ACT I. GOLYGFA I.—Y Croesau; rhwng Glyndyfrdwy a Rhuthyn. Yn dyfod i fewn OWEN GLYNDWR, a GRUFFYDD ei fab yn ymddyddan. |
|
Gruffydd |
A wnewch chwi ddwedyd wrthyf fi fy nhad, Pa beth yw'r siarad glywaf yma a thraw Ynghylch y Croesau, a'r Cyffindir hyn? |
Glyndwr |
Pa beth a glywaist? |
Gruffydd |
Mae'r si ar led Fod ein cymydog Seisnig, Arglwydd Grey, Yn hawlio'r Croesau iddo ei hun yn llwyr; A beiddia y Normaniad ddweyd yn hy', Y gyr pob deiliad yma sydd i ffwrdd, Ac na cha Cymro osod troed i lawr Ar dir y Croesau, ond o'i genad ef; Y myn ef weled cyn Gwyl Dewi nesaf Ei luman ef yn chwifio yn y man Lle 'n awr cusenir baner goch Glyndwr, Gan ber awelon nef. |
Glyndwr |
Myn bedd fy nhad! Mae hyn yn ormod i fy natur ddal! Yr wyf yn teimlo fod pob dafn o'm gwaed Yn berwi yn fy ngwythienau 'n awr, A bod pob curiad o fy nghalon drist Yn galw arnaf roddi dyrnod drom I'r Sais ffroenuchel, elwir Arglwydd Grey, Yr hwn ysywaeth farna'r Cymro tlawd Yn deilwng wrthddrych i'w ddirmygus lid! Ti wyddost ddarfod i'r pendefig hwn Flynyddau maith yn ol, wneyd eofn hawl I'r un darn tir. Ei lwyr orchfygu wnes A throais iddo ef ei hawl yn wawd Gan brofi'n glir, mewn teg gyfreithlawn lys, Fy hawl i'r tir: ac am y Croesau hyn Treftadaeth oedd i'th dad a'th deidiau di, Ac i'th gyndeidiau, faith ganrifoedd cyn Fod son am Arglwydd Grey mewn byd yn bod. Yn awr, diamheu genyf, tybio mae, Gan ddyfod Harri Henffordd i'r deyrn-sedd, Y ca yn awr yn lle cyfiawnder ffafr, Ac arnaf fi trwy drais y ca ei wyn. Ond ysbryd Bleddyn, dewr Dywysog Powys, Cyndaid fy nhad, sydd ynof fi yn fyw, A chochwaed ein Llewelyn, enwog Lyw, Cyndaid fy mam, yn fy ngwythienau sydd. Ca Grey, a'i deyrn, a phob Normaniad wel'd Fod ysbryd yr hen Gymry eto'n fyw. A chyn yr ymostyngaf i'w sarhad, Gwnaf Gymru'n wenfflam, a'i chyffiniau'n waed A mynaf ryddid, neu enillaf fedd! |
Yn myned allan. Yn dyfod i fewn GWENFRON, merch Llewelyn ap Huw. Yn ei chanlyn, ond, heb eí weled ganddi, PHYLIP MARGLEE a DAU FILWR yn lifre de Grey. |
|
Gwenfron |
(Yn canu.) Mae llawer merch yn Nghymru Yn canu heddyw 'n llon, A'i chalon sydd yn llamu Gan gariad dan ei bron; Cydganu mae fy nghalon, A'u llon galonau hwy: Enillwyd calon Gwenfron! A wyddoch chwi gan bwy? Yr adar ganant odlau, Gusanant yn y llwyn, Cusanu brig y tonau Mae'r awel dyner fwyn, A'r gwenyn,—blodau cochion Gusenir ganddynt hwy: Cusenir gruddiau Gwenfron! A wyddoch chwi gau bwy? |
Phylip Marglee yn dyfod yn mlaen yn llechwraidd, ac yn cusanu Gwenfron. Hithau yn ysgrechian. |
|
Marglee |
(Yn efelychu.) Cusanwyd gruddiau Gwenfron! A wyddost ti gan bwy? |
Milwr 1 |
Ar f'einioes i! dyna waith da! |
Milwr 2 |
Yn sicr Cadben Marglee, enillasoch ef yn deg. |
Marglee |
(Yn crechwenu yu ngwyneb Gwenfron, ac yn canu eto.) Cusanwyd gruddiau Gwenfron! A wyddost ti gan bwy? |
Gwenfron |
Gwn. Gan un a gwisg boneddwr yn ei gylch, Yn cuddio dani adyn iselradd! |
Marglee |
A feiddi di? |
Gwenfron |
Gan un a gwisg filwrol yn ei gylch, Yn cuddio dani galon llwfrddyn tlawd. |
Marglee |
Y fiden! |
Gwenfron |
Gan un a ddwg yr hyn nas gall ei enill. |
Marglee |
Dangosaf gallaf eto ddwyn ychwaneg! |
Gwenfron |
Gan un sydd ddewr i fygwth dynes egwan, Ond try yn ngwyneb dyn yn llwfrddyn truan. |
Marglee |
Mil fyrdd cythreuliaid! Raid im' oddef hyn! Buasai'n well it' gnoi dy dafod ffwrdd, Na rhoddi iddo'n ffyrnig gymaint rhaff! Rhaff roist i'th dafod a dy rwyma'n dyn I'm nwyd, os nad i'm serch. Ha! Gwenfron dlos, Cei ar dy wenfron heno ddal fy mhen, A'th lwyr fwynhau a wnaf mewn cariad wledd! |
Yn ymaflyd ynddi—y ddau filwr yn cynorthwyo. |
|
Gwenfron |
Help! help! O nefoedd dyner help! |
Ei thad Llewelyn ap Huw yn rhuthro i fewn. |
|
Llewelyn |
Fileiniaid gwaedlyd! gollyngwch hi yn rhydd. |
Marglee |
Na, na, 'rhen wr! mae'n drysor llawn rhy werthfawr. |
Llewelyn |
Gollwng fy merch yn rhydd, neu'n gelain y'th darawaf! |
CYNHWRF:— Brodyr Gwenfron a'r Gweision yn rhuthro i fewn, Phylip Marglee yn chwythu ei udgorn. Amryw filwyr Seisnig yn rhuthro i'r maes. Udgorn arall yn ateb yn y pellder. Ysgarmes rhwng y ddwyblaid—y Saeson a'u cleddyfau; y Cymry a ffyn a phigphyrch. Owen Glyndwr a Gruffydd ei fab yn carlamu yn mlaen. |
|
Glyndwr |
Plant annwn! rhoddwch le! Pob arf i lawr! |
Gruffydd |
Ha filain! (Yn taro Phylip Marglee i'r llawr, ac yn rhyddhau Gwenfron.) |
Y ddwy blaid yn gorphwys ar eu harfau. |
|
Glyndwr |
Pa beth yw'r cynhwrf annghyfreithlawn hwn? A wyddoch Saeson eich bod chwi 'n troseddu? Pa hawl sydd genych osod troed i lawr Ar dir y Croesau? |
Marglee |
(Yn codi.) Oes mae genym hawl Fel gweision Arglwydd Grey, ei wir berchenog! |
Glyndwr |
Ei wir berchenog! — Dywed eto air, 'A thynu wnaf o'r gwraidd dy dafod brwnt, A'i daflu ef i'r cwn,—os bwytu'r cwn Fath furgyn drewllyd!—Ymaith! ffwrdd a chwi. Os beiddia eto un o honoch byth, Neu'ch Meistr ciaidd chwaith ro'i troed i lawr Ar dir y Croesau, eich ffrewyllu wnaf Fel cwn yn ol i'ch ffau. |
Y Saeson yn myned. |
|
Glyndwr |
'N awr Gymry dewch. Awn ninau adref oll, Dyoddef byth Un cam ni cha y Cymro dewr, nac un Gymraes, tra grym yn mraich Glyndwr! |
Yn myned allan. |