a1, g1

Cwm Glo (1934)

James Kitchener Davies

Ⓗ 1934 James Kitchener Davies
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 1


YR ACT GYNTAF

GOLYGFA I

Partin tan-ddaear. Amser brecwast.

Pethau a ddigwydd bob dydd, ym mhob "Cwm Glo" yn y Sowth, yw defnydd y chwarae hwn. Y cwbl a ofynnir yw cyfnod o bedair blynedd, i hadau'r ddwy olygfa gyntaf brifio: aeddfedant i'w priod ffrwyth yn ddiymod.

Pan gyfyd y llen y mae'r llwyfan mewn tywyllwch a llwch glo mân, ond bod un lamp glôwr, sydd yn hongian wrth un fraich pâr o goed yn agos î ganol y llwyfan, yn creu cylch clir o olau, fel gnotai, am ben y glôwr hwnnw. Wrth i'r llygaid gynefino â'r tywyllwch gallwn ninnau amgyffred yn well mai partin tan-ddaear sydd o'n blaen a bod pâr o reilffyrdd gloyw yn rhedeg ar draws y llwyfan o'r chwith uchaf i'r dde isaf. Rhed ohonynt ddeubar arall i mewn tua'r ffos sydd yn rhywle ar y dde.

Cliria'r llwch a gwelwn mai DAI DAFIS, gŵr ar ei ganol oed, sydd yn eistedd wrth droed y coler coed, a'i fod yn bwyta ac yn ceisio darllen papur yr un pryd.

Heb godi ei ben o'r papur, estyn ei law i'r tomi bocs ac at y jac bob yn ail, ac ni newidia ei osgo ddim pan glywn ninnau ei lais:

Dai

Hei, dere mlân, Dic. I bwy wyt ti'n gweithio te? Ma hi'n bryd bwyd. Teilwng i'r gweithwr ei fwyd. Dere o'na, Bob; gad y bocs 'na i fod nawr.

Bob

(O'r twnnel uchaf.) Reit! Rwy'n dod, nawr.



Ymhen ennyd daw RICHARD IFANS o'r twnnel isaf. Gŵr tua 6o oed yw, a chanddo wyneb rhadlon, pryfoclyd bron. Gwisg ei got amdano wrth ddod ymlaen. Daw IDWAL, bachgen ifanc iua 30 oed, o'r un man ag ef, ond try yn ei ôl i dynnu ei got oddi ar hoelen mewn coler arall a'i thaflu tros ei ysgwyddau. Daw BOB, crwtyn 16 oed, o'r twnnel uchaf ac â ar ei union i'r man lle y mae DAI a DIC yn eistedd.

Dic

(wrth gerdded ymlaen) Mae hast arnat ti bore 'ma o's e ddim? (Tyn ei watch o'i boced.) Pum munud i naw yw hi nawr; am naw r'ŷm ni'n arfer brecwasta. Mwy o hast i lanw dy grombil, spo, nag i lanw glo heddi 'to. (Eistedd, ac wrth i BOB gyrraedd atynt:) Ti, boi bach, sy'n codi glo i chi'ch dou, iefe?



Wrth fod Bob yn paratoi i eistedd atelir ef a'i gael ar ei ddeulin. Saif #Idwal wrth y coler â'i gefn ai y lleill.

Dic

Dere, gofyn fendith, 'ngwas i.



Cyfyd DIC ei law ar osgo cyhoeddi bendith, a thry DAI ddalen o'i bapur yn ddigon stwrllyd.

Bob

(yn syml) O Arglwydd, bendithia ein bwyd, i'n cadw yn fyw, i'th wasanaethu Di, er mwyn Iesu Grist. Amen.

Dai

Duw' cato pawb, Dic, rwyt ti wrth dy fodd yn twyllo'r plant 'ma. Be well ma neb o ofyn bendith, leicwn i wbod? Nid bod gwahaniaeth gen i, wada di bant. Ond mi fydde'n well iti adel y crwtyn 'na i roi ei fwyd yn ei grombil na throi am bwytu i ofyn bendith. Dwy i na Idwal byth yn gofyn bendith, a dŷm ni ddim wedi trengi yto, e Id?

Dic

Does dim llawer o wahaniaeth gen i beth ych chwi'ch dou yn gredu, ond mi all mwy o flas fod ar fara menyn dim ond gweud thenciw amdano fe, ond gall e, Bob?

Bob

Shŵr o fod. Oni bai fod rhywbeth yn hynny fuase mo mam wedi trafferthu i'n dysgu ni i ofyn bendith, na dweud pader o ran hynny. A dyw Dic Evans ddim yn ddigon o ffŵl i wneud hynny am gymaint o flynyddoedd os nad oes dim byd yn hynny. Pam na wnei di ddiolch am y bendithion 'ma, Id?

Idwal

(wrth eistedd) Dwn i ddim wir, Bob, ond mwya i gyd ddarllena i, ac y meddylia i, lleia i gyd y galla i weld bod gyda Duw—serch pwy neu beth yw hwnnw —ddim byd i wneud ag e. Os gweithia i i gael cyflog mi ga i frecwast heb help neb. Os na cha i gyflog mi ga i drengi rwy'n ofni, heb i neb weld fy ngholli i.

Dic

(yn bwriadu esbonio) Ond Idwal, yn shŵr iti...

Idwal

(yn torri arno) A oes rhywbeth yn y papur na Dai? Welais i ddim papur neithiwr, na dim o hanes y pleidleisio ar oriau gwaith y ffatrïoedd gwlân. Beth ddigwyddodd?

Bob

(yn chwerthin) Dyw Dai ddim yn hitio dim am senedd na pholitics na fotio, nac am oriau gwaith neb arall, nac am Ragluniaeth na Duw chwaith. Gest ti lwc ar dy geffyl ddoe Dai?

Dai

(yn codi ei ben o'r papur) Ei? O do, was; do, do; os wyt ti am wybod; 10 to 1, 'machan i. A mae gen i geffyl heddi 'ed; snip 20 to 1. (Sylwa, trwy daro'i law yng ngwaelod ei focs ac edrych, fod hwnnw yn wag.) (Cymer lwnc hir o'i jac, ac yna plyg i weld bocs Bob.) Be sy gen ti bore 'ma? Sandwitsh wy, myn diawl i. He, he, he, fyti di mo rheina i gyd. Gad weld... (Estyn ei ddwrn crebachlyd a thynn o'r bocs ddwy dafell, a chymryd dwy gegaid heb aros.)

Bob

Hei, rho nhw nôl. I fi rhoth mam nhw, nid i ti.

Dai

Cer i grafu. (Gymer ddwy gegaid arall.) He, he, he. DIC (wrth BOB) Gad y ffŵl i fod. Mae e mor ddigywilydd â mochyn. Weldi, mae gen i afal iti. (Rhydd un iddo.) A fyti di un,Id? (Teifl un i hwnnw.) Cymer.

Bob

Thenciw.

Idwal

Diolch. (Gyda'i gilydd.)

Dic

Mi ddylai fod yn gas gan dy galon di, Dai.

Dai

(yn fawreddog) Ie, falle; ond does dim weldi. Gwrando Id, beth well wyt ti o foddrach am lywodraeth ac oriau gwaith! Oes swllt gyda thi? Rho fe i fi i roi ar Lucky Jim. Sure snip, 20 to 1.

Dic

Os yw'r gêm yna'n talu cystal i ti, pam wyt ti mor ddwl â dod lawr fan hyn? Mae'n dda bod y bois ma'n gallach na thi. (Try at IDWAL.) Ar y radio neithiwr roedd e'n dweud i'r llywodraeth gario, a bod y bil yn saff hyd y committee stage.

Idwal

Good. Rwy'n gobeithio...

Dai

(fel pe heb glywed na Dic nac IDWAL) Dyma gyfle dy fywyd iti. Ceffyl first class! (Yn darllen o'r papur.) "This gallop goes to show that Lucky Jim is now back on his best." Gordon Doni sy ar ei gefen e hefyd. "He went right away and finished ten lengths in front of Opojac." A dyna i ti frid, 'machan i. Pedigri! Does dim ceffyl gwell nag e leni. A mi ges i'r tip o'r reit fan, mei boi. Good Luck oedd ei fam e, a Jim Crow oedd ei dad. Roedd Lucky Star a Starlight yn perthyn iddo ar un ochr, a My Jim a Croc Crow yn ei waed e ar yr ochr arall. Oes swllt gyda... Bah!!



Sylwa nad yw IDWAL ddim yn gwrando arno. Y mae hwnnw, tra fu DAI yn clebran, wedi tynnu sialc o'i boced, ac ar focs glo yn ei law wedi torri diagram theorem Pythagoras. Edrydd y theorem wrtho'i hun gan ddilyn y llinellau, weithiau â'i fys trwy'r awyr, weithiau â'r sialc ar y diagram. Croesa BOB ato, a sylwi yn ddistaw arno. Pan wêl ei fod yn methu mynd ymlaen, ar yr un munud ag y bydd DAI yn gofyn am y swllt, gofyn iddo:

Bob

Beth wyt ti'n wneud? Dangos hi i fi.

Idwal

Dwyt ti ddim yn gwybod digon o Geometry i ddilyn hon, mae arna i ofn. Mae hi'n un o'r rhai anodda sy gen i i'w gwneud. Pythagoras Theorem.

Bob

Rhywbeth am area'r sgwars na yw hi, iefe ddim?

Idwal

Ie, wyt ti'n gweld y right angle triangle 'na?

Bob

Triangle ABC. Odw.



Enwer y llythrennau bob tro yn Saesneg.

Idwal

Rwy i i brofi bod y sgwâr ar yr ochor hir 'na—AC yr hypotenuse, weldi e? Sgwâr ACDE yr un area yn gywir â'r ddau sgwâr ar AB a BC gyda'i gilydd. The square on AC equals the sum of the squares on the other two sides.

Bob

(yn dilyn y diagram â'i fys) ACDE yr un area yn gywir â ABFG plus BCHK.

Idwal

Ie. Dyna fe.

Dai

Dyna ffŵl wyt ti'n cabarddylu dy ben gyda hen ddwli felna.

Idwal

O ca dy sŵn. Meindia dy fusnes. Cer mlaen â'th geffylau.

Dic

Gad lonydd iddyn nhw, Dai. Mae Idwal eisiau'r pethau ma erbyn ei sertifficet. Wyt i'n gwybod ei fod e'n mynd i eiste ei ecsam yr haf'ma? Be' dda yw stwff felna, leiciwn i wybod. Dwli pen hewl.

Idwal

Prove that the square on AG equals the sum of the squares on the other two sides.

Bob

Ie, ond sut?

Idwal

O'n rhwydd. From B drop a perpendicular on AC cutting AO... DAI (gan blygu yn codi dyrnaid o lo mân gwlyb a'i daflu yn fflachter ar draws y diagram) Damo chi... He, he, he. Dyna spoilo'ch sport chi nawr, ta beth.

Dic

(wrth IDWAL, sy'n codi ac yn bwgwth DAI) Gad na fe, Id, y mochyn dienaid sut ag yw e. Der, byta dy fwyd. Does gyda ni ddim gormod o amser i gael... Ac rwyt ti'n cael blas ar y taclau 'na! Fuodd gen i ddim diddordeb ynddyn nhw arioed... Na fe, (IDWAL wedi eistedd, mewn cywilydd at DAI, a rhyfeddod at ddoethineb DIC) cwpla dy fwyd.

Bob

(yn torri'r tawelwch digysur) Wel, wir, brecwast go brin sy gen i heddi a ffido Dai a chwbwl.

Dic

Hy, ie, wir, 'ngwasi; ond mi fydd bola Dai rhy dynn i blygu, mi alli fentro. Hwde (estyn gylffyn o fara cyrens iddo), cymer y bara cyrens ma, alla i ddim ei gwpla fe.

Dai

Be gythraul sy'n bod arnat ti? Fe allai dyn feddwl mai ti sy'n 'y nhalu i. (Rhydd ei hun yn esmwyth fel i gysgu sbel.) Rwy'n gwneud digon am yr arian rwy'n gael, myn asen i. Be well mae neb o chwysu'i enaid maes. Nhw (gan bwyntio at y twnnel ar y chwith uchaf ) fydd yn cael y proffits i gyd, ac wfft faint o waith mae nhw'n wneud. Mae Dai yn gwybod digon o bolitics heb weirles na dim i ddeall cymaint â hynny, ta beth. Mi ddes i maes o'r ffas na bum munud o'ch blaen chi, a nawr rwy'n cael sbel fach, tra bo chi'ch tri'n cwpla. A falle bydd 'y ngharre i wedi torri, neu rywbeth, pan fyddwch chi'n mynd nôl—a mi ga innau'r minimwm dydd Gwener. Faint mwy gei di, a faint mwy geith Id, ar ôl iddo gabarddylu ei ben?

Idwal

Roedd hynna yn ôl reit nôl yn 1919, ond fe gei di dy ddal mor wir â'th fod ti'n fyw.

Bob

A mi ga innau'r hewl wedyn...

Dai

'Y nal! Gyda phwy? Pwy sy'n mynd i'n nal i? Pwy sy'n mynd i wybod mod i wedi cael pum munud fach cyn brecwast? (Dengys y lleill eu diflastod.) Un peth leiciwn i nawr fyddai pinshed fach o faco. (Tyn focs gwag o'i boced.) Oes pinshed fach gen ti, Dic?

Dic

Oes thenciw. (Ond nid yw yn anelu symud.)

Dai

(yn siwmp) Wel der â blewyn te!

Dic

O dyna gân arall nawr. (Chwardd IDWAL a BOB.) Pryd prynaist ti faco ddiwetha, Dai?

Dai

Y diawl, yn gwneud sport ar'y mhen i! (Tyn bibell glai o'i boced). Mi leiciwn i gael mwgyn bach o hon nawr.



Edrych y tri yn syn arno, ac yna tery DIC ei law yn ôl chwap ar draws ei geg, nes bwrw'r bibell i'r llawr a chael gafael ynddi, a'i dal i fyny ennyd.}

Dic

Ti yw'r diawl. Sut y dest ti â honna lawr? Ac rwyt ti mor wan â chath fach, ac yn ddigon dwl i'w thano hi. (Briwia hi yn fân tan draed). Dyna!

Dai

O reit, o reit, rwyt ti'n barticlar iawn. Doedd dim drwg yn hynna,—anghofio'i bod hi yn y boced ' ma wnes i. A rwyt ti wedi dod â gwaed i 'ngheg i.

Bob

Anghofio tynnu dy bib o dy boced; ac anghofio rhoi baco i mewn. Good man, Dai.

Idwal

A mi ddest ti off yn shêp â dim ond tipyn bach o waed o'th geg, my lad. A wyt ti'n gwybod y gellit ti gael jâl am hynna?

Dai

(Try ei gefn arnynt.) O ca dy lol.

Dic

Bob, faint o fwc sy'n dy dram di bore 'ma. Rwy'n siwr na ellit ti ddim llanw honna i gyd yn lân dy hunan; a ti llanwodd hi fwya, gynta. Os cewch chi'ch dal am lanw glo brwnt, maes cewch chi fynd yn bendramwnwgwl.

Bob

(gan edrych ar DAI) Wedes i hynny wrtho fe. Mae'r glo rwy i wedi roi ar y top yn iawn, ond... wni ddim be sy'n ei chanol hi.

Dic

Petawn i'n ffeierman f'hunan, fydde gen i ddim byd i'w wneud ond gwneud hebddot ti, Dai.

Dai

Petai ti'n ffeierman mai fyddai raid i fi gael rhyw ffordd arall falle. Ond mae Ianto Lloyd yn olreit. (Gan godi ei law at ei geg.) Peint bach yn y "Lion." Myn asen i bois rych chi'n dwp.

Bob

Ond beth 'se Morgan Lewis y manager yn dod lawr? Be ddigwyddai inni wedyn?

Dai

Morgan Lewis! Yr hen gi. Does gydag e ddim byd i weud. Os dwed e rywbeth mi ro i ei hanes iddo fe, reit inyff. Mae ei enw e'n drewi trwy Cwm Glo i gyd.

Idwal

Ca dy geg Dai Dafis! Pa hawl sy gen ti i ddweud dim byd am neb? Ca di dy geg am Morgan Lewis,

Dai

O, rwyt ti'n teimlo, wyt ti? Pam wyt ti'n teimlo te? Pwy eisiau iti deimlo sy?

Dic

Mae rheswm ar bopeth. Rwyt ti wrth dy fodd yn chwilio popeth gwael am bawb. Dim ond celwyddau dynion o dy deip di sy am Morgan Lewis. Mae'n well i chi ofalu neu fe gewch chi'ch hunan mewn twll y gŵr drwg maes o law.

Dai

O'r sant, sut ag wyt ti. Does dim raid iti fecso amdana i, mi alla i brofi popeth wy i'n weud.

Idwal

Dai, os na ofeli di, mi ro i fonclust iti nawr, a bod yn falch o wneud un tro da am heddi ta beth.

Dai

Mi neiset ti Foi Sgowt go dda, siwr o fod. Dyna pam mae Bet Lewis yn dy leicio di fallai. Ar y fencoes i Id, mae gen ti cheek yr Hen Foi i hongian am bwytu tŷ'r Manager ac esgus caru ei chwaer. (Yn crechwen.) Fallai bod hi rywbeth yn debyg i Moc ei brawd.

Dic

Er mwyn y Nefoedd, dal dy dafod, Dai.

Idwal

Gedwch na fe, mi ddwed rywbeth heb fod yn hir y bydd raid imi roi whelpen iddo fe. Mi fydd hynny'n siwr o gau ei geg e. (Gyfyd at ei waith wedi cael cas ar siarad DAI.)

Dai

Stic di at Bet, mei boi. Duw ŵyr be gei di gyda'r hen Foc—ond dwy i ddim yn credu cei di Bet gydag e'n glou iawn. Fallai fod cwestiynau ar bethau felna yn yr ecsam. He, he, he.

Idwal

(yn troi yn ôl eto) Weldi ma Dai, dyna ddigon nawr. Cod lan i mi gael rhoi taw arnat ti. Cod lan, y blagard sut ag wyt ti!



Nid yw DAI yn symud. Neidia BOB o'r ffordd i roi lle i'r ymladd y carai ef ei weld.

Bob

Go on, Id. Dere mlaen Dai. Rwyt ti'n bostio dy fod ti'n gallu ymladd. Nawr te, dere mlaen.

Dic

Gad lonydd iddo, Idwal. Paid â gwneud sylw ohono. Dim ond dy bryfocio di mae e, i'th hela di'n grac. (Try IDWAL ymaith.) Ond wyddost ti Dai, rwyt ti'n haeddu'r goten orau gest ti erioed am siarad felna.

Dai

(yn chwerthin) Diaist i mae Idwal yn meddwl tipyn o Bet. Mi ges i beth o'i ofan e nawr.



 BOB yn ôl at ei waith a chlywir ef yn cynghori IDWAL, sydd yn hongian ei got a chrynhoi ei bethach.

Bob

Mi ddylet ti fod wedi rhoi un iddo, reit ym môn ei glust a left-hook yn ei chops e.

Idwal

Mae'n well iti ofalu na chlyw e di. Mi fydd raid i ti weithio gydag e o hyd, cofia.

Bob

(wrth fynd o'r golwg) O, does dim o'i ofan e arna i.

Dic

(wrth grynhoi ei focs, yn codi ar ei ben lin) Ddylet ti ddim siarad felna o flaen y bois 'ma.

Dai

Arnyn nhw mae'r bai, nhw ddechreuodd. A mae Bob yn gwybod cymaint â finnau llawn.

Dic

Mae gen ti ferch fach dy hunan cofia. Pa ddylanwad wyt ti'n ddisgwyl gael arni hi? Druan fach o Mrs. Davies!

Dai

Does dim eisiau iti foddrach amdanyn nhw. Does neb wedi rhoi hawl iti i fesan yn 'y musnes i, oes e, er dy fod ti'n esgus bod mor dduwiol ac yn gweddïo rownd abowt.

Dic

Nagoes, nagoes. Ond druain bach ddweda i, yn dy ofal di.

Dai

Pait di â becso dim amdanyn nhw. Maen nhw'n cael amser go dda. Ca di dy geg amdanyn nhw.

Dic

A dyw Mrs. Davies ddim yn gryf iawn, ond nagyw hi?

Dai

Mae'r hen groten yn burion, does dim eisiau iti ffysan lot amdani hi. Mae lot o anal ynddi hi eto.

Dic

A Marged fach, der weld, pedair ar ddeg yw hi nawr?

Dai

Nage, pymtheg.

Dic

Mae'n ddrwg gen i amdani hi.

Dai

Mae hi'n dda ddigon. Tra geill yr hen fenyw, cheith dim un gwyntyn croes ddrysu blewyn o'i gwallt hi. A mae'r cythraul bach yn gwybod sut mae troi ei mam am ei bys bach. Mae Bet Lewis, whâr y manager, yn estyn rhywbeth iddyn nhw bob dydd 'ed. Diawst i, mae hi'n dod yn hen groten fach lân, hefyd, my boi.

Dic

Edrych ar ei hôl hi, er mwyn Duw, os nad oes gen ti ddim byd arall i fod yn falch ohono. (Cyfyd, a sefyll ar ei draed gan edrych i lawr ar DAI.) Dai, pob lwc iti. Mi ddylet ddod i benshwn am beidio â gweithio, neu am hau celwyddau. Yr unig biti yw fod y bois bach 'ma yn dy ofal di. Os na ofeli di mi fyddi wedi dwyn ei job oddi ar Bob a'i roi e ar yr hewl heb na dôl na dim. Ac os bydd e gyda thi'n hir mi fydd heb ei gymeriad hefyd mae arnai ofan. (Y mae yn symud ymaith.)

Dai

Ym mhle wyt ti'n pregethu dy' Sul? Mae'n well iti fynd lawr ar dy liniau nawr i gadw cwrdd diwygiad. Weldi, 'ma emyn newydd iti, newydd sbon:
"Aeth croten fach ifanc o'r Rhyl..."
(Clywir sŵn troed cyflym yn dod trwy'r twnnel chwith.) Ma'r hen Ianto Lloyd yn dod. (Try i edrych a gwêl olau coch; mae yn gwylltio, yn neidio ar ei draed ac yn crynhoi ei focs a'i jac, ond y mae'r papur ar lawr yn agored ac yn anniben.) Nage, myn yffern i, Morgan Lewis, y manager... (Hawdd canfod ei fod mewn penbleth a gwylltineb.)

Lewis

Bore da, Dai.

Dai

Bore da, syr. Mae hi'n fore ffein.

Lewis

Sut mae pethau'n mynd?

Dai

Gweddol. Talcen go galed.

Lewis

Ie, fel arfer, mae'n debyg. (Mae DAI yn symud tua'r fâs). Pam wyt ti'n colli cymaint o amser nawr yn ddiweddar?

Dai

Dyw'r wraig yco ddim hanner iach, syr.

Lewis

Dai bach, wyt ti wedi anghofio eich bod chwi'n byw o fewn ergyd carreg i'n tŷ ni? Mi glywais dy fod wedi meddwi'n garn echnos. Ym mhle wyt ti'n cael arian i dorri peth o'r syched ofnadwy 'na sy'n dy flino di? (Gwêl y papur ar lawr a rhydd flaen ei ffon drwyddo a'i godi.) Rwyt ti ar y bŵs bob tro daw ceffyl adre mae'n debyg. Mae gen ti ffitach gwaith i'th geiniogau, siwr o fod. (Â heibio i DAI, a heibio i'r dram lo ac i mewn tua'r ffâs, a chlywir ei lais o bell yn cyfarch BOB yn siriol.) Sut wyt ti, boi bach? Wyt ti'n cael digon o waith... Gofala am y lamp yna.

Bob

Reit, syr.

Dai

(wrtho'i hun, a chrechwen ar ei wedd) Dyma beth yw lwc y diawl, a does dim cocso arno fe. (Â at y dram lo.) A mae golwg shêp ar hon hefyd... Yr hen grwt bach y cythraul 'na. Damo, damo, damo... (Yn rhegi tan ei ddannedd, fel na ddeëllir ei eiriau, ond darllenir ei osgo.)

Lewis

(o'r tu mewn) Arnat ti neu Dai mae'r bai am yr holl lo mân yma sy tan draed? Rych chi braidd yn anniben gyda'ch gwaith. Bydd yn fwy cryno, machgen i.



Daw yn ôl at y dram lo, a chwalu'r talpau ar ei phen hi â'i law: edrych yn fwy craffus arni: dyd ei law i mewn rhwng y talpau, a chodi dernyn o slag i'r golwg a'i daflu i'r llawr. Y mae DAI yn myned heibio iddo yn ôl i'w ffâs.

Lewis

Dysg y crwtyn yna i fod yn fwy cryno Dai, neu fydd e dda i ddim byth; mae'r lle 'na yn ddychrynllyd.



Daw ei law ar draws telpyn arall o slag a gesyd ef ar ymyl y dram, yn y golwg. Wrth iddo alw ar DAI â heibio i du blaen y dram a sefyll ar yr ochr isaf iddi. Pan ddaw DAI allan saif ef lle safasai MORGAN LEWIS.

Lewis

Dere yma Dai... ar unwaith!

Dai

(o'r tu mewn) Reit. (Wedi iddo ddod i'r golwg.) Beth sy'n bod, syr, dyma f...

Lewis

(yn torri ar ei draws) Rwy i wedi sylwi bod lot o fwc yn cael ei dipio'r diwrnodau diwetha 'ma.

Dai

(yn ansicr a ddisgwylir iddo ef ddywedyd dim) Oes e? O...?

Lewis

Ac y mae lot o slag yn hon. (Teifl y talpau sydd ganddo ar ochr y dram i'r llawr.) Dyw hyn ddim yn ddigon da.



Dyd ei law i mewn ym mherfedd y dram a thyn allan ddyrnaid o lo mân gwlyb, a'i gario yn ei law i ganol y llwyfan. Mae llygaid DAI yn ei ganlyn ac y mae ansicrwydd yn ei wedd.

Lewis

Does dim rhyfedd nad ŷm ni'n gallu gwerthu glo. Beth wyt ti'n ddisgwyl ond colli marchnadoedd â glo fel hyn! (Gad i'r glo ddripian rhwng ei fysedd i'r llawr.) A thi a'th short fydd y cynta i achwyn pan fydd y pyllau yma wedi eu cau.

Dai

(fel llechgi) Y crwtyn na, syr. Bob... Bob, dere ma.

Lewis

Rwy i'n dy dalu di am ddysgu'r crwtyn na'n iawn. Sawl tram wyt ti wedi'i lanw heddi?

Dai

Hon yw'r gynta bore ma... Ond rwy i wedi bod yn disgwyl yr halier os amser nawr, syr.

Bob

(yn dod i'r golwg) Oet ti'n galw, Dai?

Lewis

Does dim o'th eisiau di. Cer nôl at dy waith machan bach i... Na, ateb... Ti lanwodd y dram yma?

Bob

Fi rasodd ei thop hi, syr.

Lewis

A dim ond hon sydd wedi ei llanw gyda chwi'r bore ma? Pam hynny?

Bob

Rwy i wedi bod wrthi â'm holl egni syr. (Cilwg oddi wrth DAI.)

Dai

Crwtyn eiddil yw e, a dyw e ddim yn credu mewn gweithio'n rhy galed.

Lewis

Bydd ddistaw. Paid â dweud dim rhagor o gelwyddau, da ti. (Wrth BOB.) O'r gorau, machgen i... (Â BOB gyda gwên o falchder na wêl y manager mohoni; y mae efê'n galw i'r twnnel arall.) Richard Ifans, chwi sy fanna, ynte fe? Dowch yma am funud. (Wrth DAI.). Rwy'n ofni y bydd raid iti fynd, Dai.

Dic

Hylo, bore da, syr.

Lewis

Bore da, Dic. Mae yna le go lew fan hyn, oes e ddim? Faint ych chwi wedi'i wneud bore ma?

Dic

Newydd hela'r ail maes. Mae'r drydedd bron yn wag mewn yna. Dyw'r lle ddim yn ffôl. Rŷm ni'n gallu dod i ben ag e'n weddol nawr.

Lewis

Dyna oeddwn innau'n feddwl. A dim ond hon mae Dai wedi'i llanw. A mae hi'n ddychrynllyd. (Saif pawb am ennyd anesmwyth.) Mae'n ddrwg gen i am Mrs. Davies, ac am Marged fach, ond dyna fe, beth sy gen i i'w wneud? Gwisg dy got!

Dic

O! Mr. Lewis!

Lewis

Beth arall alla i wneud? Mae Dai yn colli yn agos hanner ei amser—ceffylau a chwrw; mae e'n anniben, dyw e ddim gwerth ei halen; a mae'r hyn mae e'n ei wneud yn fwy o golled na dim arall. Glywaist ti Dai, casgla dy dŵls.

Dai

O, fel na, iefe. Rwy'n eitha bodlon mynd. He, he, he. Pwy sens sy mewn gweithio'n enaid maes fan hyn i chi gael y pres. Rwy i'n hen barod...

Dic

Rhowch un cyfle arall iddo fe, Mr. Lewis.

Lewis

Beth well fydda i. Run peth yn union fydd e. Na, alla i ddim rhoi cynnig arall iddo fe.

Dai

Does dim eisiau i ti, Dic, fegian trosto i. He, he, he, bachan pert yw e i ddannod ceffylau a chwrw i fi. Mae ceffylau a chwrw yn respectabl wrth rai o'r pethau mae fe'n eu henjoio. Mae gwinoedd a...

Lewis

O'r gorau, cer nawr cyn digwydd gwaeth iti. Galw am dy gardiau yn yr offis.

Dai

Gobeithio y daw'r un lwc i chwithau bob enaid! A mi ddaw, o daw, daw. Mi fydd y cwmni ma wedi cael y gorau maes ohonoch chwi cyn hir... a mi fyddwch chwi'n cael eich tipio maes i ben y tip yna—rhy hen a rhy stiff i blygu.

Lewis

A glywaist ti fi'n dweud wrthyt ti am fynd? Nawr te!

Dai

Do, do, mei boi. A glywaist ti fi'n dweud wrthyt ti a Dic? Mae digon o fois ifainc ar yr hewl nawr i lanw'ch llechwi.... Mi fydd Idwal yn fanager ryw ddiwrnod falle—os caiff e chwarae teg. He, he, he. (Aeth MORGAN LEWIS î mewn i'r fjds rhag clywed rhagor.) Reit mei bois (wrth fynd i'r twnnel ar y chwith.) A gwnewch fel mynnoch chwi â'ch job! Piclwch hi! (Â'r golau'n is.)

Dic

(wedi i DAI fynd o'r golwg) Wel, wel... Mae byd pert o'i flaen e, druan; a'i deulu hefyd... Wel, wel. (Try i'w le. Â'r golau'n is.)



LLEN

a1, g1