Pleser a Gofid

Ciw-restr ar gyfer Boddlondeb

(Pleser) |Now, by your leave, gentlemen and ladies|:
 
(Cân) Fe dderfydd gofid gydag e'.
(1, 1) 915 Pwy sydd yma'n taenu canu cwynion?
(1, 1) 916 Drwg genyf adlais cân anfodlon.
(Rheswm Natur) Fi, Rheswm Natur, sy' mewn caethder,
 
(Rheswm Natur) A gormod gofid ar ei gyfer.
(1, 1) 919 O pa'm na foddlonwn i'n Creawdwr,
(1, 1) 920 Pa fath bynag fyddo'n cyflwr?
(1, 1) 921 Dysgwn ymostwng i'w rymusder,
(1, 1) 922 A'n hamgylchiade mewn iach hyder.
(1, 1) 923 ~
(1, 1) 924 Mae Paul yn rhoddi pur gyf'rwyddwyd,
(1, 1) 925 Pa fodd i ymddwyn mewn hawddfyd ac adfyd,
(1, 1) 926 I fod yn llawn, neu fod mewn prinder,
(1, 1) 927 Mewn helaethrwydd neu gyfyngder.
(1, 1) 928 ~
(1, 1) 929 Boddloni tan y cystudd tryma',
(1, 1) 930 Bod mewn addfwynder ac iseldra;
(1, 1) 931 Bod fel Dafydd gyda Simei,
(1, 1) 932 Poen fall deithydd, pan felldithie.
(1, 1) 933 ~
(1, 1) 934 Dysgwn garu Duw'r goleuni,
(1, 1) 935 Pob peth a weithia er daioni;
(1, 1) 936 Ac os na ddysgwn fod yn foddlon,
(1, 1) 937 Mae pob peth ini dan felldithion.
(Rheswm Natur) Ofni yr ydwy' fod rhyw fagl,
 
(Rheswm Natur) Yn chwyddo i fynu gan eu balchder.
(1, 1) 942 Diame fod rhai felly'n byw;
(1, 1) 943 Ond pan aeth Dafydd i gysegr Duw,
(1, 1) 944 Dealle'u diwedd hwynt i'r eitha',
(1, 1) 945 Bod cwymp a dinystr ar eu gwartha'.
(Rheswm Natur) Mae dynion eraill anfoddlongar,
 
(Rheswm Natur) Sy'n penu gafel poen a gofid.
(1, 1) 960 Mae llaw Rhaglunieth yn ddirgeledd,
(1, 1) 961 Yn godde'i rai ddyfetha'u mawredd;
(1, 1) 962 Fel goddef gynt i Adda gwympo,
(1, 1) 963 Er hyny'n dyner a llaw dano.
(1, 1) 964 ~
(1, 1) 965 Nid pechod hwnw na'i hiliogeth,
(1, 1) 966 A'i gwnaeth ef yn ddall o'i enedigeth,
(1, 1) 967 Ond fel yr amlygid gallu'r Silo,
(1, 1) 968 Wyrthie mwyndeg wrth eu mendio.
(Rheswm Natur) Mae tlâwd a dall mewn newyn a noethni,
 
(Rheswm Natur) Da ydyw ei ddilyn, doed a ddelo.
(1, 1) 973 Mae'n gofyn hyn trwy bob caledi,
(1, 1) 974 I ddyn i ymestyn a'i holl egni,
(1, 1) 975 I wneud ei ore'n help yr Arglwydd,
(1, 1) 976 I wella'i gyflwr trwy onestrwydd.
(1, 1) 977 ~
(1, 1) 978 Ar hyd y nos bu rhai'n ymboeni,
(1, 1) 979 Mewn aflwydd, blinder, a thylodi;
(1, 1) 980 Pan daflent y rhwyd wrth air y Mawredd,
(1, 1) 981 Tu dehe'r llong, hwy gaent ddigonedd.
(1, 1) 982 ~
(1, 1) 983 A'r gwahan glwyfion oedd yn sefyll,
(1, 1) 984 Yn y porth cyn mentro i'r gwersyll;
(1, 1) 985 Ond pan fentrasant at Raglunieth,
(1, 1) 986 Hwy gaent yn hylwydd lawn gynalieth.
(1, 1) 987 ~
(1, 1) 988 Peth mawr cael gras a gwir foddlonrwydd,
(1, 1) 989 I fentro'n gwbwl ar yr Arglwydd,
(1, 1) 990 Tu hwnt i ofid, llid a chyffro,
(1, 1) 991 Gwyn eu byd y sawl a'i caffo.
(Rheswm Natur) Ffarwel, Boddlondeb, addfwyn galon,
 
(Rheswm Natur) I rai'n gywreindog sydd yn gwrando.
(1, 1) 996 Braint a heddwch i'r gydwybod,
(1, 1) 997 Boddloni yn mhob peth ond ar bechod;
(1, 1) 998 I hyn mi ganaf rai penillion,
(1, 1) 999 Er anog pawb i fod yn foddlon.
(Cân) {Cân ar "Billericay".}
 
(Cân) A'i ymweliad i ni, Amen.
(1, 1) 1076 Ffarwel 'rwan, mi af ar gerdded,
(1, 1) 1077 Gobeithio fod rhyw rai'n ystyried;
(1, 1) 1078 Gwirionedd Duw sy'n dda yn mhob agwedd,
(1, 1) 1079 A hwn a'n barna ni yn y diwedd.