| (Doris:) Ia, dach chi wedi'i chael hi'n braf iawn ac wedi anghofio pob dim am golli pwysa. | |
| (1, 0) 32 | Colli pwysa? |
| (Doris) Wel, ia. | |
| (Doris) {Yn stopio pedlo.} | |
| (1, 0) 40 | Hy! |
| (1, 0) 41 | Colli fasat ti! |
| (1, 0) 42 | Mae 'mhwysa i yn iawn, beth bynnag. |
| (Doris) Hy! | |
| (Doris) Dach chi wedi gweld eich pen-ôl yn ddiweddar? | |
| (1, 0) 45 | Paid â bod mor bersonol. |
| (Doris) Wel cerwch i jecio ar y glorian. | |
| (Doris) Wel cerwch i jecio ar y glorian. | |
| (1, 0) 48 | Ew, ti'n iawn ─ mi rydw i wedi rhoi lot o bwysau ymlaen. |
| (1, 0) 49 | O diar, mi wnaiff o hanner fy lladd i am hyn. |
| (1, 0) 50 | Symud o'r ffordd. |
| (Doris) Hwre! | |
| (Doris) Be dach chi'n feddwl o'n ffigwr i, meistres? | |
| (1, 0) 57 | Ew, ti'n lwcus. |
| (Doris) Gofalus, dim lwcus. | |
| (1, 0) 69 | Arian? |
| (1, 0) 70 | Pa arian? |
| (Doris) Wel yr holl arian dach chi wedi'i wario ers pan aeth o. | |
| (Doris) Ac oedd rhaid i chi roi tips mor uchel? | |
| (1, 0) 74 | Uchel? |
| (1, 0) 75 | Be wyt ti'n feddwl? |
| (Doris) Wel, deg punt i'r hogan fach 'na am ddeud wrthach chi lle roedd y lle chwech, a deg punt i'r waiter 'na jest am i fod o'n debyg i'ch tad. | |
| (1, 0) 78 | O taw, Doris! |
| (1, 0) 79 | Ti'n siwr 'mod i wedi gwario'r holl arian 'na? |
| (Doris) Do, dros fil o bunnau mewn pythefnos. | |
| (Doris) Hei, dewch o'na ─ dim slacio! | |
| (1, 0) 84 | O diar, be wna' i? |
| (1, 0) 85 | 'Ches i ddim gwisgo fy ngôt ffyr ora' gynno fo am i mi orwario y tro diwetha' roedd o i ffwrdd. |
| (1, 0) 86 | Mi fydd y gosb yn waeth y tro yma. |
| (Doris) A dach chi'n gwybod amdano fo. | |
| (Doris) Mae o'n tjecio'ch cyfri banc chi yn gyson. | |
| (1, 0) 89 | Rhaid i mi fenthyg o rywle. |
| (Doris) Peidiwch ag edrych arna' i. | |
| (1, 0) 94 | Mae'n rhaid fod y sŵp 'na yn wynias ─ roedd o'n gweiddi fel dyn o'i go'. |
| (Doris) {Yn chwerthin.} | |
| (Doris) Hei, dim slacio ddeudais i. | |
| (1, 0) 100 | O, rydw i wedi blino. |
| (1, 0) 102 | O diar, dw i heb golli dim! |
| (Doris) {Yn chwerthin.} | |
| (Doris) Dewch o'na ─ yn ôl ar y beic 'ma. | |
| (1, 0) 107 | Mi ga' i fenthyg gan fy chwaer. |
| (Doris) Dach chi'n meddwl bod honno yn bwll diwaelod. | |
| (Doris) Faint sydd arnoch chi iddi ers y llynedd? | |
| (1, 0) 110 | Dim ond tair mil. |
| (Doris) Os daw o i wybod, 'chewch chi ddim gwisgo'r gôt ffyr 'na am ddeng mlynedd arall... | |
| (Doris) Os daw o i wybod, 'chewch chi ddim gwisgo'r gôt ffyr 'na am ddeng mlynedd arall... | |
| (1, 0) 112 | O taw, Doris bach, ─ ti'n ddigon i godi dychryn ar rywun. |
| (Doris) {Yn pwyntio at gylchgrawn ar y bwrdd.} | |
| (1, 0) 116 | Tenerife... |
| (1, 0) 117 | Fan'no faswn i yn hoffi mynd, ond 'ddaw o byth gyda fi. |
| (Doris) Fan'no dach chi yn mynd, meistres... | |
| (1, 0) 120 | Haul drwy'r dydd... gorwedd ar dywod melyn... |
| (1, 0) 121 | Be' ddeudaist ti? |
| (Doris) Dach chi wedi bwcio gwyliau yn Tenerife gyda Mrs Pryce-Smith. | |
| (Doris) Dach chi wedi bwcio gwyliau yn Tenerife gyda Mrs Pryce-Smith. | |
| (1, 0) 123 | Paid â chellwair, Doris. |
| (1, 0) 124 | Pryd wnes i hynny? |
| (Doris) Y diwrnod fuoch chi yn ciniawa gyda hi. | |
| (Doris) Y diwrnod fuoch chi yn ciniawa gyda hi. | |
| (1, 0) 126 | Dw i ddim yn cofio. |
| (Doris) Rown i'n amau eich bod chi wedi cael gormod o win hefo'ch bwyd. | |
| (Doris) Rown i'n amau eich bod chi wedi cael gormod o win hefo'ch bwyd. | |
| (1, 0) 128 | Fydda i byth yn yfed gormod o win. |
| (Doris) Mi wnaethoch y diwrnod hwnnw. | |
| (Doris) Ar ôl cinio yn y Grand, mi aethoch chi'ch dwy i'r "Travel Agent" mewn tacsi i roi blaendal ar wyliau yn Tenerife. | |
| (1, 0) 131 | O diar, be wna i? |
| (1, 0) 132 | Wnaiff o byth adael i mi fynd. |
| (Doris) Twt, mi feddyliwn ni am rhywbeth. | |
| (Doris) Dewch, meistres. | |
| (1, 0) 137 | O fedra i ddim, Doris. |
| (1, 0) 138 | Dw i'n poeni, wsti. |
| (Doris) {Gafael yn ei llaw a'i thynnu'n ei blaen.} | |
| (1, 0) 160 | Heno! |
| (1, 0) 161 | Paid â 'nychryn i Ben. |
| (Ben) Cŵl down meistres. | |
| (Ben) 'Fory mae o'n dŵad siŵr. | |
| (1, 0) 164 | Ers faint wyt ti gyda ni rŵan, Ben? |
| (Ben) Ugain mlynedd meistres, a rydw i'n dal i aros am y watsh aur roedd o wedi'i gaddo i mi. | |
| (1, 0) 169 | Mae o yn gas hefo ni i gyd yn tydi? |
| (Ben) Rydw i newydd gofio rhywbeth pwysig. | |
| (Doris) {Y ddwy yn chwerthin.} | |
| (1, 0) 174 | O, paid wir. |
| (1, 0) 175 | Mae'n 'sennau i yn brifo wrth feddwl am y peth. |
| (Doris) Ew, be mae Steve Davis yn mynd i'w wneud? | |
| (Ben) Rhaid i mi gael practis. | |
| (1, 0) 183 | Ydi o'n chwaraewr da? |
| (Ben) Mae o'n dipyn gwell na'i dad! | |
| (Ben) Mae o'n dipyn gwell na'i dad! | |
| (1, 0) 185 | Beth am ddechrau tacluso ychydig. |
| (1, 0) 186 | Dan ni ddim isio gadael pethau tan y funud ola'. |
| (Doris) Mi ddechreua i gyda'r llestri 'ma. | |
| (Doris) {Gafael mewn llestri a mynd allan.} | |
| (1, 0) 189 | Fe wna inna glirio'r papura 'ma. |
| (1, 0) 190 | Tyrd i helpu Ben. |
| (Ben) Oes eisiau cael gwared ar y papurau 'ma i gyd? | |
| (Ben) Well i ni adael un neu ddau o gwmpas iddo fo gael rhywbeth i'w ddarllen. | |
| (1, 0) 194 | Ie, wrth gwrs, gad un neu ddau. |
| (Ben) Beth am hwn? | |
| (Ben) Beth am hwn? | |
| (1, 0) 196 | 'Rargian' fawr ─ ddim y 'News of the World'! |
| (1, 0) 197 | Llosga fo'n reit sydyn! |
| (1, 0) 198 | Lle mae'r 'Times'? |
| (Ben) Alla i mo'i weld o. | |
| (Ben) Alla i mo'i weld o. | |
| (1, 0) 201 | Paid â deud ─ mae o'n siŵr o ofyn amdano fo. |
| (Doris) 'Rydw i bron yn siŵr ei fod o yng nghanol y bwndel roesoch chi yn y bun bore 'ma. | |
| (Doris) 'Rydw i bron yn siŵr ei fod o yng nghanol y bwndel roesoch chi yn y bun bore 'ma. | |
| (1, 0) 203 | Ben, plîs dos i'w nôl o y munud 'ma. |
| (1, 0) 207 | O diar, bydd yn ofalus Doris bach. |
| (Doris) Sori, meistres. | |
| (Ben) Dyma fo, ond mae golwg blêr iawn arno fo. | |
| (1, 0) 212 | Dos i'w smwddio fo. |
| (Ben) Smwddio fo? | |
| (Ben) Smwddio fo? | |
| (1, 0) 214 | Ia, smwddio ddeudais i. |
| (Ben) {Gwenu.} | |
| (Doris) {Yn dringo i ben cadair.} | |
| (1, 0) 221 | O, bydd yn ofalus Doris bach. |
| (1, 0) 222 | Os torri di honna mi fydd y byd ar ben. |
| (1, 0) 223 | Mae hi'n gant oed ─ wedi ei chael hi ar ôl ei Nain. |
| (Ben) Ac yn werth mil o bunnau medda fo. | |
| (Doris) Nac oes, sgen i ddim math o'i ofn o. | |
| (1, 0) 229 | O diar ─ tyrd i lawr Doris bach. |
| (1, 0) 230 | Gad i Ben drio. |
| (Doris) Na rydw i'n iawn. | |
| (Doris) Na rydw i'n iawn. | |
| (1, 0) 235 | Daria di Doris, mi rwyt ti yn lletchwith. |
| (1, 0) 236 | Ben bach, rydw i yn dy ddyled di am y gweddill o'm hoes. |
| (1, 0) 237 | Rwyt ti'n haeddu codiad yn dy gyflog. |
| (Ben) Mi fasa well gen i y watsh aur. | |
| (Ben) Mi fasa well gen i y watsh aur. | |
| (1, 0) 239 | Rho di hi i fyny 'ngwas i. |
| (1, 0) 240 | Rydw i wedi colli ffydd yn Doris ─ mae hi'n nyrfs i gyd. |
| (Ben) Dyna ni. | |
| (Doris) Beth am gêm arall o tidli wincs? | |
| (1, 0) 247 | Ddim eto. |
| (1, 0) 248 | Mae gen i ofn iddo fo ddod yn ôl yn gynt wsti. |
| (1, 0) 249 | Jest fel fo i drio rhyw dric fel yna. |
| (Doris) Ddaw o ddim tan yfory ─ peidiwch â phoeni. | |
| (Doris) Ofn cael cweir 'dach chi 'te? | |
| (1, 0) 253 | Naci wir! |
| (1, 0) 254 | Mi fu bron i mi dy drechu di tro dwytha. |
| (Doris) Dewch 'ta, ella gwnewch chi ennill y tro yma. | |
| (Doris) Dewch 'ta, ella gwnewch chi ennill y tro yma. | |
| (1, 0) 258 | Dyro record arall i droi. |
| (1, 0) 259 | Rhywbeth hefo dipyn o fynd ami. |
| (Doris) {Chwerthin.} | |
| (Doris) Methu bob tro. | |
| (1, 0) 265 | Gna di yn well 'ta. |
| (1, 0) 267 | Ti ddim gwell na fi. |
| (Doris) Wyt ti isio gêm o tidli wincs, Ben? | |
| (Doris) Mi wna i yn iawn fy hun. | |
| (1, 0) 286 | Rydw i wedi cael tair i mewn ar ôl ei gilydd. |
| (Doris) {Yn penlinio wrth ochr Beti.} | |
| (2, 0) 328 | Be ga' i 'neud i chi, Charles? |
| (Charles) Mae yna ormod o lwch yn yr ystafell yma ac mae'r ffenestri angen eu glanhau. | |
| (Charles) Chi sydd yn gyfrifol fod y gweision yn gwneud eu gwaith yn iawn a dach chi ddim yn gwneud eich job. | |
| (2, 0) 331 | Ond Charles... |
| (Charles) Dwi ddim isio esgusion. | |
| (Charles) Ewch i nôl fy nghôt fawr o'r llofft a dowch â thei hefyd. | |
| (2, 0) 394 | Wrth gwrs, Charles. |
| (Charles) Rho nhw ar fy nhraed i. | |
| (Charles) Mae'ch breichiau chi ymhob man. | |
| (2, 0) 408 | Sori, Charles. |
| (Doris) 'Dach chi ddim wedi gorffen eich ŵy meistr. | |
| (Charles) Bowler! | |
| (2, 0) 425 | Pardwn. |
| (Charles) Yr het bowler. | |
| (Ben) Car yn barod syr! | |
| (2, 0) 436 | Welwn ni mono fo am rai oriau gobeithio. |
| (2, 0) 437 | Ti'n cofio ein bod ni wedi gwadd mam a'i chwaer drosodd am baned a sgwrs. |
| (Doris) Cofio? | |
| (Doris) A finnau wedi gwneud tarten afalau yn arbennig iddyn nhw. | |
| (2, 0) 441 | Well i ti osod y bwrdd yn barod. |
| (Doris) Iawn. | |
| (Doris) Pryd ydach chi'n eu disgwyl nhw? | |
| (2, 0) 451 | Mi ddylen nhw fod yma mewn tua phum munud. |
| (Doris) Sut maen nhw'n dod? | |
| (Doris) Sut maen nhw'n dod? | |
| (2, 0) 458 | Mae 'mrawd, Dei, yn dod â nhw yn ei gar ─ ond dydi o ddim yn aros. |
| (2, 0) 461 | Dyma nhw! |
| (Doris) Mi a' i i'w ateb o. | |
| (Doris) Dowch â nhw i mi. | |
| (2, 0) 473 | Sut 'dach chi mam? |
| (2, 0) 474 | Hylo, Anti Jên. |
| (2, 0) 477 | Dewch at y bwrdd. |
| (2, 0) 478 | Mae'n siŵr bod chi isio paned. |
| (Mam) A thamaid o darten afalau, Doris. | |
| (Jên) Ia wir, rydan ni ein dwy wedi mynd heb frecwast i fwynhau honno. | |
| (2, 0) 482 | Does 'na neb i guro Doris am darten 'fala. |
| (Mam) Rydw i jest â chlemio. | |
| (Ben) Mae o yn ei ôl. | |
| (2, 0) 491 | Yn barod? |
| (Ben) Ia, mae o wedi trefnu i ddau ffrind ddod i'r tŷ. | |
| (Ben) Ia, mae o wedi trefnu i ddau ffrind ddod i'r tŷ. | |
| (2, 0) 493 | Wel, mi gaiff o fynd i'r rŵm ffrynt. |
| (2, 0) 494 | Dan ni ddim yn symud. |
| (Doris) Da iawn, meistres. | |
| (Ben) {Yn mynd allan.} | |
| (2, 0) 504 | Gwrandwch arna' i, Charles. |
| (Charles) Allan! | |
| (Charles) Allan! | |
| (2, 0) 506 | Ond... |
| (Charles) Allan ddeudais i. | |
| (Charles) Dwedwch wrth Doris am ddod â nhw i mewn yma yn syth. | |
| (2, 0) 521 | Wrth gwrs, Charles. |
| (2, 0) 522 | Yn mynd allan.} |
| (Charles) Hylo, Seimon. | |
| (2, 0) 589 | Falch o'ch cyfarfod chi. |
| (Charles) Mae Beti a fi wedi bod yn briod ers ugain mlynedd. | |
| (2, 0) 594 | Ia, Charles. |
| (Charles) Gyfeillion, mae'ch gwydrau chi'n wag. | |
| (2, 0) 603 | Dach chi'n meddwl? |
| (Charles) Wel, lawr â fo gyfeillion. | |
| (Doris) Mae'r merchaid newydd fynd gyda Dei. | |
| (2, 0) 622 | Wyddost ti beth nath y cena? |
| (2, 0) 623 | Fy nghusanu i o flaen y dynion 'na. |
| (Doris) Dach chi wedi cael eich siâr am y flwyddyn yma felly. | |
| (Doris) Mae o wedi gadael ei blan ar ôl. | |
| (2, 0) 630 | Pa blan? |
| (Doris) Hwn fan hyn. | |
| (Ben) Mae 'mrawd wedi rhoi cais i mewn i fod yn bensaer. | |
| (2, 0) 636 | 'Chaiff o mohoni mae'n debyg. |
| (2, 0) 637 | Os nad ydi o yn nabod y bobol iawn. |
| (Ben) Dyna'r gwir amdani. | |
| (Ben) 'Ron i yno pan welodd o y mistêc ar ei gopi o. | |
| (2, 0) 646 | Be ddylai o fod? |
| (Ben) 18. | |
| (Ben) Ac mi aeth fy mrawd i'r swyddfa i nôl y plan i'w gywiro fo ar ôl sylweddoli hynny. | |
| (2, 0) 649 | Ac mi roedd rhywun wedi copio y plan pan oedd o yn y swyddfa? |
| (Ben) Oedd, ac wedi copio y mistêc hefyd. | |
| (Doris) Reit ─ dyma'n cyfle ni. | |
| (2, 0) 655 | Be wyt ti'n feddwl? |
| (Doris) Ein cyfle ni i dalu'n ôl. | |
| (Doris) Ein cyfle ni i dalu'n ôl. | |
| (2, 0) 657 | I Charles? |
| (Doris) Ie, os collwn ni'r cyfle yma, mi fydd isio sbïo'n pennau ni. | |
| (Doris) Ie, os collwn ni'r cyfle yma, mi fydd isio sbïo'n pennau ni. | |
| (2, 0) 659 | Ond does 'na ddim wedi'i brofi. |
| (Doris) Mi fydd, gewch chi weld ─ dim ond mater o amser. | |
| (Doris) Mi fydd, gewch chi weld ─ dim ond mater o amser. | |
| (2, 0) 661 | Ond dial wnaiff o ─ ti'n gwybod amdano fo. |
| (Doris) Ddim ar ôl i mi orffen hefo fo. | |
| (Doris) Reit meistres, beth am bractis bach. | |
| (2, 0) 664 | Practeisio be? |
| (Doris) Beth i'w ddweud wrth y meistr. | |
| (Doris) Beth i'w ddweud wrth y meistr. | |
| (2, 0) 666 | Well gen i beidio. |
| (Doris) 'Rydw i wedi fy siomi ynoch chi meistres. | |
| (Doris) Wyddwn i ddim eich bod chi mor ofnus. | |
| (2, 0) 672 | Reit, be wyt ti isio imi ei wneud? |
| (Doris) Gwych, meistres. | |
| (2, 0) 676 | Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi. |
| (Doris) Twt, twt, meistres. | |
| (2, 0) 683 | Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi. |
| (Doris) Peidiwch â gweiddi gormod. | |
| (2, 0) 687 | Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi. |
| (Doris) Da iawn. | |
| (Charles) Lle mae'r merchaid 'ma? | |
| (2, 0) 714 | Charles, rydan ni... |
| (Doris) Lle mae o? | |
| (Doris) Lle mae o? | |
| (2, 0) 718 | Wn i ddim. |
| (2, 0) 719 | Ella ei fod o wedi mynd i'r ystafell ffrynt. |
| (Doris) Ar ei ôl o meistres. | |
| (Doris) Ar ei ôl o meistres. | |
| (2, 0) 721 | Rydw i yn dechrau cael traed oer wsti. |
| (Doris) {Yn ei thywys yn araf at y drws.} | |
| (Doris) Ew, dach chi yn ôl yn sydyn meistres. | |
| (2, 0) 741 | Ydw. |
| (2, 0) 742 | Mi wrthododd o wrando, a'n anfon i oddi yna bron yn syth. |
| (Ben) Be ddeudodd o am y plan? | |
| (Ben) Be ddeudodd o am y plan? | |
| (2, 0) 744 | Deud mai ei blan o ydi o, a neb arall. |
| (Doris) Pam na ofynnwch i'ch brawd Oscar ddod yma i setlo fo. | |
| (Doris) Pam na ofynnwch i'ch brawd Oscar ddod yma i setlo fo. | |
| (2, 0) 746 | Be fedar o'i wneud? |
| (Doris) Wel mae o'n ddyn mawr ac mi rydw i wedi cael yr argraff erioed fod gan y meistr dipyn o'i ofn o. | |
| (Ben) Dim ond drws nesa ond un mae o'n byw. | |
| (2, 0) 751 | Iawn. |
| (Doris) Paid. | |
| (Doris) Ffordd hyn. | |
| (2, 0) 778 | Snwcer? |
| (2, 0) 779 | Na, mae'n rhaid eich bod chi wedi gwneud camgymeriad ─ dydi Charles ddim yn chwarae snwcer. |
| (2, 0) 781 | O, sori. |
| (2, 0) 782 | Ben 'dach chi isio. |
| (2, 0) 783 | Pwy sy'n siarad. |
| (2, 0) 785 | Sion Powys, ia. |
| (2, 0) 786 | Sut ydach chi, Mr Powys. |
| (2, 0) 787 | Daliwch y lein, mi a'i i'w nôl o i chi rŵan. |
| (2, 0) 789 | Sion Powys sydd yna isio trefnu gem snwcer. |
| (Ben) Ew, dw i heb gael cyfle i bracteisio. | |
| (Ben) Dywedwch wrtho fo y gwna i ei ffonio fo'n ôl. | |
| (2, 0) 792 | Gaiff o ffonio chi'n ôl Mr Powys? |
| (2, 0) 793 | Diolch yn fawr. |
| (Doris) Mae yna leisiau uchel yn dod o'r ystafell ffrynt 'na. | |
| (2, 0) 803 | O diar, gobeithio na fydd yna ymladd. |
| (Doris) Fasa'r meistr ddim yn meiddio codi dwrn at Oscar. | |
| (Ben) Mrs. Pryce-Smith sydd yna. | |
| (2, 0) 807 | Be mae hi isio? |
| (Ben) Dw i ddim yn siŵr ─ rhywbeth am Tenerife. | |
| (Ben) Dw i ddim yn siŵr ─ rhywbeth am Tenerife. | |
| (2, 0) 809 | O! |
| (2, 0) 810 | Tenerife. |
| (Doris) Wedi dod am y gweddill o'r arian gwyliau mae'n siŵr. | |
| (Doris) Wedi dod am y gweddill o'r arian gwyliau mae'n siŵr. | |
| (2, 0) 812 | O, fedra i 'mo'i gweld hi. |
| (2, 0) 813 | Be wna' i Doris? |
| (Doris) Peidiwch â phoeni ─ mi ga' i wared ohoni. | |
| (Doris) Peidiwch â phoeni ─ mi ga' i wared ohoni. | |
| (2, 0) 815 | O Doris, rwyt ti'n werth y byd. |
| (Oscar) Chewch chi ddim mwy o drwbwl hefo fo. | |
| (Doris) 'Dach chi'n lwcus meistres. | |
| (2, 0) 823 | Lwcus? |
| (Doris) {Yn chwerthin.} | |
| (2, 0) 828 | Dim o gwbwl. |
| (Doris) Mae hi am ddod yn ôl 'fory i egluro. | |
| (Doris) Beth am i ni gyd fynd allan i ginio. | |
| (2, 0) 848 | Syniad gwych. |
| (2, 0) 849 | Well ini fynd i newid yn sydyn. |
| (Charles) Ardderchog. | |
| (2, 0) 853 | Gewch chi aros adref Charles. |
| (2, 0) 854 | Mae yna ddigon o fwyd yn y gegin. |
| (Doris) Ac os ydach chi isio ŵy wedi'i ferwi, cofiwch adael o yn y dŵr am bedwar munud union. | |
| (Ben) A dyma chi fenthyg watsh i'w amseru o'n iawn. | |
| (2, 0) 858 | Hwyl, Charles. |