a1a2
Ⓗ 1987 John Evans/Gwasg Carreg Gwalch
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


GOLYGFA: Ystafell fyw cartref Charles a Beti Bowen. Dau ddrws, un allan llall i weddill y tŷ. Mae'r ystafell yn flêr. Dillad ar lawr, llestri budur ar y bwrdd. Gwelir Beti Bowen a Doris. Beti yn gwisgo wig gwallt melyn, dillad lliwgar ffasiynol, modern, tlysiau clust amlwg a'i hwyneb wedi ei or-goluro. Gorwedda yn ôl ar gadair esmwyth gyda'i thraed ar stôl. Mae Doris sydd yn paentio ewinedd traed Beti yn gwisgo cyrlyrs, hen ffedog flêr, slipars carpiog, tlysau clust anferth. Mae ganddi sigarêt heb ei danio yn ei cheg a llawer iawn o bowdwr a phaent ar ei hwyneb.

Beti

Dyma'r bywyd yntê, Doris? Tydi'n braf heb Charles?

Doris

Yn tydi, meistres.

Beti

Mi fydd yn ôl yfory.

Doris

Yn ôl i'r rwtîn.

Beti

Ia, treulio gyda'r nos yn gwrando ar simffoni neu gwrando arno fo yn darllen Shakespeare.

Doris

Dim teledu.

Beti

Na, dim ond pan mae o isio gweld y Proms. O, mae Charles yn medru bod yn boring.

Doris

A chas. Mi rydan ni wedi cael amser da ers pan aeth o.

Beti

Codi am un ar ddeg,..

Doris

...âr ôl brecwast yn y gwely.

Beti

Ie, mi 'rwyt ti wedi cael gormod o'r rheini. Fi ydi'r feistres cofia.

Doris

A gorwedd mewn bath wedyn am awr gyfa'.

Beti

A gadael dim dŵr poeth i mi.

Doris

Wedyn Ben yn ein dreifio i'r dre i siopa yn hamddenol.

Beti

Ac ar ôl pryd bach ysgafn o salad "smoked salmon," yn ôl i'r tŷ i orffwys cyn cinio nos.

Doris:

Ia, dach chi wedi'i chael hi'n braf iawn ac wedi anghofio pob dim am golli pwysa.

Beti

(Yn eistedd i fyny.) Colli pwysa?



Doris yn codi a mynd at feic cadw'n heini ac yn eistedd arno.

Doris

Wel, ia. Mae o wedi prynu hwn yn sbeshial i chi golli pwysa a dach chi ddim wedi bod arno fo yr un waith ers pan aeth o i ffwrdd. (Doris yn pedlo yn gyflym ac yn edrych ar gloc y beic.) Dyna fi wedi cyffwrdd 30 eto! Dwi'n fodlon betio pum punt na wnewch chi mo hynna. (Yn stopio pedlo.)

Beti

Hy! Colli fasat ti! Mae 'mhwysa i yn iawn, beth bynnag.

Doris

Hy! Dach chi wedi gweld eich pen-ôl yn ddiweddar?

Beti

Paid â bod mor bersonol.

Doris

Wel cerwch i jecio ar y glorian.



Beti yn codi a mynd at y glorian a sefyll arni.

Beti

Ew, ti'n iawn ─ mi rydw i wedi rhoi lot o bwysau ymlaen. O diar, mi wnaiff o hanner fy lladd i am hyn. Symud o'r ffordd.



Yn gwthio Doris oddi ar y beic a mynd arno a pedlo. Doris yn mynd at y glorian.

Doris

Hwre! Rydw i wedi colli pedwar pwys mewn wythnos. (Yn cylchdroi a gwên ar ei hwyneb.) Be dach chi'n feddwl o'n ffigwr i, meistres?

Beti

Ew, ti'n lwcus.

Doris

Gofalus, dim lwcus.



Beti yn stopio pedlo.

Doris

Hei, dowch o'na. Dydach chi ddim yn cael stopio rŵan. Gamp i chi gyrraedd 30.



Beti yn pedlo'n gyflym a Doris yn edrych ar gloc y beic.

Doris

(Yn chwerthin.) Does gynnoch chi ddim clem ─ dach chi ddim wedi cyrraedd pymtheg eto!



Beti allan o wynt ac yn arafu.

Doris

Dach chi'n cofio bod gynnoch chi broblem ariannol yn dydach?

Beti

(Yn dal i bedlo.) Arian? Pa arian?

Doris

Wel yr holl arian dach chi wedi'i wario ers pan aeth o. Bag lledr £100; pum pâr o esgidiau ugain punt yr un a'r fodrwy 'na yn werth pum cant. Ac oedd rhaid i chi roi tips mor uchel?

Beti

Uchel? Be wyt ti'n feddwl?

Doris

Wel, deg punt i'r hogan fach 'na am ddeud wrthach chi lle roedd y lle chwech, a deg punt i'r waiter 'na jest am i fod o'n debyg i'ch tad.

Beti

(Stopio pedlo.) O taw, Doris! Ti'n siwr 'mod i wedi gwario'r holl arian 'na?

Doris

Do, dros fil o bunnau mewn pythefnos. (Yn pwyntio at y beic.) Hei, dewch o'na ─ dim slacio!



Beti yn ailddechrau pedlo.

Beti

O diar, be wna' i? 'Ches i ddim gwisgo fy ngôt ffyr ora' gynno fo am i mi orwario y tro diwetha' roedd o i ffwrdd. Mi fydd y gosb yn waeth y tro yma.

Doris

A dach chi'n gwybod amdano fo. Mae o'n tjecio'ch cyfri banc chi yn gyson.

Beti

Rhaid i mi fenthyg o rywle.

Doris

Peidiwch ag edrych arna' i. Dw i ddim wedi cael cyflog ganddo fo ers tri mis. Ddim ers y diwrnod hwnnw y gwnes i golli sŵp ar ben ei siwt ora fo.

Beti

(Yn chwerthin.) Mae'n rhaid fod y sŵp 'na yn wynias ─ roedd o'n gweiddi fel dyn o'i go'.

Doris

(Yn chwerthin.) Ew, oedd. Roedd o'n dawnsio o gwmpas y stafell 'ma fel dyn o'i go' hefyd.



Beti yn stopio pedlo.

Doris

Hei, dim slacio ddeudais i.

Beti

O, rydw i wedi blino. (Gadael y beic a mynd i bwyso eto.) O diar, dw i heb golli dim!

Doris

(Yn chwerthin.) Doeddach chi rioed yn meddwl basach chi'n colli owns ar ôl hynna o ymdrech? Dewch o'na ─ yn ôl ar y beic 'ma.



Beti yn ufuddhau ac yn pedlo.

Beti

Mi ga' i fenthyg gan fy chwaer.

Doris

Dach chi'n meddwl bod honno yn bwll diwaelod. Faint sydd arnoch chi iddi ers y llynedd?

Beti

Dim ond tair mil.

Doris

Os daw o i wybod, 'chewch chi ddim gwisgo'r gôt ffyr 'na am ddeng mlynedd arall...

Beti

O taw, Doris bach, ─ ti'n ddigon i godi dychryn ar rywun.

Doris

(Yn pwyntio at gylchgrawn ar y bwrdd.) A beth am Tenerife?

Beti

(Yn freuddwydiol.) Tenerife... Fan'no faswn i yn hoffi mynd, ond 'ddaw o byth gyda fi.

Doris

Fan'no dach chi yn mynd, meistres...

Beti

(Stopio pedlo.) Haul drwy'r dydd... gorwedd ar dywod melyn... Be' ddeudaist ti?

Doris

Dach chi wedi bwcio gwyliau yn Tenerife gyda Mrs Pryce-Smith.

Beti

Paid â chellwair, Doris. Pryd wnes i hynny?

Doris

Y diwrnod fuoch chi yn ciniawa gyda hi.

Beti

Dw i ddim yn cofio.

Doris

Rown i'n amau eich bod chi wedi cael gormod o win hefo'ch bwyd.

Beti

Fydda i byth yn yfed gormod o win.

Doris

Mi wnaethoch y diwrnod hwnnw. Ar ôl cinio yn y Grand, mi aethoch chi'ch dwy i'r "Travel Agent" mewn tacsi i roi blaendal ar wyliau yn Tenerife.

Beti

O diar, be wna i? Wnaiff o byth adael i mi fynd.

Doris

Twt, mi feddyliwn ni am rhywbeth. Dowch i ni gael dawnsio. (Yn rhoi record ymlaen ─ 12th Street Rag.) Dewch, meistres.

Beti

O fedra i ddim, Doris. Dw i'n poeni, wsti.

Doris

(Gafael yn ei llaw a'i thynnu'n ei blaen.) Cym on. Anghofiwch o. Mi gawn ni boeni amdano fo yfory. (Doris yn dawnsio'n hapus; Beti yn dawnsio yn anfodlon.) Wel, am wyneb hir. (Dawnsio yn egniol.) Beth am dipyn o wên?



Beti yn gwenu a mae hithau yn dawnsio'n egniol. Daw Ben i mewn yn gwisgo crys a throwsus "check" lliwgar.

Doris

Ben! Tyrd, joinia i mewn.



Y ddwy yn gafael yn Ben a'i wneud i ddawnsio. Ar ôl rhyw funud o ddawnsio syrthiant yn ôl ar gadeiriau wedi blino. Doris yn diffodd y miwsig.

Ben

Ew! Dwi ddim mor ffit ag oeddwn i.

Doris

Faint o'r gloch mae o'n cyrraedd yfory?

Ben

Ddim syniad. Ella daw o heno.

Beti

(Mewn braw.) Heno! Paid â 'nychryn i Ben.

Ben

Cŵl down meistres. 'Fory mae o'n dŵad siŵr.

Beti

Ers faint wyt ti gyda ni rŵan, Ben?

Ben

Ugain mlynedd meistres, a rydw i'n dal i aros am y watsh aur roedd o wedi'i gaddo i mi.

Doris

O, chefaist ti mohoni?

Ben

Naddo, mi nath o ei chadw hi ar ôl i mi gael crash hefo'i gar newydd o.

Beti

(Llais yn torri.) Mae o yn gas hefo ni i gyd yn tydi?

Ben

Rydw i newydd gofio rhywbeth pwysig. (Yn codi a mynd allan.)

Doris

Meddyliwch am y meistr yn dawnsio i fiwsig fel yna. (Y ddwy yn chwerthin.)

Beti

O, paid wir. Mae'n 'sennau i yn brifo wrth feddwl am y peth.



Daw Ben yn ôl gyda bwrdd snwcer bach.

Doris

Ew, be mae Steve Davis yn mynd i'w wneud?

Ben

Newydd gofio. Mae gen i gêm bwysig yn erbyn Sion Powys yn o fuan. Rhaid i mi gael practis.



Ben yn rhoi y bwrdd snwcer ar ben bwrdd yr ystafell ar ôl clirio y llestri a'u rhoi ar y llawr. Yn gosod y peli a pharatoi i chwarae.

Beti

Ydi o'n chwaraewr da?

Ben

Mae o'n dipyn gwell na'i dad!

Beti

Beth am ddechrau tacluso ychydig. Dan ni ddim isio gadael pethau tan y funud ola'.

Doris

Mi ddechreua i gyda'r llestri 'ma. (Gafael mewn llestri a mynd allan.)

Beti

Fe wna inna glirio'r papura 'ma. Tyrd i helpu Ben.



Ben yn ufuddhau.

Ben

Oes eisiau cael gwared ar y papurau 'ma i gyd? Well i ni adael un neu ddau o gwmpas iddo fo gael rhywbeth i'w ddarllen.

Beti

Ie, wrth gwrs, gad un neu ddau.

Ben

Beth am hwn?

Beti

'Rargian' fawr ─ ddim y 'News of the World'! Llosga fo'n reit sydyn! Lle mae'r 'Times'?



Daw Doris i mewn i nôl mwy o lestri.

Ben

Alla i mo'i weld o.

Beti

Paid â deud ─ mae o'n siŵr o ofyn amdano fo.

Doris

'Rydw i bron yn siŵr ei fod o yng nghanol y bwndel roesoch chi yn y bun bore 'ma.

Beti

Ben, plîs dos i'w nôl o y munud 'ma.



Ben yn mynd allan. Doris yn codi mwy o lestri. Un gwpan yn disgyn i'r llawr a malu.

Beti

O diar, bydd yn ofalus Doris bach.

Doris

Sori, meistres.



Doris yn casglu y darnau a mynd allan. Daw Ben i mewn.

Ben

Dyma fo, ond mae golwg blêr iawn arno fo.

Beti

Dos i'w smwddio fo.

Ben

Smwddio fo?

Beti

Ia, smwddio ddeudais i.

Ben

(Gwenu.) Mae o braidd yn wlyb. Fasach chi yn lecio i mi ei roi o yn y tymbyl dreiar hefyd?



Daw Doris i mewn yn cario jwg.

Doris

Rhaid i mi roi y jwg yma yn ôl. (Yn dringo i ben cadair.)

Beti

O, bydd yn ofalus Doris bach. Os torri di honna mi fydd y byd ar ben. Mae hi'n gant oed ─ wedi ei chael hi ar ôl ei Nain.

Ben

Ac yn werth mil o bunnau medda fo.



Doris yn estyn i osod jwg ar ben y silff. Braidd yn drwsgl yw hi ─ y jwg bron a disgyn o'i dwylo.

Ben

Ew, mae'n rhaid gen i bod hon ofn y meistr ─ mae hi'n nyrfs i gyd.

Doris

Nac oes, sgen i ddim math o'i ofn o.

Beti

O diar ─ tyrd i lawr Doris bach. Gad i Ben drio.

Doris

Na rydw i'n iawn.



Yr eiliad nesa syrth y jwg o'i dwylo. Beti yn rhoi sgrech fach. Ben yn taflu ei hun ar lawr a dal y jwg fodfeddi cyn iddo daro'r llawr.

Beti

Daria di Doris, mi rwyt ti yn lletchwith. Ben bach, rydw i yn dy ddyled di am y gweddill o'm hoes. Rwyt ti'n haeddu codiad yn dy gyflog.

Ben

Mi fasa well gen i y watsh aur.

Beti

Rho di hi i fyny 'ngwas i. Rydw i wedi colli ffydd yn Doris ─ mae hi'n nyrfs i gyd.



Ben yn sefyll ar y gadair a rhoi y jwg yn ei lle.

Ben

Dyna ni. Mi a' i i smwddio y papur newydd i chi rŵan meistres. (Ben yn mynd allan.)

Doris

Ew, rydw i wedi blino ar yr hen glirio 'ma. Beth am gêm arall o tidli wincs?

Beti

Ddim eto. Mae gen i ofn iddo fo ddod yn ôl yn gynt wsti. Jest fel fo i drio rhyw dric fel yna.

Doris

Ddaw o ddim tan yfory ─ peidiwch â phoeni. (Yn chwerthin.) Ofn cael cweir 'dach chi 'te?

Beti

Naci wir! Mi fu bron i mi dy drechu di tro dwytha.

Doris

Dewch 'ta, ella gwnewch chi ennill y tro yma.



Doris yn estyn y tidli wincs. Y ddwy yn penlinio a dechrau chwarae.

Beti

Dyro record arall i droi. Rhywbeth hefo dipyn o fynd ami.



Doris yn ufuddhau a dod yn ôl at y gêm. Oherwydd y miwsig gorfodir y ddwy i siarad yn uchel.

Doris

(Chwerthin.) Dach chi'n hopless Meistres. Methu bob tro.

Beti

Gna di yn well 'ta.



Doris yn rhoi cynnig arni.

Beti

Ti ddim gwell na fi.



Daw Ben i mewn.

Doris

Wyt ti isio gêm o tidli wincs, Ben?

Ben

(Yn uchel.) Na, well gen i snwcer.



Mae yn codi'r ciw a dechrau chwarae. Yr un pryd mae yn gwneud ychydig o symudiadau bach i'r miwsig.

Doris

'Does gennoch chi ddim llawer o glem meistres. Rydw i yn ffansio gêm bach o snwcer. (Mynd at y bwrdd snwcer.)

Ben

Dyma ti, Doris. Mi wna' i dy ddysgu di. Rhoi y ciw iddi. Doris yn dechrau taro peli. Ben yn rhoi ei freichiau o'i chwmpas a cheisio eî helpu hi iafael yn y ciw. Fel hyn mae gneud Doris.

Doris

(Yn ei wthio i ffwrdd.) Cadw dy hen ddwylo i ti dy hun. Mi wna i yn iawn fy hun.

Beti

Rydw i wedi cael tair i mewn ar ôl ei gilydd.



Doris yn stopïo chwarae snwcer, rhoi y ciw i Ben a mynd at Beti.

Doris

(Yn penlinio wrth ochr Beti.) Wel, mae rhaid i mi drio curo hynna.



Ben yn cario ymlaen i chwarae snwcer ─ ei gefn at y drws. Daw Charles i mewn. Mae ganddo siwt dywyll gyda het 'bowler'. Mwstas tenau a barf ar ei ên yn unig. Aiff at y record a'i diffodd. Wedyn aíff i sefyll y tu ôl i Ben. Mae Doris a Beti yn ei weld a safant yn glos wrth ei gilydd mewn sioc.

Ben

(Yn dal i chwarae.) Pam eich bod chi wedi diffodd y miwsig ferchaid? (Yn stopio chwarae, dal i edrych yn ei flaen a cynnig y ciw i'r person tu ôl iddo.) Ti isïo siot bach eto Doris?



Charles yn pesychu. Ben yn troi rownd gyda braw.

LLEN

a1a2