Hamlet, Tywysog Denmarc

Ciw-restr ar gyfer Brenhines

(Bernardo) Pwy sydd yna?
 
(Hamlet) Fy Arglwydd, ond wyf ormod yn yr haul. [2]
(1, 2) 339 Da Hamlet, dyro heibio 'th fantell nos,
(1, 2) 340 A thro ar Denmarc, lygad megys ffrynd.
(1, 2) 341 Na fydd â'th aeliau yn orchuddiol byth,
(1, 2) 342 Yn ceisio 'th dad urddasol yn y llwch;
(1, 2) 343 Ti wyddost mai cyffredin ydyw hyn;
(1, 2) 344 Pob un sydd fyw raid farw, a myn'd trwy
(1, 2) 345 Gylch natur hyd i'r tragwyddolfyd mawr.
(Hamlet) Ië, 'mam, cyffredin yw.
 
(Brenin) O fewn ein llys, ein câr a'n hanwyl fab.
(1, 2) 403 Gweddïau'th fam, na âd eu colli, Hamlet;
(1, 2) 404 Atolwg 'rwyf, O! aros gyda ni,
(1, 2) 405 Ac na ddos eto'n ôl ìi Wittenberg.