Owain Glyndwr

Cue-sheet for Brenin

(Gruffydd) A wnewch chwi ddwedyd wrthyf fi fy nhad,
 
(Glyndwr) Gymraes, tra grym yn mraich Glyndwr!
(1, 2) 137 Wel f' Arglwydd Grey, pa fodd yr ydych chwi
(1, 2) 138 Yn teimlo fel mae'r amser yn nesau
(1, 2) 139 I chwi wynebu Owen de Glendore?
(Grey) Fy Arglwydd Frenin! tawel ydwyf fi,
 
(Grey) Y nerth i sefyll ar fy hawl yn dyn.
(1, 2) 145 Ai nid wyt ti yn teimlo iasau oer
(1, 2) 146 O ddychryn erch yn rhedeg trwy dy waed,
(1, 2) 147 A pheri i'th wallt i sefyll ar dy ben,
(1, 2) 148 Wrth feddwl cael cyfarfod bwystfil gwyllt,
(1, 2) 149 Fel y darluniaist ti Glyndwr imi?
(Grey) Raid i'r bytheuad ofni gwel'd y pryf?
 
(Tywysog) I godi i'w amddiffyn.
(1, 2) 157 Beth fy mab!
(1, 2) 158 A feiddi godi dy blentynaidd lais
(1, 2) 159 Yn erbyn mawrion gwlad yn llys dy dad?
(Tywysog) Fy Arglwydd Frenin! Pob dyledus barch
 
(Tywysog) I Owen o Glyndwr.
(1, 2) 165 Dy ddyled iddo?
(Tywysog) Pan ydoedd haul dy lwyddiant di fy nhad,
 
(Tywysog) Ei garedigrwydd nid annghofiaf byth.
(1, 2) 179 Mae'n gofus genyf glywed genyt son
(1, 2) 180 Am hyn o'r blaen, a thalu iddo wnaf
(1, 2) 181 Ryw adeg eto.
(Grey) Gall eich mawrhydi
 
(Clifford) Yn ol fel galwai amgylchiadau arno.
(1, 2) 207 Arglwyddi Lloegr! Y mae gwaith o'n blaen
(1, 2) 208 Sy'n galw am ddoethineb, ac am bwyll,
(1, 2) 209 Fel gellir gwneyd cyfiawnder a phob un
(1, 2) 210 O'n hufydd ddeiliaid, wrth gyfreithiau'n tir.
(1, 2) 211 Mae Arglwydd Grey, ac Owen de Glendore,
(1, 2) 212 Eill dau o'n blaen; ac hawlio maent,
(1, 2) 213 Pob un o'r ddau, neillduol ddarn o dir
(1, 2) 214 A elwir Croesau. Ein dyledswydd ni
(1, 2) 215 Yw gwrando hawl pob un o'r ddau ymgeisydd,
(1, 2) 216 A phenderfynu, fel bo iawn a theg,
(1, 2) 217 Cydrhwng y ddau yn ol cyfreithiau'n gwlad,
(1, 2) 218 Ac os y cyfyd unrhyw ddyrus bwnc
(1, 2) 219 O Gyfraith lythyrenol ger ein bron,
(1, 2) 220 Ein doeth Brif farnwr yma heddyw sydd,
(1, 2) 221 I'n harwain drwy y dyrus lwybrau hyn.
(1, 2) 222 Cyfiawnder! ei theg glorian ddaliwn ni.
(1, 2) 223 Y ddau ymgeisydd ddont a'u nwyddau'n mlaen;
(1, 2) 224 Gascoigne a farna a wna'r nwyddau'r tro:
(1, 2) 225 Cewch chwithau ddweyd pa fodd y try y glorian!
(1, 2) 226 Fy Arglwydd Grey o Ruthyn ddaw yn mlaen
(1, 2) 227 Yn gyntaf oll i nodi i'n ei hawl.
(Grey) Fy Arglwydd Frenin! chwithau 'm cyd arglwyddi:
 
(Grey) A rhoddi imi hawl i'r tir yn ol,
(1, 2) 252 Syr Owen de Glendore! beth ddwedwch chwi?
(Glyndwr) Fy Arglwydd Frenin! a chwi arglwyddi oll!
 
(Grey) A daw yn hyf i ysgwyd yma 'i dafod.
(1, 2) 283 Ha! fuost ti Glyndwr a'th gledd o'r wain,
(1, 2) 284 O blaid y bradwr yn ein herbyn ni?
(Glyndwr) Fy nghledd o'r wain a dynais lawer tro
 
(Glyndwr) O blaid Plantagenet.
(1, 2) 287 A wyddost ti
(1, 2) 288 Dy fod drwy hyn yn gosod 'n awr dy ben
(1, 2) 289 Mewn perygl.
(Glyndwr) Fy Arglwydd Frenin;
 
(Glyndwr) Ond gwir fy mod er hyn yn ddyogel.
(1, 2) 294 Fy Arglwydd Farnwr Gascoigne, a yw hyn
(1, 2) 295 Yn dal o'i bwyso mewn clorianau deddf?
(Gascoigne) Fy Arglwydd Frenin! mae y proclamasiwn
 
(Glyndwr) Rhof her i ti! a dyna'm maneg lawr!
(1, 2) 312 A wyt ti'n meiddio roddi her i neb,
(1, 2) 313 Yn mhresenoldeb brenin ar ei sedd?
(Glyndwr) Mi welais un a elwid y Duc Henffordd,
 
(Glyndwr) Yn herio Norfolk gynt yn ngwydd ei deyrn!
(1, 2) 316 A wyt ti yn ein barfu ni fel hyn!
(1, 2) 317 Cei fyn'd yn rhwym, nes oero'th ysbryd poeth!
(Glyndwr) Nid oes un rhwym a rwym fy ysbryd i.
 
(1, 2) 326 Gwnaf ar dy air, ond caled goddef hyn.
 
(1, 2) 328 Urddasol bendefigion, rhaid'i ni
(1, 2) 329 Arfogi ein brenhinol urddas 'n awr.
(1, 2) 330 Ac yn fwy felly, gan fod ereill yn
(1, 2) 331 Annghofio rhoi i'r llys ddyledus barch.
(1, 2) 332 'Nawr aed y prawf yn mlaen.
(Grey) Urddasol deyrn:
 
(Grey) I'm gwrthwynebydd.
(1, 2) 336 Cenad wyf yn ro'i.
(Grey) Syr Owen do Glendore, A wnei di ddweyd
 
(Glyndwr) A gwae y teyrn ar sedd. a wyro farn!
(1, 2) 382 Gwell f'ai it' ro'i dy ben yn safn y llew,
(1, 2) 383 Na chodi yma ger ein bron dy gloch.
(1, 2) 384 Pe na buasai'm mab yn eiriol drosot,
(1, 2) 385 Er mwyn y caredigrwydd wne'st ag ef.
(1, 2) 386 Anghofio eto wnaf dy eiriau llym.
(Grey) Ond nid anghofiaf i!
 
(Esgob) A phwyso'n iawn holl hawliau teg Glyndwr.
(1, 2) 397 Yr hawl amlycaf a ddangosodd ef
(1, 2) 398 O'n blaen ni, ydoedd hawl i golli ei ben!
(1, 2) 399 Ond doed a ddel, gadawaf ef yn rhydd.
(1, 2) 400 Cyhoeddi raid im' 'nawr, nol deddf y wlad,
(1, 2) 401 Fod tir y Croesau'n eiddo Arglwydd Grey.