| |
---|
|
Cegin Tyisha, tua thri o'r golch y prynhawn, yn niwedd Awst. Tân glo carreg yn y grât, a phelau arno wedi llosgi'n bur isel. Crochan a pheth o'r llestri, cinio ar y pentan mawr. Dwy sgïw o bob lu i'r tân, a bwrdd bychan crwn rhyngddynt. Cadeiriau derw yma a thraw. Seld-a-dreser â'i llond o lestri cywrain y tu ol i un o'r ddwy sgiw wrth y mur, a chloc wyth niwrnod hen ffasiwn yn ymyl. Y mae'r cynhaeaf gwenith newydd orffen, a'r prysurdeb mawr drosodd.
|
Betsi
|
(Yn groesawus.) Wel, fe ddethot yn ol, Jac bach.
|
Jac
|
(Yn eistedd ar y sgiw chwith, ac yn ateb yn bur anfoddog.) Do, mam; ond alla i ddim godde pethe fel ma nhw bŵer yn rhagor.
|
Betsi
|
(Mewn ychydig syndod.) Be sy te 'nawr, Jac? Rwyt ti'n ol yn gynnar, machgen i. Dyw hi'n awr ddim ond tri o'r gloch.
|
Jac
|
Se popeth gystled â'r amser, mam, mi fydde'n burion.
|
Betsi
|
Beth sy o le 'te, fachgen? Ma dy wep di cyd â milltir.
|
Jac
|
Wi ddim yn diall pam ŷn ni'n gallu bod mor ddishtaw ffordd hyn, a manne erill yn gneud rhwbeth.
|
Betsi
|
Gneud beth, Jac? Dere mas â hi, fachgen, yn lle rhyw swddanu fel hyn. Gwed tho i beth sy'n bod.
|
Jac
|
Wel, dyma beth sy'n bod, mam. Ych chi'n y 'ngweld i newydd ddod 'n ol â'r llwyth glo 'ma. Dyna fe wedi costi bron cymint i fi yn y gâts âg ar ben y lefel. (Yn wawdlyd a digllon.) Wyth gwaith y tales i heddy, a grot bob tro! 'Dôs dim sens yn y peth. Doi ag wyth am werth triswllt o lo! A neb yma'n gweyd dim. Neb trwy blwyf Llannon yn gneud dim i gâl gwared o'r gâts y felltith 'ma! Ma pob man arall, mam, yn codi fel un gwr. Ma shir Gâr i gyd ar ddihun─a Llannon yn cysgu. Fe fydd raid i rwun gynnu'r tân yma hefyd, ag wrth i fi dalu'r rot ddiwetha yng ngât Llether Mawr, gynne, ôn i'n shwr pwy ôdd i ddechre.
|
Betsi
|
Pwy, Jac? Ti? (Yn araf a difrifol.) Pwylla di 'nawr dipyn bach, y machgen annwl i. (Yn mynd at y pentan.). A beth sy arna inne fel hyn yn whalu pen rheswm â ti? Ma ishe bwyd arnot ti'n dost, wy'n gwbod, a ma 'ma dipyn o gino neis wedi gadw i ti. Dere mlân, y ngwas i, fan hyn, a fe gei amser i ddod i dy le gam bwyll. (Yn gosod bwyd ar y bwrdd.)
|
Jac
|
(Yn dod ato.) Os, ma whant tipyn o gino arna i, hefyd, mam. Ond fydda i fawr dishtawach ar ol i gâl e. Pwy dŵel all dyn fod? Rhy dŵel ŷn ni yma. Pan bo fi'n meddwl am yr Eglwys Wen ag ochre Castell Newydd Emlyn, w i'n timlo'n bod ni'n fwy nag ôs ar ol. Ble ŷn ni yn ochor gwŷr Cynwil, ne wŷr Llansadwrn, ne wŷr Llandybie? Dŷn ni ddim yn werth yn seiffro. Ma 'ngwâd i'n berwi at y dynon côd sy yn Llannon a Llanedi 'ma. Dôs 'ma neb â thipyn o asgwrn cefen 'dag e. Dynon godde popeth sy'n Llannon, mam.
|
Betsi
|
Bit dy fwyd, Jac bach; fe ddaw amser gwell ar y byd, heb i ti golli dy anal.
|
Jac
|
Daw, mam fach, fe ddaw amser gwell, ond ddaw e ddim heb i rwun i brynu fe, a'i brynu fe'n brud, f'alle. Ddaw e byth, mwy na theyrnas nefodd, wrth ddishgwl, a godde, godde o hyd.
|
Betsi
|
Mi weles i amser gwâth o lŵer, Jac, pan ôn i'n dechre 'myd. Dwyt ti ddim yn gwbod dy eni, machgen bach i, wrth fel y gweles iddi. Beth se ti'n byw yn amser rhyfel Boni, a'r blynydde ar ol y batl o Waterlw! Fe welset fara dipyn yn gwrsach, a thipyn llai o enllyn, ddala i ti. Ma'r byd yn gwella, Jac, cred di fi, ond i fod e'n hala tipyn o amser. Ond dyma dy dad!
|
Dafydd
|
(Dyn bychan tywyll, lygaid duon─pur felancolaidd─lberiad bob modfedd ohono─yn dod i mewn.) Fe ddethot te, Jac. O wel! Dyma hen ddiwarnod pwdwr yw hi. Ma hi'n fwll iawn. Stim shwd beth a gneud dim heddy. Diolch bod y cnia miwn, er lleied odd e. Fe fydd yn anodd byw, y flwyddyn nesa 'ma, a ma prishe popeth yn cwnnu, ond prishe'r ffarmwr. Wi ddim yn gwbod beth ddaw ohonon ni cyn diwedd.
|
Jac
|
A dyma'r degwm 'ma, nhad! Ma Goring wedi brynu fe, ag wedi godi e deirgwaith y peth ôdd e.
|
Dafydd
|
Wyt ti'n gweyd y gwir, y machgen i.
|
Jac
|
A dyma'r dreth eglws yn dala fel âg ôdd hi. Ddaw honno ddim lawr, nhad, tra bo cloch mwn clochty.
|
Dafydd
|
Paid ti â gweyd dim, Jac, yn erbyn y dreth eglws. W i'n folon talu honno, ta beth.
|
Betsi
|
On i'n meddwl ma dyna wetse dy dad. Eglwyswr yw e o hyd, ti'n gweld, er i fod e'n dod 'da fi i Fethania oddar priodson ni.
|
Jac
|
Fe gewn dalu popeth ŷn ni'n gweyd dim yn erbyn u talu nhw, nhad. Dir yn helpo ni, dyma i chi ddeddf newydd y tlodion 'ma. 'Dyw hi ddim hanner cystled â'r hen. Ond ma cefne dynon sy'n folon i'r dreth eglws, ag yn folon i'r degwm 'ma ma Goring yn i hala ar i rasis, yn ddigon llydan. A dyma i chi'r cwnstablied newydd 'ma sy'n byta'r wlad, a'r dyn 'ma sy'n ben arnyn nhw â'i arian mawr. A dyma i chi'r haid 'ma o swyddogion y dreth. Ma nhw'n wâth na locustiaid Joel, 'slwer dydd.
|
Dafydd
|
Ma pŵer o wir yn y peth wyt ti'n weyd, Jac, ond fe fydd yn well i ni blygu i'r drefen, wedi'r cyfan, er i ni fynd yn glotach.
|
Jac
|
Alla i ddim credu dim o'r short, nhad, esguswch fi'n gweyd tho chi. Plygwch chi, a fe gewch blygu nes bo'ch pen chi yn y baw, a fe ddaw'r gyfreth â'i cheffyle drwstoch chi wedyn.
|
Dafydd
|
Wel, y machgen bach i, w i wedi gweld tipyn yn fwy na ti, cyn dod i'r fan hyn. Shwd ma'r hen weddel hefyd─"Yr hen a ŵyr, a'r ifanc a dybia." Weles i ddim byd yn well, Jac, na'i goddeddi. Fe gei dithe weld, rwbryd, taw fi sy'n iawn. Mynd o wâth i wâth ma'r hen fyd 'ma, a nei di, mwy na finne, fe fymryn gwell, er i ni whalu a whalu, a chodi'n cloch hyd Glyngia.
|
Jac
|
W i'n meddwl gneud mwy na chodi 'nghloch, nhad. Ddŵa i ddim i glôs Tyisha to, a thalu doi ag wyth i'r gâts am werth triswllt o lo, fentra i chi.
|
Dafydd
|
Paid â chodlan pethe felna. Chlwest ti ddim am fechgyn bach Cwm Cile? Ma nhw'n perthyn rhwbeth i dy fam. Dyma nhw wedi hanner u lladd 'da'r Capten Napier 'na o Bertŵe a'i gwnstablied. Ma hanner y tilu yn y ddalfa am u hamddiffyn nhw.
|
Betsi
|
(Mewn syndod.) Cato ni'n brudd! Pwy ddwad 'na tho chi, Dafydd?
|
Dafydd
|
William Bryndu odd yn dwad drw'r Bont echdo, a fe ddwad tho i heddy yn y Red Lion.
|
Betsi
|
Syndod na fusen ni wedi clwed rhw air. Shwd buws hi, medde William?
|
Dafydd
|
Ych chi'n cofio am wr y Llety, Llangyfelach. Fe'i gwelsoch e 'da fi yn ffair Llanedi, llynedd. Wel, 'dôdd dim llŵer o fola rinto fe a gwŷr Cwm Cile; a ma'n debig i fod e wedi mynd at y Capten Napier a'r Inspector Rees, ag wedi sgothi am Henry Morgan. Nhw, medde fe, ôdd benna yn torri Gât y Gopa Fach a Gât y Bolgod.
|
Betsi
|
Odd ishe gwaith ar yr hen glymhercyn.
|
Dafydd
|
Falle hynny, ond ddaw dim da o ddrwg, Betsi fach, byth. A fe wedws William Bryndu tho i fod no le yn Cwm Cile. Fe hanner laddwd y Capten Napier.
|
Jac
|
Itha gwaith âg e.
|
Dafydd
|
A ma un o'r bechgyn─John, wy'n meddwl─wedi sithu, ac yn y jâil yn Bertŵe, yn ddiargol byw.
|
Betsi
|
Druan bach! Ma 'ngwâd i'n twymo peth, Dafydd, wrth glwed pethe fel hyn.
|
Jac
|
Ma 'ngwâd i wedi twymo, ys cetyn, mam. Shwd ma godde'r pethe 'ma'n rhagor?
|
Dafydd
|
Cymer di bethe gam bwyll, y machgen i, ne falle bydd hi'n wâth arnot ti yn y pen draw nag ar John Cwm Cile.
|
Betsi
|
Fe fydde'n rhwyddach gwaith iddo fe arafu, Dafydd, se fe'n fwy o fab idd i dad.
|
Dafydd
|
Falle'n wir, Betsi. Ond dyma fi'n mynd mas i weld shwd ma'r bechgyn 'na'n dwad yn u blân. Helpu'r hewl i fi ma nhw heddy.
|
Betsi
|
Dôs dim ishe i chi fynd mor bell â'r Red Lion i weld hynny, cofiwch. Dewch yn ol ar ych union, Dafydd, yn lle aros hyd stop tap, nos ar ol nos, a gweyd yn ych diod wrth bawb fod y byd yn mynd ar i wâth.
|
Dafydd
|
Fe gewn weld, Betsi. (Yn myned allan.)
|
Betsi
|
Cewn, fe gewn weld. (Yn troi at JAC.) Jac bach, dw i ddim am gwnnu dy lewish di, ond w inne'n gweld nadi pethe ddim fel y dyle nhw fod. Dyw e ddim yn ddigon i ni dalu'r holl arian 'ma i'r gâts, heb yn bod ni'n gorffod helpu wedyn i wella'r hewlydd. Ma'r pwyse i gyd yn dod ar yr esgwdd wan, fel iti'n gweyd. Dw i ddim yn gwbod shwd ma gwella pethe, ond w inne'n gweld fod yr hen fyd 'ma dipyn mawr o'i le,─Druan o dilu Cwm Cile!
|
Jac
|
Ie'n wir, mam. Odd gen i olwg ar John. Bachgen trwyddo yw John Morgan. A drychwch ar Bontarddyles. Ma hi fel dinas girog o'r Hen Destament, yn byrth o bob pen, heb sôn am i chenol hi. Grindwch chi arna i─fe glywwn ni rwbeth am Gât y Bont, ag am Gât yr Hendy, cyn bo hir, er gwitha'r Capten Napier 'na a'i griw. A falle clywwn ni rwbeth am le sy'n nes na'r Bont, na'r Hendy.
|
Betsi
|
Falle gnewn ni'n wir; ond ta beth sydd i fod, da ti, Jac bach, paid ti â bod yn y ffrynt, y machgen i, er mwyn dy fam. Wy'n dy adel di 'nawr, i edrych ar ol y morwmon 'na a'r godro. (Yn mynd allan.)
|
Jac
|
O wel, ma'r ffermwyr 'ma fel côd! Ond pwy ŵyr? Ma rhai ohenyn nhw yn dechre dod mas o'u plishg, a ma 'ngobeth i'n gryf mwn tri neu bedwar ohenyn nhw. Fe gwrddes â Dai'r Cantwr a Shoni Sgubor Fawr heddy, a mi ddŵa nhw i gwrdd nesa'r Allt Fawr. Yn ni wedi cwrdda 'no droeon─odyn─a gneud dim. Ond ma'r byd i wella rwbryd, er gwitha nhad, a phan ddaw'r tân o'r diwedd, dros Fynydd Bach Llannon, w i'n meddwl y bydd 'no ffagal gwerth i gweld. (Yn mynd allan.)
|
|
Llen
|