| (1, 1) 9 | Wel, fe ddethot yn ol, Jac bach. | 
| (Jac) {Yn eistedd ar y sgiw chwith, ac yn ateb yn bur anfoddog.} | |
| (1, 1) 13 | Be sy te 'nawr, Jac? | 
| (1, 1) 14 | Rwyt ti'n ol yn gynnar, machgen i. | 
| (1, 1) 15 | Dyw hi'n awr ddim ond tri o'r gloch. | 
| (Jac) Se popeth gystled â'r amser, mam, mi fydde'n burion. | |
| (Jac) Se popeth gystled â'r amser, mam, mi fydde'n burion. | |
| (1, 1) 17 | Beth sy o le 'te, fachgen? | 
| (1, 1) 18 | Ma dy wep di cyd â milltir. | 
| (Jac) Wi ddim yn diall pam ŷn ni'n gallu bod mor ddishtaw ffordd hyn, a manne erill yn |gneud| rhwbeth. | |
| (Jac) Wi ddim yn diall pam ŷn ni'n gallu bod mor ddishtaw ffordd hyn, a manne erill yn |gneud| rhwbeth. | |
| (1, 1) 20 | Gneud beth, Jac? | 
| (1, 1) 21 | Dere mas â hi, fachgen, yn lle rhyw swddanu fel hyn. | 
| (1, 1) 22 | Gwed tho i beth sy'n bod. | 
| (Jac) Wel, dyma beth sy'n bod, mam. | |
| (Jac) Fe fydd raid i rwun gynnu'r tân yma hefyd, ag wrth i fi dalu'r rot ddiwetha yng ngât Llether Mawr, gynne, ôn i'n shwr pwy ôdd i ddechre. | |
| (1, 1) 35 | Pwy, Jac? | 
| (1, 1) 36 | Ti? | 
| (1, 1) 38 | Pwylla di 'nawr dipyn bach, y machgen annwl i. | 
| (1, 1) 39 | (Yn mynd at y pentan.). | 
| (1, 1) 40 | A beth sy arna inne fel hyn yn whalu pen rheswm â ti? | 
| (1, 1) 41 | Ma ishe bwyd arnot ti'n dost, wy'n gwbod, a ma 'ma dipyn o gino neis wedi gadw i ti. | 
| (1, 1) 42 | Dere mlân, y ngwas i, fan hyn, a fe gei amser i ddod i dy le gam bwyll. | 
| (Jac) Dynon godde popeth sy'n Llannon, mam. | |
| (1, 1) 55 | Bit dy fwyd, Jac bach; fe ddaw amser gwell ar y byd, heb i ti golli dy anal. | 
| (Jac) Daw, mam fach, fe ddaw amser gwell, ond ddaw e ddim heb i rwun i brynu fe, a'i brynu fe'n brud, f'alle. | |
| (Jac) Ddaw e byth, mwy na theyrnas nefodd, wrth ddishgwl, a godde, godde o hyd. | |
| (1, 1) 58 | Mi weles i amser gwâth o lŵer, Jac, pan ôn i'n dechre 'myd. | 
| (1, 1) 59 | Dwyt ti ddim yn gwbod dy eni, machgen bach i, wrth fel y gweles iddi. | 
| (1, 1) 60 | Beth se ti'n byw yn amser rhyfel Boni, a'r blynydde ar ol y batl o Waterlw! | 
| (1, 1) 61 | Fe welset fara dipyn yn gwrsach, a thipyn llai o enllyn, ddala i ti. | 
| (1, 1) 62 | Ma'r byd yn gwella, Jac, cred di fi, ond i fod e'n hala tipyn o amser. | 
| (1, 1) 63 | Ond dyma dy dad! | 
| (Dafydd) {Dyn bychan tywyll, lygaid duon─pur felancolaidd─lberiad bob modfedd ohono─yn dod i mewn.} | |
| (Dafydd) W i'n folon talu honno, ta beth. | |
| (1, 1) 80 | On i'n meddwl ma dyna wetse dy dad. | 
| (1, 1) 81 | Eglwyswr yw e o hyd, ti'n gweld, er i fod e'n dod 'da fi i Fethania oddar priodson ni. | 
| (Jac) Fe gewn dalu popeth ŷn ni'n gweyd dim yn erbyn u talu nhw, nhad. | |
| (1, 1) 105 | Cato ni'n brudd! | 
| (1, 1) 106 | Pwy ddwad 'na tho chi, Dafydd? | 
| (Dafydd) William Bryndu odd yn dwad drw'r Bont echdo, a |fe| ddwad tho i heddy yn y Red Lion. | |
| (Dafydd) William Bryndu odd yn dwad drw'r Bont echdo, a |fe| ddwad tho i heddy yn y Red Lion. | |
| (1, 1) 108 | Syndod na fusen ni wedi clwed rhw air. | 
| (1, 1) 109 | Shwd buws hi, medde William? | 
| (Dafydd) Ych chi'n cofio am wr y Llety, Llangyfelach. | |
| (Dafydd) Nhw, medde fe, ôdd benna yn torri Gât y Gopa Fach a Gât y Bolgod. | |
| (1, 1) 114 | Odd ishe gwaith ar yr hen glymhercyn. | 
| (Dafydd) Falle hynny, ond ddaw dim da o ddrwg, Betsi fach, byth. | |
| (Dafydd) A ma un o'r bechgyn─John, wy'n meddwl─wedi sithu, ac yn y jâil yn Bertŵe, yn ddiargol byw. | |
| (1, 1) 120 | Druan bach! | 
| (1, 1) 121 | Ma 'ngwâd i'n twymo peth, Dafydd, wrth glwed pethe fel hyn. | 
| (Jac) Ma 'ngwâd i wedi twymo, ys cetyn, mam. | |
| (Dafydd) Cymer di bethe gam bwyll, y machgen i, ne falle bydd hi'n wâth arnot ti yn y pen draw nag ar John Cwm Cile. | |
| (1, 1) 125 | Fe fydde'n rhwyddach gwaith iddo fe arafu, Dafydd, se fe'n fwy o fab idd i dad. | 
| (Dafydd) Falle'n wir, Betsi. | |
| (Dafydd) Helpu'r hewl i fi ma nhw heddy. | |
| (1, 1) 129 | Dôs dim ishe i chi fynd mor bell â'r Red Lion i weld hynny, cofiwch. | 
| (1, 1) 130 | Dewch yn ol ar ych union, Dafydd, yn lle aros hyd |stop tap|, nos ar ol nos, a gweyd yn ych diod wrth bawb fod y byd yn mynd ar i wâth. | 
| (Dafydd) Fe gewn weld, Betsi. | |
| (Dafydd) {Yn myned allan.} | |
| (1, 1) 133 | Cewn, fe gewn weld. | 
| (1, 1) 135 | Jac bach, dw i ddim am gwnnu dy lewish di, ond w inne'n gweld nadi pethe ddim fel y dyle nhw fod. | 
| (1, 1) 136 | Dyw e ddim yn ddigon i ni dalu'r holl arian 'ma i'r gâts, heb yn bod ni'n gorffod helpu wedyn i wella'r hewlydd. | 
| (1, 1) 137 | Ma'r pwyse i gyd yn dod ar yr esgwdd wan, fel iti'n gweyd. | 
| (1, 1) 138 | Dw i ddim yn gwbod shwd ma gwella pethe, ond w inne'n gweld fod yr hen fyd 'ma dipyn mawr o'i le,─Druan o dilu Cwm Cile! | 
| (Jac) Ie'n wir, mam. | |
| (Jac) A falle clywwn ni rwbeth am le sy'n nes na'r Bont, na'r Hendy. | |
| (1, 1) 146 | Falle gnewn ni'n wir; ond ta beth sydd i fod, da ti, Jac bach, paid |ti| â bod yn y ffrynt, y machgen i, er mwyn dy fam. | 
| (1, 1) 147 | Wy'n dy adel di 'nawr, i edrych ar ol y morwmon 'na a'r godro. |