Cwm Glo

Cue-sheet for Bob

(Dai) Hei, dere mlân, Dic.
 
(1, 1) 24 Reit!
(1, 1) 25 Rwy'n dod, nawr.
(Dic) {wrth gerdded ymlaen}
 
(1, 1) 44 O Arglwydd, bendithia ein bwyd, i'n cadw yn fyw, i'th wasanaethu Di, er mwyn Iesu Grist.
(1, 1) 45 Amen.
(Dai) Duw' cato pawb, Dic, rwyt ti wrth dy fodd yn twyllo'r plant 'ma.
 
(Dic) Does dim llawer o wahaniaeth gen i beth ych chwi'ch dou yn gredu, ond mi all mwy o flas fod ar fara menyn dim ond gweud thenciw amdano fe, ond gall e, Bob?
(1, 1) 52 Shŵr o fod.
(1, 1) 53 Oni bai fod rhywbeth yn hynny fuase mo mam wedi trafferthu i'n dysgu ni i ofyn bendith, na dweud pader o ran hynny.
(1, 1) 54 A dyw Dic Evans ddim yn ddigon o ffŵl i wneud hynny am gymaint o flynyddoedd os nad oes dim byd yn hynny.
(1, 1) 55 Pam na wnei di ddiolch am y bendithion 'ma, Id?
(Idwal) {wrth eistedd}
 
(1, 1) 67 Dyw Dai ddim yn hitio dim am senedd na pholitics na fotio, nac am oriau gwaith neb arall, nac am Ragluniaeth na Duw chwaith.
(1, 1) 68 Gest ti lwc ar dy geffyl ddoe Dai?
(Dai) {yn codi ei ben o'r papur}
 
(Dai) {Estyn ei ddwrn crebachlyd a thynn o'r bocs ddwy dafell, a chymryd dwy gegaid heb aros.}
(1, 1) 80 Hei, rho nhw nôl.
(1, 1) 81 I fi rhoth mam nhw, nid i ti.
(Dai) Cer i grafu.
 
(Dai) Cymer.
(1, 1) 94 Thenciw.
(Idwal) Diolch.
 
(Dai) Bah!!
(1, 1) 130 Beth wyt ti'n wneud?
(1, 1) 131 Dangos hi i fi.
(Idwal) Dwyt ti ddim yn gwybod digon o Geometry i ddilyn hon, mae arna i ofn.
 
(Idwal) Pythagoras Theorem.
(1, 1) 135 Rhywbeth am area'r sgwars na yw hi, iefe ddim?
(Idwal) Ie, wyt ti'n gweld y right angle triangle 'na?
 
(Idwal) Ie, wyt ti'n gweld y right angle triangle 'na?
(1, 1) 137 Triangle ABC.
(1, 1) 138 Odw.
(Idwal) Rwy i i brofi bod y sgwâr ar yr ochor hir 'na—AC yr hypotenuse, weldi e?
 
(1, 1) 144 ACDE yr un area yn gywir â ABFG plus BCHK.
(Idwal) Ie. Dyna fe.
 
(Idwal) Prove that the square on AG equals the sum of the squares on the other two sides.
(1, 1) 156 Ie, ond sut?
(Idwal) O'n rhwydd.
 
(1, 1) 172 Wel, wir, brecwast go brin sy gen i heddi a ffido Dai a chwbwl.
(Dic) Hy, ie, wir, 'ngwasi; ond mi fydd bola Dai rhy dynn i blygu, mi alli fentro.
 
(Idwal) Roedd hynna yn ôl reit nôl yn 1919, ond fe gei di dy ddal mor wir â'th fod ti'n fyw.
(1, 1) 186 A mi ga innau'r hewl wedyn...
(Dai) 'Y nal!
 
(Dai) A rwyt ti wedi dod â gwaed i 'ngheg i.
(1, 1) 214 Anghofio tynnu dy bib o dy boced; ac anghofio rhoi baco i mewn.
(1, 1) 215 Good man, Dai.
(Idwal) A mi ddest ti off yn shêp â dim ond tipyn bach o waed o'th geg, my lad.
 
(1, 1) 224 Wedes i hynny wrtho fe.
(1, 1) 225 Mae'r glo rwy i wedi roi ar y top yn iawn, ond... wni ddim be sy'n ei chanol hi.
(Dic) Petawn i'n ffeierman f'hunan, fydde gen i ddim byd i'w wneud ond gwneud hebddot ti, Dai.
 
(Dai) Myn asen i bois rych chi'n dwp.
(1, 1) 232 Ond beth 'se Morgan Lewis y manager yn dod lawr?
(1, 1) 233 Be ddigwyddai inni wedyn?
(Dai) Morgan Lewis!
 
(Idwal) Cod lan, y blagard sut ag wyt ti!
(1, 1) 271 Go on, Id.
(1, 1) 272 Dere mlaen Dai.
(1, 1) 273 Rwyt ti'n bostio dy fod ti'n gallu ymladd.
(1, 1) 274 Nawr te, dere mlaen.
(Dic) Gad lonydd iddo, Idwal.
 
(Dai) Mi ges i beth o'i ofan e nawr.
(1, 1) 284 Mi ddylet ti fod wedi rhoi un iddo, reit ym môn ei glust a left-hook yn ei chops e.
(Idwal) Mae'n well iti ofalu na chlyw e di.
 
(1, 1) 288 O, does dim o'i ofan e arna i.
(Dic) {wrth grynhoi ei focs, yn codi ar ei ben lin}
 
(Lewis) Gofala am y lamp yna.
(1, 1) 352 Reit, syr.
(Dai) {wrtho'i hun, a chrechwen ar ei wedd}
 
(1, 1) 396 Oet ti'n galw, Dai?
(Lewis) Does dim o'th eisiau di.
 
(Lewis) Ti lanwodd y dram yma?
(1, 1) 401 Fi rasodd ei thop hi, syr.
(Lewis) A dim ond hon sydd wedi ei llanw gyda chwi'r bore ma?
 
(Lewis) Pam hynny?
(1, 1) 404 Rwy i wedi bod wrthi â'm holl egni syr.