1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400

Pleser a Gofid (1787)

Thomas Edwards (Twm o'r Nant)

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Llinellau 1-300

Enter Mr. Pleser.

Pleser
Now, by your leave, gentlemen and ladies:
O, silence! my fellows, don't be so foolish;
Pray stand back, ye crowdy gang,
Neu'r ydych yn annghariadus.

Oh! make more room o'r haner,
Between the fool and the fidler,
l'd wish to have a pretty dance,
Lle gwelo Nance, my dear.
O ffei, dyna ddigon, 'rwy'n chwanog i ddiogi,
Mae dychryn a henaint yn dechreu 'nihoeni;
A hyny sy'n sobreiddio gwres,
Fy rhodres a'm gwyrhydri.

Mae genyf act ar gynydd,
A freuddwydiodd Twm y Prydydd;
I adrodd ffyrdd naturieth ffol
Y byd a'i ddynol ddeunydd.

Ac fe alle bydd rhai wrth wrando,
Yn debygol o gael eu pigo;
Mae'n anhawdd cael seigie lle bo cege cas,
I bob un gael blas i'w blesio.

Ond yn lle gwresogedd seigie,
Chwi gewch frith-gig sych o'ch blaene,
A digon o fwstard gyda'ch bwyd,
Triniwch, fe a gwyd i'ch trwyne.

Ni fynwn ddim 'run faner
Ag interlutie'r Cwper,[1]
Bregethu duwioldeb yn ei chrys,
I rai f'o a blys am bleser.

Am osod 'r y'm ni yn mhob mesur,
Y gwir am bethe natur;
Mae'n fwy cyfaddas nag ysgrythyr glaer,
Yn eisteddfa'r taer watwarwyr.

'Ran fe ddyle duwioldeb ddilys
Gael ei gosod mewn cyfle parchus;
Nid taflu geme, a rhoi manna i'r moch
Da gwyddoch, nid yw gweddus.

Mae amser i bob amcan,
Wedi'i drefnu a'i wahanu yn ei le'i hunan;
Amser i alaru dan y rhod,
A rhyw ddyddie i fod yn ddyddan.

Fe ddyle pob peth yn weddedd,
Fod wedi'i ranu wrth drefn gwirionedd,
Rhag i'n llawenydd, dramgwydd dro,
Neu'n chware droi yn chwerwedd.

Mae mwy o bob ffieidd-dra,
Yn ei rym yr amser yma;
Nid oedd mo'r haner, 'rydwy'n siwr,
O niwed, cyn dw'r Noa.


Enter Traethydd.

Traethydd
Wel, rhyfedd gyment sydd ar gerdded,
O son am grefydd yn nghege ffylied.

Pleser
Dyna'r ffasiwn sydd ar droed,
Ni fu'r ymliw erioed mor amled.

Traethydd
Wel, mae ymryson yn waith anrasol,
A hyn gydd o ddiffyg y cariad brawdol,
Yn cuddio lluaws yn mhob lle,
O'n mawrion bechodau marwel.

Pleser
Fe aeth pobl y byd a'u llid yn llydan,
Bob un i wahanu am ei opiniwn ei hunan;
Ni fu 'rioed wrth dwr Babel, gafel g'oedd,
Hyny ieithoedd sydd yma weithian.

Ac o ran fol dynion yn ymgyndynu,
A'u serch arnynt eu hunen yw'r achos o hyny;
Mae o rai duwiolaf yn y wlad,
Ryw fagad yn rhyfygu.

Traethydd
Mae cnawd am weision Duw'n ddiamgen,
Fel Elias gynt oedd dan y ferywen,
Yn dweyd mai'n unig y diangase,
A cheisio'r oeddynt ei einioes ynte,

Ond wele'r ateb iddo'n ebrwydd,
Fod saith mil o wyr gan yr Arglwydd,
Y rhai na phlygasant i eilunaddolieth!
Rhyfedd yw dirgel etholedigeth!

Pleser
Mi glywes fel y gwahardded
I un fwrw allan gythreulied,
Gan rai, o eisie na buase fe'n fwy,
Yn eu dilyn hwy mewn dalied.

Traethydd
Wele'r ateb dawnus a gaed yno,
Oedd dweyd nad alle neb gan dwyllo,
Wneud gwyrthie'n ei enw ef na'i air,
A rhoddi drygair iddo.

Ac felly'r rhai sydd buredd
I'r enw, a'i ddoeth wirionedd,
O'i du ef y maent yn glau,
Er maint sydd o eirie oeredd.

Pleser
Wel, ymddyddan di am grefydd,
O'r sect a fynech di yn y gwledydd;
Mae pyncie'u barn, eu sarn a'u sel,
Yn groes ddi-gêl i'w gilydd.

Ond yr hen Eglwys Loegr, druan,
Yw mam buten yr holl gyfan;
Ei bastarddied hi'n aml yma wnawd
Heno, o'i chnawd ei hunan.

Traethydd
Y gair sydd o'r dechreuad,;
Yw'r farn a sai'n ddiweddiad;
Trwy rym cydwybod mae pob dyn
O'i fewn ei hun wahaniad.

Rhaid clirio'r gydwybod ddiball,
Mewn tirion haeddiant arall,
Onide, fe dderfydd i ni'n tôn,
'Run ing a'r morwynion annghall.

Pleser
Wel, 'roeddwn i'n hoffi'n erchyll,:
Ymdderu yn nghylch crefydd eraill;
'Rwyt ti yma'n barnu pawb tan eu bai,
Ond oes ofn arna'i sefyll.


Exit.


Y Mynegiad neu'r Prologue.


Mynegiad
Y dyrfa ddiderfysg yn hyddysg mewn heddwch,
Dymuna'ch ystyrieth dro'digeth drwy degwch,
I adrodd cynwysiad, cymhwysiad a moese,
Gosodiad a threigliad awch yriad y chware,

Gair distadl yw chware yn mhlith rhyw rai chwerwen,
Can's cymaint o hunan sydd heno mewn dynion,
A'u serch hwy sydd hynod arnynt eu hunen,
Condemniant bawb arall â'n barus genfigen.

Mae barn anmhrofiadol a chnawdol groch nwyde,
Yn magu dirmygus genfigenus goeg wynie;
Heb ystyr fod natur trwy gysur wedi gosod,
Yn ei dull a'i lle'i hunan i'w deall yn hynod.

Mae dynion a'u donie, pe baent yn cyduno,
Mewn gras a gwir gariad a gwres i gywiro;
Pob peth â dawn felus all natur ddyfalu,
I Dduw sy'n ogoniant yn dawnsio ac yn canu.

Ond balchder naturieth sy'n tori pob rheol,
Am glod iddo'i hunan mae dyn yn wahanol;
Mewn gwlad ac mewn eglwys mae'n eglur y llygredd,
Sain o lais Pharo, a swyn Lusifferedd.

Mab y wawrddydd, hen dwyllydd, deallwch,
Sy'n galw ei waith allan rhwng gole a thywyllwch;
Hwn yw'r ysbryd crefydd coeg ryfyg a chynwr',
Sy heno'n gorphwyso mewn aml broffeswr.

Y rhai sydd heb gariad wir fwriad arferol,
Ni allant ond llenwi o ddigllonedd ysbrydol;
Ac uffern bair berw yw'r llanw digllonedd,
A'r nef ydyw'r cariad, gwynfyd sawl a'u cyrhedd.

Os cariad sydd genych, 'rwy'n mwynwych ddymuno,
Nid cariad i bechod wy'n gosod i'w geisio,
Ond caru'r gwirionedd ddiduedd wrandawiad,
Chwi gewch mewn hwyl agwedd ryw ran o'i amlygiad.

Mac genym act gynil, led eiddil, rhaid adde',
Am na ddichon neb draethu llawn ddull naturiaethe,
Er hyny mi addawaf gyhoeddi'r ddau ddiwyd,
A'r pla sydd ar gyfer, sef Pleser a Gofid.

Yn gyntaf daw Pleser a'i faner i fynu,
Ac ato daw Gofid ar gyfer i ddadlu:
Ar ol i'r rhai'n gilio plwc heibio daw'r Cybydd,
Sef Rondol y Roundiad, un caled dig'wilydd.

At hwn daw'r wraig fwynlan, sef Sian Ddefosionol,
Methodis o fodde, dan enw crefyddol;
Rhai hyn a ddangosant, er llawer o annghysur,
Fod rhagrith anfuddiol mewn amryw grefyddwyr.

I fynu'n ol hyny dan ganu heb ddim gwenieth,
Daw un yn ganlynol dan enw Rhaglunieth;
At hono mae'n taro Rheswm naturiol,
Cewch glywed yn gyfan ymddyddan rhwydd weddol.

Ac yna Boddloneb dda wyneb ddiwenieth,
A draetha gynghorion ddwys dirion ystyrieth;
'Nol hyny daw'r Cybydd, trwch arwydd tra chwerw,
I gwyno'n drwm oeredd fod y wraig wedi marw.

At hwnw daw Pleser i'w hwylio i ymgyplysu,
Gyda gwraig arall, gan fyn'd trosto i garu;
Ac yna daw henwraig ac anras i'w dilyn
Ato i'w hoff hurtio trwy ddywedyd ei ffortun.

A chwedi'n daw Pleser mewn amser cyfaddas,
I'w nodi'n buredig i wneud y briodas;
Gwraig oedd Gwaceres, ddu lodes ddyledog,
Siopwraig wael eiddo, lawn ddichell gelwyddog.

Yn ol hyn o erlid daw Gofid ar gyfer,
A'i ddawn yn hoff lwysedd i ymddyddan â Phleser;
Oblegyd crefydde, ymrysone sy' hynod,
A'r swn gydd am bres bychen a llawer bras bechod.

Ac yno daw'r Cybydd yn ddedwydd ei dd'wediad,
Gan ganmol ei addas briodas bur rediad;
Mae'n gwerthu â dull hyffordd ei holl offer ffermwr,
A'i feddwl yn foddus naws hapus fyw'n siopwr.

Ond wedi'r holl gwbl mawr drwbl sydd iddo,
Mae ef mewn gwall oerddig yn colli'r holl eiddo,
Ac yn syrthio i anobeth o farieth i oferedd,
Yn fall ei 'madawiad, ac felly mae'r diwedd.

A dyna ddarn dreiglad egoriad o'r geirie,
I'w datgan yn gywren ni a wnawn yma'n gore;
Na ddigiwch, cyd-ddygwch, maddeuwch yn ddie,
Nid ydym ond egwan ddau ddynan diddonie.


Exit.
Enter Mr. Pleser, yn canu ar dôn elwir "Rodney".

Pleser
Trwy'ch cenad, clywch fi'n canu,
'Rwy'n taenu yn gyttun,
Eiriau blasus, arwydd Pleser,
By' a'i dymher yn mhob dyn.
Pa beth sydd fwy rymusder
Na Phleser mewn hoff lwydd?
Pleser anwyl, blys ei rinwedd,
Sydd ogonedd yn ein gwydd,
Natur plant a'u holl bleserau,
Swydd awch iraidd, sydd i chwareu,
Pleser ieuenctyd wynfyd unfon,
Caru a mynu merched mwynion.
Mae calon wiwlon alwad,
A rhediad pawb dan rhod,
Am ddilyn pleser, arfer ufydd,
Beunydd yma'n bod.
Pleser cybydd blys i'r cwbl,
Gweled mwyniant golud manwl;
Pleser ofer ydyw 'mrwyfo,
Gwario'i arian, curo a rorio;
A phleser anllad hoyw,
Yw gloyw fenyw fwyn;
A phleser meddwyn, gwydyn geudod,
Am ddiod i'w ymddwyn.

Mae pleser balchder hynod,
Am osod penau mawr,
A phleser cybydd fyddai cobio
Neu lusgo rhai'n i lawr.
Naturiaeth pob aderyn
Yw hoffi'i lun a'i lais,
Gogoniant hynod iddo'i hunan,
Yn gyfan pawb a gais.
Pleser crefftwyr craffti'u doniau,
Brolio'n faith eu gwaith a'u gwyrthiau;
Pleser eraill yw gweryru,
Rhai am gwn, a rhai am ganu;
A rhai am gablu eu gilydd
Am grefydd, neu rhyw grach;
Yn abwyd pleser mae'n cyplysu
I'w benu lawer bâch.
Mae rhyw bleser blysig afiaeth,
Yma'n taro'n mhob naturiaeth;
A rhyw demtasiwn mosiwn mesur,
Yn croyw hudo pob creadur,
Pleserau natur beunydd,
Llawenydd sydd i'w sarn,
Ond aflwydd cebystr wedi'r cwbl,
Feddwl fod y farn.


Enter Mr. Gofid.

Gofid
Wel y mae drwg yma eto, pa beth ydyw'r mater?
Pwy sy'n dyrchafu natur Pleser?
O ran nid oes pleser yn y byd,
Na f'o Gofid ar ei gyfer.

Pleser
Mae natur Pleser yn fwy cryf ei foddion
Na dwfr, na thân, na da, na dynion;
Ac yn felysach na'r dil mêl
Ei fwyniant di gel i'r galon.

Gofid
Nid yw Pleser ond fel ergyd,
Neu fflam o eirias natur danllyd;
Os tyf arno ffrwythe cnawd a gwaed,
Maent yn gwywo dan draed Gofid.

Pleser
Gan ei myn'd yn ddispute mor eger,
Myfi ydyw'r blysig Arglwydd Pleser.

Gofid
Myfine ydyw, syth ei wâr,
Y Gofid, 'rwyf ar dy gyfer,

Pleser
Dywed y gwir, drwy gariad,
Pa le y cefest ti ddechreuad?

Gofid
Yn mysg y prene, siwrne saeth,
Gydag Adda pan aeth i ymguddiad.

Pleser
O, 'r Cymro glew, mi glywa'
Yn ol yr hanes, mai myfi yw'r hyna';
Yr oeddwn yno cyn tori'r ddeddf,
Yn wreiddiol gyneddf yn Adda.

Ond pan genedlwyd pechod,
A Gofid ddwad yno'n gafod,
Mi eis i gyda Chain, rhag teimlo'm mai,
I adeiladu tai ar y tywod.

A chwedi'n, yn mhen ychydig,

Notes

1 Ellis y Cowper. replay
1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400