a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2

Hamlet, Tywysog Denmarc (1864)

William Shakespeare
cyf. David Griffiths

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 1

CHWARYDDIAETH I.
GOLYGFA I.
Elsinore. Esgynlawr o flaen y Castell.

FRANCISCO ar ei wyliadwriaeth. BERNARDO yn dyfod ato.

Bernardo
Pwy sydd yna?

Francisco
Nage, ateb fi;
Saf, a dangosa di dy hun yn llawn.

Bernardo
Byw fyddo 'r brenin!

Francisco
Ai Bernardo?

Bernardo
Ië.

Francisco
Chwi ddeuwch yn ofalus at eich hawr.

Bernardo
Mae wedi taro haner nos yn awr,
A thi, Francisco, 'n awr i'th wely dos.

Francisco
Am y gollyngdod hwn rho'f ddiolch mawr,
Mae'n erwin oer, a minau 'n galon glaf.

Bernardo
Gawd gwyliadwriaeth dawel gênych chwi?

Francisco
Do, nid ysgogodd un llygoden fach.

Bernardo
Wel, noswaith dda; os gwnewch gyfarfod â
Horatio a Marcellus, y rhai ynt
Fy nghymdaith-wylwyr, erchwch arnynt frys.


HORATIO a MARCELLUS yn dyfod.

Francisco
'R wy 'n tybied clywaf hwynt.—Gwnewch sefyll, ho!
Pwy yna sydd?

Horatio
Cyfeillion i'r tir hwn.

Marcellus
A gweision ufudd i y Daniad y'm.

Francisco
Nos dda i chwi.

Marcellus
O, ffarwel, filwyr gonest.
Pwy yw yr un a ddarfu dy ryddâu?

Francisco
Bernardo yw yr un a leinw 'm lle.
Nos dda i chwi.


FRANCISCO yn ymadael.

Marcellus
Holo! Bernardo!

Bernardo
D'wed.
Beth, aì Horatio yw?

Horatio
O hono ddarn.

Bernardo
Henffych, Horatio; croesaw, Marcellus dda.

Horatio
A ymddangosodd heno eto 'r peth?

Bernardo
Ni welais ddim.

Marcellus
Horatio dd'wed mai ein dychymyg yw;
Ac ni cha 'r gred afaelyd ynddo ef
Yn nghylch yr olwg erchyll hon, a ga'dd
Ei gweled ddwywaith bellach genym ni;
Am hyny mi erfyniais arno i
Gydwylied trwy fynudau 'r noson hon;
Fel, os daw y drychiolaeth eto, y gwna
Ein llygaid goelio, a siarad gydag ef.

Horatio
Ust! ust! nid ymddangosa.

Bernardo
Eisteddwch beth;
A phrofwn unwaith eto, ein clustiau sydd
Mor gryf yn erbyn yr ystori hon,
A welsom y ddwy noswaith hyn ill dau.

Horatio
Wel, eistedd wnawn i lawr, a chlywn pa beth
Sydd gan Bernardo i'w ddyweyd am hyn.

Bernardo
Neithiwyr olaf oll, pan yn y nen
Gorphenai 'r seren aew—yr hon sydd
Yn orllewinol oddiwrth y pegwn—ei
Chwrs, i oleuo y rhan acw o'r nef
Lle llosga 'n awr, Marcellus a myfi,
Y gloch yn taro un,—

Marcellus
Ust! taw yn awr; gwel p'le mae eto 'n d'od.


Yr YSBRYD yn dyfod.

Bernardo
Yn yr un wedd a'r brenin sydd yn farw.

Marcellus
Tydi wyt ysgolaig, Horatio,
Ymddyddan gydag ef.

Bernardo
Ai onid yw
Yn debyg i y brenin? sylwa'n dda,
Horatio arno ef.

Horatio
Yn debyg iawn:—
Fy llenwi mae â braw a syndod erch.

Bernardo
Dymunai i ni siarad gydag ef.

Marcellus
Ymddyddan, da Horatio.

Horatio
Beth ydwyt ti
Ormesa ar yr amser hwn o'r nos
Ac hefyd wisga 'r deg ryfelgar ffurf
A wisgid gan Fawrhydi Denmarc gynt?
Trwy nef tyngedaf di, ymddyddan gwna.

Marcellus
Mae wedi'i ddigio.

Bernardo
Gwel, mae'n cilioi ffordd.

Horatio
Arosa, siarad: siarad, 'r wyf yn awr
Yn dy dyngedu eto i siarad, gwna..


Yr YSBRYD yn ymadael.

Marcellus
Mae wedi myn'd, ac nis gwna ateb ddim.

Bernardo
Pa fodd yn awr, Horatio? Diau 'r y'ch
Yn crynu, ac yn welw iawn: ai nid
Yw hyn yn rhywbeth mwy na gwag ddychymyg;
Beth am dano yw dy dyb?

Horatio
Ger bron fy Nuw, nis gall'swn gredu hyn,
Cyn i mi dderbyn y dystiolaeth wir,
Deimladwy, gan fy llygad i fy hun.

Marcellus
Onid yw yn debyg i y brenin?

Horatio
Y mae gan
Debyced ag y ti, iti dy hun;
Y cyfryw oedd yr arfau wisgai pan
Ymladdai â'r ymgeisiol Norway gynt;
'R un fath y gwgai, pan mewn rhysedd dig
Ac gmledd dewr, y darfu daraw y
Carllusgaidd Polack ar y rhew ys talm.
Mae 'n rhyfedd.

Marcellus
Felly, llawn ddwy waith o'r blaen,
A thua yr awr ordrymaidd hon, aeth â
Milwraidd rodiad, heibio 'n gwylfa ni.

Horatio
Pa fodd i feddwl am y peth, nis gwn;
Ond fel tuedda 'm barn fy hun, mae hyn
Yn rhagargoeli rhyw drychineb mawr.

Marcellus
Mae'n debyg iawn, eisteddwn yma i lawr,
Myneger i ni gan ryw un a ŵyr,
Paham mae 'r wyliadwriaeth ddyfal hon,
Yn cael ei chadw yn nosol yn ein tir;
A pha'am y llunir bob ryw ddydd, y fath
Gyflegrau pres, a marchnadyddiaeth o
Dramoraidd offerynau rhyfel; pa'm
Mae'r cyfryw ddirgymhelliad tuag at
Gael seiri llongau, llafur mawr y rhai,
Ni âd o ddyddiau wythnos un dydd Sul;
Pa beth all fod yn darllaw, pan y mae 'r
Fath chwyslyd frys, fel ag i beri fod
Y nos yn gydlafurwr gyda'r dydd;
Pwy all dd'weud imi?

Horatio
Hyn a allaf fi;
O leiaf, felly dywed siffrwd. Ein
Diwedda frenin, delw 'r hwn a ddaeth
O fewn y fynud hon i'n gwydd, oedd, fel
Y gwyddoch, wedi ei symbylu gan
Y balch Fortinbras, o dir Norway draw—
Yr hwn i frwydr roddes iddo her;
Pan ddarfu Hamlet ddewr (canys felly gwneir,
Yr ochr hon i'n byd, ei gyfrif ef,)
Ladd Fortinbras, a hwnw, hefyd, trwy
Seliedig amod. cadarnâol gan
Ddeddf a herodraeth, a fforffediodd gyd-
A'i fywyd, ei holl diroedd y rhai oedd
Yn d'od yn feddiant i'r gorchfygwr dewr:
Ar gyfer hyn, gosodwyd haner llawn
Gan ein mwyn frenin; yr hwn haner i
I etifeddiaeth Fortinbras, pe buasai ef
Orchfygwr; fel wrth yr un amod a.
Chytundeb i ei chadarnâu, y daeth
Ei gyfran ef, i ddwylaw Hamlet; ac
Yn awr, wych syr, mae yn ymddangos fod
Yr ieuanc Fortinbras, yr hwn y sydd
O ddewrder heb ei brofi, yn llawn o dân
o fewn cyffiniau Norway, yma a thraw, '
Yn codi rhestrau o wrolion heb
« Berch'nogi tir, am fwyd a diod, äi
Ryw ymgyrch benderfynol: yr hon sydd
(Fel yr ymddengys i ein teyrnas ni,)
I ddim ond adfeddianu, â llaw gref,
A rhyw orfodaeth anorchfygol fawr
Y tiroedd hyny gollwyd gau ei dad:
A hyn, fel yr wyf fi yn tybied, yw
Y prif resymau dros y cwbl oll,
O'n darpariadau ni; a'r achos o
Ein dyfal wyliadwriaeth; a phrif bwnc
Y dirfawr frys, a'r cynwrf sy'n y tir.

Bernardo
'R wy'n tybied nas gall fod ddim arall, ond
Os felly, fe arwydda 'n dda, fod y
Drychiolaeth tra-arwyddol hwn, yn d'od
Yn arfog trwy ein gwylfa; ac mae mor
Dra thebyg i'r hen frenin oedd, ac sydd,
Ei hunan yn brif bwnc y brwydrau hyn.

Horatio
Brycheuyn yw, i gyffro ein meddwl ni.
Yn nghyflwr uchaf, mwyaf pâlmaidd yr
Hen Rufain, rywfaint cyn y cwympodd y
Galluog Julius yr oedd beddau oll
Yn prysur ymwagâu, a'r meirw geid
Yn ysgrech ac oernadu 'n erch, o fewn
Heolydd Rhufain, mewn amdoau oll,
Fel rhagarwyddion o'r hyn oedd i dd'od.
Pan yr oedd ser gyda llosgyrnau tân,
A gwlith o waed, yn duo gwedd yr haul;
A'r seren laith, ar bwys yr hon y saif
Holl ymherodraeth Neifion ar ei hynt,
Yn glaf fel pe buasai'n ddiwedd byd.
Ac felly tebyg ragarwyddion o
Erch ddygwyddiadau,—fel blaenredwyr yn
Rhagflaenu tynged, ac yn hyfion dd'od
Fel dechreu 'r ffawd ofnadwy sydd i fod,
A ydyw'r nef a'r ddaear yn cyd-ddweud
Wrth yr hinsoddau, a'n cydwladwyr ni.—


Yr YSBRYD jn ail-ymddangos.

Horatio
Yn araf; gwelwch! eto mae yn d'od!
Af draws ei lwybr, pe dinystriai fi,—
Saf, ti ddrychiolaeth! os oes genyt lais,
Neu lafar oll, ymddyddan â myfi:
Os oes rhyw beth fo da, ag eisieu ei wneud
Rydd it esmwythder, ac i minau hedd,
Ymddyddan â mi:
Os wyt yn gwybod tynged fawr dy wlad,
Yr hyn, trwy ei ragwybod, elli ei
Ragatal, O! ymddyddau di â mi.
Neu, os wyt wedi claddu yn dy oes
Ryw drysor yspeiliedig o fewn croth
Y ddaear, am yr hyn y d'wedant hwy
Y crwydrwch chwi ysbrydion wedi tranc,


Y ceiliog yn canu.

Horatio
Mynega yn ei gylch:—gwna aros a
Siarada.—Atal ef, Marcellus.

Marcellus
A gaf ei daro gyda 'r miniog arf?

Horatio
Gwna, os na erys.

Bernardo
Mae yma!

Horatio
Mae yma!

Marcellus
Mae wedi myn'd!


Yr YSBRYD yn ymadael.

Marcellus
Ni wnaethom gam, tra'r ymddangosai ef
A golwg mor fawreddig, i gynyg dim
O wrthwynebiad iddo ef, can's mae,
Fel awyr, yn annhreiddiol, tra y mae 'n
Dyrnodion ni fel gwatwar gwag.

Bernardo
Pan ganai'r ceiliog, ar lefaru 'r oedd.

Horatio
Ac yna hedodd, fel rhyw euog beth
Ar wys ddychrynllyd. Mi a glywais fod
Y ceiliog, yr hwn sydd yn udgorn gwawr
A'i uchel wddf a'i gân hirseiniog yn
Deffroi duw 'r dydd, ac ar ei rybudd ef,
Pa un ai yn y môr neu ynte'r tân,
Neu 'r ddaear, neu yr awyr, cyfyd pob
Rhyw ysbryd crwydrol a didrefn ì fyn'd
I'w le ei hun: ac o wirionedd hyn
Mae 'r gwrthddrych yma wedi rhoddi prawf.

Marcellus
Diflanodd pan y canai'r ceiliog cu.
Fe ddywed rhai, pan ddaw yr adeg wiw
Y cedwir cof, am eni 'n Ceidwad ni,
Y cana 'r wawr-aderyn hwn drwy 'r nos:
Ac yna, meddant hwy, ni faidd un math
O ysbryd grwydro; a'r pryd hwn mae 'r nos
Yn iachus; yna nid effeithia o'r
Planedau un, ni fedd y tylwyth teg,
Nac un ddewines allu mwy i drin
Swynyddiaeth, gan mor hynod sanctaidd a
Grasusol ydyw pobpeth ar y pryd.

Horatio
Mi glywais felly; coeliaf ef mewn rhan.
Ond gwel, mae 'r bore yn ei ruddgoch wisg
Yn rhodio dros y gwlith sydd ar y bryn
I'r dwyrain draw: ein gwylfa torwn; ac,
Yn ol fy nghyngor i, mynegwn beth
A welsom ni y nos nodedig hon.
I Hamlet ieuanc; canys mentrwn roi
Fy mywyd, y gwna'r ysbryd hwn ag sydd
Fud wrthym ni, lefaru wrtho ef:
A ydych chwi 'n cydsynio î mi dd'weud
Y cyfan wrtho, fel peth iawn i'n swydd,
Ac angenrheidiol gan ein cariad ni?

Marcellus
Atolwg, gwnawn; a minau beddyw wn
Pa le cawn afael arno yno yn gyfleus.


Oll yn ymadael.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2